English

Canllawiau gwella ysgolion

Mae'r canllawiau hyn, sydd wedi’u cyhoeddi o dan adran 10 o ‘Ddeddf Addysg 1996’, yn cynnig pwynt cyfeirio newydd i ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion, awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol, consortia rhanbarthol ac Estyn, sy'n amlinellu'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl ganddynt wrth gyfrannu at wella ysgolion, yng nghyd-destun eu dyletswyddau cyfreithiol ehangach.

Diben cyffredinol gwella ysgolion yw helpu ysgolion i roi'r profiadau a'r deilliannau dysgu gorau posibl i ddysgwyr, beth bynnag fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau, er mwyn sicrhau safonau ac uchelgeisiau uchel i bawb. O dan y Cwricwlwm i Gymru, rhan sylfaenol o hyn fydd sicrhau bod ysgolion yn cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd, gan gyfrannu at bedwar diben y cwricwlwm (y pedwar diben).

Mae'r canllawiau hyn yn cefnogi'r amcan hwnnw drwy nodi fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a fydd yn sicrhau gwelliant cynaliadwy mewn ysgolion ac yn ysgogi ymddygiad ac arferion sy'n ofynnol gan Gwricwlwm i Gymru a’r trefniadau asesu newydd, gan gefnogi ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, fel y’i nodwyd yn y datganiad llafar hwn. Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae'n hollbwysig bod pob agwedd ar y system ysgolion yn gyson â’r Cwricwlwm i Gymru a'r egwyddorion sy'n sail iddo, ac yn eu cefnogi.

O fewn y fframwaith hwn, ceir gwahaniaeth clir rhwng:

  • gweithgareddau gwerthuso a gwella
  • atebolrwydd
  • tryloywder

Dylai'r rhan fwyaf o'r egni a'r ffocws yn y system fod ar wella ysgolion, wedi'i arwain gan waith hunanwerthuso, cynllunio gwelliannau a chymorth effeithiol ym mhob ysgol. Mae'r canllawiau hyn yn defnyddio’r term ‘gwaith cynllunio gwelliannau’ ac mae iddo’r un ystyr â'r term ‘gwaith cynllunio datblygiadau’.

Fel rhan o'r gwaith o werthuso a gwella, dylai fod gan ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion gymorth a hyder i ddatblygu a gwella eu harferion yn barhaus. Bydd hyn yn eu galluogi i ffynnu mewn amgylchedd cefnogol a chydweithredol a fydd yn codi safonau ac yn sicrhau y gall pob person ifanc gyflawni ei botensial.

Mae’r canllawiau gwella ysgolion yn disodli ein canllawiau 2014 ‘Cynlluniau datblygu ysgolion’. Mae’n gosod gofynion ‘Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014’ (Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Ysgolion) yng nghyd-destun y fframwaith newydd ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd.

Mae’r canllawiau yn gosod yr hyn y maen ‘n ‘rhaid’ i ysgolion ac eraill yn y system addysg ei wneud a’r hyn y ‘dylai’ ysgolion ac eraill ei wneud o dan y fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd. Mae rhwymedigaeth statudol y tu ôl i’r cyfeiriadau at yr hyn y mae’n ‘rhaid’ i ysgolion ac eraill ei wneud. Arfer gorau, yn unol â’r canllawiau, yw’r gweithrediadau hynny a nodir fel yr hyn y ‘dylai’ ysgolion ac eraill ei wneud.

Drwy gyhoeddi canllawiau gwella ysgolion ar sail anstatudol nawr, rydym am i ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, Estyn ac awdurdodau esgobaethol weithredu a phrofi’r dulliau gwella ysgolion ac atebolrwydd sy’n cael eu nodi ynddynt. Byddwn wedyn yn gwerthuso eu heffaith. Ar ôl hynny byddwn yn diweddaru’r canllawiau, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgir yn 2022 i 2023 ac yn 2023 i 2024, a’u cyhoeddi ar ffurf canllawiau statudol i ddod i rym ym mis Medi 2024.

Gweithgarwch gwerthuso a gwella

Hunanwerthuso cadarn gan ysgolion sydd wrth wraidd y trefniadau newydd. Rydym wedi cyd-ddatblygu'r ‘adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella’ i gefnogi ysgolion i gynnal hunanwerthusiad cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Er mwyn cytuno ar flaenoriaethau gwella a chymorth i ysgolion, caiff gwaith hunanwerthuso effeithiol ei ategu gan ddeialog broffesiynol rhwng ysgolion, awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol lle y bônt yn berthnasol, a chonsortia rhanbarthol. Yn seiliedig ar hyn, bydd gan bob ysgol gynllun datblygu ysgol unigol y bydd yn gweithio tuag ato. Mae'r term hwn, ‘cynllun datblygu ysgol’ yn gyson â’ Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Ysgolion. Mae i'r term ‘cynllun datblygu ysgol’ yr un ystyr â'r term ‘cynllun gwella ysgol’.

Wrth wraidd y trefniadau uchod bydd amrywiaeth eang o wybodaeth o ansawdd da am ysgolion a'u hardaloedd lleol, a rhannau eraill o'r system, y bydd angen ei defnyddio mewn ffordd amserol, ddeallus a chefnogol.

Atebolrwydd

Y system atebolrwydd, i'r gwrthwyneb, yw'r prosesau sydd ar waith i gadarnhau bod gwaith gwerthuso a gwella yn mynd rhagddo'n effeithiol a dyna yw'r rhwyd ddiogelwch ar gyfer pan na fydd hynny'n digwydd. Ni ddylai lywio gweithgarwch gwella ysgolion, ond gall gyfrannu ato; a dylai sicrhau y caiff problemau eu nodi a'u datrys.

Llinyn cyntaf y system atebolrwydd a ddisgrifir yn y canllawiau hyn yw rôl trefniadau atebolrwydd a llywodraethu democrataidd effeithiol ar bob lefel o'r system ysgolion.

Yn achos ysgolion, eu cyrff llywodraethu sy'n atebol.

Yr ail linyn yw rôl Estyn wrth gynnal arolygiadau rheolaidd, cyson, cynhwysfawr a chywir o ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Bydd effeithiolrwydd y 2 linyn hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau atebolrwydd cadarn o fewn y system.

Un agwedd bwysig arall ar wella ac atebolrwydd yw eglurder a dealltwriaeth mewn perthynas â rolau a chyfrifoldebau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod pwysigrwydd seilwaith gwella ysgolion effeithiol, er mwyn gwella ansawdd a chysondeb dysgu ac addysgu, i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru a mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Caiff hyn ei gyflawni'n bennaf drwy gonsortia rhanbarthol, trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol, ac awdurdodau lleol unigol.

Bydd rolau hefyd i asiantaethau eraill i gefnogi ysgolion; er enghraifft, bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (yr Academi) yn gweithio mewn partneriaeth â’r consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i gefnogi datblygu arweinwyr ac arweinyddiaeth.

Mae'n hanfodol bod ysgolion, yn enwedig y rhai y mae angen mwy o gymorth arnynt, yn gallu cael cymorth effeithiol gan gymheiriaid, consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, er mwyn gwella mewn ffordd gynaliadwy.

Nod y canllawiau hyn

Yn gyffredinol, nod y canllawiau yw:

  • cefnogi egwyddorion ac arferion Cwricwlwm i Gymru, fel y nodir isod yn yr 8 ‘ffactor cyfrannu’ a helpu i greu'r newidiadau sylweddol sydd eu hangen i'r system a'r diwylliant er mwyn i'r Cwricwlwm i Gymru lwyddo, gan godi safonau ac uchelgeisiau i bawb
  • datblygu ac annog diwylliant gwella parhaus ym mhob ysgol, wedi'i lywio gan ddisgwyliadau cenedlaethol clir ynghylch beth sy'n dda
  • ategu'r broses barhaus o ddatblygu'r system hunanwella lle bydd ysgolion yn cydweithio ac yn agored, yn hytrach nag yn gystadleuol
  • annog ysgolion i lywio prosesau gwerthuso a gwella gan ddefnyddio amrywiaeth eang o dystiolaeth, sy'n rhoi darlun o'r profiad dysgu cyfan, gan sicrhau ffocws ar gynnydd a lles dysgwyr, yn ogystal â’u llais
  • egluro sut y dylai'r system atebolrwydd helpu i godi safonau, heb gael effaith negyddol ar werthuso a gwella
  • egluro rolau a chyfrifoldebau pawb sy'n rhan o'r gwaith o helpu i wella ysgolion
  • cefnogi ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad a'r dull gweithredu a ddatblygwyd i fynd i'r afael â hyn

Cwricwlwm i Gymru: y cyd-destun ar gyfer gwella

Ni all ysgolion gyflawni yr un o'r gweithgareddau na'r prosesau a ddisgrifir yn y canllawiau hyn heb ddealltwriaeth o'r cyd-destun cyfreithiol a pholisi y maent yn gweithredu ynddynt. Yn syml, er mwyn hunanwerthuso a gwella, mae angen i ysgolion ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt yn ehangach a deall sut beth fyddai llwyddiant ar draws eu holl waith.

Er nad yw'n bosibl crynhoi'r holl gyd-destun addysg yma, bydd ysgolion eisoes yn ymwybodol bod y Cwricwlwm i Gymru yn gyfle mawr, gydag effeithiau sy'n cyrraedd ymhell y tu hwnt i'w cwricwla.

Er enghraifft, bydd cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru yn cyfrannu at ein nodau fel cenedl fel y'u nodir yn ‘Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015’, ac yn cefnogi amcanion lles Llywodraeth Cymru. Mae pwysigrwydd sylfaenol hybu lles yn thema sydd i'w gweld ym mhob rhan o'r Cwricwlwm i Gymru ac nid yw byth yn ystyriaeth eilaidd. Caiff hyn ei atgyfnerthu gan fframwaith Cymru gyfan ‘Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol’.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru hefyd yn cefnogi un arall o nodau cyffredinol y Ddeddf, sef ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu’. ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg' yw ein strategaeth ar gyfer cyflawni'r uchelgais hwn.

Yn yr un modd, mae'r Cwricwlwm i Gymru wedi'i gynllunio i sicrhau bod cynnydd pob dysgwr, ac yn benodol ddysgwyr difreintiedig ac agored i niwed, yn cyd-fynd yn agos â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Mae ei ffocws canolog ar gynnydd dysgwyr unigol yn allweddol i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.

Pwysigrwydd cynnydd dysgwyr

Mae cynnydd dysgwyr yn ganolog i'r Cwricwlwm i Gymru, felly mae angen rhoi'r un pwysigrwydd i gynnydd mewn gweithgareddau gwerthuso a gwella, a phrosesau atebolrwydd. Mae'r canllawiau hyn yn awgrymu bod ysgolion yn defnyddio'r 2 gwestiwn canlynol fel man cychwyn ar gyfer eu gweithgareddau gwella:

  1. Pa mor dda y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifiwyd yn yr egwyddorion cynnydd, gan eu cefnogi i ddatblygu tuag at y pedwar diben?
  2. A yw cyflymder cynnydd dysgwyr yn unol â disgwyliadau athrawon a'r cwricwlwm?

Bydd angen i amrywiaeth eang o wybodaeth a thystiolaeth lywio atebion ysgolion i'r 2 gwestiwn hyn, ac, yn eu tro, byddant yn pennu ffocws gwaith hunanwerthuso a gwella dilynol.

O fis Medi 2022, caiff y ‘blaenoriaethau cenedlaethol’ a nodir yn y Rheoliadau Cynllunio Datblygu Ysgolion eu diweddaru i fod yn gyson â'r Cwricwlwm i Gymru, gan bwysleisio pwysigrwydd cynnydd yn yr un modd. Y ‘blaenoriaethau cenedlaethol’ newydd, y mae'n rhaid i ysgolion eu hystyried wrth bennu eu blaenoriaethau gwella, fydd:

  • gwella cynnydd disgyblion drwy sicrhau bod eu dysgu'n cael ei gefnogi gan amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad
  • lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr

Ein gweledigaeth ar gyfer ysgolion llwyddiannus o dan y Cwricwlwm i Gymru

Er mwyn cefnogi ysgolion i fynd i'r afael â'r cyd-destun newydd hwn, rydym wedi nodi 8 ffactor cyfrannu, gan ddisgrifio'r rhinweddau allweddol a fydd gan ysgolion sy'n llwyddo i gyflawni'r cwricwlwm. Mae'r rhain yn disgrifio'r ffactorau sy'n cefnogi prosesau diwygio ac sy'n debygol o weithredu fel rhwystrau i lwyddiant lle nad ydynt yn bodoli. Mae'r ffactorau yn cwmpasu cynnydd dysgwyr a'r cwricwlwm ei hun, yn ogystal â phrosesau a blaenoriaethau ehangach.

Caiff y gwaith o gyflawni'r cwricwlwm yn llwyddiannus ei gefnogi gan ysgolion:

  1. Galluogi pob dysgwr, ac yn benodol y rheini o gefndiroedd difreintiedig, i wneud cynnydd ar hyd eu llwybr dysgu eu hunain a chodi eu huchelgeisiau i gyflawni eu llawn botensial, gan ddilyn amrywiaeth o ddulliau asesu i ddeall a chefnogi'r cynnydd hwn.
  2. Datblygu cwricwlwm ar y cyd, yn unol â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, sy'n hyrwyddo amrywiaeth eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau (gan gynnwys profiadau cymdeithasol a rhyngweithiol) gyda dealltwriaeth glir o pam y mae'r rhain yn bwysig.
  3. Sicrhau bod amgylchedd yr ysgol yn cefnogi lles dysgwyr ac ymarferwyr.
  4. Cefnogi dealltwriaeth ymarferwyr o'r hyn sy'n gweithio wrth gynllunio cwricwlwm drwy fuddsoddi yn sgiliau ymholiad ac addysgeg pob aelod o staff.
  5. Galluogi dysgu proffesiynol uchelgeisiol i bob ymarferydd mewn ysgol sy'n ymroddedig i fod yn sefydliad sy’n dysgu.
  6. Ymgorffori prosesau myfyrio, hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion, gyda phrosesau arweinyddiaeth ysgolion da yn rhagamod i hynny.
  7. Bod wrth wraidd eu cymunedau – gan feithrin cydberthnasau gwell rhwng ysgolion a theuluoedd, cymunedau a chyflogwyr, i gefnogi a hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol a chyflogaeth ardderchog a'r camau nesaf mewn addysg a hyfforddiant.
  8. Gwrando ar blant a phobl ifanc wrth iddynt ymgysylltu â'u dysgu a'u cefnogi i gyflawni eu dyheadau

Fel ffactorau sy'n cyfrannu at gyflawni'r cwricwlwm, dylent lywio dealltwriaeth ysgolion ynghylch beth y mae cyflawni'r Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus yn debygol o'i olygu, yn ogystal â bod yn gyfeirnod pwysig i ysgolion wrth werthuso eu gwaith eu hunain o gyflawni'r cwricwlwm a phenderfynu ble a sut mae angen iddynt wella. Ni fwriedir iddynt fod yn rhestr wirio gynhwysfawr i ysgolion. Fodd bynnag, maent yn cynnig fframwaith cyson i'w ddefnyddio ledled Cymru.

Mae dull gweithredu newydd Estyn o arolygu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), a gaiff ei dreialu ag ysgolion ac UCDau o wanwyn 2022 ymlaen, yn adlewyrchu'r ffactorau cyfrannu hyn drwyddi draw. Bydd consortia rhanbarthol yn defnyddio'r 8 ffactor i'w helpu i werthuso ble y gallai ysgolion gael budd o gymorth ychwanegol ar gyfer cyflawni'r cwricwlwm mewn ffordd gyson ledled Cymru; a byddant yn defnyddio gwybodaeth o'u hymgysylltiad ag ysgolion i roi adborth i Lywodraeth Cymru ar gynnydd cenedlaethol tuag at gyflawni'r cwricwlwm ac i helpu i nodi ble y mae angen targedu cefnogaeth ac adnoddau ychwanegol yn genedlaethol. Gall ysgolion ddefnyddio'r fframwaith hwn i gytuno ar feysydd ar gyfer trafod a chydweithio sy'n berthnasol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Newidiadau i drefniadau gweithio rhanbarthol

Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at weithgareddau a gaiff eu cyflawni gan gonsortia rhanbarthol lle bydd hynny'n berthnasol yn y mwyafrif o ranbarthau. Nod y diffiniad yw cynnwys trefniadau partneriaeth gwella ysgolion rhwng awdurdodau lleol. Pan fydd awdurdodau lleol wedi dewis cynnal y gweithgareddau hyn eu hunain, dylid eu dehongli i'w cymhwyso iddynt yn gyfartal.

Ym mhob achos, mae'n bwysig bod ysgolion a phartneriaid eraill yn glir ynghylch pwy sy'n gwneud beth. Yn y bôn, drwy weithio mewn partneriaethau, yn seiliedig ar ymddiriedaeth, y bydd consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid yn cael yr effaith fwyaf o ran gwella ysgolion yn barhaus.

Mae 3 prif agwedd i’r fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd: gwybodaeth a thystiolaeth, gwerthuso a gwella, ac atebolrwydd. Mewn rhai achosion mae ein gweledigaeth ar gyfer yr agweddau hyn yn ymdrin ag sawl llinyn. Mae gwerthuso a gwella yn ymdrin ag hunanwerthuso; blaenoriaethau gwella a chynllun datblygu ysgol; yn ogystal â chymorth, cydweithio a gwella. Yn yr un modd mae atebolrwydd yn ymdrin ag atebolrwydd democrataidd ac arolygu. Caiff pob un o’r agweddau hyn, neu’u llinynnau cysylltiedig, eu trafod yn y canllawiau sy’n dilyn ein gweledigaeth ar eu cyfer.

Gwybodaeth a thystiolaeth

  • Amrywiaeth eang o wybodaeth berthnasol ac amserol o ansawdd uchel sy'n sail i bob agwedd ar y fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd.
  • Fe'i defnyddir yn briodol at 3 diben: gwella, atebolrwydd a thryloywder.
  • Er mwyn gwella, bydd ysgolion yn defnyddio'r amrywiaeth ehangaf a chyfoethocaf posibl o dystiolaeth sydd ar gael i lywio eu gwaith hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau yn eu cyd-destun eu hunain, gan gadw ffocws parhaus ar gynnydd dysgwyr.

Gwerthuso a gwella

Hunanwerthuso

  • Bydd pob ysgol wedi rhoi trefniadau hunanwerthuso gonest a chadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith, gan adeiladu ar yr amrywiaeth o wybodaeth a thystiolaeth sydd ar gael, fel rhan o'i phroses wella strategol.
  • Bydd hunanwerthuso hefyd yn nodi cryfderau ysgol, gan ei galluogi i gyfrannu at wella'r system gyfan.
  • Bydd y gymuned ysgol gyfan, hynny yw dysgwyr, ymarferwyr, staff cymorth, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr, yn cyfrannu at y broses.
  • Bydd pob rhan o'r system ysgolion yn gweld hunanwerthuso fel dull o wella ysgolion unigol a'r system ysgolion ehangach, a chefnogi cynnydd dysgwyr yn y pen draw, yn hytrach na fel ymarfer cydymffurfio o fewn y system atebolrwydd.

Blaenoriaethau gwella a chynllun datblygu ysgol

  • Caiff blaenoriaethau gwella ysgolion, a'u cynlluniau datblygu, eu cyhoeddi ar ffurf gryno er budd dysgwyr, rhieni a gofalwyr, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill. Bydd hyn yn cefnogi diwylliant lle y bydd ysgolion yn agored am y cymorth sydd ei angen arnynt a lle y bydd partneriaid yn yr haen ganol yn gweithio gydag ysgolion mewn ffordd gefnogol, anfeirniadol.

Cymorth, cydweithio a gwella

  • Gan ddechrau gyda hunanwerthusiadau a chynlluniau datblygu ysgolion, bydd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn cytuno gyda phob ysgol ar y cymorth ychwanegol sydd ei angen arni i wella a meithrin ei gallu ei hun.
  • Mae'r amrywiaeth eang o wybodaeth a ddefnyddir ar lefel ysgol i werthuso gwelliant a nodi blaenoriaethau, yn cefnogi consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i nodi anghenion cymorth ysgolion, yn ogystal â'u helpu i nodi eu blaenoriaethau gwella eu hunain er mwyn gwella'r gwasanaethau a ddarperir.
  • Bydd cymorth amserol o ansawdd da ar gael i ysgolion gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, a hefyd gan ysgolion eraill. Caiff hyn ei wella drwy fwy o gydweithio a chyfathrebu rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.
  • Bydd y cymorth y cytunwyd arno a roddir i ysgolion yn cael ei ymgorffori yn eu cynlluniau datblygu, gan gynnwys crynodebau a gyhoeddwyd, gan ysgogi ysgolion i ofyn am yr help sydd ei angen arnynt a gwella tryloywder.
  • Drwy ymgysylltu ag ysgolion, bydd consortia rhanbarthol hefyd yn nodi cryfderau ysgolion a'u gallu i gefnogi ysgolion eraill i wella.

Atebolrwydd

Atebolrwydd democrataidd

  • Cyrff llywodraethu yw cyrff atebol eu hysgolion. Yn y rôl hon, byddant yn cymryd cyfrifoldeb am arweinyddiaeth strategol eu hysgolion, am eu llywodraethu'n effeithiol ac, yn y pen draw, am lywio gwelliannau yn eu hysgolion er budd y dysgwyr.
  • I'r mwyafrif o ysgolion, dylai cyrff llywodraethu fod yn rhydd i oruchwylio'r broses gwerthuso a gwella, wedi'u cefnogi gan gyngor, adnoddau a gwasanaethau gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Fodd bynnag, pan fydd ysgolion yn achosi pryder, bydd awdurdodau lleol yn cymryd camau cyflym ac effeithiol, wedi'u cynghori a'u cefnogi gan gonsortia rhanbarthol.
  • Mae atebolrwydd democrataidd mewn awdurdodau lleol (cynghorau a phwyllgorau craffu) ac mewn consortia rhanbarthol (cyd-bwyllgorau a byrddau cwmni) yn hanfodol i atgyfnerthu rôl yr haen ganol o ran cefnogi ysgolion ac i fonitro, herio a gwella'r gwaith a wna fel rhan o'r rôl hon. (Bydd hyn yn flaenoriaeth i waith Llywodraeth Cymru gyda’i phartneriaid wrth fynd â’r gwaith hwn rhagddo.)
  • Yn ogystal ag eglurder ynglŷn â phwy sy'n atebol, ceir diwylliant o gyfrifoldeb cyfunol am ansawdd yr addysg a ddarperir i bob plentyn a pherson ifanc.

Arolygu

  • Caiff ysgolion eu harolygu'n fwy rheolaidd gan Estyn. Bydd arolygiadau'n rhoi gwerthusiadau teg a thrwyadl o gynnydd dysgwyr, ansawdd arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu mewn ysgolion, cyflawni'r Cwricwlwm i Gymru, mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a lles ymarferwyr a dysgwyr.
  • Bydd adroddiadau arolygu yn cynnwys digon o naratif esboniadol am effeithiolrwydd ysgolion, gan gefnogi prosesau ysgolion ar gyfer gwelliant mewn ymateb i arolygiadau a gan roi dealltwriaeth dda i rieni a gofalwyr o effeithiolrwydd ysgolion, heb gynnwys dyfarniadau crynodol.

Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r egwyddorion allweddol sy'n penderfynu sut y caiff gwybodaeth ei defnyddio at wahanol ddibenion ac ar wahanol haenau o'r system addysg. Yn aml, bydd gwahanol fathau a lefelau o wybodaeth yn berthnasol ac yn briodol i'r gwahanol ddibenion. Mae tri phrif ddiben ar gyfer defnyddio gwybodaeth yn y system newydd: gwella atebolrwydd a thryloywder. Mae rhagor o fanylion am bob diben ar gael isod.

Y 3 prif ddiben ar gyfer defnyddio gwybodaeth yn y system newydd

Gwella

Mae gwella er budd y dysgwr. Bydd amrywiaeth eang o wybodaeth yn cefnogi trefniadau hunanwerthuso a gwella effeithiol ar bob haen yn y system. Ar lefel ysgol, bydd yn helpu ysgolion i wella'n barhaus a rhoi'r addysg orau posibl i bob dysgwr er mwyn sicrhau cynnydd. Felly, bydd yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â'r ysgol gyfan, yn ogystal â gwybodaeth ar lefel gyfunol ac ar lefel disgyblion unigol. Ar haenau eraill y system, caiff amrywiaeth eang o wybodaeth ei defnyddio er mwyn helpu i hunanwerthuso'r ffyrdd y caiff gwasanaethau eu darparu, a'u gwella'n barhaus, i gefnogi'r system addysg.

Atebolrwydd

Mae atebolrwydd at ddibenion llywodraethu. Bydd yr wybodaeth sydd ar gael ac a gaiff ei defnyddio at y diben hwn yn helpu cyrff llywodraethu, awdurdodau lleol ac esgobaethol a chonsortia rhanbarthol i oruchwylio ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan eu sefydliadau eu hunain. Trwy wneud hynny, bydd y cyrff hyn yn cyflawni eu swyddogaethau atebolrwydd democrataidd. Er na fydd angen i'r holl wybodaeth a ddefnyddir i lywio prosesau atebolrwydd fod ar gael i'r cyhoedd, byddem yn disgwyl hynny yn achos y deilliannau. Er enghraifft, drwy adroddiadau blynyddol llywodraethwyr ysgolion neu gofnodion pwyllgorau craffu awdurdodau lleol.

Tryloywder

Mae tryloywder er budd y dinesydd cyffredin, drwy ddangos pa mor dda y mae ysgolion unigol, sefydliadau eraill yn y sector addysg, a'r system gyfan yn eu gwneud, yn ogystal â rhoi gwybodaeth gyd-destunol. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth ar lefel genedlaethol (er enghraifft data PISA; ystadegau swyddogol), yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth ar lefel is-genedlaethol ac ar lefel ysgol (er enghraifft adroddiadau arolygu Estyn, cynlluniau datblygu ysgolion), a bydd yr wybodaeth hon ar gael yn rhwydd. Dylai hyn feithrin a chynnal hyder y cyhoedd yn y system addysg yng Nghymru.

O dan bob un o'r prif ddibenion hyn ar gyfer gwybodaeth, ein nod yw:

  • cynyddu'r defnydd o'r amrywiaeth ehangaf a chyfoethocaf posibl o wybodaeth i lywio gwaith hunanwerthuso a gwella yng nghyd-destun ysgolion eu hunain
  • egluro'r ffordd y caiff gwybodaeth ei defnyddio at ddibenion atebolrwydd, fel na fydd hyn yn atal ysgolion rhag gwella nac yn arwain at ymddygiadau negyddol
  • ehangu'r amrywiaeth o wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd am ysgolion a'r system ehangach, a gwella ansawdd yr wybodaeth honno, er mwyn cynyddu tryloywder a hyder y cyhoedd

Er bod y nodau uniongyrchol yn amrywio o bosibl, ac mae'n bwysig bod atebolrwydd ar wahân i weithgareddau gwerthuso a gwella, dylai'r 3 diben gyfrannu at yr un canlyniad yn y pen draw: bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd i wireddu ei botensial llawn. Isod, byddwn yn edrych ar y modd y gall egwyddorion cynnydd ddarparu fframwaith y gall prosesau atebolrwydd, a gweithgareddau gwerthuso a gwella, gyfeirio ato a'i ddefnyddio er mwyn sicrhau'r cysondeb hwn.

Fel y trafodwyd yn y cyflwyniad (uchod), mae rhwymedigaeth statudol y tu ôl i’r cyfeiriadau isod at yr hyn y mae’n ‘rhaid’ i ysgolion ac eraill ei wneud. Arfer gorau yn unol â’r canllawiau yw’r gweithgareddau hynny y mae’r canllawiau yn nodi y ‘dylai’ ysgolion a eraill eu gwneud.

Wrth ddefnyddio gwybodaeth, dylai ysgolion, awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol a chonsortia rhanbarthol wneud y canlynol:

  • defnyddio dull cytbwys sy'n dibynnu ar set gydlynol a chynhwysfawr o wybodaeth ansoddol a meintiol i werthuso cynnydd dysgwyr mewn ysgolion mewn modd nad yw'n hierarchaidd. Dylai'r wybodaeth hon fod yn berthnasol i anghenion a chyd-destun ysgolion unigol, ond mae'n debygol y bydd elfennau cyffredin ar draws ysgolion i gefnogi dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ac i sicrhau bod ysgolion yn rhoi sylw i ddisgwyliadau cenedlaethol
  • peidio â dibynnu'n llwyr ar ffyrdd cyfyngedig o fesur cyrhaeddiad dysgwyr i ddod i gasgliadau ar berfformiad ysgolion
  • sicrhau na chaiff sylw arweinwyr ysgolion, ymarferwyr a staff cymorth ei dynnu oddi wrth eu gwaith gyda dysgwyr i gasglu a chadw tystiolaeth, sy'n aml yn helaeth ac yn fwy nag sydd ei angen, er mwyn bodloni gwahanol ofynion

Dylai ysgolion wneud y canlynol:

  • defnyddio amrywiaeth eang o wybodaeth i edrych ar gynnydd yr holl ddysgwyr a'r systemau sy'n eu cefnogi, gan ddilyn yr egwyddorion cynnydd, er mwyn llunio barn gyfannol ar gynnydd dysgwyr
  • datblygu llinellau ymholi ar gyfer gwaith hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau pellach, gan adeiladu ar dystiolaeth a gasglwyd am gynnydd dysgwyr, yn ogystal â gwybodaeth ehangach ar draws yr ystod o weithgareddau ysgolion (gweler ‘Hunanwerthuso’)
  • dewis yr wybodaeth a ddefnyddir i hunanwerthuso gan ddibynnu ar eu cyd-destun, eu hanghenion a'u blaenoriaethau eu hunain, ac anelu at gynnal gwerthusiad gwrthrychol o'u sefyllfa bresennol
  • ystyried yn ofalus, ac o fewn y cyd-destun, y defnydd o unrhyw wybodaeth gymharol: sut y gellir ei defnyddio i nodi meysydd posibl i'w harchwilio, ac i gefnogi mwy o gydweithio rhwng ysgolion a rhannu arferion effeithiol (er enghraifft, datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd)
  • defnyddio'r wybodaeth sydd ganddynt yn effeithiol at ddibenion hunanwerthuso, yn ogystal â defnyddio amrywiaeth eang o dystiolaeth sydd wedi cael ei darparu iddynt neu y maent wedi cael gafael arni

Dylai awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, ac awdurdodau esgobaethol (lle y bo'n briodol), weithio mewn partneriaeth i wneud y canlynol:

  • sicrhau bod unrhyw wybodaeth sydd ganddynt a fyddai'n helpu ysgolion i hunanwerthuso (er enghraifft dadansoddiadau presenoldeb gan yr awdurdod lleol) ar gael i ysgolion, fel rhan o ddiwylliant o weithio mewn partneriaeth
  • rhannu gwybodaeth berthnasol am ysgolion â'i gilydd, yn unol â deddfwriaeth GDPR, gan atgyfnerthu eu partneriaeth broffesiynol
  • ystyried tystiolaeth a gwybodaeth briodol ar lefel ysgol er mwyn:
    • helpu i benderfynu pa gymorth sydd ei angen ar ysgolion a'u gallu i helpu eraill
    • cyfrannu at eu gwaith eu hunain o hunanwerthuso eu gwasanaethau i gefnogi ysgolion (er enghraifft cymorth uniongyrchol; dysgu proffesiynol; defnyddio pwerau ymyrryd) a ddylai, yn ei dro, lywio adolygiadau cynghorau o'u perfformiad ar lefel gorfforaethol, strategol.

Dylai Estyn sicrhau bod ei fframwaith a'i threfniadau arolygu yn gyson â'r egwyddorion a'r disgwyliadau mewn perthynas â defnyddio gwybodaeth a nodir yn y canllawiau hyn.

Gyda lefelau wedi'u dileu yn y Cwricwlwm i Gymru, mae angen i ysgolion a phartneriaid feithrin dealltwriaeth fwy soffistigedig ac eang o gynnydd dysgwyr. Mae angen i ysgolion gasglu tystiolaeth i werthuso cynnydd dysgwyr ar lefel unigol, grŵp ac ysgol. Dylent ddefnyddio'r dystiolaeth hon i ateb y 2 gwestiwn canlynol:

  1. Pa mor dda y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifiwyd yn yr egwyddorion cynnydd, gan eu cefnogi i ddatblygu tuag at y pedwar diben?
  2. A yw cyflymder cynnydd dysgwyr yn unol â disgwyliadau athrawon a'r cwricwlwm?

Bydd atebion ysgolion i'r cwestiynau hyn yn helpu i bennu llinellau ymholi gwaith hunanwerthuso a gwella dilynol. Er enghraifft, gallai'r rhain gynnwys cynnydd gan grwpiau penodol o ddysgwyr a'r graddau y mae'r ysgol yn helpu i oresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad. (Bydd ysgolion hefyd yn defnyddio cwestiynau eraill i helpu i werthuso cynnydd dysgwyr, fel y nodir yn yr adnodd cenedlaethol.)

Er mwyn helpu ysgolion i gael atebion i'r cwestiynau hyn, mae'r egwyddorion cynnydd yn cynnwys egwyddorion cyffredinol ac egwyddorion sy'n benodol i bob maes dysgu a phrofiad. Felly, maent yn darparu fframwaith i arweinwyr ysgolion ei ddefnyddio i ddylunio eu prosesau ar gyfer casglu a dadansoddi tystiolaeth am gynnydd dysgwyr, dros amser ac ar lefel grŵp. Dylai hyn sicrhau bod ysgolion yn helpu dysgwyr i wneud cynnydd mewn ffordd a fydd yn eu cefnogi i ddatblygu tuag at y pedwar diben.

Ni fydd data ar gymwysterau ac asesiadau crynodol neu gyrhaeddiad yn unig yn ddigon i ysgolion nac eraill lunio barn ar gynnydd dysgwyr. Felly, bydd angen i ysgolion ddefnyddio ffynonellau ehangach o wybodaeth a thystiolaeth hefyd. Mae'n debygol y bydd y rhain yn cynnwys: gwybodaeth gan athrawon a fydd yn asesu cynnydd dysgwyr; gwybodaeth a chynnydd dysgwyr mewn perthynas â'r egwyddorion cynnydd; data ar gyrhaeddiad, ymddygiad a lles; arsylwadau ar ddysgu ac addysgu; trafodaethau â dysgwyr ac athrawon.

Mae'r adrannau canlynol yn trafod y rolau penodol y gall data ar asesiadau a chymwysterau eu chwarae mewn prosesau gwerthuso a gwella, ac atebolrwydd.

Defnyddio gwybodaeth asesu dysgwyr

Diben asesiadau yn y Cwricwlwm i Gymru yw cefnogi cynnydd dysgwyr unigol, fel rhan hanfodol o ddysgu ac addysgu. Fodd bynnag, mae asesiadau at ddiben dyfarnu cymwysterau allanol yn wahanol eu natur, gan fod lefel uwch o reolaeth ac elfennau gorfodol allanol.

Mae ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu yn amlinellu 3 prif rôl ar gyfer asesu cynnydd:

  1. cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd
  2. pennu cynnydd dysgwr unigol dros amser, llunio darlun ohono, a myfyrio arno
  3. deall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar arferion

Dylai asesiadau gefnogi cynnydd drwy gyfrannu at y broses o ddatblygu darlun cyfannol o'r dysgwr – ei gryfderau, y ffyrdd y mae'n dysgu, a'i feysydd i’w datblygu. Bydd hyn yn llywio'r camau nesaf o ran dysgu ac addysgu. Dylid defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu yn barhaus i greu'r darlun hwn o'r dysgwr.

Mae ystyried gwybodaeth asesu a gasglwyd er mwyn helpu i ddeall cynnydd grŵp yn rhan bwysig o brosesau hunanwerthuso a gwella parhaus ysgol. Dylai arweinwyr ac ymarferwyr ddefnyddio'r wybodaeth hon i nodi a yw grwpiau gwahanol o ddysgwyr yn gwneud y cynnydd a ddisgwylir mewn perthynas â chwricwlwm ysgol. Drwy wneud hynny, dylai ysgolion nodi cryfderau a meysydd i'w gwella yng nghwricwlwm a threfniadau asesu ysgol ac mewn arferion pob dydd. Dylai hyn sicrhau bod cwricwlwm a threfniadau asesu ysgol, ynghyd â'r dysgu ac addysgu, yn gwella cyflawniad pawb ac, yn benodol, gyflawniad a chyrhaeddiad dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, gan helpu i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad a chynnydd.

Mae defnyddio gwybodaeth asesu er mwyn helpu dysgwyr i wneud cynnydd a helpu i wella arferion addysgu yn un o gyfrifoldebau proffesiynol craidd staff addysgu ysgol. Felly, dylai penaethiaid ddefnyddio ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu fel sail ar gyfer trafodaethau proffesiynol a dysgu yn eu hysgolion.

O ystyried rôl ganolog cynnydd i lwyddiant a nodau'r Cwricwlwm i Gymru, mae gan gyrff llywodraethu ac Estyn, sy’n chwarae rôl allweddol mewn system atebolrwydd ysgolion, ddiddordeb dilys yn y dystiolaeth sydd gan ysgolion am y cynnydd a wneir gan eu dysgwyr. Ni ddylid defnyddio data ar gymwysterau ac asesiadau crynodol at ddibenion atebolrwydd yn unig, fodd bynnag, gan nad yw'r math hwn o ddata ynddo'i hun yn dystiolaeth o ‘gynnydd’ dysgwyr nac o welliant dros amser. Yn hytrach, mae'n rhoi cipolwg ar berfformiad grŵp o ddysgwyr unigol ar adeg benodol mewn amser. Felly, dylid ystyried yr wybodaeth hon ynghyd ag amrywiaeth ehangach o dystiolaeth.

Ni ddylid cynnal asesiadau at ddiben atebolrwydd chwaith (er enghraifft i ddiwallu anghenion canfyddedig cyrff llywodraethu nac Estyn). Yn yr un modd, ni chaiff awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol greu trefniadau lleol penodol ar gyfer casglu gwybodaeth ar lefel disgyblion unigol; a, lle maent yn casglu data ar lefel ysgol, ni ddylid creu data cyfanredol.

Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd gwybodaeth ysgolion eu hunain am gynnydd dysgwyr, a'r defnydd a wneir ohoni wrth hunanwerthuso, yn ffurfio rhan o'r sgyrsiau proffesiynol a gynhelir ganddynt â chynghorwyr gwella. Yn yr un modd, bydd yn ffurfio ffynhonnell bwysig o dystiolaeth i Estyn ei hystyried wrth arolygu ysgolion, ac i gyrff llywodraethu. Er na ddylai prosesau atebolrwydd ysgogi gweithgareddau asesu na gwella, mae'r un mor bwysig bod prosesau atebolrwydd a gwella yn ymwneud â'r un blaenoriaethau.

Datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd

O ystyried bod helpu dysgwyr i wneud cynnydd yn ffactor ysgogi sylfaenol i'r Cwricwlwm i Gymru, bydd datblygu, ymgorffori a chynnal cyd-ddealltwriaeth o gynnydd hefyd yn ffurfio rhan allweddol o daith gwella ysgolion. Bydd yn ofynnol i ysgolion roi trefniadau ar waith i alluogi ymarferwyr i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol yn eu hysgol, ar draws eu clwstwr a chydag ysgolion a lleoliadau eraill i archwilio, trafod a deall:

  • eu disgwyliadau ar y cyd ar gyfer y modd y dylai dysgwyr wneud cynnydd a sut y dylai gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau gyfrannu at hyn yng nghwricwlwm eu hysgol
  • sut i sicrhau cynnydd cydlynol i ddysgwyr gydol eu taith dysgu ac yn benodol ar gyfnodau pontio, gan gynnwys rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd
  • sut mae eu disgwyliadau ar gyfer gwneud cynnydd yn cymharu â disgwyliadau ysgolion a lleoliadau eraill, er mwyn sicrhau cydlyniad a thegwch ym mhob rhan o'r system addysg a chyflymder a her ddigonol yn eu dull o sicrhau cynnydd yn eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu

Dylai cydweithio i ddatblygu a chynnal cyd-ddealltwriaeth o gynnydd fod yn rhan barhaus o brosesau hunanwerthuso a gwella ysgol. Dylai'r ddeialog broffesiynol hon greu cyfoeth o wybodaeth yn cefnogi ystyriaeth ysgol o'r hyn sy'n gweithio'n dda wrth gefnogi cynnydd dysgwyr, a pha feysydd y gellid eu hatgyfnerthu ymhellach. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosesau hyn yn ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu.

Data cymwysterau allanol

Er mwyn adlewyrchu uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru a diwallu anghenion dysgwyr yn y dyfodol, mae cymwysterau i ddysgwyr 14 i 16 oed yn cael eu hadolygu a'u diwygio. Mae Cymwysterau Cymru yn gweithio i ddatblygu dewis cydlynol a chynhwysol o gymwysterau dwyieithog i ysgolion sy'n cefnogi eu cwricwlwm ac yn diwallu anghenion pob dysgwr. Bydd y cyntaf o'r cymwysterau newydd hyn yn dechrau cael eu cyflwyno i'w haddysgu gyntaf o 2025 ymlaen, gyda'r dyfarniadau cyntaf yn 2027. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ehangu'r ystod o gymwysterau galwedigaethol ‘gwnaed yng Nghymru’ yn sylweddol er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr a'n heconomi.

I ddysgwyr unigol y mae cymwysterau yn bwysig yn bennaf. Maent yn gofnod o'r wybodaeth a'r sgiliau y maent wedi'u meithrin, yn basbort i addysg bellach neu uwch a chyflogaeth ac yn rhan allweddol o broses dysgwyr o bontio'n llwyddiannus i gam nesaf eu datblygiad. I lawer o ddysgwyr, bydd eu cyflawniadau mewn cymwysterau yn chwarae rôl bwysig o ran eu helpu i gyflawni eu huchelgeisiau. Dyma'r prif reswm pam y dylai deilliannau cymwysterau allanol fod yn bwysig i ysgolion, gan gynnwys at ddibenion hunanwerthuso a gwella, gan wasanaethu buddiannau gorau dysgwyr unigol.

Mae canlyniadau cymwysterau allanol annibynnol, yn academaidd ac yn alwedigaethol, hefyd o ddiddordeb dilys i'r cyhoedd. Felly, maent wedi cael eu cynnwys yn rheolaidd yn yr amrywiaeth o wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd am ysgolion, a bydd hynny'n parhau. Mae'r arfer hwn o gyhoeddi data cyrhaeddiad cymwysterau allanol ar gyfer tryloywder, nid ar gyfer atebolrwydd (fel yr amlinellir yn y canllawiau hyn).

Mae'r data hyn wedi cael eu disgrifio'n flaenorol fel mesurau perfformiad ysgolion. Mewn gwirionedd, data am un agwedd ar gyrhaeddiad dysgwyr yw'r rhain, perfformiad carfanau penodol o ddysgwyr ysgol mewn cymwysterau allanol, ac ni ellir eu deall na'u dadansoddi ar eu pen eu hunain. Felly, at ddibenion y canllawiau hyn, rydym yn eu disgrifio fel ‘data cymwysterau allanol’.

Mae'r data cymwysterau allanol a gyhoeddwyd yn gyfyngedig o fwriad o ran yr hyn y gall ei gyfleu. Mae'r wybodaeth yn ddefnyddiol fel man cychwyn ar gyfer hunanwerthuso meysydd perthnasol, gan gynnwys y cynnydd a wnaed gan rai dysgwyr, ond ni ddylid ei defnyddio ar ei phen ei hun ar gyfer atebolrwydd na gwella ysgol.

Os bydd ysgolion yn methu â defnyddio data cymwysterau allanol, wedi'u triongli a'u rhoi mewn cyd-destun yn briodol, i hunanwerthuso a gwella, gall fod angen cymorth arnynt i wneud hynny yn y lle cyntaf. Yn y pen draw, bydd ysgolion yn cael eu dwyn i gyfrif gan eu corff llywodraethu a/neu Estyn os na fyddan nhw’n mynd i’r afael â hyn.

Mae'n bwysig i ysgolion, cyrff llywodraethu, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ystyried y polisi ehangach a bwriadau'r Cwricwlwm i Gymru sy'n sail i ddata a gyhoeddwyd, ac ymwneud â nhw. Yn benodol, dylai ysgolion ystyried yr angen i gynnig cwricwlwm eang a chytbwys, sy’n cynnig amrywiaeth a dewis digonol i ddysgwyr mewn perthynas â chymwysterau a rhaglenni dysgu 14 i 16 oed fel rhan o hyn. Dylent hefyd sicrhau bod y cynnydd a wneir gan bob dysgwr yn flaenoriaeth iddynt, gan sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi a'i herio'n briodol.

Mae gwybodaeth am ysgolion o gryn ddiddordeb i'r cyhoedd. Er tryloywder nid er atebolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhoi i'r cyhoedd, er bod y sector ysgolion wedi meddwl fel arall yn aml, ac wedi'i gyflwyno yn y ffordd hon mewn adroddiadau cyhoeddus am y system addysg yng Nghymru. Fel y nodir yn y canllawiau hyn, proses sy'n seiliedig ar lywodraethu effeithiol o fewn ysgolion, craffu democrataidd ac arolygu yw atebolrwydd, ac nid rhyddhau gwybodaeth yn gyhoeddus yn unig. Nid yw'r ffaith bod yr wybodaeth sy’n cael ei defnyddio at sawl diben yn gorgyffwrdd yn ormodol wedi helpu i osgoi'r dryswch rhwng tryloywder ac atebolrwydd. Er y gellir defnyddio gwybodaeth mewn modd dilys at sawl diben, mae'n bwysig y caiff ei defnyddio'n briodol.

Ysgolion

Dylai gwybodaeth am ysgolion gael ei darparu i'r cyhoedd gan:

  • yr ysgolion eu hunain (er enghraifft ar eu gwefannau ac mewn prosbectysau, adroddiadau blynyddol llywodraethwyr a chynlluniau datblygu ysgolion)
  • awdurdodau lleol (er enghraifft mewn prosbectysau ysgolion cyfansawdd)
  • lle bo’n berthnasol, awdurdodau esgobaethol (er enghraifft adroddiadau arolygu adran 50)
  • Llywodraeth Cymru (er enghraifft mewn ystadegau swyddogol ac ar wefan Fy Ysgol Leo)
  • Estyn (er enghraifft mewn adroddiadau arolygu)

Dylai'r wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd alluogi pobl i ddeall a gwerthfawrogi cyd-destun ysgol. Drwy Fy Ysgol Leol, mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod set gyson o wybodaeth gyd-destunol ar gael am ysgolion a'u dysgwyr a'u gweithrediadau.

Yn achos pob ysgol, mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi'r wybodaeth ganlynol am ei dysgwyr:

  • nifer y disgyblion yn ôl blwyddyn a rhywedd
  • canran y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (cyfartaledd 3 blynedd)
  • canran y disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • canran y disgyblion sy'n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol
  • canran y disgyblion a gofnododd bod eu cefndir ethnig yn unrhyw beth gwahanol i ‘Gwyn-Prydeinig’

Mewn perthynas ag adnoddau a gweithrediadau ysgol, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi:

Dylai'r wybodaeth hon helpu i ystyried gwybodaeth gyd-destunol ochr yn ochr â gwybodaeth am ddeilliannau dysgwyr.

Mae canlyniad proses hunanwerthuso ysgol yn cynnig tryloywder mwy ystyrlon ynglŷn â chryfderau a blaenoriaethau gwella, a gaiff hyn eu hadlewyrchu yng nghynllun datblygu'r ysgol, na data cyrhaeddiad allan o gyd-destun. Er mwyn helpu i gynyddu hyder yn yr ysgol a'i chynllun datblygu ac ymroddiad iddynt, dylai'r ysgol gyhoeddi'r copi cryno ar ei gwefan. Dylai'r crynodeb hwn gynnwys crynodeb lefel uchel o hunanwerthusiad yr ysgol, blaenoriaethau lefel uchel ar gyfer y flwyddyn bresennol a chynnydd yn erbyn y rheini ar gyfer y flwyddyn flaenorol (gweler ‘Blaenoriaethau gwella a chynllun datblygu ysgol’).

Fel hyn, bydd rhieni, gofalwyr a dysgwyr yn gallu gweld gwybodaeth safonedig sydd ar gael ar gyfer pob ysgol (a fydd yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth gyd-destunol a data cymwysterau allanol lle maent yn berthnasol i'r ysgol), ynghyd â gwybodaeth sy'n benodol i'w hysgol (er enghraifft adroddiadau Estyn a chynlluniau datblygu cryno).

Awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd sy'n berthnasol i'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt i gefnogi ysgolion a dysgwyr. Ni ddylai hyn fod yn seiliedig ar gydgrynoadau o wybodaeth ar lefel ysgol y byddant yn ei defnyddio at ddibenion eraill (fel: dyrannu adnoddau, nodi anghenion cymorth a sicrhau bod cynlluniau strategol yn diwallu anghenion ysgolion).

Yn yr un modd â chynlluniau datblygu ysgolion, dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol gyhoeddi eu cynlluniau darparu gwasanaethau, gan y bydd y rhain yn rhoi gwybodaeth fwy ystyrlon i'r cyhoedd am eu cryfderau a'u blaenoriaethau gwella, mewn perthynas â'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Dylai'r rhain fod ar ffurf gryno, yn gymesur i'r angen am lefel ystyrlon o dryloywder, ac nid mor fanwl fel bod y broses o lunio dogfen yn tynnu oddi ar y diben craidd o sicrhau gwelliannau.

Dylent hefyd gyhoeddi cofnodion cyfarfodydd eu prif gynghorau a'u pwyllgorau craffu (yn achos awdurdodau lleol) a chyfarfodydd eu cyd-bwyllgora /byrddau gweithredol (yn achos consortia rhanbarthol), fel cofnod cyhoeddus o'u trefniadau atebolrwydd sy'n ymwneud ag ysgolion a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu iddynt. Yn yr un modd, rhaid i benderfyniadau byrddau gweithredol awdurdodau lleol, eu pwyllgorau ac aelodau unigol o'r bwrdd gweithredol gael eu cyhoeddi.

Hefyd, cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Deddf Llywodraeth Cymru ac Etholiadau (Cymru)) drefn perfformio a llywodraethu newydd ar gyfer awdurdodau lleol. Mae'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar brif gyngor i adolygu ei berfformiad yn rheolaidd, yn benodol drwy adolygu'r graddau y mae'n bodloni'r ‘gofynion perfformiad’. Sef, y graddau y mae cyngor yn:

  • arfer ei swyddogaethau'n effeithiol
  • defnyddio ei adnoddau'n economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol
  • rhoi trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith ar gyfer sicrhau'r uchod

Bydd awdurdodau lleol yn adolygu'r modd y maent yn bodloni'r gofynion perfformiad drwy gynnal hunanasesiadau blynyddol, wedi'u hategu gan asesiadau perfformiad panel a arweinir gan gymheiriaid unwaith bob 5 mlynedd. Caiff adroddiadau sy'n crynhoi canlyniad y 2 broses hyn eu cyhoeddi. Er mai asesiad corfforaethol, yn hytrach nag asesiad o wasanaethau unigol yw'r broses o ystyried y graddau y mae'r cyngor yn bodloni'r gofynion perfformiad, mae'n dal yn debygol o arwain at ganfyddiadau a blaenoriaethau gwella sy'n berthnasol i wasanaethau addysg.

Llywodraeth Cymru

Cyhoeddir gwybodaeth hefyd ar lefel genedlaethol sy'n berthnasol i effeithiolrwydd y system addysg yng Nghymru a pholisïau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys:

Adroddiad blynyddol Estyn: Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb a dadansoddiad Estyn o dystiolaeth a gasglwyd yn ei arolygiadau, yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, ynghylch perfformiad a safonau mewn sectorau addysg ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion. Mae hefyd yn nodi tueddiadau a chynnydd o flwyddyn i flwyddyn, gan helpu i fonitro perfformiad yn y sector addysg ar lefel genedlaethol, a gan lywio gwaith datblygu polisi cenedlaethol a gwneud penderfyniadau.

Adolygiadau thematig Estyn: Bob blwyddyn, mae Gweinidogion Cymru hefyd yn comisiynu Estyn i gynnal adolygiadau thematig a/neu arolygiadau ar bynciau penodol. Mae adroddiadau dilynol Estyn yn helpu i lywio gwaith datblygu polisi ac i fonitro cynnydd, drwy nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda, yn ogystal â nodi polisïau neu arferion nad ydynt o fudd i ddysgwyr nac yn cefnogi ansawdd darpariaeth addysgol.

PISA: Fe'i cynhelir ar gylch o 3 blynedd ar y funud, a PISA yw Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr OECD. Ond dylech nodi bod bwlch o 4 blynedd rhwng asesiadau 2018 a 2022 o ganlyniad i'r pandemig.

Mae PISA yn mesur sampl o allu pobl ifanc 15 oed i ddefnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau maent wedi'u meithrin yn ystod eu haddysg i gyflawni heriau go iawn. Fe'i cynhaliwyd yn 2000 yn gyntaf, ac mae'r prif faes astudio yn cylchdroi rhwng darllen, mathemateg a gwyddoniaeth ym mhob cylch, er bod y 3 yn cael eu hasesu bob tro. O fwriad, mae PISA yn pwysleisio sgiliau swyddogaethol y mae myfyrwyr wedi'u caffael wrth iddynt nesáu at ddiwedd addysg orfodol. Mae'r dystiolaeth y mae'n ei darparu yn ein helpu i ddeall pobl ifanc, mesur eu lles a'u sgiliau, a dysgu o'u profiadau yn dilyn y pandemig. Bydd yn chwarae rhan bwysig yn ein dull o adfer a gwella.

Datganiadau ystadegau: Mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn cyhoeddi amrywiaeth o ddata ar ffurf pennawd , datganiad neu fwletin ystadegol, ynghyd â thablau cysylltiedig gan StatsCymru, i gyfrif am amrywiaeth o anghenion defnyddwyr. Ymysg y datganiadau ystadegol swyddogol mae:

  • Cyfrifiad ysgolion
  • Cyfrifiad Addysg Heblaw yn yr Ysgol
  • Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion
  • presenoldeb
  • gwaharddiadau
  • canlyniadau TGAU a Safon Uwch

Rhaglen fonitro genedlaethol: Er mwyn deall cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr yn genedlaethol, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu rhaglen fonitro genedlaethol. Bydd monitro cenedlaethol yn ein galluogi i ddeall cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr dros amser mewn meysydd gwahanol, ac i lunio themâu cyffredin a heriau yn genedlaethol i fwydo i brosesau llunio polisïau. Yn hanfodol, bydd yn darparu'r wybodaeth ar draws grwpiau gwahanol o ddysgwyr, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd difreintiedig a grwpiau eraill. Bydd hyn yn ein galluogi i olrhain llwyddiant y camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar ddeilliannau addysgol, ac i lywio gwaith pellach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil i gefnogi'r broses o greu ecosystem data a gwybodaeth newydd ar gyfer y system ysgolion yng Nghymru i gefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru, a chyhoeddir adroddiad ar hyn yn ystod hydref 2022. Caiff y rhaglen fonitro genedlaethol ei datblygu yng nghyd-destun yr ecosystem wybodaeth, gyda dealltwriaeth glir o'r posibilrwydd o ryngweithio â'r system ehangach, ac effeithio arni. Mae dull samplu rheolaidd sy'n cynnwys nifer cyfyngedig o ysgolion, yn hytrach na phrofion cyffredinol, yn cael ei werthuso fel rhan o'r ymchwil hon.

Ni fydd y rhaglen fonitro'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag atebolrwydd allanol ar gyfer ysgolion unigol. Bydd hefyd yn amlwg ar wahân i drefniadau cwricwlwm ac asesu ar lefel ysgol er mwyn osgoi dylanwadu'n negyddol ar waith dylunio'r cwricwlwm ac asesiadau. Yn hytrach, bydd yn creu darlun cyson ledled Cymru o'r modd y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd tuag at y pedwar diben ac yn cyflawni'r disgwyliadau a nodir yn fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.

Ynghyd â data cymwysterau allanol, adroddiadau cenedlaethol Estyn, a data o ffynonellau eraill, bydd gwybodaeth o waith monitro cenedlaethol yn rhoi barn gyflawn ar safonau addysgol a chynnydd dysgwyr ledled Cymru.

Diben trefniadau hunanwerthuso i ysgolion

Dylai ysgolion ddefnyddio trefniadau hunanwerthuso i wneud y canlynol:

  • gwerthuso eu perfformiad, gan ystyried pob agwedd ar weithrediadau ysgolion dros amser, gyda ffocws parhaus ar gynnydd dysgwyr
  • llywio prosesau ysgolion ar gyfer gwella – gan gynnwys blaenoriaethau a chamau gweithredu
  • cefnogi gwelliannau parhaus o ran dysgu ac addysgu, yn ogystal ag arweinyddiaeth, yn hytrach nag atebion sydyn byrdymor
  • nodi cryfderau i'w rhannu ag eraill
  • hyrwyddo gweithgarwch myfyrio a thrafodaethau proffesiynol
  • llywio dysgu proffesiynol i bob aelod o'r staff
  • gwella'r broses o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg

Meysydd y dylai ysgolion eu gwerthuso

Dylai ysgolion benderfynu pa agweddau ar eu gweithrediadau y byddant yn eu gwerthuso'n fanwl. Dylai safbwyntiau arweinwyr ynghylch cynnydd dysgwyr lywio hyn, ynghyd â'r egwyddorion cynnydd.

Mae 3 maes cyffredinol ar gyfer hunanwerthuso wedi'u cynnwys yn y canllawiau hyn i helpu ysgolion i grwpio neu gategoreiddio'r prif feysydd lle mae problemau ac atebion yn debygol o gael eu canfod a'u cyflawni:

  1. vision and leadership
  2. curriculum, learning and teaching
  3. well-being, equity and inclusion

Mae'r ‘adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella’ (‘yr adnodd cenedlaethol’) wedi'i strwythuro yn unol â'r 3maes hyn. (Mae'n rhannu ‘cwricwlwm, dysgu ac addysgu’ yn ‘Cwricwlwm’ a ‘Dysgu ac addysgu’.) Mae'r adnodd cenedlaethol yn darparu rhagor o ganllawiau ymarferol, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer trafodaethau, i gefnogi ysgolion i hunanwerthuso mewn modd cadarn, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac i nodi a monitro eu blaenoriaethau ar gyfer gwella.

Dylai cylch hunanwerthuso safonol ysgol gwmpasu'r meysydd canlynol:

  • Gweledigaeth ac arweinyddiaeth:
    • gweledigaeth strategol
    • y gallu i arwain ar draws yr ysgol gyfan (gan gynnwys y corff llywodraethu)
    • effeithiolrwydd prosesau hunanwerthuso a gwella, gan gynnwys effaith strategaethau gwella presennol ac unrhyw gymorth a gafwyd
    • mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad
    • bod yn sefydliad sy’n dysgu ymroddedig, gan gynnig dysgu proffesiynol uchelgeisiol i bawb
    • rheolaeth ariannol a'r defnydd o adnoddau
  • Cwricwlwm, dysgu ac addysgu:
    • sicrhau cynnydd i bob dysgwr, ac yn benodol y rheini o gefndiroedd difreintiedig er mwyn mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad
    • cynnydd dysgwyr ar hyd continwwm iaith Gymraeg (a diwylliannol), gan gynnwys mewn lleoliadau ysgol nad ydynt yn rhai cyfrwng Cymraeg
    • systemau asesu sy'n cefnogi cynnydd
    • datblygu cwricwlwm ar y cyd, yn unol â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, sy'n hyrwyddo amrywiaeth eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau
    • bod yn ysgol sydd wrth wraidd eu cymuned
    • gwrando ar blant a phobl ifanc
    • capasiti a gallu'r gweithlu, wedi'i ategu gan fuddsoddiad yn sgiliau ymholiad ac addysgeg pob aelod o staff
  • Lles, tegwch a chynhwysiant:
    • Cynnydd o ran sefydlu dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles meddyliol
    • sicrhau bod amgylchedd yr ysgol yn cefnogi lles dysgwyr a staff. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo hil, rhyw a chydraddoldeb ehangach, yn ogystal â gweithgarwch gwrth-wahaniaethu, drwy ddysgu a thrwy amgylchedd ehangach yr ysgol
    • trefniadau i ddiogelu dysgwyr
    • sicrhau bod pob dysgwr, yn benodol y rheini sydd dan anfantais o ran eu cefndir neu eu hamgylchiadau, yn cael eu cynnwys yn deg ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol
    • sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle cyfartal i lwyddo a bod rhwystrau i gyfranogiad neu ddysgu ystyrlon yn cael eu nodi ac yr eir i'r afael â nhw.

Nodweddion hunanwerthuso da

Dylai ysgolion ystyried yr egwyddorion a'r canllawiau canlynol wrth ddylunio prosesau hunanwerthuso a'u rhoi ar waith:

  • Bydd hunanwerthuso ar ei fwyaf effeithiol pan fydd:
    • yn barhaus ac yn gyson â phrosesau gwella fel cam gweithredu integredig
    • yn fyfyriol, yn onest ac yn gynhwysol, gan ddefnyddio dulliau trwyadl sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n ystyried amrywiaeth eang o safbwyntiau o bob rhan o'r ysgol (gan gynnwys llais y dysgwr), y gymuned ehangach a chymheiriaid
    • yn defnyddio arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i arloesi a gwella, gan ysgogi'r broses o rannu arferion effeithiol o fewn ysgolion a rhyngddynt
    • yn seiliedig ar amrywiaeth eang o dystiolaeth, gan ddefnyddio data mewn modd cymesur ochr yn ochr â thystiolaeth o lygad y ffynnon, i werthuso cryfderau'r ysgol ei hun a meysydd i'w gwella
  • adolygu cynnydd yn erbyn blaenoriaethau ar gyfer gwella yn rheolaidd, gan werthuso effaith camau gweithredu a gynlluniwyd yn barhaus
  • Mae dadansoddi data a gwybodaeth yn bwysig, ond ni ddylai fod yn bwysicach na ffynonellau tystiolaeth eraill ar gyfer hunanwerthuso (er enghraifft gwrando ar ddysgwyr; arsylwi ar addysgu). Lle y defnyddir y dull hwn, bydd ar ei fwyaf effeithiol ar gyfer hunanwerthuso a gwella pan fydd:
    • yn canolbwyntio'n glir ar gynnydd a lles dysgwyr
    • yn ystyried amrywiaeth eang o dystiolaeth, nid dim ond un set ‘gul’ o ddata
    • yn ystyried cyd-destun yr ysgol;
    • yn cael ei ddefnyddio i werthuso cynnydd a lles pob dysgwr a grŵp o ddysgwyr
    • yn seiliedig ar asesu dibynadwy a chywir.

Rolau consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol ac esgobaethol wrth hunanwerthuso ysgolion

Dylai awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol a chonsortia rhanbarthol wneud y canlynol:

  • sicrhau bod unrhyw ddata a gwybodaeth sydd ganddynt a allai gyfoethogi trefniadau hunanwerthuso ysgolion ar gael i ysgolion, lle bo hynny'n briodol
  • helpu arweinwyr a chyrff llywodraethu ysgolion i nodi meysydd lle y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt heb fod ag ofn y bydd hyn yn cyfrif yn eu herbyn at ddibenion atebolrwydd

Dylai consortia rhanbarthol wneud y canlynol:

  • cynghori ysgolion ar hunanwerthuso effeithiol gan ddefnyddio dulliau cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a rhoi cymorth i ysgolion lle bo angen (gallai hyn gynnwys helpu ysgolion i ddefnyddio'r adnodd cenedlaethol)
  • hwyluso gweithgarwch dysgu proffesiynol perthnasol
  • annog a broceru gwaith rhwng cymheiriaid rhwng ysgolion ar hunanwerthuso, gan ddilyn yr egwyddorion yn Atodiad C
  • hyrwyddo diwylliant o fyfyrio agored a gonest a gwerthuso er mwyn gwella

Yn seiliedig ar y Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Ysgolion, rhaid i gyrff llywodraethu wneud y canlynol:

  • paratoi cynllun datblygu ysgol sy'n cwmpasu cyfnod o 3 blynedd o leiaf.
  • cynnwys y meysydd a nodir yn yr Atodlen (gweler Atodiad B) yn eu cynllun datblygu ysgol, yn cynnwys:
    • darpariaeth ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion dysgu proffesiynol pob aelod o staff, gan gynnwys datblygu arweinyddiaeth, mewn perthynas â chyflawni blaenoriaethau ysgol ar gyfer gwella; Mae'r darpariaethau hyn hefyd yn cynnwys cynorthwywyr addysgu a staff a leolir yn yr ysgol dros dro, gan gynnwys athrawon cyflenwi byrdymor a hirdymor. Bydd darpariaeth ysgolion ar gyfer cefnogi datblygiad proffesiynol yr ymarferwyr hyn yn naturiol yn adlewyrchu natur eu deiliadaeth a'r defnydd a wneir ohonynt
    • y modd y mae'r ysgol yn defnyddio ei staff ac adnoddau eraill yn cynnwys cyllid, cyfarpar, adeiladau a thiroedd yr ysgol, ond nid yn gyfyngedig iddynt. Dylai ysgolion ystyried sgiliau a gallu eu gweithlu a'r adnoddau eraill sydd ar gael iddynt er mwyn cyflawni blaenoriaethau a thargedau eu hysgol ar gyfer gwella. Bydd hyn yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau'r ysgol i ddatblygu ei staff fel bod ganddi weithlu sydd â'r sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol i ddiwallu anghenion dysgwyr
  • diwygio'r cynllun o leiaf unwaith y flwyddyn, ac yn dilyn arolygiad gan Estyn
  • ymgynghori â'r bobl ganlynol wrth baratoi neu ddiwygio'r cynllun:
    • pennaeth yr ysgol (os nad yw'r unigolyn hwnnw'n aelod o'r corff llywodraethu)
    • disgyblion cofrestredig yn yr ysgol
    • rhieni neu ofalwyr disgyblion cofrestredig
    • staff yr ysgol
    • unrhyw bersonau eraill y mae'r corff llywodraethu o'r farn y byddai'n briodol ymgynghori â nhw
  • cyhoeddi'r cynllun drwy roi copïau i bob aelod o'r corff llywodraethu a staff yr ysgol. Gallant hefyd ddewis darparu'r cynllun cyfan i rieni a gofalwyr ar gais.

O ganlyniad i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu 2021, mae'r ‘blaenoriaethau cenedlaethol’ yn rheoliadau'r Cynlluniau Datblygu Ysgolion wedi'u diweddaru a'u diwygio. Felly, yn weithredol o fis Medi 2022, rhaid i bob corff llywodraethu hefyd ystyried yr egwyddorion cenedlaethol canlynol wrth bennu eu blaenoriaethau ar gyfer gwella:

  • gwella cynnydd disgyblion drwy sicrhau bod eu dysgu'n cael ei gefnogi gan amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad
  • lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.

Yn dilyn arolygiad ysgol, rhaid diwygio cynllun datblygu'r ysgol i adlewyrchu adborth, canfyddiadau, argymhellion a chamau gweithredu arfaethedig yn dilyn yr arolygiad. Rhaid gwneud hyn o fewn 20 diwrnod gwaith yn unol â o Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014, a'i rannu â'r partïon perthnasol (fel y nodwyd yn Neddf Addysg 2005 a Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006).

Dan oruchwyliaeth cyrff llywodraethu, dylai ysgolion hefyd wneud y canlynol:

  • defnyddio eu casgliadau o hunanwerthuso, ar ôl ystyried y blaenoriaethau cenedlaethol, i nodi nifer hydrin o flaenoriaethau gwella penodol, sydd â'r nod o sicrhau gwelliant cynaliadwy
  • cynnwys blaenoriaethau, targedau a strategaethau manwl ar gyfer blwyddyn gyntaf cynllun datblygu'r ysgol
  • nodi blaenoriaethau a thargedau lefel uwch ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn, ac unrhyw flynyddoedd pellach
  • adnewyddu'r blaenoriaethau gwella o leiaf unwaith y flwyddyn, ond gan ystyried effaith hunanwerthuso a gwybodaeth newydd ar flaenoriaethau drwy gydol y flwyddyn
  • cynllunio camau gweithredu â ffocws pendant i sicrhau gwelliannau yn y meysydd hyn, nodi adnoddau neu gyllid angenrheidiol lle y bo'n berthnasol, cytuno ar gerrig milltir a meini prawf llwyddiant addas, a nodi sut a phryd y byddant yn monitro ac yn gwerthuso cynnydd
  • ystyried sut y gallant adeiladu ar eu cryfderau presennol a dysgu o gryfderau ysgolion eraill, gan fod yn effro i gyfleoedd i gydweithio a rhannu arferion gorau
  • nodi yn y cynllun datblygu ysgol ble y byddent yn cael budd o gymorth allanol neu ble y byddai angen cymorth allanol arnynt i roi gwelliannau ar waith, ynghyd â phwy fydd yn darparu'r cymorth a phryd
  • defnyddio cynllun datblygu'r ysgol i roi cyd-destun i'r broses rheoli perfformiad i'r holl staff
  • drwy drefniadau atebolrwydd y corff llywodraethu, craffu ar y blaenoriaethau gwella, y deilliannau disgwyliedig, y cynnydd a wneir yn erbyn cynllun datblygu'r ysgol, a'r cymorth sydd ei angen i gyflawni'r blaenoriaethau, a chytuno arnynt
  • defnyddio eu prosesau hunanwerthuso i werthuso'r cynnydd a wneir yn erbyn eu blaenoriaethau gwella yn rheolaidd
  • paratoi adroddiadau clir ar y cynnydd yn erbyn blaenoriaethau'r flwyddyn flaenorol, a hynny o leiaf unwaith y flwyddyn

Er mwyn cyfoethogi eu gwaith cynllunio gwelliannau ymhellach, gall ysgolion wneud y canlynol:

  • cynnwys cymheiriaid yn y broses hunanwerthuso er mwyn cael safbwynt allanol ar flaenoriaethau ar gyfer gwella. (Caiff egwyddorion gweithio gyda chymheiriaid eu trafod yn Atodiad C o'r canllawiau hyn)
  • defnyddio deilliannau deialog broffesiynol i feithrin dealltwriaeth a rennir o gynnydd, gan ddefnyddio'r wybodaeth hon i lywio ble y gallant wneud gwelliannau mewn perthynas â chyflymder, her, a thrylwyredd trefniadau'r cwricwlwm ac asesu.

Dylai awdurdodau lleol wneud y canlynol:

  • sicrhau na phennir blaenoriaethau cyffredin sydd wedi'u penderfynu ymlaen llaw ar gyfer ysgolion
  • gweithio mewn partneriaeth â'u consortia rhanbarthol i ymgysylltu ag ysgolion ar eu cynllun datblygu, yn seiliedig ar ddealltwriaeth a rennir o'u priod rolau wrth gefnogi ysgolion. (Er enghraifft, os bydd gan ysgolion flaenoriaethau gwella sy'n ymwneud ag ymddygiad a lles emosiynol a meddyliol, ADY neu bresenoldeb, mae'n debygol y bydd yr awdurdod lleol yn cael ei gynnwys yn fwy na phetai'r ffocws ar y cwricwlwm neu ar ddysgu ac addysgu)
  • cytuno gydag ysgolion pa gymorth y byddant yn ei roi mewn perthynas â phresenoldeb, ADY ac ymddygiad a lles emosiynol a meddyliol. Er na fydd pob achos unigol o ymddygiad gwael yn ymwneud â lles y person ifanc, mae angen i ysgolion ddeall achos sylfaenol ymddygiad gwael, oherwydd mewn rhai achosion bydd y rhain yn gysylltiedig â materion ehangach o les emosiynol a meddyliol, neu niwroamrywiaeth. Bydd angen i ysgolion nodi a mynd i'r afael â'r materion ehangach fel rhan o gynlluniau i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol
  • gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion sy'n cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gynigir i ddysgwyr, i gefnogi cynnydd ar hyd continwwm iaith Gymraeg (yn unol â gofynion statudol a nodir yng Nghynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod lleol (CSCA))
  • cytuno gydag ysgolion pa gymorth y byddant yn ei roi mewn perthynas ag adnoddau dynol, cyllid, datblygiad iaith Gymraeg, adeiladau a meysydd eraill
  • rhannu gwybodaeth â chonsortia rhanbarthol am eu cynigion a'u penderfyniadau mewn perthynas â chefnogi'r broses o ddarparu gwasanaethau i ddisgyblion ag ADY
  • rhannu unrhyw bryderon sydd ganddynt am briodoldeb blaenoriaethau gwella y mae ysgolion wedi'u nodi, neu farn ysgolion ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau gwella blaenorol, â chyrff llywodraethu ysgolion (cyrff atebol ysgolion). Fel uchod, dylid gwneud hyn mewn partneriaeth â'u consortia rhanbarthol, a chynnwys yr awdurdod esgobaethol lle bo hynny'n berthnasol;
  • defnyddio'r wybodaeth gyfoethog o gynlluniau datblygu ysgolion yn eu hawdurdod lleol i lywio eu cynlluniau eu hunain ar gyfer gwella ac i adolygu'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt i ysgolion. Gallai hyn gynnwys pennu blaenoriaethau strategol i fynd i'r afael â materion cyffredin a nodir gan ysgolion. (Er enghraifft, gall awdurdodau lleol fynd i'r afael â themâu cyffredin sy'n ymwneud â chynllunio a datblygiad iaith Gymraeg yn eu CSCA).

Dylai consortia rhanbarthol wneud y canlynol:

  • sicrhau na phennir blaenoriaethau cyffredin sydd wedi'u penderfynu ymlaen llaw ar gyfer ysgolion
  • rhoi cymorth, adborth ac arweiniad i ysgolion ar gynnwys, ansawdd ac effaith eu trefniadau hunanwerthuso, sut i nodi blaenoriaethau gwella priodol, a chynlluniau datblygu ysgolion
  • cytuno gydag ysgolion pa gymorth y byddant yn ei roi neu'n ei froceru mewn perthynas â dysgu ac addysgu, arweinyddiaeth (gan gynnwys datblygiad arweinyddiaeth wedi’i gymeradwyo gan yr Academi) a dysgu proffesiynol, trefnu'r cwricwlwm, datblygiad iaith Gymraeg (er enghraifft, Siarter y Gymraeg) ac unrhyw faes arall
  • gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol wrth ymgysylltu â'r holl ysgolion ynghylch eu cynlluniau datblygu
  • rhannu unrhyw bryderon sydd ganddynt am briodoldeb blaenoriaethau gwella y mae ysgolion wedi'u nodi, neu farn ysgolion ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau gwella blaenorol, â chyrff llywodraethu ysgolion
  • defnyddio'r wybodaeth gyfoethog o gynlluniau datblygu ysgolion ledled y rhanbarth i lywio eu cynlluniau eu hunain ar gyfer gwella ac i adolygu eu dysgu proffesiynol a'r cymorth a gynigir i ysgolion.

Dylai Estyn wneud y canlynol:

  • dibynnu ar y trefniadau uchod ym mhob ysgol, awdurdod lleol a rhanbarth er mwyn defnyddio cynlluniau datblygu ysgolion i gefnogi'r broses arolygu

Yn ychwanegol at hyn a thrwy gytuno ar y cyd, gall awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol roi nodyn byr i Estyn yn esbonio unrhyw faterion a all effeithio ar yr arolygiad.

Crynodebau a gyhoeddwyd

Rhaid i gyrff llywodraethu ddarparu copi cryno o'u cynllun datblygu ysgol drwy'r Adroddiad Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (yn unol â Rheoliad 11 o'r Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Ysgolion a oedd wedi diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2001 i gynnwys darpariaeth ar gyfer hynny).

Er mwyn helpu i gynyddu hyder yn yr ysgol a'i chynllun datblygu ac ymroddiad iddynt, dylai'r ysgol gyhoeddi'r copi cryno ar ei gwefan. Bydd hyn yn cefnogi tryloywder drwy roi gwybodaeth reolaidd a chyson i rieni a gofalwyr a'r gymuned ehangach am yr ysgol a'i datblygiad. Dylai’r crynodeb gael ei ysgrifennu mewn iaith sy’n hawdd i rieni, gofalwyr a dysgwyr ei deall.

Dylai'r crynodeb gynnwys:

  • trosolwg tudalen o hyd ar gasgliadau neu ganfyddiadau hunanwerthuso'r ysgol, gan gyfleu prif gryfderau'r ysgol a'r meysydd i'w datblygu, gan roi'r cyd-destun i rieni a gofalwyr ar gyfer eu blaenoriaethau ar gyfer gwella a'r camau gweithredu a gynlluniwyd. Dylai'r trosolwg hwn gynnwys cynnydd a lles dysgwyr, a materion eraill a adlewyrchir yn y 3 maes cyffredinol ar gyfer hunanwerthuso a nodir yn y canllawiau hyn (gweledigaeth ac arweinyddiaeth; cwricwlwm, dysgu ac addysgu; lles, tegwch a chynhwysiant). Caiff ei lywio gan ddealltwriaeth ysgolion o'r 8 ffactor cyfrannol i wireddu'r cwricwlwm yn llwyddiannus
  • blaenoriaethau gwella lefel uchel; camau gweithredu a gynlluniwyd i gyflawni'r blaenoriaethau hynny; a cherrig milltir perthnasol
  • cymorth allanol a gaiff yr ysgol i'w helpu i gyflawni ei flaenoriaethau ar gyfer gwella yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol (gan gynnwys cymorth a gaiff ei roi neu ei froceru gan gonsortia rhanbarthol)
  • adroddiad ar y cynnydd yn erbyn blaenoriaethau'r flwyddyn flaenorol

Heblaw am yr hyn a nodir uchod, ni chynigir cyd-destun a ragnodwyd, er mwyn osgoi creu dull gweithredu ticio blychau a allai gael effaith negyddol ar brosesau gwella cyffredinol.

Dylai consortia rhanbarthol gefnogi gweithgarwch hunanwerthuso ysgolion a rhoi cyngor ar lunio'r crynodebau hyn er mwyn gwella cysondeb ac ansawdd gwybodaeth a roddir i rieni a gofalwyr. Gall fod angen iddynt hefyd gefnogi ysgolion er mwyn sicrhau bod prosesau gwerthuso a gwella yn parhau i gael blaenoriaeth, ac na chânt eu rhwystro gan y gofyniad i'w dogfennu ac adrodd arnynt mewn ffurf gryno. Bydd eu cyngor a'u cyfranogiad yn helpu i atgyfnerthu'r crynodebau a gyhoeddwyd gan ysgolion, er mai cyfrifoldeb cyrff llywodraethu yw cynnwys yr adroddiadau yn y pen draw.

Er mwyn cefnogi cyrff llywodraethu i gyflawni eu swyddogaeth atebolrwydd, dylai consortia rhanbarthol ymgysylltu mewn deialog broffesiynol â nhw i ystyried:

  • prosesau hunanwerthuso ysgol a'i blaenoriaethau ar gyfer gwella
  • cryfderau'r ysgol y mae'n credu y gellid eu defnyddio, neu sydd eisoes yn cael eu defnyddio, i gefnogi ysgolion eraill
  • unrhyw faterion penodol y mae angen i gyrff llywodraethu fod yn ymwybodol ohonynt a'u monitro yn yr ysgol, fel ei chorff atebol.

Fel hyn, gall cyrff llywodraethu fanteisio ar ffynhonnell annibynnol o arbenigedd addysgol sy'n cefnogi eu rôl yn y broses werthuso a gwella yn eu hysgol.

Dylai consortia rhanbarthol hefyd roi adroddiad i'r corff llywodraethu sy'n amlinellu'r modd y mae'n bwriadu cefnogi a/neu froceru cymorth i fynd i'r afael â'i flaenoriaethau ar gyfer gwella, ac yn fwy cyffredinol. Bydd y rhain yn cynrychioli ymrwymiad i'r corff llywodraethu a'r ysgol ynghylch y cymorth y dylid ei gael, y gallant gyfeirio'n ôl ato.

Mae'r adran nesaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am rôl cynghorwyr gwella sy'n gweithio gydag ysgolion.

Dylai'r system gymorth a ddisgrifir isod gael y nodweddion canlynol.

  • Dylid datblygu'r broses ar y cyd a dylai fod yn gydweithredol, gan ddefnyddio dulliau cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddechrau â chynllun hunanwerthuso a datblygu'r ysgol ac ymateb i adborth gan ysgolion ac anghenion ysgolion unigol.(Dylai hyn hefyd helpu i sicrhau cyn lleied â phosibl o ofynion ar ysgolion o ran gwaith paratoi ychwanegol.)
  • Dylid cynllunio cymorth i feithrin gallu ysgolion, gydag ysgolion yn gwella'n gynyddol dros amser; ni ddylai annog diwylliant o ddibyniaeth.
  • Bydd y cymorth a roddir i ysgolion yn gymesur ac yn hyblyg i'w hanghenion, gyda mwy o gymorth yn cael ei roi i'r ysgolion sydd ei angen fwyaf.
  • Dylai'r gwaith o ymgysylltu ag ysgolion hwyluso'r broses o nodi ysgolion sy'n dirywio ac y mae angen cymorth arnynt, i'w hatal rhag dod yn ‘ysgol sy'n achosi pryder’.
  • Dylai’r holl weithgarwch weithio tuag at y canlyniad terfynol o alluogi plant a phobl ifanc i gyflawni'r pedwar diben drwy arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu o ansawdd uchel.
  • Hybu ac annog gweithio gyda chymheiriaid, cydweithio a chefnogaeth rhwng ysgolion.

Cymorth i ysgolion gan gonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol

Mae consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol, drwy eu swyddogaethau gwahanol, yn chwarae rôl bwysig yn cefnogi gwelliannau mewn ysgolion. Mae'r cymorth a roddant i ysgolion yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau sy'n deillio o'u rôl yn cynnal ysgolion a'r ddyletswydd benodol i hybu safonau uchel. (Ceir rhagor o wybodaeth yn Atodiad A.)

Bydd rhywfaint o gymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol i ysgolion yn estyniad o'r gwasanaethau addysg cyffredinol maent yn eu darparu i ysgolion a gynhelir. Yn amlwg, bydd angen cymharol ysgolion ar gyfer y gwasanaethau hyn yn amrywio, a bydd y cymorth yn fwy helaeth i rai ysgolion nag eraill. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys:

  • cymorth mewn perthynas ag adnoddau dynol i'r corff llywodraethu ar recriwtio a chadw staff, a rheoli perfformiad
  • cymorth a chyngor ariannol
  • cyngor a chymorth arbenigol ar ADY
  • cymorth o ran ymddygiad a lles emosiynol a meddyliol
  • cymorth o ran presenoldeb

Gall pob ysgol hefyd fanteisio ar ddysgu proffesiynol gan eu consortiwm rhanbarthol neu awdurdod lleol sy'n meithrin eu gallu i wella, yn ogystal â sgiliau a gallu eu gweithlu. Mae hyn yn debygol o gynnwys eu trefniadau hunanwerthuso, y defnydd o ddulliau monitro a gwerthuso sy'n seiliedig ar dystiolaeth, datblygu'r cwricwlwm, a datblygu gallu arweinwyr.

Cynghorwyr gwella

O fewn consortia rhanbarthol, a rhai awdurdodau lleol, mae cynghorwyr gwella yn chwarae rôl hanfodol yn sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei nodi a'i ddarparu i bob ysgol. Dylid dynodi cynghorydd gwella sydd â phrofiad ac arbenigedd addas i bob ysgol gan ei chonsortiwm rhanbarthol neu awdurdod lleol. Nid herio'r ysgol yw prif rôl y cynghorydd gwella, ond bod yn bartner proffesiynol ym mhroses yr ysgol o wella, gan fanteisio ar arbenigedd allanol pan fydd angen. Er y bydd elfen o her mewn unrhyw ddeialog broffesiynol, ni ddylai fod yn ffocws i'r gydberthynas. Am y rheswm hwn, mae'r canllawiau hyn yn defnyddio'r term ‘cynghorydd gwella’ yn hytrach na ‘chynghorydd her’. Mae'r newid hwn mewn pwyslais ac iaith yn cyd-fynd â therminoleg a ddefnyddir gan gonsortia rhanbarthol.

Drwy eu cynghorwyr gwella a'r timau ehangach sy'n gweithio gydag ysgolion, dylai consortia rhanbarthol:

  • rhoi adborth a chyngor i ysgolion ar eu trefniadau hunanwerthuso, eu heffaith ar welliant ac ar allu ysgolion i wella
  • gweithio mewn partneriaeth â'r ysgol, gan ddefnyddio proses hunanwerthuso'r ysgol fel sylfaen, a chytuno â'r ysgol pa gymorth penodol sydd ei angen arni
  • helpu i bennu math a lefel y cymorth sydd ei angen, o gymharu ag ysgolion eraill.
  • cyfeirio ysgolion at raglenni arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol perthnasol, gan gynnwys cymorth arweinyddiaeth sydd ar gael drwy’r Academi
  • rhoi neu froceru cymorth pwrpasol ychwanegol i ysgolion, yn seiliedig ar eu blaenoriaethau ar gyfer hunanwerthuso a gwella
  • hyrwyddo, broceru a goruchwylio gwaith ar y cyd rhwng ysgolion a gweithio mewn clwstwr, gan gynnwys deialog broffesiynol i feithrin dealltwriaeth a rennir o gynnydd. (Dylai hyn fod yn rôl gynyddol bwysig i gonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol mewn system gydweithredol, sy'n canolbwyntio ar hunanwella
  • rhoi adborth i gyrff llywodraethu (fel y nodir uchod) ar eu hysgolion, ynghyd ag adroddiad sy'n amlinellu'r modd y mae'n bwriadu cefnogi a/neu froceru cymorth i fynd i'r afael â blaenoriaethau'r ysgol ar gyfer gwella, a'i blaenoriaethau ehangach

Ni ddylai consortia rhanbarthol bennu'r cymorth a ddarperir ar gyfer ysgolion drwy ddyraniadau amser sefydlog na chynigion dysgu proffesiynol anhyblyg a benderfynwyd ymlaen llaw.

Wrth froceru cymorth i ysgolion, mae'n debygol y bydd cynghorwyr gwella yn defnyddio adnoddau gan y consortiwm a'r awdurdod lleol, ac o ysgolion eraill yn y rhanbarth hefyd, yn seiliedig ar wybodaeth y consortiwm o'u cryfderau a'u gallu. Lle bydd angen, bydd yr awdurdod lleol a'r consortiwm rhanbarthol yn cytuno ar y cyd ar y rhesymeg ar gyfer yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael.

Wrth gwrs, gall cynghorwyr gwella hefyd froceru cymorth gan ysgolion y tu allan i'w rhanbarth, yn enwedig ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion sydd â chymeriad crefyddol, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion. Wrth froceru cymorth i ysgolion â chymeriad crefyddol o'r tu allan i'w rhanbarthau eu hunain, dylid hysbysu'r cyfarwyddwyr addysg esgobaethol perthnasol.

Bydd angen i gonsortia rhanbarthol sicrhau ansawdd y cymorth y mae cynghorwyr gwella yn ei froceru i ysgolion.

Ar ôl cytuno ar eu hanghenion a'u cynlluniau cymorth â'u cynghorydd gwella, dylai ysgolion integreiddio'r rhain yn eu cynllun datblygu ysgol, gan gysylltu â'r blaenoriaethau perthnasol ar gyfer gwella. Dylai hyn hefyd fod yn rhan o'r crynodeb a gyhoeddwyd o gynllun datblygu'r ysgol. Fel hyn, bydd dysgwyr, rhieni a gofalwyr, yn ogystal â'r gymuned ehangach yn gallu gweld a deall sut mae'r ysgol yn cael cymorth i wella, a chan bwy.

Cymorth rhwng ysgolion

Un nodwedd bwysig o'r system hunanwella yw rôl ganolog ysgolion ac ymarferwyr o ran cefnogi ysgolion eraill, fel bod cryfderau yn cael eu rhannu ar draws y system ac fel yr eir i'r afael â'r meysydd ar gyfer gwella drwy gydweithio â chymheiriaid. Bydd hyn yn nodwedd bwysig er mwyn sicrhau tegwch gwirioneddol yn y system addysg. Er y gall hyn ddigwydd yn organig mewn sawl achos, drwy gydberthnasau a strwythurau sy'n bodoli eisoes, mae gan gonsortia rhanbarthol ran bwysig i'w chwarae wrth helpu i hwyluso hyn.

O ystyried y gofynion i ysgolion gydweithio ag ysgolion o fewn eu clwstwr, ac yn ehangach, ar ddealltwriaeth a rennir o gynnydd, dylai consortia rhanbarthol helpu i sicrhau bod y trefniadau a'r cydberthnasau yn cyfrannu at brosesau cydweithio rhwng ysgolion ac at welliant yn fwy cyffredinol. (Mewn rhai achosion, bydd y trafodaethau rhwng ysgolion i feithrin a chynnal dealltwriaeth a rennir o gynnydd ynddynt eu hunain yn helpu i nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella ac anghenion cymorth i ysgolion unigol.)

Yn gyffredinol, dylai consortiau rhanbarthol ac awdurdodau lleol hyrwyddo prosesau cydweithio rhwng ysgolion, gan annog system newydd o gydweithio lle mae arweinwyr ysgolion yn ystyried mai eu rôl yw gwella'r system gyfan, yn ogystal â'u sefydliad unigol.

Yn y system hunanwella mae angen i bob gweithiwr proffesiynol a sefydliad ddod yn ymwybodol o'i gryfderau ei hun a'r meysydd i'w gwella ac, o wybod hyn, geisio cymorth i wella ei hun a chynnig cymorth i eraill wella. Fodd bynnag, mae'n annhebygol bod ysgolion unigol yn gwybod ble y gellid defnyddio eu cryfderau orau er mwyn cefnogi eraill neu pa ysgolion fyddai yn y sefyllfa orau i'w cefnogi.

Felly, wrth ymgysylltu â phob ysgol, yn ogystal â broceru cymorth iddynt, bydd cynghorwyr gwella hefyd yn asesu pa gryfderau sydd gan ysgolion, ac ym mha feysydd, i'w galluogi i roi cymorth i ysgolion eraill. Fel uchod, dylid dechrau ar y gwaith hwn gyda hunanwerthusiadau ysgolion.

Mae'n debygol y bydd gan bob ysgol gryfderau ac arfer da i rannu gwelliant ar draws y system a chyfrannu at hyn, a bydd gan yr ysgolion cryfaf feysydd i'w gwella a'u datblygu. Dylai nodi ac annog ysgolion sydd mewn sefyllfa dda i roi cymorth cymheiriaid i eraill fod yn nodwedd bwysig o waith cynghorwyr gwella yn broceru cymorth i'r rheini sydd mewn angen.

Mae ystyried cryfderau ysgolion ochr yn ochr â'u meysydd i’w datblygu ar gyfer agweddau gwahanol ar weithgareddau ysgol yn debygol o fod yn ddefnyddiol at ddiben dyrannu adnoddau mewnol yn ôl consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Bydd hefyd yn helpu i gyfateb yr ysgolion hynny y mae angen cymorth penodol arnynt i'r rheini sydd yn y sefyllfa orau i'w gynnig.

Dylai modelau cymorth a sefydlwyd gan gonsortia rhanbarthol fod yn amlddimensiynol gan alluogi ysgolion i gael cymorth yn unol â maes angen penodol, a all gynyddu neu leihau unrhyw bryd.

O ystyried hyblygrwydd y system, ni fydd angen i gonsortia rhanbarthol gymedroli gwaith cynghorwyr gwella ag ysgolion. Fodd bynnag, dylent sefydlu proses sicrhau ansawdd fewnol ar gyfer eu gwaith gwella gydag ysgolion, er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cael lefel o gymorth sy'n cyd-fynd â'u hanghenion.

Dylai consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol hefyd gydweithio a rhannu arfer da â'i gilydd, yn unol ag egwyddorion gwerthuso a gwella parhaus a nodir yn y canllawiau hyn i ysgolion.

Yr hyn y gall ysgolion ei ddisgwyl o'r system newydd

Bydd pob ysgol:

  • yn gallu manteisio ar ddeialog broffesiynol barhaus a chymorth gan gynghorydd gwella a enwir yn ei chonsortiwm rhanbarthol neu awdurdod lleol a all gynghori a broceru cymorth (gan gynnwys ar hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella; arweinyddiaeth; gwireddu'r cwricwlwm; cymorth rhwng ysgolion; a dysgu proffesiynol perthnasol arall)
  • yn cael adroddiad blynyddol, mewnol gan ei chynghorydd gwella sy'n crynhoi'r cymorth y cytunwyd arno
  • yn cynnwys yn ei chynllun datblygu ysgol yr hyn y bydd yr awdurdod lleol, y consortiwm rhanbarthol ac ysgolion eraill yn ei ddarparu i'w chefnogi i gyflawni ei blaenoriaethau ar gyfer gwella

Rhagwelir y bydd pob ysgol:

  • yn meddu ar o leiaf 1 maes ymarfer cryf i'w rannu, ac yn tynnu sylw at hyn yn adroddiad blynyddol y corff llywodraethu
  • yn gweithio gydag ysgolion eraill mewn modd cefnogol a chydweithredol, pan fydd ganddi'r gallu i wneud hynny, er mwyn codi safonau i bob dysgwr ac ysgogi gwelliannau yn y system

Byddai ysgolion sydd â'r anghenion mwyaf sylweddol o ran gwella hefyd:

  • yn gallu manteisio ar fwy o gefnogaeth, gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol a nodwyd
  • yn cael cymorth amlasiantaethol drwy gynllun cefnogi y cytunwyd arno gan bawb dan sylw (y corff llywodraethu, yr awdurdod lleol, yr awdurdod esgobaethol lle y bo'n berthnasol, y consortiwm rhanbarthol ac, mewn rhai achosion, Estyn a Llywodraeth Cymru)
  • yn nodi'r cymorth ychwanegol yn adroddiad blynyddol y corff llywodraeth i rieni a gofalwyr
  • yn cael ei thrafod drwy waith arolygydd cyswllt awdurdodau lleol Estyn

Mewn ysgolion y mae angen cymorth dwysach arnynt, ni ddylai awdurdodau lleol leihau na newid lefel y cymorth a roddir ar gyfer ADY, ymddygiad a lles emosiynol a meddyliol, cyllid neu adnoddau dynol, heb drafod a chytuno ar hyn â'r corff llywodraethu.

Ysgolion sy'n achosi pryder

Un o nodweddion y system gymorth a ddisgrifir uchod yw y dylai helpu i atal ysgolion rhag cyrraedd y pwynt lle maent yn ‘achosi pryder’. Gwneir hyn drwy nodi angen yn gynnar, i ddechrau gan ysgolion eu hunain drwy hunanwerthuso, a darparu cymorth cymesur wedi'i deilwra, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Fodd bynnag, bydd achosion lle mae angen i awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru ymyrryd mewn ysgolion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol diwygiedig ‘Ysgolion sy'n achosi pryder: canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae’r canllawiau yn rhoi gwybodaeth am y gofynion deddfwriaethol a'r pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru ar gyfer ymyrryd mewn ysgolion sy’n achosi pryder, fel y nodir yn ‘Neddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013’. Mae'r canllawiau ar ysgolion sy'n achosi pryder yn disgrifio'r broses ffurfiol a'r mathau amrywiol o ymyriadau sydd ar gael i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru pan fydd sail benodol dros ymyrryd.

Gall awdurdodau lleol benderfynu, drwy ymgysylltu ag ysgolion a chonsortia rhanbarthol ar werthuso a gwella, fod y sail dros roi hysbysiad rhybuddio wedi'i bodloni. (Bydd hyn yn cynnwys defnyddio gwybodaeth ar lefel ysgol i lywio eu barn ynghylch i ba raddau y mae cyrff llywodraethu ysgolion yn cyflawni eu dyletswyddau eu hunain yn effeithiol, ymhlith pethau eraill.) Ar y pwynt hwnnw, bydd pwerau ymyrryd a'r canllawiau yn dod yn berthnasol.

Mae'r egwyddorion a'r prosesau a nodir yn y canllawiau hyn mewn perthynas â gwerthuso a gwella yn parhau i fod yn gymwys i ysgolion sy'n achosi pryder.

Cyrff llywodraethu ac ysgolion

Cyrff llywodraethu ysgolion fydd yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol eu hysgolion. Byddant yn penderfynu ar yr hyn y maent am i'r ysgol ei gyflawni ac yn pennu'r fframwaith strategol ar gyfer hynny.

Cynllun datblygu'r ysgol, ynghyd â'r polisïau y mae'r corff llywodraethu wedi cytuno arnynt, fydd yn darparu'r fframwaith strategol ar y cyfan. Bydd cyrff llywodraethu yn monitro cynnydd ac yn adolygu fframwaith yr ysgol yn rheolaidd yng ngoleuni'r broses honno. Ar wahân, rhaid i gyrff llywodraethu roi adroddiad blynyddol i rieni a gofalwyr am gynnydd a wnaed dros y flwyddyn yn erbyn y fframwaith strategol yn unol â ‘Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011’.

O ran gwerthuso a gwella yn fwy cyffredinol, dylai cyrff llywodraethu wneud y canlynol:

  • defnyddio'r egwyddorion a'r dull hunanwerthuso a nodir yn y canllawiau hyn er mwyn gwerthuso eu heffeithiolrwydd, eu cryfderau a'r meysydd i'w gwella
  • sicrhau bod cynllun datblygu'r ysgol yn adlewyrchiad teg a dealladwy o gryfderau'r ysgol a'r meysydd i'w gwella
  • cymeradwyo blaenoriaethau gwella'r ysgol a chytuno ar y disgwyliadau ar gyfer cymorth a gynigir gan yr awdurdod lleol a'r consortiwm rhanbarthol
  • sicrhau y caiff crynodeb o'r cynllun datblygu ysgol ei gyhoeddi ar wefan yr ysgol

Fel y corff sy'n gyfrifol am ysgol, dylai cyrff llywodraethu wneud y canlynol:

  • monitro'r broses o ddarparu'r cynllun datblygu ysgol a chymryd camau lle nad yw cynnydd yn erbyn blaenoriaethau ar gyfer gwella yn foddhaol
  • defnyddio cynllun datblygu'r ysgol i roi cyd-destun i'r broses rheoli perfformiad ar gyfer yr holl staff, er mwyn sicrhau bod y staff yn cymryd cyfrifoldeb am eu rôl wrth gyflawni'r cynllun
  • herio'r pennaeth a'i ddwyn i gyfrif am berfformiad ac effeithiolrwydd cyffredinol yr ysgol

Unedau cyfeirio disgyblion

Dylai awdurdodau lleol ystyried rôl pwyllgorau rheoli o unedau cyfeirio disgyblion a'r gofyniad statudol i awdurdodau lleol ddirprwyo swyddogaethau penodol i bwyllgorau rheoli, yn unol â ‘Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014’ (Rheoliadau 2014). Mae'r swyddogaethau hyn yn cynnwys cynnal yr uned cyfeirio disgyblion a delio â chwynion yn ymwneud â'r cwricwlwm. Gan weithio'n agos gyda'r awdurdod lleol, dylai pwyllgorau rheoli sefydlu fframwaith strategol ar gyfer yr uned cyfeirio disgyblion a ddylai gynnwys:

  • pennu nodau ac amcanion priodol
  • nodi a chynnwys polisïau, targedau a blaenoriaethau
  • pennu trefniadau ar gyfer monitro ac adolygu nodau ac amcanion
  • a yw'r polisïau, y targedau a'r blaenoriaethau'n cael eu cyflawni

Dylai aelodau'r pwyllgor rheoli ddefnyddio trefniadau hunanwerthuso i adolygu a gwerthuso cynnydd yn erbyn unrhyw dargedau i weld a yw polisi'n gweithio neu a oes angen ei newid.

Rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried y ddyletswydd statudol (Rheoliad 23 o Reoliadau 2014) i'r awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli a'r athro sy'n rheoli'r uned cyfeirio disgyblion (gan weithredu ar y cyd) wneud datganiad ysgrifenedig o'r polisi mewn perthynas â'r cwricwlwm ar gyfer yr uned a'i adolygu o bryd i'w gilydd.

Nodir gwybodaeth fanwl am rolau a chyfrifoldebau pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion yn ‘Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) Pwyllgorau Rheoli ac ati) (Cymru) 2014: Canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol ac unedau cyfeirio disgyblion.

Awdurdodau lleol

Yn ei rôl yn ‘cynnal’ ysgolion, bydd awdurdodau lleol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau craidd a chymorth i ysgolion. Fel arfer, bydd hyn yn cynnwys:

  • adnoddau dynol
  • cyllid
  • ystadau ac adeiladau
  • derbyniadau ysgol (mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, y corff llywodraethu fydd yn cyflogi'r staff ac yn pennu'r meini prawf derbyn) a threfniadaeth (gan gynnwys cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg yn unol ag Adran 84 o ‘Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013’ sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol baratoi CSCA ac mae'n amlinellu bod yn rhaid i CSCA nodi'r modd y bydd yr awdurdod lleol yn gwella'r broses o gynllunio 'r addysg a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd safonau addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg Gymraeg yn ei hardal.)
  • presenoldeb
  • cynhwysiant
  • cefnogi'r broses o ddarparu gwasanaethau i ddysgwyr ag ADY

Pwyllgorau craffu o fewn awdurdodau lleol fydd yn goruchwylio gwaith y cyngor o ran cyflawni swyddogaethau statudol a darparu gwasanaethau ehangach. Gwneir gwaith craffu gan aelodau etholedig nad oes ganddynt swyddi gweithredol yn y cyngor. Dylai gwaith craffu effeithiol wella prosesau gwella, atebolrwydd a thryloywder yn yr awdurdod lleol.

Yn y cyd-destun hwn, dylai Cynghorau wneud y canlynol:

  • rhoi trefniadau ar waith i bennu disgwyliadau a rheoli ansawdd ac effaith unrhyw gydwasanaethau sy'n rhoi cymorth i ysgolion
  • gwneud trefniadau i roi strategaethau gwella cynaliadwy ar waith i gefnogi ysgolion, wrth ddarparu eu gwasanaethau uniongyrchol eu hunain a darparu gwasanaethau mewn partneriaeth â'u consortiwm rhanbarthol
  • defnyddio'r wybodaeth sydd ganddynt am gyflawni eu swyddogaeth addysg i lywio'r ddealltwriaeth lefel strategol ehangach o'r modd y mae'r cyngor yn:
  • defnyddio ystod eang o wybodaeth i fonitro a deall perfformiad ysgolion yn eu hardal yn dda, yn hytrach na chael ffocws cul ar fesurau cyrhaeddiad dysgwyr
  • adeiladu ar y wybodaeth eang hon i gefnogi ysgolion, er enghraifft drwy ddefnyddio'r wybodaeth o gynlluniau datblygu ysgolion i nodi blaenoriaethau gwella cyffredin ac anghenion ar gyfer gwella i lywio'r broses o ddylunio gwasanaethau a blaenoriaethu adnoddau
  • nodi ysgolion sy'n achosi pryder ac ymyrryd ynddynt, gan ddefnyddio tystiolaeth eang, a'r ystod lawn o bwerau statudol
  • peidio â rhoi pwysau ar ysgolion i wneud enillion byrdymor mewn canlyniadau cymwysterau, mewn ffordd nad yw er budd i bob dysgwr nac yn gynaliadwy o bosibl
  • cefnogi penaethiaid i wella eu hysgolion a meithrin gallu, gan ystyried lefel yr her. (Er enghraifft, ni ddylent roi disgwyliadau afrealistig ar arweinwyr ysgolion sydd newydd gael eu penodi mewn ysgolion lle ceir problemau hirsefydlog.)

Dylai pwyllgorau craffu wneud y canlynol:

  • dwyn aelodau'r cabinet i gyfrif am ansawdd ac effaith gwasanaethau'r cyngor i gefnogi ysgolion
  • craffu ar waith y cyngor mewn perthynas â'r gwasanaethau a ddarperir i gefnogi ysgolion, yn hytrach na defnyddio eu trefniadau atebolrwydd i ddwyn ysgolion i gyfrif
  • craffu ar ba mor effeithiol y mae'r awdurdod lleol yn gweithio gyda'r consortiwm rhanbarthol neu bartneriaid awdurdod lleol eraill (os yw'n berthnasol) gan ddeall bod atebolrwydd i gonsortia rhanbarthol drwy eu cyd-bwyllgor neu fwrdd cwmni (gweler yr adran ‘Consortia rhanbarthol’ isod)
  • monitro a chraffu ar y defnydd o bwerau statudol i gefnogi a gwella ysgolion sy'n achosi pryder
  • ystyried effaith penderfyniadau i ad-drefnu ysgolion ar y broses o wella ysgolion

Consortia rhanbarthol

Strwythurau llywodraethu

Mae strwythurau llywodraethu consortia rhanbarthol yn cynnwys yr awdurdodau lleol sy'n aelodau ohonynt. Felly, maent yn cynnal gweithgareddau sy'n deillio o swyddogaethau a dyletswyddau statudol awdurdodau lleol mewn perthynas â gwella ysgolion.

Gwasanaeth Cyflawni Addysg

Cwmni nid-er-elw sy'n gyfyngedig drwy warant yw'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA), ac fe'i sefydlwyd gan y pum awdurdod lleol yng nghonsortiwm rhanbarthol De-ddwyrain Cymru (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen) i wella safon addysg yn y consortiwm rhanbarthol drwy ddarparu gwasanaethau i'r awdurdodau lleol a'u hysgolion. Mae aelodau bwrdd cwmni GCA sydd â'r hawl i bleidleisio yn aelodau cabinet o bob awdurdod lleol, ac nid ydynt yn gyfrifol am y portffolio addysg. Caiff gweithrediad GCA ei oruchwylio gan y Cyd-grŵp Gweithredol sy'n cynnwys deiliaid y portffolio addysg ar gyfer pob awdurdod lleol.

Consortiwm Canolbarth y De, Partneriaeth a GwE

Caiff Consortiwm Canolbarth y De (CSC), Partneriaeth a GwE eu goruchwylio gan gyd-bwyllgor o'u hawdurdodau lleol cyfansoddol, o dan adran 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cyd-bwyllgorau yw'r cyrff sy'n gwneud penderfyniadau o fewn y consortia rhanbarthol hyn, ac aelodau'r awdurdodau lleol (arweinwyr neu ddeiliaid portffolio addysg) sydd â hawliau pleidleisio llawn.

Mae Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru yn seiliedig ar Femorandwm Dealltwriaeth sy'n cynnwys trefniadau llywodraethu.

Atebolrwydd

Er bod gan y consortia eu strwythurau llywodraethu eu hunain, maent yn atebol yn uniongyrchol i'w hawdurdodau lleol cyfansoddol drwy eu strwythur. Felly, dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol weithio mewn partneriaeth i gyflawni dyletswyddau a swyddogaethau sylfaenol awdurdodau lleol mewn perthynas ag addysg. O ystyried y dulliau atebolrwydd mewnol a ddisgrifir uchod, nid oes angen i awdurdodau lleol greu prosesau ychwanegol i oruchwylio gwaith eu consortiwm rhanbarthol. Yn hytrach, dylid dwyn consortia rhanbarthol i gyfrif drwy eu strwythur llywodraethu, sy'n cynnwys aelodau etholedig o'r awdurdodau lleol.

Dylai cyd-bwyllgorau/cyd-grwpiau gweithredol consortia rhanbarthol wneud y canlynol:

  • arwain a monitro effeithiolrwydd gwaith consortia rhanbarthol er mwyn helpu i wella ysgolion, ac i lywio a chefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu swyddogaethau a'u dyletswyddau statudol
  • sicrhau bod consortia rhanbarthol yn defnyddio'r wybodaeth gyfoethog sydd ar gael iddynt o gynlluniau datblygu ysgolion unigol i lywio eu gwaith cynllunio a blaenoriaethu eu hunain
  • monitro ac adolygu ansawdd ac amseroldeb y cyngor a roddir ganddynt i awdurdodau lleol ar y defnydd a wneir o bwerau statudol i gefnogi a gwella ysgolion sy'n achosi pryder, yn arbennig ysgolion uwchradd.

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru sy'n bennaf cyfrifol am ddylunio'r system ysgolion yng Nghymru a'i rhoi ar waith. Un o'i phrif rolau yw cynllunio a llunio polisïau, drwy gydweithio a datblygu ar y cyd â phob haen o'r system, a hynny ar sail tystiolaeth.

Mae hefyd yn gyfrifol am gefnogi'r fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd drwy ei gweithredoedd a'i hymddygiadau. Mae hyn yn cynnwys helpu i feithrin gallu i gefnogi gwaith i wella'r system, a bod yn glir ynghylch atebolrwydd.

Er nad oes gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth atebolrwydd uniongyrchol mewn perthynas ag ysgolion unigol, caiff Gweinidogion Cymru eu dwyn i gyfrif yn briodol gan y Senedd a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am berfformiad a gweithrediad cyffredinol y system ysgolion. Mae'r gwaith craffu hwn yn ffordd bwysig o gyflawni atebolrwydd democrataidd o fewn y fframwaith cyffredinol, gan wella tryloywder ar yr un pryd hefyd.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau ymyrryd mewn perthynas ag ysgolion sy'n achosi pryder. Disgwylir i awdurdodau lleol ymyrryd i ddechrau, fodd bynnag, gan wneud defnydd pendant ac effeithiol o'u pwerau ymyrryd eu hunain. Dim ond pan fydd awdurdodau lleol wedi methu gwneud hynny, neu pan fyddant wedi gwneud hynny mewn modd annigonol y bydd Gweinidogion Cymru yn defnyddio eu pwerau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal cyfarfodydd ‘adolygu a herio’ ddwywaith y flwyddyn â chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol (1 i bob rhanbarth). Bydd y cyfarfodydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i gwestiynau a deall y modd y mae'r system werthuso a gwella yn gweithredu'n ymarferol, gan lywio'r hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau gwelliant ym mhob rhan o'r system. Bydd y cyfarfodydd hefyd yn rhoi gwybodaeth berthnasol i Lywodraeth Cymru i lywio ei phroses graffu ei hun yn y Senedd. Rhan o ffocws pob cyfarfod fydd cynnydd ysgolion sy'n achosi pryder ac effaith y cymorth a roddir iddynt.

(Gweler Atodiad A ar gyfer disgrifiad manylach o briod rolau a chyfrifoldebau ysgolion, cyrff llywodraethu, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac Estyn, gan gynnwys eu sail statudol).

Gwybodaeth arolygu

Prif ddiben arolygiadau yw darparu gwybodaeth wrthrychol, annibynnol a diduedd. Mae'n rhan sylfaenol o atebolrwydd o fewn y system.

Ar yr un pryd, dylid defnyddio'r wybodaeth a ddarperir drwy arolygiadau ac adroddiadau arolygu at bob un o'r tri phrif ddiben gwybodaeth a ddisgrifir yn y canllawiau hyn: Gwella; Atebolrwydd; Tryloywder.

Gwella

Bydd adroddiadau arolygu gwerthusol ar ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn llywio ac yn ategu gwaith gwella dilynol.

Atebolrwydd

Mae arolygiadau ac adroddiadau'n rhoi tystiolaeth bwysig i gyrff llywodraethu, cynghorau awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau consortia rhanbarthol neu gyd-fyrddau cwmnïau i gyflawni eu swyddogaethau atebolrwydd yn eu priod sefydliadau.

Tryloywder

Mae adroddiadau arolygu tryloyw a gyhoeddwyd yn dweud wrth rieni a gofalwyr yn ogystal â chymunedau pa mor dda mae ysgolion unigol a'r system ehangach yn ei wneud.

Rhaid i weithgarwch arolygu Estyn, a chanllawiau arolygu ar gyfer arolygwyr, ystyried yr egwyddorion ynghylch gwerthuso, gwella a'r defnydd a wneir o wybodaeth a nodir yn y canllawiau hyn. Caiff ysgolion eu barnu o fewn eu cyd-destun eu hunain, gan ddefnyddio eu trefniadau hunanwerthuso a'u cynlluniau datblygu eu hunain fel man cychwyn. Bydd cynnydd pob dysgwr, ansawdd cwricwla ac addysgeg ysgolion, yn ogystal â lles yn elfennau pwysig o bob arolygiad.

Fframwaith arolygu Estyn

O fis Chwefror 2022, mae Estyn wedi dechrau treialu fframwaith arolygu ysgolion diwygiedig sy'n cyd-fynd yn agos â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion llwyddiannus o dan Gwricwlwm i Gymru.

Yn dilyn yr argymhellion o ‘Arolygiaeth Dysgu’, caiff dyfarniadau crynodol eu dileu o adroddiadau arolygu. Yn rhy aml, mae prif ddyfarniadau yn gorsymleiddio ac yn cuddio meysydd a chanfyddiadau pwysig. Yn hytrach, caiff dyfarniadau crynodol eu disodli gan werthusiad manylach o waith ysgol mewn adroddiadau, gan roi gwybodaeth well i rieni a gofalwyr, llywodraethwyr ac ysgolion am berfformiad ysgol, ei chryfderau a meysydd i'w gwella. Fodd bynnag, bydd ysgolion y dyfernir eu bod o fewn categorïau statudol mesurau arbennig neu welliant sylweddol yn cael eu nodi'n glir o hyd.

Yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd a'r adborth a gafwyd o arolygiadau peilot ag ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, bydd Estyn yn gwneud gwelliannau a diwygiadau i'r fframwaith cyn cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022. Ar yr adeg hon, bydd Estyn yn ailgydio yn ei raglen arolygu arferol.

Mae’n debygol y bydd fframwaith arolygu ysgolion Estyn yn parhau i ddatblygu dros amser wrth i broses ysgolion o roi diwygiadau’r cwricwlwm ar waith ddatblygu ac yn unol â ffocws Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. O 2024, rydym yn rhagweld y bydd gwybodaeth o arolygiadau a gynhelir yn amlach ar gael yn y system addysg i lywio cynlluniau gwella a chymorth, i roi sicrwydd rheolaidd ac i sicrhau atebolrwydd cadarn i rieni a gofalwyr, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys ysgolion eu hunain, ynghylch y safonau a gyflawnir a'r blaenoriaethau ar gyfer rhagor o welliant.

Y bwriad yw y bydd Estyn yn arolygu ysgolion yn amlach o fewn cyfnod arolygu 6 blynedd o 2024, ddwywaith mewn cylch ar gyfartaledd, ar adegau a bennir gan Estyn. Bydd arolygiadau yn canolbwyntio'n fwy ar allu ysgolion i hunanwerthuso’n effeithiol a hunanwella, ac ar y modd maent yn rhoi diwygiadau'r cwricwlwm ar waith.

Yn yr un modd, bydd Estyn yn arolygu gwasanaethau addysg awdurdodau lleol yn rheolaidd. Caiff gwaith consortia rhanbarthol o ran cefnogi ysgolion ei ystyried drwy arolygiadau awdurdodau lleol unigol yn eu rhanbarth. Dylai'r arolygiadau ganolbwyntio ar ansawdd ac effaith trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd mewn perthynas ag ysgolion ac effeithiolrwydd gwasanaethau awdurdodau lleol a chonsortia i gefnogi ysgolion a dysgwyr. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau atebolrwydd democrataidd wrth gefnogi ysgolion i wella.

Bydd Estyn yn parhau i lunio adroddiadau blynyddol ac adroddiadau thematig. Pan fydd angen, bydd Gweinidogion Cymru yn comisiynu Estyn i gynnal adolygiadau ar agweddau penodol ar gymorth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ar gyfer ysgolion a'r gwaith a wneir gyda nhw. Bydd Estyn hefyd yn llunio adroddiad o gyflwr y genedl bob 3 blynedd, a fydd yn rhoi trosolwg cenedlaethol o rannau amrywiol o'r system addysg. Bydd y rhain ar gael i'r cyhoedd.

Mae gan Estyn rôl allweddol i'w chwarae yn cefnogi ac yn monitro cynnydd tuag at gyflawni ein nod o sicrhau safonau ac uchelgeisiau uchel i bawb, drwy fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad dysgwyr. Bydd yn adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wneir gan ysgolion, colegau a darparwyr eraill yn y maes hwn, yn ogystal â rhoi adborth pellach ar lefel system drwy adolygiadau thematig. Bydd cymorth i ysgolion gyflawni'r nod hwn hefyd yn un o'r nodweddion y bydd arolygiadau Estyn o awdurdodau lleol a'u gwaith ymgysylltu ehangach â chonsortia rhanbarthol yn canolbwyntio mwy arno.

Arolygiadau Adran 50 o ysgolion â chymeriad crefyddol

Mae Deddf Addysg 2005 yn nodi ei bod yn rhaid i gorff llywodraethu unrhyw ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol sefydledig yng Nghymru, y dynodwyd bod iddi gymeriad crefyddol, drefnu bod cynnwys gweithred addoli ar y cyd yr ysgol ac unrhyw addysg grefyddol enwadol a ddarperir i ddysgwyr yn cael eu harolygu.

Rhaid i'r arolygiad adrodd ar gynnwys gweithred addoli ar y cyd yr ysgol ac unrhyw addysg grefyddol enwadol a ddarperir i ddysgwyr. Rhaid iddo hefyd adrodd ar ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol dysgwyr yn yr ysgol.

O ran arolygiadau gan Estyn, bydd arolygiadau adran 50 yn cyflawni swyddogaeth atebolrwydd ar gyfer ysgolion gwirfoddol ac ysgolion sefydledig yng Nghymru, er bod eu cwmpas yn llawer culach. Caiff yr adroddiadau arolygu hefyd eu defnyddio gan ysgolion fel ffynhonnell o dystiolaeth ar gyfer eu hunanwerthusiadau a'u cynlluniau ar gyfer gwella.

O fewn system ysgolion sy'n hunanwella, mae'n bwysig bod y cyrff gwahanol, (yn bennaf ysgolion a chyrff llywodraethu, awdurdodau lleol, a chonsortia rhanbarthol), yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau eu hunain, rolau a chyfrifoldebau cyrff eraill, a'r gydberthynas rhyngddynt. Heb ddealltwriaeth o'r fath, nid yw'r system yn debygol o weithredu'n effeithlon nac yn effeithiol. Hefyd, bydd mwy o debygolrwydd o wrthdaro rhwng y cyrff gwahanol, gan dynnu egni a ffocws oddi wrth y nod sylfaenol o welliant parhaus er budd y dysgwyr.

Cyrff llywodraethu ac ysgolion

Mae gan ysgolion rôl ganolog yn ysgogi gwelliannau mewn ansawdd dysgu a'r cynnydd a'r lles a gyflawnir gan bobl ifanc. Mae ganddynt hefyd gyfrifoldeb i ysgogi eu gwelliant eu hunain drwy hunanwerthuso, rheoli perfformiad a chynllunio gwelliannau, ac am wneud y defnydd gorau o'r cymorth sydd ar gael iddynt.

Cyrff llywodraethu ysgolion sy'n gyfrifol am y gwaith o redeg eu hysgolion; ac mae ‘Deddf Addysg 2002’ yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau bod eu hysgolion yn cael ei rhedeg mewn ffordd sy'n hyrwyddo safonau uchel o ran cyflawniad addysgol. Felly, mae eu rôl yn cynnwys sicrhau bod gan ysgolion brosesau effeithiol ar gyfer adolygu perfformiad mewn perthynas â'u nodau a'u hamcanion, gan nodi blaenoriaethau gwella, gweithredu a monitro cynnydd gyda'r nod o godi safonau a gwella lefelau lles. Dylai'r gydberthynas rhwng yr awdurdod lleol a'r corff llywodraethu gefnogi'r rôl hon.

Yn gyffredinol, dylai'r corff llywodraethu gyflawni ei swyddogaethau gyda'r nod o gyflawni rôl strategol eang yn y gwaith o redeg yr ysgol.

Mae rôl strategol yn golygu mai'r corff llywodraethu sy'n penderfynu ar yr hyn y mae am i'r ysgol ei gyflawni ac sy'n pennu'r fframwaith strategol ar gyfer hynny. Dylai sefydlu'r fframwaith strategol drwy wneud y canlynol:

  • pennu nodau ac amcanion i'r ysgol
  • mabwysiadu polisïau ar gyfer cyflawni'r nodau ac amcanion hynny
  • pennu targedau ar gyfer cyflawni'r nodau ac amcanion hynny
  • adolygu cynnydd tuag at gyflawni'r nodau ac amcanion

Y pennaeth, ynghyd ag uwch aelodau eraill o'r staff, sy'n gyfrifol am arweinyddiaeth, cyfeiriad a rheolaeth yr ysgol o fewn y fframwaith strategol a bennwyd gan y corff llywodraethu. Y pennaeth sy'n gyfrifol am drefniadaeth a rheolaeth fewnol yr ysgol; ac am gynghori ar fframwaith strategol y corff llywodraethu a'i roi ar waith. Yn benodol, mae penaethiaid yn llunio nodau ac amcanion, polisïau a thargedau gyda'r corff llywodraethu, er mwyn i'r corff llywodraethu ystyried eu mabwysiadu; ac yn cyflwyno adroddiad ar gynnydd i'r corff llywodraethu bob tymor.

Awdurdodau lleol

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau eang mewn perthynas ag addysg. Mae ganddynt ddyletswydd gyffredinol i gynnal ysgolion a gynhelir perthnasol o dan adran 22 o ‘Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998’. Mae ganddynt hefyd amrywiaeth o swyddogaethau goruchwylio, sy'n cynnwys:

  • cyfrifoldeb cyffredinol am addysg yn eu hardal drwy gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol, moesol, meddyliol a chorfforol y gymuned drwy sicrhau bod addysg gynradd ac uwchradd effeithlon ar gael i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn eu hardal. [cyfieithiad o Adran 13 o Ddeddf Addysg 1996]
  • Dyletswydd i hyrwyddo safonau uchel, a chyflawni potensial i ddysgu, wrth gyflawni eu swyddogaethau addysg. [cyfieithiad o Adran 13A o Ddeddf Addysg 1996]

Er mai cyrff llywodraethu sy'n gyfrifol am arwain ysgolion, awdurdodau lleol sy'n ‘cynnal’ ysgolion, sy'n golygu bod ganddynt fuddiant mewn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n dda a bod ysgolion yn ardal yr awdurdod, ar y cyfan, yn cyflawni darpariaeth effeithiol ac effeithlon. Felly, dylai awdurdodau lleol gefnogi cyrff llywodraethu i arwain ysgolion drwy roi cyngor ac adnoddau.

Caiff y gydberthynas rhwng awdurdod ac ysgol ei chofnodi mewn cytundeb partneriaeth, sy'n nodi'r ffordd y bydd awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol yn gweithredu i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol, yn unol â Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Cytundebau Partneriaeth) (Cymru) 2007, lunio cytundeb partneriaeth unigol â phob corff llywodraethu.

Consortia rhanbarthol

Sefydlwyd consortia rhanbarthol gan awdurdodau lleol, gydag anogaeth Llywodraeth Cymru. Eu rôl sylfaenol yw darparu gwasanaethau ar ran awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion, gan helpu i greu system ysgolion sy'n hunanwella, gyda chydweithio rhwng pob elfen o'r system wrth ei gwraidd.

Nod ‘y model cenedlaethol ar gyfer gweithio'n rhanbarthol’ (y model cenedlaethol), a sefydlwyd gyntaf yn 2013, oedd arwain datblygiadau yn y system gwella ysgolion drwy ddiffinio'r gweithgareddau y byddai consortia rhanbarthol yn eu cyflawni ar ran awdurdodau lleol, yn ogystal â'r trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd angenrheidiol. Roedd yn cydnabod y byddai amrywiadau strwythurol a gweithredol rhwng y 4 rhanbarth, a bod yr hyblygrwydd hwn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y gall consortia ddiwallu anghenion penodol eu rhanbarthau eu hunain.

Gan mai cyrff anstatudol yw consortia rhanbarthol, nid oes unrhyw swyddogaethau na dyletswyddau addysg statudol wedi'u trosglwyddo iddynt gan awdurdodau lleol. Er enghraifft, awdurdodau lleol sydd â'r ddyletswydd i hyrwyddo safonau uchel, fel y cyfeirir uchod, o hyd. Mae hyn wedi arwain at densiynau yn y system, er nad ym mhob rhanbarth o reidrwydd, a gaiff eu gwaethygu gan ddiwylliant o atebolrwydd lle mae llawer yn y fantol yr ydym yn awyddus i droi cefn arno. Nid yw hyn yn fuddiol i ysgolion nac, yn bwysicach, i blant a phobl ifanc.

Nod y canllawiau hyn yw symud y tu hwnt i'r model cenedlaethol er mwyn rhoi eglurder i awdurdodau lleol a rhanbarthau ynghylch eu rôl wrth gefnogi gwelliant yn ein hysgolion, yn ogystal â rhoi atebolrwydd ar waith o fewn y system.

Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd o hyd, o dan Fesur Addysg (Cymru) 2011, i bennu o bryd i'w gilydd a fyddai arfer eu pwerau ar y cyd yn datblygu'r ‘amcan cydweithio’. Caiff yr amcan hwn ei ddiffinio fel ‘bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon gan gorff addysg mewn cysylltiad â darparu addysg a hyfforddiant sy'n addas at anghenion personau nad ydynt eto'n 19 oed’. Lle y daw awdurdod lleol i'r casgliad y byddai cydweithio'n datblygu'r amcan hwn, rhaid iddo geisio cydweithio. Yn amlwg, mae cydweithio ag awdurdodau lleol eraill drwy gonsortia rhanbarthol, neu drefniadau partneriaeth ffurfiol arall, yn ffordd o gyflawni'r ddyletswydd hon. Felly, mae'n arbennig o bwysig i awdurdodau lleol sy’n dewis gweithredu y tu allan i gonsortiwm neu bartneriaeth ranbarthol allu dangos eu bod yn parhau i gyflawni'r ddyletswydd hon.

Roedd ‘Cenhadaeth ein cenedl’ yn glir, er mwyn i ni fod yn llwyddiannus, bod angen i bob rhan o'r system addysg ymrwymo i gydweithio'n effeithiol ac ymgysylltu'n onest. Er nad yw hyn yn galw am ddulliau gweithredu unffurf ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, mae'n golygu bod angen bod yn agored ac yn eglur ag ysgolion ynghylch pwy fydd yn gwneud beth, yn unol â'r egwyddorion yn y canllawiau hyn.

Gwyddom y gall consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid sy'n gweithio mewn partneriaeth gael effaith bwerus ar wella ysgolion. Er mwyn llwyddo, rhaid i bartneriaeth o'r fath fod yn seiliedig ar gydnabyddiaeth gan y 2 ochr o swyddogaethau a chyfraniadau'r naill a'r llall, ynghyd ag ymddiriedaeth.

Awdurdodau esgobaethol

Mae awdurdodau esgobaethol yn goruchwylio ac yn cefnogi ysgolion â chymeriad crefyddol er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu gan gydymffurfio â dysgeidiaethau a rheolaethau eu Heglwys. Maent yn cefnogi gweithgarwch dysgu proffesiynol eu hysgolion, er enghraifft mewn meysydd sy'n gysylltiedig â lles, ysbrydolrwydd a datblygu'r cwricwlwm. Yn ogystal, mae awdurdodau esgobaethol yn penodi llywodraethwyr ysgol sefydledig os cânt eu henwi yn offeryn llywodraethu corff llywodraethu'r ysgol, gan roi dealltwriaeth dda iddynt o effeithiolrwydd prosesau arwain a llywodraethu yn eu hysgolion.

O ystyried ystod eu hymwneud ag ysgolion sydd â chymeriad crefyddol, dylai awdurdodau esgobaethol chwarae rôl yn cefnogi eu prosesau gwerthuso a gwella, gan weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

Estyn

Mae Estyn yn un o gyrff y goron, sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, a arweinir gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Mae gan Estyn 3 amcan:

  1. Darparu atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth ar ansawdd a safonau darpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru drwy weithgarwch arolygu. Mae'n arolygu nifer o sectorau gwahanol, gan gynnwys ysgolion ac awdurdodau lleol.
  2. Llywio datblygiad polisi cenedlaethol drwy roi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae'r rhain yn cynnwys adroddiadau thematig wedi'u comisiynu; Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru; a chymryd rhan mewn diwygiadau ym myd addysg a datblygu polisïau.
  3. Meithrin gallu i wella a chyflwyno system addysg a hyfforddiant yng Nghymru drwy dystiolaeth o arolygiadau; hyrwyddo'r broses o rannu arferion da drwy astudiaethau achos; rhannu gwybodaeth; a dathlu arferion rhagorol.

Cyd-bwyllgorau corfforedig

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn sicrhau dull cyson a strwythur llywodraethu i hwyluso gwaith rhanbarthol ymysg awdurdodau lleol, trwy gyd-bwyllgorau corfforedig. Yn wahanol i gonsortia rhanbarthol presennol, mae gan gyd-bwyllgorau corfforedig bersonoliaeth gyfreithiol, sy'n eu galluogi i gael swyddogaethau wedi'u breinio iddynt drwy ddeddfwriaeth, i gyflogi staff yn uniongyrchol ac i reoli a chynnal cyllidebau.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol roi statws statudol i'w trefniadau rhanbarthol presennol i wella ysgolion os byddant yn dymuno. Mae hefyd yn eu galluogi i gynnwys gweithgareddau addysg ehangach o fewn cwmpas gwaith rhanbarthol pan fydd hynny'n cynnig manteision clir. Byddai angen i Weinidogion Cymru gytuno ar unrhyw gynigion gan awdurdodau lleol.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru geisio sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig sy'n gyfrifol am ‘wella addysg’. Byddai cyd-bwyllgor corfforedig sy'n gyfrifol am wella addysg yn rhoi mwy o eglurder ynghylch atebolrwydd ar gyfer swyddogaethau gwahanol yn rhanbarthol ac yn lleol. Gallai Gweinidogion arfer y pŵer hwn er mwyn sicrhau mwy o gysondeb yn y cymorth rhanbarthol a roddir i ysgolion, yn arbennig lle y gallai hyn helpu i wella effeithiolrwydd y cymorth rhanbarthol ei hun.

(https://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2014/2677/schedule/made/welsh)

Cynnwys cynllun datblygu ysgol

Blaenoriaethau gwella'r ysgol

1.— (1) Blaenoriaethau gwella’r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol.

(2) Blaenoriaethau gwella’r ysgol ar gyfer y ddwy flynedd ysgol yn union ar ôl y flwyddyn ysgol gyfredol.

(3) Wrth osod blaenoriaethau gwella’r ysgol rhaid i’r corff llywodraethu ystyried y blaenoriaethau cenedlaethol.

Targedau gwella’r ysgol, deilliannau disgwyliedig a strategaeth

2. Datganiad byr yn nodi targedau gwella’r ysgol a deilliannau disgwyliedig a strategaeth y corff llywodraethu i gyflawni’r targedau hynny.              

Strategaeth datblygu proffesiynol

3. Manylion am strategaeth y corff llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol o ran sut y bydd yn hyrwyddo datblygiad proffesiynol staff yr ysgol er mwyn cyflawni targedau gwella’r ysgol.

Gweithio gyda'r gymuned

4. Manylion am sut y bydd y corff llywodraethu yn ceisio cyflawni targedau gwella’r ysgol ar gyfer y flwyddyn gyfredol drwy weithio gyda—

(a) disgyblion yn yr ysgol a’u teuluoedd; a

(b) pobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal y mae’r ysgol wedi ei lleoli ynddi.

Staff yr ysgol ac adnoddau’r ysgol

5. Manylion am sut y bydd y corff llywodraethu yn gwneud y defnydd gorau-

(a) o staff presennol yr ysgol ac adnoddau presennol yr ysgol (gan gynnwys ei hadnoddau ariannol) er mwyn cyflawni targedau gwella’r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol; a

(b) o staff yr ysgol ac adnoddau’r ysgol (gan gynnwys adnoddau ariannol) y mae’r corff llywodraethu yn rhagweld y byddant ar gael iddo er mwyn cyflawni targedau gwella’r ysgol ar gyfer y ddwy flynedd ysgol nesaf yn union ar ôl y flwyddyn ysgol gyfredol.

Targedau blaenorol

6. Datganiad byr yn nodi’r graddau y cafodd targedau gwella’r ysgol eu cyflawni ar gyfer y flwyddyn ysgol flaenorol gan ddechrau gyda blwyddyn ysgol 2015 i 2016 a phan na chawsant eu cyflawni’n llawn esboniad byr yn nodi’r rhesymau dros y methiant hwnnw.

Gweithio gyda chymheiriaid yw partneriaeth ac ymwneud gweithredol ymarferwyr presennol ym mhroses hunanwerthuso a gwella ysgol a gefnogir gan gynghorydd gwella'r ysgol. Mae'n cynnig safbwynt ychwanegol ac yn cynnwys partneriaid mewn deialog adeiladol er mwyn cefnogi gwelliant parhaus er budd y dysgwyr.

Diben gweithio gyda chymheiriaid yw gwella deilliannau pob dysgwr drwy'r canlynol:

  • gwella cywirdeb yr hunanwerthuso gan ddefnyddio'r adnodd cenedlaethol
  • nodi cryfderau, gwendidau a meysydd i'w gwella yn gywir
  • cyfrannu at gryfhau cymorth a chamau gweithredu, drwy nodi gofynion cymorth yn effeithiol
  • hwyluso cydweithio ym mhob rhan o'r system ysgolion
  • gwella gallu arweinwyr ym mhob rhan o'r system i hunanwerthuso'n gywir

Mae gweithio gyda chymheiriaid...

  • yn broses gydweithredol
  • yn werthusol, yn gefnogol ac yn ddatblygiadol
  • yn safbwynt allanol gan gyd-ymarferwyr
  • yn gyfle ar gyfer dysgu ac ymholi proffesiynol parhaus ac ystyrlon
  • yn broses i bob ysgol
  • yn rhan annatod o'r cylch gwerthuso a gwella
  • yn broses sy'n canolbwyntio ar gynllunio a chyflawni ar gyfer gwella
  • yn ymatebol i anghenion yr ysgol

Nid yw gweithio gyda chymheiriaid...

  • yn broses a gaiff ei gwneud i'r ysgol
  • yn beirniadu
  • yn arolygiad
  • yn fodel gwella cyfarwyddiadol
  • ar gyfer nifer dethol o ysgolion
  • yn broses sy'n digwydd ar ei phen ei hun
  • yn broses fiwrocrataidd sy'n cymryd llawer o amser
  • yn broses sydd yr un peth i bawb

Mae egwyddorion allweddol pwysig ar gyfer gweithio'n effeithiol gyda chymheiriaid:

  • Mae angen i weithio gyda chymheiriaid fod yn ymrwymiad parhaus i wella arferion a systemau'n barhaus drwy gylchoedd o ymholi ar y cyd (wrth i'r system aeddfedu).
  • Dylai gweithio gyda chymheiriaid fod yn broses gadarn a gefnogir gan ddeialog broffesiynol adeiladol.
  • Dylai'r broses o weithio gyda chymheiriaid fynd y tu hwnt i arweinwyr ysgol, i gynnwys y gymuned ysgol gyfan.
  • O fewn y broses o weithio gyda chymheiriaid, mae tryloywder, ymddiriedaeth a gonestrwydd yn rhwymedigaeth broffesiynol.
  • Dylai pawb sy'n rhan o'r broses gydweithio â phob cyfranogwr gan deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn llawn cymhelliant ac yn gyfrifol, a chael cyfle i gyfrannu at ganlyniadau cyfunol y broses.
  • Parodrwydd ac ymrwymiad i ddysgu o amrywiaeth o safbwyntiau beirniadol.

Mae ymddygiadau allweddol pwysig ar gyfer gweithio'n effeithiol gyda chymheiriaid:

  • Caiff y broses ei chynnal ag uniondeb ac ymddiriedaeth a dylai helpu'r ysgol i nodi ei blaenoriaethau ar gyfer gwella.
  • Bydd yr holl drafodaethau yn gyfrinachol, a bydd unrhyw ddogfennau a gaiff eu creu yn eiddo i'r ysgol.
  • Dylai pob partner ymuno â'r broses ag ymrwymiad i ddysgu o'r broses.