Gair i gall a chamdybiaethau cyffredin
Gair i gall
Dylai ysgolion barhau i wneud y canlynol:
- cysoni gwaith hunanwerthuso â gwaith gwella ysgol fel proses integredig
- datblygu diwylliant dysgu sy'n hyrwyddo gwelliant parhaus gyda'r nod o wireddu'r pedwar diben
- defnyddio arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn arloesi a gwella
- bod yn fyfyriol, yn agored ac yn onest
- myfyrio ar weithgareddau hunanwerthuso a'u mireinio
- gwerthuso'r ysgol a'i dysgwyr, a gwerthuso ar eu cyfer
- cynnwys yr holl staff, dysgwyr, rhieni/gofalwyr, llywodraethwyr a rhanddeiliaid eraill a gwrando arnynt
- defnyddio amrywiaeth dda o ddulliau er mwyn casglu tystiolaeth ddibynadwy
- defnyddio data yn gymesur ochr yn ochr â thystiolaeth o lygad y ffynnon
- rhannu arferion effeithiol o fewn ysgolion a rhyngddynt
- cynnal arferion effeithiol sydd eisoes yn bodoli ac adeiladu arnynt
- cadw golwg ar gynnydd o ran cyflawni'r blaenoriaethau gwella yn rheolaidd
- gweithio gyda chymheiriaid er mwyn cefnogi eu harferion nhw ac eraill
Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, dylai ysgolion osgoi:
- canolbwyntio ar ansawdd gwaith papur yn unig
- gwneud hunanwerthuso yn ddigwyddiad (yn hytrach na phroses barhaus)
- cadw hunanwerthuso ar wahân i brosesau gwella ysgol eraill
- canolbwyntio ar ystod gyfyngedig o ddata
- gwneud hunanwerthuso yn gyfrifoldeb i uwch-arweinwyr yn unig
- barnu popeth
- gwneud i bethau ymddangos yn well nag ydyn nhw
- gweithio er budd cynulleidfa allanol yn unig
Wrth gwrs, ni fydd systemau hunanwerthuso ar eu pen eu hunain yn arwain at welliant oni fydd yr ysgol yn gwneud y canlynol:
- dadansoddi a chyfuno canfyddiadau o amrywiaeth eang o weithgareddau er mwyn ‘triongli'r’ dystiolaeth
- defnyddio ei chasgliadau er mwyn pennu blaenoriaethau penodol ar gyfer gwella
- cynllunio camau gweithredu yn ofalus er mwyn sicrhau gwelliannau yn y meysydd hyn ac ystyried yn ofalus sut a phryd y bydd yn monitro ac yn gwerthuso cynnydd
- sicrhau bod ganddi ddarlun clir o'r hyn y mae'n bwriadu ei gyflawni
- defnyddio ei phrosesau hunanwerthuso i werthuso'r cynnydd a wneir yn erbyn ei blaenoriaethau gwella
Ni ddylid ystyried mai dau weithgaredd ar wahân yw hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau; nodweddion integredig o fewn prosesau gwella ysgol ydyn nhw.
Gweithgareddau rhyngweithiol
Gwendidau a chamsyniadau cyffredin
-
- Mae hyn yn dweud wrth yr ysgol bod gweithgareddau penodol yn cael eu cynnal, ond nid faint o effaith y maent yn ei chael ar y dysgu.
- Mae'n creu ‘diwylliant o gydymffurfio’ lle mae'n rhaid dilyn dulliau penodol (e.e. sesiynau llawn byr neu hunanasesu) ni waeth pa mor berthnasol neu briodol ydyn nhw.
- Gall hyn hyrwyddo'r disgwyliad y dylid cynnwys popeth (e.e. pedwar diben y cwricwlwm, llythrennedd, rhifedd, datblygu'r Gymraeg ac ati) ym mhob gwers.
- Nid yw hyn yn helpu'r ysgol i nodi meysydd penodol i'w datblygu nac anghenion dysgu proffesiynol.
-
- Nid yw hyn yn helpu'r ysgol i werthuso effaith yr addysgu ar y dysgu.
- Gall annog y staff i wneud sioe o'r addysgu a chynnwys elfennau deniadol ychwanegol nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu dysgu hirdymor.
-
- Nid yw hyn yn helpu'r ysgol i ddeall pa mor effeithiol yw ei darpariaeth mewn ffordd eang a chywir.
- Nid yw'n cefnogi gweithgarwch dysgu proffesiynol unigolion, adrannau na'r ysgol gyfan yn ddigon da.
- Gall wneud y gweithgareddau hyn yn rhai lle mae llawer yn y fantol a chael effaith negyddol ar les y staff.
-
- Gall hyn greu drwgdeimlad a chael effaith negyddol ar les y staff, ac nid yw'n cefnogi diwylliant cadarnhaol o ddatblygu a gwella.
- Gall olygu bod yr ysgol yn canolbwyntio ar y ddogfennaeth ei hun ar draul ei gwerthusiad o'r dysgu.
- Gall olygu bod llai o amser yn cael ei dreulio ar weithgareddau mwy gwerthfawr i gefnogi gwelliant.
-
- Nid yw hyn yn galluogi'r ysgol i feithrin dealltwriaeth glir o'r cryfderau penodol na'r meysydd penodol i'w datblygu yn yr addysgu a'r dysgu, sy'n ei gwneud hi'n anodd cynllunio'n effeithiol ar gyfer gwella.
- Gall hyn olygu bod yr ysgol yn canolbwyntio'n ormodol ar un math o weithgaredd gwerthuso yn hytrach nag ystyried amrywiaeth ddigon eang o dystiolaeth am y dysgu.
- Nid yw'n cefnogi gweithgarwch dysgu proffesiynol yn ddigon da.
- Mae'n bosibl nad yw'n adnabod gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud.
- Gall wneud gweithgareddau gwerthuso yn rhai lle mae llawer yn y fantol a chael effaith negyddol ar les y staff.
-
- Gall hyn roi darlun anghywir i'r ysgol o effaith ei darpariaeth.
- Nid yw'n helpu'r ysgol i nodi meysydd penodol i'w datblygu nac anghenion dysgu proffesiynol yn ddigon da.
- Mae'n ei gwneud hi'n anodd i'r ysgol gynllunio'n effeithiol ar gyfer gwella.