Beth yw'r adnodd cenedlaethol?
Trefniadaeth
Caiff yr Adnodd hwn ei gyflwyno mewn strwythur syml sydd wedi'i drefnu fel a ganlyn:
Sut y caiff y cwestiynau trafod eu trefnu
Caiff y cwestiynau trafod yn yr adnodd eu trefnu'n bedair haen a phedwar maes.
Y meysydd yw:
- arweinyddiaeth
- cwricwlwm
- dysgu ac addysgu
- lles, tegwch a chynhwysiant
Caiff pob un o'r meysydd hyn eu cyflwyno mewn pedair haen wahanol, gan alluogi ysgolion i weld cwestiynau ar bob haen:
- maes/thema: y pedwar maes a restrir uchod
- elfen: adrannau ychwanegol ym mhob maes
- cwestiwn trafod: cwestiynau manwl mewn perthynas â'r elfen
- ymchwilio: gwybodaeth ychwanegol, cwestiynau trafod, dolenni i adnoddau ategol ac adnoddau astudiaethau achos
Noder:
Nid oes disgwyl i ysgolion roi atebion i bob cwestiwn trafod na mabwysiadu'r strwythur hwn ar gyfer trefnu eu hunanwerthusiad. Diben y cwestiynau trafod yw cefnogi'r broses hunanwerthuso ac nid oes disgwyl i ysgolion ymateb yn ysgrifenedig i bob cwestiwn mewn adroddiad hunanwerthuso.
Sut y caiff y cwestiynau trafod eu trefnu?
Meysydd hunanwerthuso
- Arweinyddiaeth
Mae hyn yn cynnwys gweledigaeth strategol, addysgeg, dysgu proffesiynol, arloesi a chydweithredu, staffio ac adnoddau, systemau, polisïau a gweithdrefnau.
- Cwricwlwm
Mae hyn yn cynnwys sefydlu gweledigaeth (arweinyddiaeth ddysgu a rheoli newid), dylunio, cynllunio a threialu (dylunio a gweithredu profiadau dysgu).
- Dysgu ac addysgu
Mae hyn yn cynnwys addysgeg, dysgu proffesiynol, cydweithio ac arloesi.
- Lles, tegwch a chynhwysiant
Mae hyn yn cynnwys cwricwlwm, hyrwyddo iechyd, agweddau a pherthnasoedd da, diogelu, tegwch a chynhwysiant.
Dulliau amgen o gael gafael ar yr awgrymiadau
Isod ceir darlun manylach o’r cwestiynau trafod, a drefnir yn ôl maes a chydran.
Mae’r fersiwn PDF yn caniatáu i chi closio ac archwilio’r meysydd/themâu, y cydrannau a’r cwestiynau trafod yn fanylach.
- Trefnu cwestiynau trafod: diagram manwl pdf 154 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Sut y caiff y cwestiynau trafod eu trefnu: taenlen fanwl xlsx 33 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath