Yr adnodd gwerthuso a gwella
Arweiniad ymarferol, cwestiynau trafod, adnoddau ac astudiaethau achos i gefnogi hunan arfarnu a gwella ysgolion.
Mae’r Adnodd gwerthuso a gwella yn adnodd i gefnogi ysgolion gyda hunanarfarnu a gwella.
Mae'n cynnwys:
- canllawiau ymarferol i helpu ysgolion i ddefnyddio ystod o ddulliau i werthuso a gwella eu gwaith
- dewislen o gwestiynau trafod gwerthuso i gefnogi ysgolion wrth ganolbwyntio ar agweddau o’u gwaith gwerthuso a gwella
- adnoddau rhyngweithiol a deunyddiau hyfforddi
- astudiaethau achos o arfer mewn ysgolion
- dolenni i adnoddau a phecynnau cymorth ychwanegol
- Trosolwg (Pam?)
Trosolwg, rhagflas fideo, cyd-destun a chysylltiadau â ffrydiau gwaith eraill.
- Egwyddorion gwerthuso a gwella (Sut?)
Egwyddorion a dulliau hunanwerthuso: edrych ar addysgu a dysgu, defnyddio data, rhanddeiliaid, cynllunio ar gyfer gwella.
- Strwythur (Beth?)
Strwythur yr adnoddau, themâu, categorïau, cwestiynau trafod a dolenni i adnoddau.