Taith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol: rolau a chyfrifoldebau allweddol
Er mwyn helpu ysgolion i ddeall rôl y gwahanol bartïon sy’n ymwneud â’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu’r crynodeb lefel uchel canlynol o’r gwahanol gyfrifoldebau.
Mae’r wybodaeth hon yn BETA ac eto i’w chwblhau’n derfynol. Bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.
Ymrwymiadau Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol yn rheolaidd. Bydd adolygiadau mynych yn sicrhau bod amcanion a gweithgareddau’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol a rhaglen Hwb yn cyd-fynd â’r gofynion datblygu digidol parhaus mewn ysgolion. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i:
- sicrhau cynnal a chadw parhaus ar y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol ac adnewyddu cynnwys cysylltiedig
- datblygu adnoddau parhaus i gefnogi ysgolion gyda’r gorchwyl o weithredu’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol
- hyrwyddo datblygiadau parhaus a rhoi gwybod amdanynt
- gweithio gyda chonsortia rhanbarthol i sicrhau cefnogaeth barhaus i’r rhaglen
- parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac adolygu effaith y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol yn rheolaidd
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo i gefnogi awdurdodau lleol yn unigol ac ar y cyd yn unol ag amcanion strategol rhaglen Hwb. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i:
- ddatblygu a gweithredu dull strategol a chynaliadwy o ymgorffori gwasanaethau digidol ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru
- sicrhau bod seilwaith cenedlaethol addas ar waith i gefnogi anghenion ysgolion yn gyson wrth gyrchu a defnyddio gwasanaethau digidol
- cefnogi trawsnewid addysg yn ddigidol drwy ddarparu gwasanaethau digidol dwyieithog
- parhau i gefnogi ysgolion i ddiogelu dysgwyr yng Nghymru
- cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i wella gallu a sgiliau digidol
Ymrwymiadau’r consortia rhanbarthol
Mae gan y consortia rhanbarthol rôl allweddol wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau llwyddiant y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol. Yn benodol, mae’r consortia rhanbarthol yn ymrwymo i:
- ddarparu rhaglenni dysgu a chymorth proffesiynol sy’n ymwneud â dysgu digidol mewn ysgolion
- curadu, datblygu a rhannu adnoddau enghreifftiol ac arferion gorau ar arweinyddiaeth ddigidol, dysgu digidol a gweithredu cymhwsyedd digidol
- hwyluso cydweithio a rhwydweithio rhwng ysgolion i rannu arferion gorau
Ymrwymiadau awdurdod lleol
Mae’r awdurdod lleol wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn unol â’r cyfrifoldebau am raglen newid technoleg addysg yn lleol. Yn benodol, mae’r awdurdod lleol yn ymrwymo i:
- weithredu fel Partner Cyflawni Digidol Strategol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yn eu hardal;
- darparu arweinydd enwebedig a thîm/swyddogaeth ymroddedig i symleiddio modelau cymorth technoleg addysg ysgolion a darparu swyddogaeth cwsmeriaid deallus ganolog i gynorthwyo penaethiaid i ddeall a gweithredu eu gofynion TGCh
- hyrwyddo rhaglen Hwb a sicrhau bod y deilliannau allweddol yn cael eu cefnogi o fewn yr awdurdod lleol ac ar draws ysgolion a gynhelir
- darparu cyfrifoldeb rheoli am ddarparu gwasanaethau a mentrau Hwb fel yr amlinellir yn y trosolwg strategol o raglen Hwb
- hwyluso’r broses o gaffael cyfarpar TGCh er mwyn sicrhau bod y cyfarpar yn addas i’r diben, yn darparu gwerth am arian ac yn sicrhau pryniant drwy lwybr sy’n cydymffurfio (cefnogi’r egwyddor Unwaith i Gymru)
- cynnal adolygiadau strategol rheolaidd o ysgolion i bwysleisio pwysigrwydd TGCh fel y pedwerydd cyfleustod a sicrhau bod cynaliadwyedd cyfarpar a gwasanaethau yn cael ei gynllunio a’i reoli’n strategol mewn ysgolion
Ymrwymiadau ysgolion
Mae cyrff arwain a llywodraethu ysgolion yn gyfrifol am:
- sefydlu a gwireddu gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol drwy gynllun datblygu’r ysgol (gan gynnwys cymhwysedd staff a dysgwyr) ac sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru
- sicrhau bod strwythurau priodol ar waith ar gyfer arweinyddiaeth ddigidol effeithiol
- datblygu cymhwysedd digidol o fewn trefniadau cwricwlwm yr ysgol
- datblygu’r defnydd o dechnoleg i wella dysgu ac addysgu
- adolygu arferion presennol a bwydo deilliannau i flaengynllunio
- ymgysylltu â grwpiau llywodraethu technoleg addysg awdurdodau lleol i gefnogi cyfeiriad seilwaith a gwasanaethau technoleg addysg yn y dyfodol
- ymgysylltu â chonsortia rhanbarthol i sicrhau bod cyfleoedd cwricwlwm digidol priodol yn cael eu darparu, wedi’u llywio gan eu gwaith blaengynllunio
- sicrhau cyfleoedd dysgu proffesiynol digidol i bob ymarferydd
- ymgysylltu â chyfleoedd cydweithio i ddatblygu arbenigedd a rhannu ymarfer enghreifftiol (e.e. drwy blatfform Hwb).