English

Bydd y canllaw hwn yn egluro sut mae llunio digwyddiad personol.

Ydych chi’n teimlo nad yw clinigau a chynadleddau’n diwallu eich anghenion ar gyfer y digwyddiad yn llwyr? Rhowch gynnig ar ddefnyddio digwyddiad personol, sy’n rhoi mwy o reolaeth i chi gyda nifer o sesiynau, lleoliadau a dyddiadau.

  

Yn adran ‘Rheoli Digwyddiadau’ y nodwedd ‘Digwyddiadau’, dewiswch ‘+Ychwanegu Digwyddiad Newydd.

Yn fan hyn, bydd gofyn i chi ddewis eich math o ddigwyddiad. Cliciwch y botwm ‘Creu Digwyddiad Personol’.

Yna bydd gofyn i chi roi teitl i’ch digwyddiad (peidiwch â phoeni os byddwch yn newid eich meddwl, gallwch newid hwn yn y golygydd digwyddiadau yn nes ymlaen).

Wedi gorffen? Dewiswch ‘Ychwanegu’.

Gallwch gadw eich digwyddiad unrhyw bryd drwy glicio’r botwm ‘Cadw Drafft’ yn y golygydd. Os ydych chi’n dal yn brysur yn llunio’r digwyddiad, cofiwch wneud hyn cyn gadael fel nad ydych chi’n colli eich holl waith caled.

Yng ngham ‘Amser a Lleoliad’ y golygydd, gallwch ychwanegu a golygu sesiynau. Mae sesiynau’n gyfnod sydd wedi’i neilltuo ar gyfer gweithgaredd penodol ac maen nhw’n rhan o’ch amserlen. Gallan nhw fod yn unrhyw beth o baneli i bartïon, neu weithdai a pherfformiadau.

Cliciwch ‘Ychwanegu Sesiwn’ i ddechrau arni.

Bydd hyn yn sbarduno blwch naid lle gallwch roi enw, dyddiad, amser a hyd eich sesiwn.

Gan ddefnyddio’r botymau gyda’r symbol ‘+’ wrth eu hymyl, gallwch hefyd ychwanegu ‘Lleoliad’, ‘Capasiti’, ‘Crynodeb’ a ‘Disgrifiad’ ar gyfer y sesiwn. Ar ôl ychwanegu’r rhain, cliciwch ‘Diweddaru’.    

Lleoliad

Toglwch rhwng y tabiau ‘Cyfeiriad Ffisegol’ a ‘Cyfeiriad Rhithiol’ i roi’r manylion ar gyfer y gwahanol fathau o gyfeiriadau.

O dan ‘Cyfeiriad Ffisegol’, gallwch roi holl fanylion eich lleoliad, gan gynnwys map ar gyfer lleoliadau ffisegol.

Gallwch hefyd ddewis o leoliadau sydd wedi’u pennu ymlaen llaw, sy’n ddefnyddiol os ydych chi’n defnyddio’r un lleoliad ffisegol yn aml (mae’r rhain wedi’u nodi yn adran ‘Digwyddiadau’ y Panel Gweinyddol).



Os byddwch chi’n dewis cynnal eich digwyddiad gan ddefnyddio ‘Cyfeiriad Rhithiol’, bydd angen i chi nodi’r math o leoliad rhithiol.

Dewiswch ‘Personol/Custom’ os ydych chi’n defnyddio offer fideo-gynadledda ar-lein y tu allan i Thinqi i gynnal y digwyddiad (fel Zoom neu Microsoft Teams).

Bydd angen i chi roi ‘Cyfeiriad ar-lein’ (dyma ddolen gwahoddiad i’r cyfarfod).

Ychwanegwch unrhyw nodiadau yr hoffech eu cynnwys (er enghraifft, cyfarwyddiadau ar sut mae ymuno â’r digwyddiad) yn y blwch ‘Nodiadau’ ac rydych chi’n barod i fynd.

Gallwch bennu nifer isaf ac uchaf y mynychwyr ar gyfer y sesiwn. Os yw’r digwyddiad yn llawn, gallwch ddewis galluogi rhestr aros er mwyn i rywun gymryd lle un o’r mynychwyr os byddant yn canslo.

Yma, gallwch ychwanegu trosolwg byr o bwrpas y sesiwn. Peidiwch â rhoi gormod o fanylion yma – dim ond pwt bach ydyw. Defnyddiwch y blwch ‘Disgrifiad’ i roi rhagor o fanylion os oes angen.

Dyma lle gallwch roi rhagor o fanylion am y sesiwn. Mae gennych chi amrywiaeth eang o offer fformatio i’w defnyddio yma, yn ogystal â’r gallu i ychwanegu delweddau a phlannu cyfryngau.

Pan fyddwch chi’n fodlon â’ch sesiwn, cliciwch y botwm ‘Diweddaru’ i’w gadw.

Ydych chi wedi newid eich meddwl a ddim eisiau creu'r sesiwn dim mwy? Cliciwch ‘Canslo’ i ddychwelyd i’r ardal ‘Amser a Lleoliad’.

Gan eich bod wedi creu eich sesiwn gyntaf, rydych chi ar y trywydd iawn i adeiladu eich digwyddiad personol cyntaf. Byddwch nawr yn dychwelyd i’r ardal ‘Amser a Lleoliad’.

Yn ogystal â phennu lleoliad a chapasiti pob sesiwn unigol, gallwch hefyd bennu lleoliad a chapasiti cyffredinol a fydd yn berthnasol i’r holl sesiynau yn ddiofyn (mae hyn yn ddefnyddiol os yw’r lleoliad a’r capasiti yr un fath ar gyfer pob sesiwn).

I wneud hyn, cliciwch y botymau ‘Diweddaru lleoliad’ a ‘Diweddaru capasiti’. Os byddwch yn dewis pennu’r manylion hyn yma, ni fydd angen eu hychwanegu eto wrth greu rhagor o sesiynau.

Os ydych chi wedi pennu capasiti, gallwch ddewis a hoffech i ddefnyddwyr weld faint o lefydd sydd ar ôl ar gyfer pob sesiwn ai peidio. Ticiwch y blwch wrth ymyl ‘Cuddio nifer y llefydd sydd ar ôl’ os byddai’n well gennych i ddefnyddwyr beidio â gweld yr wybodaeth hon.

Mae gennych amrywiaeth o opsiynau ymuno ar gyfer eich sesiynau y gellir eu dewis yn y rhan hon o’r golygydd digwyddiadau. Mae tri opsiwn gwahanol i ddewis o'u plith, sy’n rhoi cyfle i chi bersonoli'r digwyddiad hwn yn llwyr.  

  • Gall mynychwyr ddewis un sesiwn yn unig’ – Os byddwch chi’n dewis yr opsiwn hwn, dim ond un sesiwn y bydd mynychwyr yn gallu ymuno â hi. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych chi’n rhedeg yr un sesiwn sawl gwaith dros gyfnod penodol o amser a dim ond un sesiwn y bydd angen i bobl gymryd rhan ynddi.
  • Rhaid i fynychwyr gymryd rhan mewn o leiaf un sesiwn’ – Os byddwch chi’n dewis yr opsiwn hwn, byddant yn gallu mynychu cynifer o sesiynau ag y dymunant cyn belled â bod capasiti ar gael o hyd. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych chi’n cynnal digwyddiad gyda gwahanol sesiynau a does dim un ohonynt yn orfodol (er enghraifft, arddangosfa rithwir gyda siaradwyr gwadd) gan ei fod yn caniatáu i bobl gymryd rhan yn unrhyw beth sydd o ddiddordeb iddynt.
  • Rhaid i fynychwyr gymryd rhan ym mhob sesiwn’ - Os byddwch chi’n dewis yr opsiwn hwn, disgwylir iddynt gymryd rhan ym mhob sesiwn. Mae’r opsiwn hwn yn ddefnyddiol ar gyfer digwyddiadau hyfforddi gorfodol sy’n cynnwys nifer o sesiynau lle bydd angen rhoi gwybod i ddefnyddwyr bod angen iddynt gymryd rhan ym mhob sesiwn. Rydyn ni’n eich cynghori i ddefnyddio’r un capasiti mwyaf a lleiaf wrth ddefnyddio’r opsiwn hwn, felly bydd angen i’r un nifer o bobl allu ymuno â phob sesiwn.

Dewiswch yr opsiwn rydych chi’n ei ffafrio – peidiwch â phoeni, byddwch yn gallu newid hyn yn nes ymlaen os byddwch chi’n penderfynu y byddai’n well gennych chi ddewis opsiwn arall.

Bydd yr amserlen yn dangos yr holl sesiynau rydych chi wedi’u creu.

Ychwanegu rhagor o sesiynau

Hoffech chi ychwanegu rhagor o sesiynau at eich digwyddiad? Dim problem.

Cliciwch y botwm ‘+Ychwanegu Sesiwn’ i greu un newydd, gan ddilyn yr un camau ag uchod.

Ar ôl i chi ychwanegu’r holl wybodaeth hon, cliciwch ‘Ychwanegu’.    

Byddwch nawr yn gweld fod y sesiwn wedi’i hychwanegu at yr amserlen. I’ch helpu i fod yn drefnus, bydd unrhyw sesiynau sy’n cael eu cynnal ar ddyddiadau gwahanol yn cael eu dangos mewn tabiau gwahanol.

Symud pob sesiwn

Weithiau, bydd angen i chi ddiweddaru amser pob sesiwn yr un faint o oriau. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych chi’n dyblygu digwyddiad sy’n bodoli’n barod a bod angen i chi olygu’r dyddiad cyn ei gyhoeddi.

I wneud hyn, dechreuwch drwy glicio ‘Symud Pob Sesiwn’. 

Bydd hyn yn agor blwch naid lle gallwch symud y sesiynau yn eich digwyddiad i’w cynnal yn gynharach neu’n hwyrach, a phennu sawl awr. Cliciwch ‘Diweddaru’ ar ôl gorffen.      

Golygu a dileu sesiynau

Ar ôl i chi ychwanegu sesiwn (neu sawl sesiwn), gallwch olygu neu ddileu unrhyw un o'r rhain drwy ddod o hyd i’r opsiwn priodol yn y gwymplen.

Nawr eich bod wedi gorffen creu eich sesiynau, gallwch symud ymlaen i’r cam nesaf, sef ‘Disgrifiad’.

Yma, gallwch ychwanegu neu olygu teitl, crynodeb, delwedd mân-lun a disgrifiad i’w dangos yn y trosolwg o’ch digwyddiad.

Pwt byr am y digwyddiad yw’r crynodeb. Defnyddiwch y disgrifiad i ychwanegu rhywfaint o fanylion. Mae diweddaru’r ddau yn hawdd – dechreuwch deipio ac rydych chi’n barod i fynd.

Mae amrywiaeth o offer ar gael i fformatio’r disgrifiad a sicrhau ei fod yn edrych yn iawn.

I ddiweddaru’r ddelwedd mân-lun, cliciwch y botwm ‘Diweddaru delwedd’ a bydd ffenestr naid yn ymddangos.

Gallwch naill ai lwytho delwedd i fyny o’ch dyfais neu ddewis delwedd sydd wedi cael ei llwytho i fyny i adran ‘Ffeiliau’ eich proffil defnyddiwr (i gael mwy o wybodaeth, darllenwch y canllaw Sut mae rheoli eich proffil).

I lwytho delwedd i fyny o’ch dyfais, cliciwch ar yr eicon isod. Dewiswch y ddelwedd yr hoffech ei llwytho i fyny.

I ddewis delwedd o ardal ‘Ffeiliau’ eich proffil defnyddiwr, dewiswch yr eicon chwyddwydr.

Dewiswch y ddelwedd yr hoffech ei defnyddio ac yna clicio’r botwm ‘Mewnosod’. Gallwch hefyd glirio’r dewis drwy glicio’r botwm ‘Clirio popeth’. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw newidiadau munud olaf.

Gallwch docio eich delwedd drwy ddefnyddio'r llygoden i glicio a dewis y rhan o’r ddelwedd yr hoffech ei defnyddio.

Os hoffech ddileu’r ddelwedd yn llwyr a dechrau eto, cliciwch ‘x’.

Pan fyddwch yn fodlon â'ch delwedd, cliciwch ‘Wedi gorffen’.

Bydd eich delwedd mân-lun yn cael ei diweddaru nawr.

Nawr mae’n bryd i chi benderfynu ar eich gosodiadau cofrestru. Pan fyddwch chi’n barod, cliciwch ‘Y Cam Nesaf’.

Yn yr adran ‘Cofrestru’ byddwch chi’n nodi sut gall y defnyddwyr ymuno â’r digwyddiad. Mae gennych chi nifer o ddewisiadau gosodiadau yma:

  • Ceisiadau Ymuno’ - bydd dewis yr opsiwn hwn yn golygu bod yn rhaid i ddefnyddwyr ofyn i ymuno â’r digwyddiad a bydd angen i weinyddwr y digwyddiad dderbyn y cais. Mae hyn yn rhoi rheolaeth lawn i chi dros y rhestr mynychwyr.
  • Agor’ - mae dewis yr opsiwn hwn yn tynnu’r botwm ‘Ymuno’, felly ni fydd angen i ddefnyddwyr ofyn i ymuno a byddant yn cael eu hychwanegu at y rhestr mynychwyr ar unwaith. Mae modd defnyddio’r opsiwn hwn ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus hefyd (lle gall pobl sydd heb gyfrif Thinqi gymryd rhan).
  • Talu’ - mae’r opsiwn hwn yn defnyddio talebau (wedi’u ffurfweddu yn y Panel Gweinyddu) i archebu lle mewn digwyddiadau. Gellir dyrannu nifer penodol o dalebau i reolwyr llinell er mwyn eu galluogi i archebu lle i’w staff mewn digwyddiadau ar eu rhan.
  • Rheoli’ - mae’r opsiwn hwn yn analluogi’r botwm ‘Ymuno’ yn llwyr. Fodd bynnag, gallwch ychwanegu mynychwyr eich hun o hyd – edrychwch ar y canllaw Sut mae rheoli digwyddiadau i gael rhagor o fanylion.  

Ar ôl dewis y gosodiadau priodol, symudwch ymlaen i’r cam nesaf – ‘Dosbarthiad a Thagio’.  

Gallwch wneud eich digwyddiad yn haws ei ganfod drwy ychwanegu tagiau a diweddaru dosbarthiad eich digwyddiad, sy’n berthnasol i gymwyseddau dysgwyr.

I ddiweddaru dosbarthiad y digwyddiad, cliciwch ‘Diweddaru Dosbarthiad’. Bydd blwch naid o’r enw ‘Mapio Cwricwlwm’ yn agor, lle gallwch neilltuo eich digwyddiad i gwricwlwm neu ILOs. Dewiswch o’r rhestr barod o ILOs a chwricwlwm ar yr ochr chwith, llenwi’r wybodaeth angenrheidiol a chlicio ‘Cadw’.

I ychwanegu tag, teipiwch eich term yn y blwch ‘Ychwanegu tag newydd’ a chlicio’r botwm ‘+’, neu glicio ‘Enter’ ar eich bysellfwrdd. Os hoffech dynnu tag rydych chi wedi’i ychwanegu, chwiliwch am y tag dan sylw a chlicio ‘X’ ar y tag hwnnw.

Gallwch hefyd ychwanegu tagiau’n gyflym drwy ddod o hyd i dag o dan ‘Tagiau diweddar’ a chlicio’r botwm ‘+’ i’w gynnwys.

Ar ôl gorffen, mae’n amser symud ymlaen i’r cam olaf o greu eich digwyddiad – ‘Gosodiadau Digwyddiad’.

Mae’n amser ychwanegu’r manylion terfynol at eich digwyddiad. Dyma sut mae gwneud hynny.

Byddwch yn cael sawl opsiwn ar gyfer rhestru eich digwyddiad yn yr ardal darganfod.

  • Rhestru’r digwyddiad yn yr ardal darganfod - Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau sydd ond angen eu rhestru unwaith, neu sydd â sesiynau sy’n rhedeg yn glir gyda’i gilydd.
  • Rhestru pob sesiwn ar wahân yn yr ardal darganfod - Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer sesiynau sydd â’r un cynnwys ond sy’n rhedeg ar amser, dyddiadau neu mewn lleoliadau gwahanol.
  • Cuddio’r digwyddiad yn yr ardal darganfod - Ni fydd digwyddiadau cudd yn ymddangos yn yr ardal darganfod na’r canlyniadau chwilio ond bydd defnyddwyr sydd â mynediad i'r ddolen rhannu neu'r ffolder cynnwys yn gallu ei weld. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer digwyddiadau preifat nad ydych chi eisiau eu hysbysebu.

Bydd hyn yn gadael i chi ychwanegu cod llaw fer cofiadwy at eich digwyddiad. Gallwch bersonoli’r cod i’ch anghenion.

Mae’r rhestr aros yn ddefnyddiol pan fydd y digwyddiad, neu unrhyw un o sesiynau’r digwyddiad y maen nhw’n dymuno cymryd rhan ynddi, yn llawn.

Gellir adolygu a rheoli’r rhestr aros yn nes ymlaen yn ardal rheoli’r ap ‘Digwyddiadau’.

I alluogi’r rhestr aros, toglwch y switsh ymlaen.

Gallwch lwytho ffeiliau i fyny i ddigwyddiad, yn ogystal â chreu a chyhoeddi erthyglau. Toglwch ‘Gweld Ffeiliau’ a ‘Gweld Erthyglau’ i benderfynu pa gynnwys y gall pobl ei weld cyn ymuno â’ch digwyddiad.

Ar ôl gorffen, rydych chi’n barod i gyflwyno’r digwyddiad i’r byd.

Cliciwch y botwm ‘Cadw a Chyhoeddi’ yn y gornel dde isaf (mae’r botwm hwn i’w weld yng nghornel dde uchaf y golygydd digwyddiadau hefyd).

Bydd hyn yn agor blwch naid lle gallwch benderfynu pryd i gyhoeddi eich digwyddiad a gosod y gosodiadau preifatrwydd drwy ddewis ffolder cynnwys. Ddim yn siwr sut mae gosodiadau preifatrwydd yn gweithio gyda ffolderi cynnwys? Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn y canllaw ‘Panel Gweinyddol’.

I drefnu bod eich digwyddiad yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen, cliciwch ‘Eisiau cyhoeddi hwn yn nes ymlaen?

Cliciwch yr eicon calendr i ddewis dyddiad ac amser ac yna clicio ‘Ychwanegu’ ar ôl gorffen.

Byddwch nawr yn gweld eich bod wedi trefnu i’ch digwyddiad gael ei gyhoeddi ar y dyddiad a’r amser o’ch dewis. Peidiwch â phoeni – ni fydd ar gael i unrhyw un tan y dyddiad hwn.

Ar ôl i chi ddewis gosodiad preifatrwydd, cliciwch y botwm ‘Cyhoeddi’ ar waelod y blwch naid.

                                    

Dyna ni – rydych chi wedi llwyddo i greu a chyhoeddi eich digwyddiad personol.