English

3. Dysgu proffesiynol iaith Gymraeg

Mae amrywiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar gael i ymarferwyr feithrin eu sgiliau Cymraeg.

 

 

Mae gan y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg rôl ganolog i'w chwarae wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg ymarferwyr a'u gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Cynllun yn darparu methodoleg a hyfforddiant Cymraeg i athrawon a chynorthwywyr dosbarth ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ledled Cymru.

Mae'r Cynllun yn rhoi cyfle i ymarferwyr wneud y canlynol:

  • gwella eu sgiliau Cymraeg
  • dysgu terminoleg penodol i bynciau
  • sicrhau bod ganddynt yr ymwybyddiaeth a'r hyder i ddefnyddio methodolegau cyfrwng Cymraeg a rhai dwyieithog

Mae'r Cynllun ar agor i ymarferwyr sy'n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae cyrsiau ar gael ar sawl lefel. Mae'n bosibl y caiff ceisiadau gan staff cyflenwi eu hystyried yn dibynnu ar amodau penodol.

Mae pob cwrs yn rhad ac am ddim. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn talu grant tuag at gostau staff cyflenwi ac yn ad-dalu unrhyw gostau teithio ychwanegol y bydd y bobl sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn mynd iddynt. Mae'r cynllun yn cynnig y cyrsiau canlynol ar hyn o bryd:

‘Cymraeg Mewn Blwyddyn’

Cafodd y cwrs hwn ei gynllunio ar gyfer athrawon ysgol gynradd sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg. Mae'n darparu hyfforddiant dros gyfnod o flwyddyn academaidd gyfan, gan arwain at siaradwyr sy'n mynegi eu hunain yn rhugl ac yn ramadegol gywir yng nghyd-destun dysgu ac addysgu. Ei nod yw datblygu arweinwyr pwnc a fydd yn cynllunio'r defnydd o'r Gymraeg yn eu hysgolion yn unol â gofynion strategol y consortiwm rhanbarthol gan ddefnyddio methodolegau addysgu'r Gymraeg a gydnabyddir yn arferion gorau yn broffesiynol. 

Mae'r cwrs yn meithrin sgiliau Cymraeg ymarferwyr a'u gallu i siarad yr iaith a'i hysgrifennu yn hyderus mewn gwahanol sefyllfaoedd wrth ddarparu addysg Cymraeg ail iaith yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau iaith ymarferwyr i sicrhau y byddant yn gallu datblygu'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio a'i haddysgu yn eu hysgolion. Mae'n edrych yn benodol ar ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm a rhoi cyfle i ymarferwyr weithio'n strategol i ddatblygu dwyieithrwydd yn eu hysgolion. Caiff ymarferwyr gyfle i baratoi adnoddau a chyflwyno gwersi trawsgwricwlaidd yn unol â meysydd dysgu'r cwricwlwm newydd yn ogystal â meithrin sgiliau i'w galluogi i asesu disgyblion a rhoi adborth ar iaith iddynt.

Lefel uwch

Mae cyrsiau lefel uwch wedi'u hanelu at bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl, naill ai'n siaradwyr iaith gyntaf neu'n ddysgwyr rhugl, ond nad ydynt yn meddu ar yr hyder na'r derminoleg arbenigol yn Gymraeg i ddefnyddio'r sgiliau hyn mewn cyd-destun proffesiynol.

Mae'r cyrsiau yn cynnig i ymgeiswyr y cyfle i wneud y canlynol:

  • meithrin eu sgiliau iaith personol
  • cael hyfforddiant iaith dwys ar y cyd â hyfforddiant ar fethodolegau ym maes addysgu cyfrwng Cymraeg neu addysgu iaith
  • datblygu gwybodaeth arbenigol am derminoleg sy'n benodol i'w maes pwnc neu eu harbenigedd

Lefel canolraddol

Y cwrs wyth wythnos hwn yw'r cwrs diweddaraf i gael ei ychwanegu at ddarpariaeth y Cynllun Sabothol.

Mae wedi'i anelu at athrawon mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg/dwyieithog sy'n meddu ar rywfaint o sgiliau Cymraeg, er enghraifft pobl sydd eisoes wedi cwblhau cwrs sylfaen, naill ai drwy'r Cynllun Sabothol neu drwy ddulliau eraill, ac sy'n awyddus i feithrin eu sgiliau ymhellach er mwyn gwneud cynnydd tuag at fod yn rhugl.

Bydd y cwrs hwn yn gwneud y canlynol:

  • creu athrawon medrus er mwyn paratoi ar gyfer gofynion y Cwricwlwm newydd i Gymru yn y sector cyfrwng Saesneg
  • camu ymlaen o'r cwrs sylfaen, gan atgyfnerthu ac estyn gallu ieithyddol athrawon yn ogystal â'u sgiliau addysgegol
  • galluogi athrawon i gynllunio'r gwaith o ddarparu'r elfen Gymraeg sy'n rhan o fframwaith Meysydd Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm newydd

Mae'r cwrs hwn yn meithrin sgiliau Cymraeg ymarferwyr a'u gallu i siarad yr iaith a'i hysgrifennu yn hyderus mewn gwahanol sefyllfaoedd wrth gyflwyno Cymraeg ail iaith yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • meithrin sgiliau iaith ymarferwyr er mwyn eu galluogi i ddatblygu'r defnydd o'r Gymraeg a dysgu Cymraeg yn eu hysgolion
  • y defnydd o'r Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm, gan roi cyfle i ymarferwyr weithio'n strategol i ddatblygu dwyieithrwydd yn eu hysgolion
  • helpu ymarferwyr i baratoi adnoddau a darparu gwersi trawsgwricwlaidd yn unol â Meysydd Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm i Gymru
  • meithrin sgiliau ymarferwyr i'w galluogi i asesu disgyblion a darparu adborth ystyrlon

Lefel sylfaen

Hyfforddiant iaith Gymraeg i athrawon y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg neu ddwyieithog sydd am wneud y canlynol:

  • meithrin eu sgiliau Cymraeg i lefel sylfaen
  • cymryd y camau cyntaf ar lwybr cydnabyddedig tuag at ddysgu Cymraeg gyda'r nod hirdymor o addysgu'r Gymraeg
  • cyfrannu at ddwyieithrwydd yn eu hysgolion a datblygu ethos iaith Gymraeg

Mae'r cwrs wedi'i anelu at bobl sy'n meddu ar wybodaeth sylfaenol am y Gymraeg ac sy'n awyddus i ymrwymo i gwblhau 11 wythnos o hyfforddiant dwys.

Lefel mynediad

Cwrs trochi dwys llawn amser sy'n para am bum wythnos yw hwn ar gyfer cynorthwywyr ystafell ddosbarth sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg neu ddwyieithog.

Bydd y cwrs yn rhoi i bawb sy'n cymryd rhan yr eirfa a'r sgiliau ieithyddol sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu cydweithwyr addysgu yn y gwaith o ddarparu'r cwricwlwm.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Arweinydd y Gymraeg mewn Addysg neu ddarparwyr y cyrsiau drwy’r dolenni isod:

Gogledd Cymru (GWE): SgiliauIaithGymraeg@gwegogledd.cymru

De-orllewin a Chanolbarth Cymru: Prifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant

Canolbarth y De (CSCJES): Emma.Dermody@cscjes.org.uk

De-ddwyrain Cymru (EAS): Sioned.Harold@sewaleseas.org.uk

Cysylltwch â Thîm y Cynllun Sabothol am fwy o wybodaeth:

Ffôn: 03000 259770
E-bost: cynllunsabothol@llyw.cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu ystod o gyrsiau eraill ar gyfer ymarferwyr addysg. Mae cyrsiau ar gael ar bob lefel o’r Fframwaith cymwyseddau iaith ar gyfer ymarferwyr addysg trwy ystod o fodelau darparu.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr holl gyrsiau ar wefan y Ganolfan: Cymraeg Gweithlu Addysg

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi datblygu cyrsiau ar-lein i arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr.

Mae'r cyrsiau mynediad hyn ar gael yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, ni fydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau staff cyflenwi i ymarferwyr sy'n gwneud y cyrsiau hyn. Felly bydd angen i ysgolion drafod ag ymarferwyr sut y byddant yn rheoli llwythi gwaith er mwyn eu galluogi i gymryd rhan yn y cyrsiau.

Mae dau gwrs 10 awr o hyd, am ddim, sy'n cyflwyno geirfa ac ymadroddion perthnasol. Mae un cwrs wedi'i deilwra ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a'r llall ar gyfer penaethiaid mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, er mwyn eu galluogi i ddefnyddio ymadroddion sylfaenol yn ystod y diwrnod ysgol.

Mae hefyd gwrs lefel mynediad 120 awr o hyd a ddatblygwyd at ddefnydd athrawon mewn ysgolion cynradd neu uwchradd cyfrwng Saesneg yn benodol. Bydd y Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr cyrsiau'r Cynllun Sabothol i ddarparu cymorth gan diwtoriaid ar gyfer y cwrs hwn, ac yn defnyddio eu harbenigedd i sicrhau bod y dysgu yn cael ei integreiddio mewn modd cyson a chywir wrth i ddysgwyr fanteisio ar y gwahanol gynlluniau dysgu Cymraeg sydd ar gael iddynt.

Gall y cwrs hunanastudio hwn gynnig ffordd ymlaen i'r athrawon hynny sydd am ymgymryd â chwrs Lefel Sylfaen y Cynllun Sabothol yn nes ymlaen:

  • Cwrs Hunanastudio Lefel Mynediad i Athrawon: ar gael ar-lein (120 awr).
  • Yn addas ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg.
  • Cyfle i ddysgu patrymau iaith sy'n addas i'w defnyddio gyda dysgwyr yn yr ysgol.
  • Dwy awr o waith hunanastudio ar-lein yr wythnos.
  • Sesiwn fyw ar-lein awr o hyd i ymarfer a dysgu am fethodolegau dysgu iaith.
  • Magu hyder i addysgu'r Gymraeg gan ddefnyddio dull trawsgwricwlaidd.
  • Bydd cymorth tiwtoriaid ar gael drwy gydol y cwrs.

Mae consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol i ymarferwyr feithrin eu sgiliau Cymraeg a'u sgiliau methodolegol. Mae tîm o unigolion ganddynt hefyd sy'n cefnogi’r gwaith o ddatblygu'r Gymraeg yn strategol mewn ysgolion ac sy'n targedu ac yn cefnogi ysgolion/ymarferwyr a fyddai'n elwa ar y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg a chyfleoedd eraill ar gyfer dysgu proffesiynol.

At hynny, mae amrywiaeth o adnoddau addysgu a dysgu wedi cael eu datblygu gan y timau ledled Cymru i ategu'r gwaith o addysgu'r Gymraeg ac addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir gweld y rheini yn yr adran Cymunedau ar wefan Hwb drwy wneud chwiliad am ‘Y Pair’ ac ‘Y Gist’.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’r canlynol:

Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS)

Cefnogi ein Hysgolion GCA: Calendr Dysgu Proffesiynol Rhithwir a Recordiadau Sesiynau’r GCA (google.com)

GwE

Adnoddau GwE: Canolfan Gefnogaeth GwE (gwegogledd.cymru)

Partneriaeth

www.partneriaeth.cymru

Consortiwm Canolbarth y De (CSC)

support@cscjes.org.uk

Powys

Delyth.jones1@powys.gov.uk

Ceredigion

Anwen.EleriBowen@Ceredigion.gov.uk neu Menna.BeaufortJones@ceredigion.gov.uk

  • Blaenorol

    Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu a'r Daith Dysgu Proffesiynol