Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda thîm Google for Education UK i ddatblygu system i gofrestru dyfeisiau Chromebook i ysgolion ar barth hwbcymru.net.
Bydd yr holl waith caffael yn cael ei wneud rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid Google. Rydym yn annog ysgolion i drafod gyda'u hawdurdod lleol cyn prynu dyfeisiau Chromebook a/neu drwyddedau.
Mae tri opsiwn cofrestru ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
- 'Gwasanaeth cyflawn' - Ysgolion yn prynu dyfeisiau Chromebook a thrwyddedau rheoli dyfeisiau gan bartner Google, i gofrestru ar barth hwbcymru.net.
- 'Gwasanaeth cofrestru' - Ysgolion sydd â dyfeisiau Chromebook heb eu rheoli, sy'n dymuno eu rheoli ar barth hwbcymru.net, ac sydd angen prynu trwyddedau rheoli dyfeisiau gan bartner Google.
- 'Gwasanaeth trosglwyddo' - Ysgolion â dyfeisiau Chromebook sydd wedi cofrestru ar barth gwahanol i hwbcymru.net ar hyn o bryd sydd am drosglwyddo.
Dangosfwrdd Rheoli Dyfeisiau Chromebook Hwb
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Porthol Rheoli Defnyddwyr sy'n cael ei ddefnyddio gan ysgolion ar draws Cymru i reoli agweddau ar ddefnyddwyr a dyfeisiau sydd wedi'u cysylltu â pharth hwbcymru.net.
Gall partneriaid Google gysylltu â Desg Gymorth Hwb (hwb@llyw.cymru) i gael manylion mewngofnodi i'r Porth Rheoli Defnyddwyr gyda mynediad at Dangosfwrdd Rheoli Dyfeisiau Chromebook Hwb.
Mae canllaw ar gyfer partneriaid Google ar gael o Ddesg Gwasanaeth Hwb.
Gwasanaeth cyflawn
Prynu a chofrestru dyfeisiau Chromebook newydd
Ysgolion yn prynu dyfeisiau Chromebook a thrwyddedau rheoli dyfeisiau gan bartner Google, i gofrestru ar barth hwbcymru.net.
Camau:
- Ysgol yn prynu dyfeisiau Chromebook a thrwyddedau rheoli dyfeisiau.
- Mae'r ysgol yn trefnu bod prawf o bryniant yn cael ei anfon at Ddesg Gwasanaeth Hwb (hwb@llyw.cymru).
- Mae Desg Gwasanaeth Hwb yn galluogi cyfrif cofrestru ac yn hysbysu partner Google.
- Partner Google yn cofrestru'r dyfeisiau Chromebook.
- Dyfeisiau Chromebook yn cael eu hanfon i'r ysgol yn barod i'w defnyddio.
Gwasanaeth cofrestru
Cofrestru dyfeisiau Chromebook heb eu rheoli
Ysgolion sydd â dyfeisiau Chromebook heb eu rheoli, sy'n dymuno eu rheoli ar barth hwbcymru.net, ac sydd angen prynu trwyddedau rheoli dyfeisiau gan bartner Google.
Camau:
- Ysgol yn caffael trwyddedau rheoli dyfeisiau.
- Mae'r ysgol yn trefnu bod prawf o bryniant yn cael ei anfon at Ddesg Gwasanaeth Hwb (hwb@llyw.cymru).
- Mae Desg Gwasanaeth Hwb yn galluogi cyfrif cofrestru ac yn hysbysu partner Google.
- Partner Google yn ffurfweddu a chofrestru dyfeisiau Chromebook yn yr ysgol.
Gwasanaeth trosglwyddo
Trosglwyddo trwyddedau rheoli dyfeisiau Chromebook
Ysgolion â dyfeisiau Chromebook sydd wedi cofrestru ar barth gwahanol i hwbcymru.net ar hyn o bryd sydd am drosglwyddo.
- Ysgol yn trafod â phartner Google ynghylch trosglwyddo.
- Mae'r ysgol yn trefnu bod prawf o drosglwyddo trwydded yn cael ei anfon i Ddesg Gwasanaeth Hwb (hwb@llyw.cymru).
- Mae Desg Gwasanaeth Hwb yn galluogi cyfrif cofrestru ac yn hysbysu partner Google.
- Partner Google yn rheoli trosglwyddiad Chromebook.
Cymorth pellach
Mae manylion llawn ar gael yng Nghanolfan Gymorth Hwb.
Gellir cael cymorth pellach drwy gysylltu â Desg Gymorth Hwb hwb@llyw.cymru | 03000 25 25 25.