Addysgeg
Mae addysgeg wrth wraidd cwricwlwm a gyda'n gilydd mae angen i ni i gyd ddatblygu dealltwriaeth dyfnach ohoni wrth i'n meddylfryd a'n harferion newid wrth wireddu'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae angen i'n dealltwriaeth o addysgeg gael ei lywio gan y gwerthoedd a'r agweddau sy'n deillio o gwricwlwm sy'n seiliedig ar ddibenion. Bydd hyn yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn meddwl am addysgu, dysgu a chynnydd ac yn darparu sylfaen gref ar gyfer hybu arloesi a pharhau i wella.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am y ffordd yr ydym yn cydweithio ar draws clystyrau a'n rhwydweithiau ledled Cymru i ddatblygu ein dealltwriaeth o addysgeg. Mae'n tynnu sylw at yr hyn sydd ar gael i'n cefnogi wrth i ni gymryd ein camau nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol, Prifysgolion a'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cydweithio i gefnogi ysgolion a lleoliadau i fuddsoddi yn sgiliau ymholi ac addysgeg effeithiol yr holl staff. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfleoedd i 'drafod addysgeg', archwilio'r strategaethau sy'n cefnogi'r dysgu a dyfnhau eu dealltwriaeth o'r 12 egwyddor addysgegol. Mewn cydweithrediad ag ysgolion a lleoliadau, rydym yn cydweithio i:
Sefydlu a datblygu rhwydweithiau i feithrin cysylltiadau a chefnogi rhyngweithio
- Mae rhwydweithiau rhanbarthol a gweithio mewn clystyrau lleol yn rhoi cyfle i arweinwyr ac ymarferwyr gymryd rhan mewn trafodaethau a gwaith ymholi proffesiynol i archwilio'r egwyddorion addysgegol ac agweddau penodol ar ymarfer sy'n diwallu anghenion penodol.
- Yn genedlaethol, darperir cyfleoedd i arweinwyr ac ymarferwyr weithio gydag eraill o bob rhan o Gymru drwy ddigwyddiadau a gweithdai cydweithredol.
- Mae'r man digidol ar gyfer Trafod Addysgeg yn cynnig lle canolog i rannu adnoddau a all ysgogi sgwrs, syniadau a gwaith ymholi.
Cynnal ymchwil a gwaith ymholi i ddatblygu addysgeg, addysgu a dysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- Mae dull cenedlaethol yn datblygu sy'n dwyn ynghyd prifysgolion, consortia rhanbarthol, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ac ysgolion i lunio a churadu ymchwil a gwaith ymholi sy'n gysylltiedig ag addysgeg. A hynny er mwyn deall y newid mewn addysgeg yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru.
- Bydd y dull hwn yn helpu i gofnodi hanes addysgeg yng Nghymru wrth i ni wireddu'r cwricwlwm newydd a datblygu adnoddau i gefnogi gwaith myfyrio ac ymholi mewn ysgolion yn uniongyrchol.
Hwyluso dysgu proffesiynol i ddatblygu ein dealltwriaeth o addysgeg a chefnogi ein taith drawsnewidiol
- Mae rhaglenni a chyfleoedd yn cael eu datblygu mewn cydweithrediad â chonsortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, prifysgolion, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a phartneriaid eraill i sicrhau dull cyffredin o ymdrin ag addysgeg. Hynny yw, dull sy'n gysylltiedig â dysgu proffesiynol, ac sydd hefyd yn cydnabod yr amrywiaeth o anghenion lleol a rhanbarthol.
Mae'r tabl yn yr atodiad isod yn darparu nifer o awgrymiadau i gefnogi ysgolion i fyfyrio ar eu dealltwriaeth o addysgeg. Gellir ei ddefnyddio i drafod yn fewnol gyda staff a chyda swyddogion gwella i helpu i nodi'r gweithgareddau a'r adnoddau priodol y gellir eu defnyddio i ddatblygu eu dealltwriaeth o addysgeg ymhellach.
Myfyrio ar addysgeg: cwestiynau i'w hystyried
-
- A oes gan eich ysgol ddealltwriaeth cyffredin o addysgeg sy'n helpu i gefnogi cynllunio profiadau dysgu?
- A yw eich gweledigaeth ar gyfer addysgeg yn effeithio ar yr amgylchedd cymdeithasol, emosiynol a naturiol ar gyfer dysgu ar draws eich ysgol?
- A oes dealltwriaeth cyffredin o sut mae'r 12 Egwyddor Addysgegol yn cefnogi syniadau am ddysgu ac yn cael eu defnyddio i lywio addysgu effeithiol dros amser yn unol â'ch gweledigaeth?
- A oes iaith ddysgu gyffredin ar draws eich ysgol?
-
A yw'r amser a'r lle ar gyfer dysgu proffesiynol yn cael blaenoriaeth i alluogi buddsoddi yn y sgiliau sydd eu hangen ar staff ar gyfer addysgeg a gwaith ymholi er mwyn:
- datblygu profiadau dysgu sy'n troi eich gweledigaeth ar gyfer addysgeg yn ymarfer?
- dyfnhau dealltwriaeth o'r 12 egwyddor addysgegol?
- archwilio sut mae gweledigaeth yr ysgol ar gyfer addysgeg a dysgu yn trosglwyddo i bob maes dysgu a phrofiad?
- archwilio dulliau addysgu sy'n berthnasol i'r sgiliau cyfannol?
- hyrwyddo amgylchedd dysgu sy'n cefnogi eich gweledigaeth ar gyfer dysgu?
-
- A ddarperir cyfleoedd ar gyfer deialog broffesiynol a rhannu syniadau sy'n gysylltiedig ag addysgeg?
- A yw staff yn cael cyfleoedd i ymgymryd â gwaith ymholi proffesiynol cydweithredol fel y bo'n briodol?
- A yw'r strategaethau a ddefnyddir ar wahanol gamau dysgu yn arwain at gynnydd?
-
- Sut mae staff yn cydweithio ac yn rhannu syniadau am addysgeg a'r ffordd y mae'r syniadau hynny'n datblygu gyda chydweithwyr eraill ar draws yr ysgol?
- A oes systemau ar gyfer rhannu syniadau ac ymarfer mewn perthynas ag addysgeg?
- A yw sgwrs bwrpasol a rhannu syniadau ac arferion yn cael eu hymgorffori mewn cyfarfodydd a sgyrsiau ar ddysgu proffesiynol?
-
- I ba raddau y mae dealltwriaeth cyffredin o addysgeg yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru ar draws eich clwstwr lleol o ysgolion?
- A oes gan unigolion ar draws yr ysgol gyfle i ymgysylltu â rhwydweithiau rhanbarthol a rhaglenni sy'n canolbwyntio ar addysgeg pan fo hynny'n briodol?
- A ydych chi'n ymwybodol o'r hyn sydd ar gael i ysgogi trafodaeth a hyrwyddo gwaith ymholi yn y man digidol ar gyfer Trafod Addysgeg?
-
- Sut mae arweinwyr ar draws yr ysgol yn cael eu cefnogi i ddatblygu arweinyddiaeth strategol ym maes addysgeg?
- A yw arweinwyr yn cefnogi amgylchedd lle mae dysgu a rennir yn cael ei gefnogi?
- A oes diwylliant o ymddiriedaeth sy'n cefnogi'r cyflwr o fod yn broffesiynol?
- A yw gwaith ymholi'n cael ei ddefnyddio i helpu i ymchwilio'n ddyfnach er mwyn deall beth sy'n gweithio i'ch dysgwyr a pha ddatblygiadau sydd eu hangen?
- Gellid myfyrio ar y cwestiynau a amlinellir yn yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella, pa mor dda y mae arweinyddiaeth yn dylanwadu ar ddysgu ac addysgu a'i wella?