Arweinyddiaeth
Yn cynnwys gweledigaeth strategol, addysgeg, dysgu proffesiynol, chydweithredu, staffio.
Pam mae arweinyddiaeth yn bwysig
Mae arweinyddiaeth lwyddiannus yn sefydlu diwylliant sy’n gosod cynnydd a lles dysgwyr wrth wraidd gwaith ysgol. Mae’n sicrhau bod ansawdd profiadau dysgu ac addysgu yn cynorthwyo pob dysgwr i ffynnu, gwneud cynnydd a gwireddu pedwar diben y cwricwlwm.
Mae arweinwyr effeithiol yn sicrhau bod yr holl staff yn rhoi polisïau a strategaethau cytunedig ar waith yn gyson, er lles pennaf pob dysgwr. Maent yn sefydlu cysylltiadau cadarn rhwng y cwricwlwm, addysgeg, dysgu ac addysgu i gynorthwyo’r ysgol i gyflawni ei gweledigaeth ar gyfer dysgwyr.
Mae arweinyddiaeth lwyddiannus yn meithrin diwylliant sy’n ysbrydoli staff i fod y gorau y gallant fod. Mae arweinwyr effeithiol yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth pobl eraill yn eu hysgol a thu hwnt.
Mae’r cwestiynau trafod ar gyfer myfyrio a thrafod yn y categori hwn yn cael eu trefnu yn ôl yr elfennau canlynol:
Gweledigaeth Strategol
-
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn gwneud y canlynol:
- Pennu gweledigaeth glir ar gyfer dysgu, addysgu a'r cwricwlwm sy'n sicrhau'r cynnydd a'r lles gorau posibl i bob dysgwr?
- Defnyddio safbwyntiau a gweithredoedd cymuned yr ysgol i lywio gweledigaeth yr ysgol, ei rhoi ar waith a'i hadolygu?
- Defnyddio gweledigaeth yr ysgol fel sail i ymdeimlad cyffredin o bwrpas, disgwyliadau uchel a diwylliannau cadarnhaol ym mhob agwedd ar ei gwaith?
Pecynnau cymorth ychwanegol:
Arolwg ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu (SLO) (angen mewngofnodi i Hwb)
Addysgeg (dysgu, addysgu a'r cwricwlwm)
-
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn gwneud y canlynol:
- Dylanwadu’n gadarnhaol ar ansawdd yr addysgu er mwyn galluogi'r dysgwyr i wneud cynnydd mewn perthynas â'r pedwar diben as'r egwyddorion cynnydd?
- Defnyddio gwybodaeth asesu er mwyn helpu pob dysgwr i wneud y cynnydd y gallant ei wneud mewn perthynas â'r egwyddorion cynnydd?
- Galluogi'r dysgwyr i ddylanwadu ar eu dysgu a'u profiadau dysgu a datblygu eu heffeithiolrwydd fel dysgwyr?
- Sefydlu a chynnal amgylchedd dysgu ac addysgu cadarnhaol a chynhwysol?
- Sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn ffordd gadarnhaol?
- Adolygu ansawdd yr addysgu'n rheolaidd er mwyn nodi cryfderau a chyfleoedd i wella (unigolion, adrannau, ysgol gyfan)?
Pecynnau cymorth ychwanegol:
Dysgu proffesiynol, arloesi a chydweithio
-
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn gwneud y canlynol:
- Meithrin diwylliant o ddysgu proffesiynol sy'n helpu'r ysgol i wireddu ei gweledigaeth ar gyfer dysgu, lles, addysgu a'r cwricwlwm?
- Defnyddio eu gwaith gwerthuso i lywio dysgu proffesiynol?
- Defnyddio dysgu proffesiynol i wella'r dysgu, lles, yr addysgu a'r cwricwlwm?
- Helpu'r staff i nodi beth yw eu hanghenion dysgu proffesiynol, a'u diwallu?
- Datblygu potensial pobl eraill i arwain?
- Annog pobl i ymgymryd â dysgu proffesiynol mewn perthynas ag addysgeg, yn yr ysgol a thu hwnt?
- Gwerthuso effaith eu trefniadau dysgu proffesiynol?
- Hybu a defnyddio arloesedd er mwyn gwella'r dysgu, lles, yr addysgu a'r cwricwlwm?
- Annog arloesedd, ei hwyluso, cymryd rhan ynddo a'i werthuso?
- Herio neu wrthod newidiadau a datblygiadau diangen?
- Cydweithio, ac annog eraill i gydweithio, er mwyn gwella'r dysgu, lles, yr addysgu a'r cwricwlwm?
- Meithrin diwylliant o ddysgu cydweithredol a chyd-barch yn yr ysgol a thu hwnt?
Staff ac adnoddau
-
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn gwneud y canlynol:
- Cefnogi lles pob aelod o'r staff?
- Sicrhau bod gan y staff yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith yn effeithiol?(ychwanegwch haen fanwl yma o amgylch effaith gwariant ar ganlyniadau, trafod gwahanol fathau o adnoddau - corfforol, dynol ac ati)
- Defnyddio adnoddau i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu, lles, addysgu a'r cwricwlwm?
Systemau, polisïau a gweithdrefnau
-
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn gwneud y canlynol:
- Sefydlu a defnyddio systemau, polisïau a gweithdrefnau i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu, lles, addysgu a'r cwricwlwm?
- Sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau statudol?
- Sefydlu a dilyn prosesau gwerthuso a gwella?
- Cynnwys rhanddeiliaid
- Adolygu eu heffeithiolrwydd eu hunain yn rheolaidd
- Defnyddio'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth er mwyn helpu'r gweithlu i berfformio'n effeithiol?