Digwyddiad Clinig
Bydd y canllaw hwn yn egluro sut mae llunio clinig.
Mae clinig yn cynnwys sesiynau 1:1 lle gall defnyddwyr ddewis o slotiau amser dros gyfnod o amser.
Llunio clinig
Yn adran ‘Rheoli Digwyddiadau’ y nodwedd ‘Digwyddiadau’, dewiswch ‘+Ychwanegu Digwyddiad Newydd.’
Yn fan hyn, bydd gofyn i chi ddewis eich math o ddigwyddiad. Cliciwch y botwm ‘Creu Clinig’.
Bydd hyn yn agor blwch naid newydd lle gallwch chi roi’r canlynol:
- Teitl y digwyddiad
- Dyddiad ac amser dechrau
- Nifer y sesiynau
- Hyd sesiwn
Yma, gallwch hefyd ddewis a ydych am gael egwyl rhwng sesiynau (peidiwch â phoeni, nid yw’r manylion hyn yn derfynol a gallwch eu newid yn y golygydd digwyddiad).
Wedi gorffen? Dewiswch ‘Ychwanegu’.
Gallwch gadw eich digwyddiad unrhyw bryd drwy glicio’r botwm ‘Cadw Drafft’ yn y golygydd. Os ydych chi’n dal yn brysur yn llunio’r digwyddiad, cofiwch wneud hyn cyn gadael fel nad ydych chi’n colli eich holl waith caled.
Amser a lleoliad
Yn gyntaf, byddwch yn cael yr adran ‘Amser a Lleoliad’ yn y golygydd digwyddiad. Mae’r adran hon yn orfodol os ydych chi am gyhoeddi eich digwyddiad.
Yma, gallwch addasu dyddiad dechrau a hyd eich digwyddiad, yn ogystal ag ychwanegu lleoliad. Dyma lle gallwch chi greu a golygu sesiynau’r clinig hefyd.
Gallwch bennu lleoliad a chapasiti cyffredinol a fydd yn berthnasol i bob sesiwn yn ddiofyn. Gallwch hefyd bennu lleoliadau a chapasiti unigol ar gyfer pob sesiwn. Byddwn yn egluro hyn yn nes ymlaen yn y canllaw hwn.
Lleoliad
I roi manylion eich lleoliad, cliciwch ‘Diweddaru Lleoliad’.
Bydd hyn yn agor blwch naid lle gallwch roi eich cyfeiriad ‘ffisegol’ neu ‘rithiol’.
Toglwch rhwng y tabiau ‘Cyfeiriad Ffisegol’ a ‘Cyfeiriad Rhithiol’ i roi’r manylion ar gyfer y gwahanol fathau o gyfeiriadau.
O dan ‘Cyfeiriad Ffisegol’, gallwch roi holl fanylion eich lleoliad, gan gynnwys map ar gyfer lleoliadau ffisegol.
Gallwch hefyd ddewis o leoliadau sydd wedi’u pennu ymlaen llaw, sy’n ddefnyddiol os ydych chi’n defnyddio’r un lleoliad ffisegol yn aml (mae’r rhain wedi’u nodi yn adran ‘Digwyddiadau’ y Panel Gweinyddol).
Os byddwch chi’n dewis cynnal eich digwyddiad gan ddefnyddio ‘Cyfeiriad Rhithiol’, bydd angen i chi nodi’r math o leoliad rhithiol.
Dewiswch ‘Personol/Custom’ os ydych chi’n defnyddio offer fideo-gynadledda ar-lein y tu allan i Thinqi i gynnal y digwyddiad (fel Zoom neu Microsoft Teams).
Bydd angen i chi roi ‘Cyfeiriad ar-lein’ (dyma ddolen gwahoddiad i’r cyfarfod).
Ychwanegwch unrhyw nodiadau yr hoffech eu cynnwys (er enghraifft, cyfarwyddiadau ar sut mae ymuno â’r digwyddiad) yn y blwch ‘Nodiadau’ ac rydych chi’n barod i fynd.
Capasiti
Gallwch bennu capasiti ar gyfer yr holl sesiynau i sicrhau nad ydynt yn orlawn. Mae hyn yn ddefnyddiol hefyd os bydd angen i nifer penodol o bobl fod â diddordeb mewn sesiwn er mwyn i chi allu ei chynnal. Gwnewch hyn drwy glicio’r botwm ‘Diweddaru capasiti’.
Bydd ffenestr naid yn ymddangos lle gallwch bennu’r capasiti lleiaf a mwyaf ar gyfer y sesiwn. Ar ôl gorffen, cliciwch y botwm ‘Diweddaru’ (os byddwch yn newid eich meddwl, cliciwch ‘Canslo’).
Gallwch hefyd ddewis a ydych chi am ddangos i ddefnyddwyr faint o lefydd sydd ar ôl ym mhob sesiwn neu ydych chi am guddio’r wybodaeth hon. Os hoffech ei guddio, ticiwch y blwch wrth ymyl ‘Cuddio nifer y llefydd sydd ar ôl’.
Amserlen
Hoffech chi ychwanegu rhagor o sesiynau i’ch clinig? Dim problem. Cliciwch y botwm ‘+Ychwanegu Sesiwn’ i greu un newydd.
Bydd hyn yn agor blwch naid lle gallwch greu sesiwn newydd, gan ddewis enw, dyddiad dechrau a hyd.
Gan ddefnyddio’r botymau gyda’r symbol ‘+’ wrth eu hymyl, gallwch hefyd ychwanegu ‘Lleoliad’, ‘Capasiti’, ‘Crynodeb’ a ‘Disgrifiad’ ar gyfer y sesiwn.
Os na fyddwch chi’n rhoi unrhyw fanylion yma, bydd y sesiwn hon yn defnyddio’r wybodaeth sydd eisoes wedi’i hysgrifennu ym mhrif ran y tab ‘Amser a Lleoliad’.
Ar ôl i chi ychwanegu’r holl wybodaeth hon, cliciwch ‘Ychwanegu’.
Byddwch nawr yn gweld fod y sesiwn wedi’i hychwanegu at yr amserlen. I’ch helpu i fod yn drefnus, bydd sesiynau sy’n cael eu cynnal ar ddyddiadau gwahanol yn cael eu dangos mewn tabiau ar wahân.
Gallwch ddiweddaru amser a dyddiad pob sesiwn ar unwaith, sy’n ddefnyddiol os byddwch chi’n dyblygu’r digwyddiad yn nes ymlaen a bod angen i chi newid y dyddiad. I wneud hyn, cliciwch ‘Symud Pob Sesiwn’.
Bydd hyn yn agor blwch naid lle gallwch symud yr holl sesiynau yn eich digwyddiad i’w cynnal yn gynharach neu’n hwyrach, a phennu sawl awr. Cofiwch glicio ‘Diweddaru’ ar ôl gorffen.
Ar ôl i chi ychwanegu sesiwn neu ddwy, gallwch olygu neu ddileu unrhyw un drwy ddod o hyd i’r opsiwn priodol yn y gwymplen i’r dde o enw'r sesiwn.
Nawr eich bod wedi gorffen creu eich sesiynau, gallwch symud ymlaen i’r cam nesaf, sef ‘Disgrifiad’.
Disgrifiad
Yma, gallwch ychwanegu neu olygu teitl, crynodeb, delwedd mân-lun a disgrifiad i’w dangos yn y trosolwg o’ch digwyddiad.
Pwt byr am y digwyddiad yw’r crynodeb. Defnyddiwch y disgrifiad i ychwanegu rhywfaint o fanylion. Mae diweddaru’r ddau yn hawdd – dechreuwch deipio ac rydych chi’n barod i fynd.
Mae amrywiaeth o offer ar gael i fformatio’r disgrifiad a sicrhau ei fod yn edrych yn iawn.
I ddiweddaru’r ddelwedd mân-lun, cliciwch y botwm ‘Diweddaru delwedd’ a bydd ffenestr naid yn ymddangos.
Gallwch naill ai lwytho delwedd i fyny o’ch dyfais neu ddewis delwedd sydd wedi cael ei llwytho i fyny i adran ‘Ffeiliau’ eich proffil defnyddiwr (i gael mwy o wybodaeth, darllenwch y canllaw Sut mae rheoli eich proffil).
I lwytho delwedd i fyny o’ch dyfais, cliciwch ar yr eicon isod. Dewiswch y ddelwedd yr hoffech ei llwytho i fyny.
I ddewis delwedd o ardal ‘Ffeiliau’ eich proffil defnyddiwr, dewiswch yr eicon chwyddwydr.
Dewiswch y ddelwedd yr hoffech ei defnyddio ac yna clicio’r botwm ‘Mewnosod’. Gallwch hefyd glirio’r dewis drwy glicio’r botwm ‘Clirio popeth’. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw newidiadau munud olaf.
Gallwch docio eich delwedd drwy ddefnyddio'r llygoden i glicio a dewis y rhan o’r ddelwedd yr hoffech ei defnyddio.
Os hoffech ddileu’r ddelwedd yn llwyr a dechrau eto, cliciwch ‘x’.
Pan fyddwch yn fodlon â'ch delwedd, cliciwch ‘Wedi gorffen’.
Bydd eich delwedd mân-lun yn cael ei diweddaru nawr.
Nawr mae’n bryd i chi benderfynu ar eich gosodiadau cofrestru. Pan fyddwch chi’n barod, cliciwch ‘Y Cam Nesaf’.
Cofrestru
Yn yr adran ‘Cofrestru’ byddwch chi’n nodi sut gall y defnyddwyr ymuno â’r digwyddiad. Mae gennych chi nifer o ddewisiadau gosodiadau yma:
- ‘Ceisiadau Ymuno’ - bydd dewis yr opsiwn hwn yn golygu bod yn rhaid i ddefnyddwyr ofyn i ymuno â’r digwyddiad a bydd angen i weinyddwr y digwyddiad dderbyn y cais. Mae hyn yn rhoi rheolaeth lawn i chi dros y rhestr mynychwyr.
- ‘Agor’ - mae dewis yr opsiwn hwn yn tynnu’r botwm ‘Ymuno’, felly ni fydd angen i ddefnyddwyr ofyn i ymuno a byddant yn cael eu hychwanegu at y rhestr mynychwyr ar unwaith. Mae modd defnyddio’r opsiwn hwn ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus hefyd (lle gall pobl sydd heb gyfrif Thinqi gymryd rhan).
- ‘Talu’ - mae’r opsiwn hwn yn defnyddio talebau (wedi’u ffurfweddu yn y Panel Gweinyddu) i archebu lle mewn digwyddiadau. Gellir dyrannu nifer penodol o dalebau i reolwyr llinell er mwyn eu galluogi i archebu lle i’w staff mewn digwyddiadau ar eu rhan.
- ‘Rheoli’ - mae’r opsiwn hwn yn analluogi’r botwm ‘Ymuno’ yn llwyr. Fodd bynnag, gallwch ychwanegu mynychwyr eich hun o hyd – edrychwch ar y canllaw Sut mae rheoli digwyddiadau i gael rhagor o fanylion.
Ar ôl dewis y gosodiadau priodol, symudwch ymlaen i’r cam nesaf – ‘Dosbarthiad a Thagio’.
Dosbarthiad a thagio
Gallwch wneud eich digwyddiad yn haws ei ganfod drwy ychwanegu tagiau a diweddaru dosbarthiad eich digwyddiad, sy’n berthnasol i gymwyseddau dysgwyr.
I ddiweddaru dosbarthiad y digwyddiad, cliciwch ‘Diweddaru Dosbarthiad’. Bydd blwch naid o’r enw ‘Mapio Cwricwlwm’ yn agor, lle gallwch neilltuo eich digwyddiad i gwricwlwm neu ILOs. Dewiswch o’r rhestr barod o ILOs a chwricwlwm ar yr ochr chwith, llenwi’r wybodaeth angenrheidiol a chlicio ‘Cadw’.
I ychwanegu tag, teipiwch eich term yn y blwch ‘Ychwanegu tag newydd’ a chlicio’r botwm ‘+’, neu glicio ‘Enter’ ar eich bysellfwrdd. Os hoffech dynnu tag rydych chi wedi’i ychwanegu, chwiliwch am y tag dan sylw a chlicio ‘X’ ar y tag hwnnw.
Gallwch hefyd ychwanegu tagiau’n gyflym drwy ddod o hyd i dag o dan ‘Tagiau diweddar’ a chlicio’r botwm ‘+’ i’w gynnwys.
Ar ôl gorffen, mae’n amser symud ymlaen i’r cam olaf o greu eich digwyddiad – ‘Gosodiadau Digwyddiad’.
Gosodiadau digwyddiad
Mae’n amser ychwanegu'r manylion terfynol at eich clinig. Dyma sut mae gwneud hynny.
Digwyddiadau y gellir eu darganfod a digwyddiadau cudd
Byddwch yn cael sawl opsiwn ar gyfer rhestru eich digwyddiad yn yr ardal darganfod.
- Rhestru’r digwyddiad yn yr ardal darganfod - Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau sydd ond angen eu rhestru unwaith, neu sydd â sesiynau sy’n rhedeg yn glir gyda’i gilydd.
- Rhestru pob sesiwn ar wahân yn yr ardal darganfod - Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer sesiynau sydd â’r un cynnwys ond sy’n rhedeg ar amser, dyddiadau neu mewn lleoliadau gwahanol.
- Cuddio’r digwyddiad yn yr ardal darganfod - Ni fydd digwyddiadau cudd yn ymddangos yn yr ardal darganfod na’r canlyniadau chwilio ond bydd defnyddwyr sydd â mynediad i'r ddolen rhannu neu'r ffolder cynnwys yn gallu ei weld. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer digwyddiadau preifat nad ydych chi eisiau eu hysbysebu.
Cod digwyddiad
Bydd hyn yn gadael i chi ychwanegu cod llaw fer cofiadwy at eich digwyddiad. Gallwch bersonoli’r cod i’ch anghenion.
Rhestr aros
Mae’r rhestr aros yn ddefnyddiol pan fydd y digwyddiad, neu unrhyw un o sesiynau’r digwyddiad y maen nhw’n dymuno cymryd rhan ynddi, yn llawn.
Gellir adolygu a rheoli’r rhestr aros yn nes ymlaen yn ardal rheoli’r ap ‘Digwyddiadau’.
I alluogi’r rhestr aros, toglwch y switsh ymlaen.
Pa gynnwys y gall pobl ei weld cyn ymuno â digwyddiad?
Gallwch lwytho ffeiliau i fyny i ddigwyddiad, yn ogystal â chreu a chyhoeddi erthyglau. Toglwch ‘Gweld Ffeiliau’ a ‘Gweld Erthyglau’ i benderfynu pa gynnwys y gall pobl ei weld cyn ymuno â’ch digwyddiad.
Ar ôl gorffen, rydych chi’n barod i gyflwyno’r digwyddiad i’r byd.
Cliciwch y botwm ‘Cadw a Chyhoeddi’ yn y gornel dde isaf (mae’r botwm hwn i’w weld yng nghornel dde uchaf y golygydd digwyddiadau hefyd).
Cyhoeddi eich digwyddiad
Bydd hyn yn agor blwch naid lle gallwch benderfynu pryd i gyhoeddi eich digwyddiad a gosod y gosodiadau preifatrwydd drwy ddewis ffolder cynnwys. Ddim yn siwr sut mae gosodiadau preifatrwydd yn gweithio gyda ffolderi cynnwys? Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn y canllaw ‘Panel Gweinyddol’.
I drefnu bod eich digwyddiad yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen, cliciwch ‘Eisiau cyhoeddi hwn yn nes ymlaen?’
Cliciwch yr eicon calendr i ddewis dyddiad ac amser ac yna clicio ‘Ychwanegu’ ar ôl gorffen.
Byddwch nawr yn gweld eich bod wedi trefnu i’ch digwyddiad gael ei gyhoeddi ar y dyddiad a’r amser o’ch dewis. Peidiwch â phoeni – ni fydd ar gael i unrhyw un tan y dyddiad hwn.
Ar ôl i chi ddewis gosodiad preifatrwydd, cliciwch y botwm ‘Cyhoeddi’ ar waelod y blwch naid.
Dyna ni – rydych chi wedi llwyddo i greu a chyhoeddi eich clinig.