Egwyddorion gwerthuso a gwella
Wrth ddylunio'r adnodd hwn, gwnaeth yr ymarferwyr a oedd yn rhan o'r broses ymrwymo i'r egwyddor y dylai'r adnodd hwn roi cymorth ymarferol er mwyn galluogi ysgolion i wneud gwelliannau. Gwnaethant ddatblygu cyfres o egwyddorion er mwyn helpu i ddylunio'r adnodd a'i roi ar waith.
Mae'r adnodd yn cynnwys ac yn hyrwyddo'r nodweddion a'r gwerthoedd canlynol:
- ffocws ar gyflawni cystal â phosibl i bob dysgwr
- bod yn gyson â gwaith yr holl sefydliadau/mentrau eraill
- y gallu i fod yn hyblyg ac ymateb i gyd-destun yr ysgol
- cysylltiadau clir â dysgu proffesiynol
- proses barhaus ac nid ‘cipolwg’
- cynaliadwyedd a hydrinedd
- tryloywder a gonestrwydd
- bod yn ddefnyddiol ac yn fuddiol
- dwyieithrwydd drwyddo draw
- caiff y broses ei chreu gan y rhai sy'n ei defnyddio
Yn gryno, dylai'r adnodd gefnogi:
- pob dysgwr
- pob ysgol
- system addysg hunanwella gynaliadwy
Dylai ysgolion ddefnyddio'r adnodd fel dewislen. Mae'r adnodd yn cynnwys canllawiau ymarferol a deunyddiau enghreifftiol ar Sut i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ar gyfer gwaith gwerthuso a gwella. Ategir hyn gan ddewis helaeth o gwestiynau myfyrio ac adnoddau ychwanegol sy'n helpu ysgolion i wybod Beth i'w werthuso a'i wella. Yn ogystal â hynny, mae amrywiaeth o adnoddau rhyngweithiol yn cefnogi hyfforddiant, datblygiad a newid diwylliannol cadarnhaol mewn perthynas â gwaith gwerthuso a gwella.
Yn bwysig ddigon, yn ogystal â hyrwyddo ymddygiadau ac arferion a ddymunir, mae'r adnodd hwn hefyd yn ceisio anghymell arferion llai effeithiol, neu ‘arferion gwael’.
Dulliau hunanwerthuso
- Edrych ar ddysgu ac addysgu
Awgrymiadau ar ddulliau o werthuso dysgu ac addysgu ac adnodd rhyngweithiol ar ymgysylltu â dysgwyr.
- Gwerthuso cynnydd dysgwyr
Canllawiau ar werthuso cynnnydd dysgwyr, yr egwyddorion cynnydd a defnyddio data.
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Mae gwybodaeth am sut mae ymgysylltu â dysgwyr, staff ysgolion a chymuned ehangach yr ysgol yn cefnogi gwelliant., ynghyd â gweithgaredd rhyngweithiol.
- Cynllunio gwelliant a'i roi ar waith
Canllawiau ar gynllunio a gwella, sy'n cyd-fynd â'r canllawiau anstatudol newydd ar wella ysgolion.