English

Mae canllawiau gwella ysgolion Llywodraeth Cymru yn cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd. Gan gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, mae’r fframwaith yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru gan ysgolion ac eraill mewn perthynas â hunanwerthuso a gwella.

O dan y canllawiau, mae’n parhau i fod yn ofyniad statudol i ysgolion yng Nghymru lunio cynllun datblygu ysgol. Fodd bynnag, mater i ysgolion yw penderfynu ar ddiwyg a chynnwys y cynlluniau hyn. Y peth pwysicaf yw bod ysgolion yn gwneud y gwaith gwella.

Bydd gwaith hunanwerthuso ysgolion yn nodi cryfderau yn ogystal â meysydd ar gyfer gwella. Bydd ysgolion yn cael eu cefnogi wrth hunanwerthuso drwy gyfleoedd dysgu proffesiynol, trafodaethau proffesiynol gyda phartneriaid gwella a thrwy’r adnodd cenedlaethol hwn. Mae’r dulliau, y cwestiynau trafod a’r rhestrau chwarae yn yr adnodd cenedlaethol yn cynnig canllawiau ymarferol er mwyn helpu ysgolion i bennu blaenoriaethau ar gyfer gwella. Mae’r adran ganlynol o’r canllawiau yn rhoi cymorth i ysgolion ar gyfer cynllunio, gweithredu (gwneud) a gwerthuso (adolygu) eu gwaith gwella.

Mae'r broses gynllunio yn fwy nag ysgrifennu syniadau ar bapur. Mae'n broses strategol lle y bydd ysgolion yn ystyried sut y gallant wireddu eu dyheadau ar gyfer gwella. 

  • dylai fod gan waith gwella ddiben penodol. Fel arfer, bydd hyn wedi cael ei bennu drwy waith gwerthuso
  • Yn seiliedig ar y gwaith gwerthuso, dylai ysgolion flaenoriaethu'r agweddau pwysicaf ar eu gwaith lle mae angen gwella. Dylai fod gweledigaeth glir a nodau ar gyfer y gwaith gwella sy'n seiliedig ar y gwahaniaeth y dymunir ei weld yn neilliannau'r dysgwyr
  • Fel rhan o'r broses flaenoriaethu, dylai ysgolion ystyried costau pob agwedd ar y gwaith gwella er mwyn penderfynu a yw'r cynlluniau'n hyfyw ac, os oes prinder adnoddau, penderfynu pa agweddau ar y gwaith gwella sydd bwysicaf
  • Dylai ysgolion hefyd ystyried costau a manteision posibl o safbwyntiau heblaw rhai ariannol, er enghraifft costau a manteision cymdeithasol ac emosiynol i'r dysgwyr, i'r staff ac i gymuned yr ysgol
  • Mae pennu blaenoriaethau hefyd yn bwysig er mwyn galluogi ysgolion i edrych ar waith gwella mewn ffordd fwy hirdymor, er enghraifft drwy adnabod anghenion y dyfodol
  • Wrth gynllunio a blaenoriaethu gwelliannau, dylai ysgolion fod yn uchelgeisiol ond hefyd yn realistig ynglŷn â'r hyn y gellir ei gyflawni yn eu cyd-destun, gyda'r adnoddau sydd ar gael (pobl, amser, cyllid). Dylent osgoi ceisio mynd i'r afael â gormod o agweddau ar eu gwaith ar unwaith gan fod hyn yn peryglu effeithiolrwydd prosesau gwella
  • Lle y bo'n briodol, dylai ysgolion bennu targedau mesuradwy er mwyn iddynt allu mesur pa mor effeithiol yw eu gwaith gwella. Dylai targedau fod yn heriol ac yn uchelgeisiol. Dylent alluogi ysgol i fyfyrio ar lwyddiant ei gwaith gwella. Hefyd, bydd targedau mesuradwy yn helpu ysgol i fyfyrio ar y gwahaniaeth y mae ei buddsoddiad mewn dysgu proffesiynol, arloesi, cydweithio, arweinyddiaeth ac adnoddau megis amser ac arian wedi'i wneud. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl nac yn ddefnyddiol ceisio mesur pob agwedd ar waith gwella
  • Weithiau, bydd y dystiolaeth o'r gwelliannau i'w gweld yn amlwg. Gall canolbwyntio'n rhy haearnaidd ar fesur effaith arwain at ddiwylliannau negyddol megis profi yn hytrach na gwella. Gall hynny rwystro ysgolion rhag canolbwyntio ar agweddau ar eu gwaith lle na ellir dangos canlyniadau mesuradwy
  • Dylai ysgolion ystyried cyflwyno cronoleg ar gyfer gwella (llinell amser) sy’n dwyn ynghyd pwy sy’n gwneud beth, pryd a pham.

Pam?

Mae hyn yn nodi:

  • diben penodol y gwaith gwella
  • y rhesymau penodol dros y camau gweithredu a nodwyd
  • y cerrig milltir penodol y disgwylir eu cyrraedd ar yr adegau a nodir yn ystod y broses wella

Pwy?

Bydd hyn yn cynnwys:

  • pobl sy'n gyfrifol am arwain gwaith gwella
  • pobl sy'n cymryd rhan mewn gwaith gwella, er enghraifft mewn profiad dysgu proffesiynol penodol
  • pobl sy'n gwerthuso cynnydd gwaith gwella

Beth?

Bydd hyn yn cynnwys:

  • dilyniant cronolegol o gamau gweithredu arfaethedig sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau penodol ar gyfer gwella. Gallai hyn olygu dysgu proffesiynol, cydweithio neu waith gwerthuso

Pryd?

Mae hyn yn nodi:

  • dyddiadau ac amseroedd ar gyfer pob cam gweithredu gan gynnwys gwerthuso parhaus

Dylai'r ysgol gymryd y camau yn unol â'r amserlenni y cytunwyd arnynt cyn belled ag y bo'n bosibl. Dylai ddefnyddio'r dulliau, y cwestiynau myfyrio a'r rhestrau chwarae yn yr adnodd hwn i gadw golwg ar gynnydd yn rheolaidd, er enghraifft er mwyn gwerthuso cynnydd o ran cyflawni cerrig milltir, ac addasu'r strategaeth os bydd angen.

Dylai hefyd gymryd y camau o bryd i'w gilydd ar ddiwedd gwaith gwella, er mwyn gwerthuso pa mor gynaliadwy a llwyddiannus oedd y gwaith.