English
  • Mae’r adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella’n adnodd ymarferol i’ch helpu i wella’ch ysgol. Crewyd yr adnodd ar y cyd gydag ysgolion, er lles ysgolion a cheir cynnydd a lles dysgwyr wrth ei wraidd.

  • Bydd fersiwn gyntaf yr Adnodd ar gael i ysgolion o dymor yr haf 2021.

  • Nac ydyw, datblygwyd yr adnodd gydag ymarferwyr i gefnogi prosesau hunanwerthuso a gwella.

    Mae’r adnodd yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o waith gwerthuso a gwella effeithiol a fydd o fudd i bob ysgol ledled Cymru. Mae’n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ysgolion ddysgu oddi wrth ei gilydd a chyda’i gilydd.

  • Na ddylent. Nid oes disgwyl i ysgolion werthuso pob agwedd ar eu gwaith bob blwyddyn. Mae’r cwestiynau trafod yn ddewislen i ysgolion ddewis o’u plith i fodloni’u hanghenion gwerthuso a gwella.

    Mae ysgolion/UCDau yn debygol o ddefnyddio’r adnodd mewn ffyrdd gwahanol neu ddefnyddio gwahanol elfennau o’r adnodd yn dibynnu ar eu cyd-destun a’u blaenoriaethau gwella.

  • Ein nod yw sicrhau bod adnoddau ar gael erbyn mis Mai 2021. Bydd adnoddau ar ffurf rhestri chwarae, a fydd yn cynnwys astudiaethau achos amlgyfrwng gan ysgolion sydd wedi treialu'r defnydd o’r cwestiynau trafod (cwestiynau trafod cwricwlwm yn bennaf yn y cam hwn o'r gwaith) i gefnogi gwerthuso a gwelliant ysgol. Darperir y rhain fel enghreifftiau o sut yr aeth ysgolion ati i werthuso a gwella ac nid oes disgwyl i ysgolion ddilyn unrhyw un o'r dulliau hyn.

    Fodd bynnag, gallai ysgolion ystyried mabwysiadu neu addasu'r dulliau hyn i'w cyd-destun unigryw i ddiwallu eu hanghenion unigryw.

  • Mae’r adnoddau wedi’u cynnwys wrth ymyl y canllawiau a’r cwestiynau trafod perthnasol ar y wefan. Chwiliwch am yr eiconau perthnasol ar y tudalennau.

  • Mae'r astudiaethau achos o waith gwerthuso a gwella yn yr adnodd yn enghreifftiau o sut mae ysgolion wedi nodi a/neu fynd i'r afael â materion a oedd yn benodol iddynt ar adeg benodol.

    Efallai y bydd ysgolion eraill yn ystyried mabwysiadu neu addasu'r dulliau hyn i'w cyd-destun a'u hanghenion unigryw.

  • Dros amser, dylai cymuned gyfan yr ysgol gael cyfle i gyfrannu at wahanol agweddau ar waith gwerthuso a gwella ysgol.

    Bydd y ffordd y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol yn dibynnu ar y math penodol o weithgaredd a'i ddiben. Er enghraifft, os mai diben y gwaith gwerthuso yw gwella'r sefyllfa drwy'r ysgol gyfan mewn perthynas â mater penodol, megis darllen, yna gellid cynnwys cymuned gyfan yr ysgol gan gynnwys dysgwyr, rhieni, athrawon, staff cymorth a llywodraethwyr.

    Fodd bynnag, os mai'r nod yw gwella agweddau ar yr addysgu mewn perthynas ag athro unigol neu grŵp bach o athrawon, mae'n debygol mai dim ond y bobl dan sylw y bydd angen eu cynnwys.

  • Mae gwaith hunanwerthuso yn rhan o strategaeth wella ysgol. Mae'n galluogi ysgolion i nodi a blaenoriaethu meysydd i'w gwella. 

    Mae hefyd yn bwysig i ysgolion adolygu gwaith gwella yn rheolaidd wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl hynny, er enghraifft drwy ddefnyddio'r amrywiaeth o ddulliau a nodir yn yr adnodd.

  • Nid yw bob amser yn bosibl nac yn ddoeth defnyddio data meintiol i gefnogi gwaith gwerthuso.  Fodd bynnag, gall data fod yn ddefnyddiol dros ben, er enghraifft er mwyn canfod tueddiadau o ran presenoldeb neu berfformiad academaidd. Mae'n bwysig cofio nad yw data'n rhoi'r darlun cyflawn ar eu pen eu hunain.

    Dylid eu defnyddio'n gymesur ochr yn ochr â gwybodaeth arall megis gwaith dysgwyr a gwersi dros amser, er mwyn nodi cryfderau a meysydd i'w datblygu.

  • Nid oes amserlen benodedig ar gyfer cylch gwerthuso a gwella ysgol.  Bydd gwahanol fathau o waith gwerthuso a gwella yn mynd rhagddo ar wahanol adegau ac ar wahanol gyflymderau yn dibynnu ar y math o waith sydd ei angen a chyd-destun penodol yr ysgol.

  • Mae gan yr Adnodd botensial aruthrol i gefnogi gweithgarwch dysgu proffesiynol ar lefel ymarferydd, ysgol gyfan a chlwstwr, ac ar lefel ranbarthol a chenedlaethol hefyd.

    Drwy helpu ysgolion i nodi'r hyn y maent yn ei wneud yn dda a'r hyn y mae angen iddynt ei wella, a thrwy ei bresenoldeb ar-lein, mae'r adnodd yn cynnig llwyfan ar gyfer cydweithredu, rhannu arferion gorau a manteisio ar brofiad ac arbenigedd ysgolion eraill er mwyn ehangu sgiliau proffesiynol neu fynd i'r afael â meysydd lle mae angen datblygiad proffesiynol.

  • Mae'r Adnodd Cenedlaethol yn rhan ganolog o Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl. Mae hefyd yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r canlynol:

    • y canllawiau anstatudol ar wella ysgolion
    • safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
    • cwricwlwm i Gymru
    • ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu
    • y Daith Dysgu Proffesiynol
    • y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol
  • Mae'r adnodd yn cynnwys canllawiau ymarferol er mwyn helpu ysgolion i werthuso effeithiolrwydd arlwy'r cwricwlwm presennol a hefyd yn rhoi cymorth ac arweiniad er mwyn helpu ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru sy'n seiliedig ar ddibenion, a'i roi ar waith.

    Mae amrywiaeth o restrau chwarae a grëwyd fel rhan o'r Daith Dysgu Proffesiynol yn dangos sut mae ysgolion o bob cwr o Gymru wedi mynd ati i gynllunio a pharatoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

  • Mae cydberthynas agos rhwng cynnwys a dyheadau diwylliannol yr adnodd a fframwaith arolygu Estyn. Mae Estyn wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu'r adnodd ac mae'n cefnogi ei uchelgais, ei egwyddorion a'i gynnwys yn llawn.

    Fodd bynnag, dylid cofio nad yw'r adnodd wedi'i fwriadu i helpu ysgolion i gynhyrchu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd allanol fel Estyn.

  • Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob ysgol fod â chynllun gwella ysgol wedi'i ddogfennu. Mater i ysgolion yw penderfynu pa ddogfennaeth werthuso y byddant yn ei llunio a'i defnyddio.

    Yr egwyddor allweddol yw y dylai unrhyw ddogfennaeth fod yn ddefnyddiol er mwyn helpu'r ysgol i nodi a diwallu ei hanghenion gwerthuso a gwella ei hun ac na ddylid ei llunio ar gyfer cynulleidfa allanol yn unig.

  • Bydd yr Adnodd yn datblygu dros amser er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol wrth gefnogi gweithgarwch dysgu proffesiynol.

    Caiff y dulliau a'r adnoddau eu hadolygu'n rheolaidd.  Caiff adnoddau newydd sy'n cefnogi gwaith gwerthuso a gwella eu hychwanegu pan fyddant ar gael.