Ymchwil i anghenion y system ysgolion yng Nghymru o ran data a gwybodaeth a’u defnydd
Mae ymchwil ar y gweill ar hyn o bryd i gefnogi trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd i ategu’r broses o weithredu Cwricwlwm i Gymru.
Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Social Finance i gynnal ymchwil i’r anghenion o ran data a gwybodaeth a’r defnydd a wneir ohonynt ar draws y system ysgolion yng Nghymru. Roedd hwn yn ymrwymiad a wnaed yn y diweddariad Hydref 2020 ar gyfer ‘Cenhadaeth ein Cenedl’. Mae’n rhan o’r gwaith parhaus o ddatblygu trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd
Bydd yr ymchwil yn darparu sylfaen dystiolaeth i helpu i ddiffinio ecosystem data a gwybodaeth newydd ar gyfer y system ysgolion yng Nghymru i gefnogi uchelgeisiau Cwricwlwm i Gymru. Pan fyddwn yn cyfeirio at ddata, rydym yn meddwl yn nhermau’r ystyr ehangaf, gan gynnwys data ystadegol ac ansoddol, mawr a bach, o’r lefel genedlaethol i’r lefel fwyaf lleol. Bydd y prosiect yn ystyried yr ystod o dystiolaeth sydd ei hangen ar wahanol haenau’r system (gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol) i lywio 3 swyddogaeth:
- hunanwerthuso effeithiol er mwyn gwella
- atebolrwydd
- tryloywder ar gyfer dinasyddion ehangach
Bydd yn edrych ar ba ddata fyddai’r mwyaf defnyddiol i gyflawni’r dibenion hynny, gan gynnwys asesu defnyddioldeb y data hynny sydd eisoes ar gael o fewn y system ysgolion, a beth arall sydd ei angen neu a fyddai’n fuddiol. Bydd yr ymchwil hefyd yn canfod y dull gorau o gyrchu a darparu data, neu o’i wneud yn hygyrch.
Bydd dulliau ymgysylltu helaeth yn cael eu cynnal ag ystod eang a chynrychiadol o bartneriaid o bob rhan o’r system ysgolion ledled Cymru, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- ysgolion
- awdurdodau lleol
- consortia rhanbarthol
- awdurdodau esgobaethol
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
- Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC)
- Estyn
- Cymwysterau Cymru
- Gyrfa Cymru
- arweinwyr dadansoddol a pholisi Llywodraeth Cymru
Bydd meithrin cysylltiadau’n hanfodol i lwyddiant yr ymchwil, a bydd yn sicrhau bod yr argymhellion a gynhyrchir wedi’u seilio ar brofiadau defnyddwyr y data. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i feithrin cysylltiadau, gan gynnwys cyfweliadau, grwpiau ffocws, gweithdai, arolygon a gweminarau.
Bydd yr ymchwil yn ystyried sut y gallai’r ecosystem gyfrannu at gyflawni nodau ac amcanion polisi’r partneriaid niferus yn y system ysgolion. Bydd yr ymchwil hefyd yn archwilio unrhyw arferion effeithiol mewn cyd-destunau rhyngwladol cymharol.
Cefndir
Mae’r prosiect hwn yn rhan o raglen ehangach o dystiolaeth a gwaith ymchwil. Mae’n brosiect sydd ar wahân i’r ‘Gwerthusiad o Ddiwygio’r Cwricwlwm: Astudiaeth Gwmpasu’ a gynhelir gan Arad Research. Mae’r astudiaeth honno’n edrych ar baratoadau ysgolion a’r system ar gyfer Cwricwlwm i Gymru, a’r ffordd orau o fonitro a gwerthuso rhoi’r cwricwlwm ar waith ac effeithiau’r diwygiadau dros y 10 mlynedd nesaf. Mae’r 2 brosiect yn rhedeg ar yr un pryd a byddant yn ystyried y cysylltiadau mewn perthynas ag unrhyw elfennau cyffredin.
Mae ymchwil i anghenion y system ysgolion o ran data a gwybodaeth yn elfen allweddol o ddatblygu trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd. Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru canllawiau gwella ysgolion, sy’n nodi’r egwyddorion a’r dulliau gweithredu a fydd yn sail i’r trefniadau hynny.
Mae sicrhau bod y trefniadau newydd hyn yn cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru, ac yn ei gefnogi, yn hanfodol i’w lwyddiant. Yr hyn sy’n hanfodol i gyflawni hynny yw sylfaen dystiolaeth berthnasol ac amserol sydd o ansawdd uchel a defnydd deallus o ddata i adlewyrchu cyd-destun a pherfformiad ysgolion yn well, gan ehangu’r ffocws y tu hwnt i set gymharol gul o fesurau perfformiad ysgolion sy’n seiliedig ar ddeilliannau cyrhaeddiad.
Ein nod yw sicrhau bod y data mwyaf defnyddiol ar gael i ddarparwyr a fydd yn sail iddynt hunanwerthuso yn eu cyd-destun eu hunain, sicrhau mai dim ond y dystiolaeth fwyaf addas a ddefnyddir at ddibenion atebolrwydd, ac i wella’r ystod o ddata a gwybodaeth briodol sydd ar gael yn gyhoeddus. Bydd hyn yn caniatáu i waith gwerthuso ddod yn fwy cyd-destunol, codi safonau, a chynorthwyo darparwyr i werthuso eu dulliau o weithredu a gwireddu Cwricwlwm i Gymru.
Amserlen
Dechreuodd y prosiect ym mis Mai 2021 a bydd yn dod i ben yn hydref 2022. Bydd y dulliau ymgysylltu a chyd-awduro helaeth ar y cyd â phartneriaid o bob rhan o’r system ysgolion a ledled Cymru yn hanfodol i lwyddiant yr ymchwil. Bydd profiadau a mewnwelediad gwerthfawr a gwahanol ein rhanddeiliaid yn sail i’r gwaith.
Rhoddir syniad bras o’r amserlen ar gyfer y gweithgareddau ymgysylltu isod.
- Mehefin i Fedi 2021 – gwaith cwmpasu cychwynnol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddeall cyd-destun ac uchelgeisiau’r system
- Hydref 2021 i Fawrth 2022 – gwaith maes helaeth ar draws y system i feithrin dealltwriaeth o anghenion a phroblemau
- Ebrill i Orffennaf 2022 – adolygu arferion rhyngwladol, llenyddiaeth ehangach, datblygu a chreu prototeipiau o atebion posibl
- Awst i Fedi 2022 – arfarnu opsiynau a datblygu argymhellion
Yn dilyn canlyniad yr ymchwil bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar atebion arfaethedig.
Y camau nesaf
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio sicrhau lefel uchel o gyfranogiad fel bod cynifer o leisiau â phosibl yn gallu cyfrannu at yr ymchwil. Bydd Social Finance yn cysylltu â llawer o randdeiliaid dros y misoedd nesaf i wahodd pobl i gymryd rhan ar wahanol gamau o’r gwaith.
Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect yn cael ei rhannu. Bydd hefyd yn ymddangos yng nghylchlythyr Dysg, i dynnu sylw rhanddeiliaid at unrhyw gyfleoedd ehangach i gymryd rhan yn y gwaith.
Dolenni cyswllt
Ymgynghoriad ‘Canllawiau gwella ysgolion’
https://llyw.cymru/tanysgrifiwch-ar-gyfer-newyddion-ynghylch-addysg-hyfforddiant-dysg-cyn-11
Tanysgrifiwch ar gyfer newyddion ynghylch addysg a hyfforddiant (Dysg ôl-11)