Adnodd i gefnogi hunan-werthusiad o’r Gymraeg
Mae’r adnodd hwn yn cynnig cyfres o gwestiynau i arweinyddion eu hystyried wrth hunan-werthuso eu taith i ddatblygu’r Gymraeg yn eu hysgol.
Y nod yw bod arweinyddion yn defnyddio’r cwestiynau hyn ochr yn ochr â’r adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella wrth hunan-werthuso er mwyn sicrhau bod datblygiad y Gymraeg o fewn pob ysgol yn cael sylw penodol.
Mae’r adnodd wedi’i rannu i dri maes sy’n cyd-fynd â meysydd yr adnodd cenedlaethol, sef arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu a’r cwricwlwm a lles, tegwch a chynhwysiant.
Nodir y cwestiynau trafod perthnasol sydd eisoes wedi’u cynnwys yn yr adnodd cenedlaethol. O dan pob maes, ceir cwestiynau trafod ychwanegol i ysgogi arweinyddion i ystyried nifer o feysydd penodol o ran y Gymraeg gan gynnwys:
- Cyd-destun ieithyddol
- Gweledigaeth a chynllunio strategol
- Datblygu’r gweithlu
- Cynllunio cwricwlwm
- Addysgeg
- Cynnydd dysgwyr
- Defnydd anffurfiol o’r Gymraeg
- Tegwch o ran mynediad i’r Gymraeg
Nodir yr adnoddau sydd eisoes ar gael i gefnogi arweinyddion yn y meysydd hyn. Yn dilyn cyfnod o beilota’r adnodd a derbyn adborth arweinyddion, byddwn yn cyhoeddi mwy o ddeunyddiau i gefnogi’r broses hunan-werthuso.
Arweinyddiaeth: pa mor effeithiol yw'r arweinyddiaeth?
Cydran AC:GG: gweledigaeth strategol
I ba raddau y mae gweledigaeth yr ysgol yn dylanwadu ar ei gwaith?
- I ba raddau mae gweledigaeth a strategaeth yr ysgol yn ystyried datblygiadau ar gyfer y Gymraeg?
- Pa mor effeithiol yw defnydd yr ysgol o gefnogaeth gan yr awdurdodau lleol / ysgolion eraill / consortia / partneriaethau i wneud cynnydd?
- I ba raddau mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru'n cael eu hadlewyrchu o fewn polisïau a gweithdrefnau'r ysgol?
- Pa mor dda mae’r ysgol yn adnabod ei chyd-destun ieithyddol gan gynnwys y dysgwyr, cymuned a’r gweithlu?
- Pa mor dda yw dealltwriaeth arweinwyr yr ysgol o’r siwrne ieithyddol?
- Pa mor dda yw dealltwriaeth arweinwyr o ddemograffig ieithyddol yr ysgol a’i le yn y gymuned?
- Pa mor dda yw dealltwriaeth yr ysgol o batrymau ieithyddol y gweithlu?
Dolenni defnyddiol:
Cydran AC:GG: addysgeg (dysgu, addysgu a'r cwricwlwm)
Cwestiwn trafod: i ba raddau y mae'r arweinwyr yn dylanwadu ar y dysgu a'r addysgu ac yn eu gwellay?
- I ba raddau y mae'r arweinwyr yn sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn ffordd gadarnhaol i ddysgwyr?
- Sut ydym yn mesur cynnydd ym maes y Gymraeg a sicrhau bod arfarniad yr ysgol yn adlewyrchiad teg o ble mae’r ysgol arni?
Dolenni defnyddiol:
- Evaluating Welsh Language Provision (adnodd Saesneg yn unig, EAS)
- Hyfforddiant arweinyddiaeth: gweledigaeth ac ethos (YouTube, EAS)
- Cynllunio ar gyfer taith y Gymraeg: elfen hanfodol o’r Cwricwlwm i Gymru
Cydran AC:GG: staff ac adnoddau
I ba raddau y mae’r arweinwyr yn cefnogi’r staff ac yn defnyddio adnoddau yn effeithiol?
- Beth sydd angen gwneud i ddatblygu’r gweithlu er mwyn galluogi symud yr ysgol ar hyd continwwm categoreiddio ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg?
- Pa mor dda mae’r ysgol yn adnabod anghenion datblygu’r gweithlu er mwyn gwella addysgu a dysgu ac er mwyn symud y gweithlu ymlaen er mwyn darparu mwy o’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg?
- Pa mor dda mae’r ysgol yn adnabod anghenion datblygu’r gweithlu trwy’r cynllun datblygu ysgol?
- I ba raddau mae’r ysgol yn deall patrymau ieithyddol y gweithlu?
- I ba raddau mae’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol o ddata ar gyfer y gweithlu (e.e. defnydd o’r SWAC)?
- I ba raddau mae trefniadau recriwtio yn hyrwyddo datblygiad y Gymraeg?
- I ba raddau mae’r ysgol yn defnyddio arbenigedd staff i addysgu a llenwi bylchau / datblygu arbenigedd bynciol?
- I ba raddau mae’r ysgol yn cynllunio’n fwriadus ar gyfer datblygiad staff yn unol â’r safon proffesiynol ynghylch datblygu sgiliau Cymraeg?
- I ba raddau mae’r ysgol yn cynllunio ar gyfer dysgu proffesiynol staff ar gyfer datblygu’r Gymraeg a modelu’r iaith yn effeithiol i ddysgwyr, e.e. addysgeg, iaith, hyrwyddo defnydd anffurfiol, cywirdeb ieithyddol?
- Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn defnyddio cyllid dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad y Gymraeg e.e. defnydd o’r grant dysgu proffesiynol a’r grant gwella ysgolion?
- Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn rhannu arfer dda gyda phartneriaid?
- Pa mor dda mae’r ysgol yn adnabod anghenion datblygu’r gweithlu er mwyn gwella addysgu a dysgu ac er mwyn symud y gweithlu ymlaen er mwyn darparu mwy o’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg?
Dolenni defnyddiol:
- Dysgu Cymraeg (dysgucymraeg.cymru)
- Datblygu'r Gymraeg yn eich ysgol
- Cynllunio datblygiad sgiliau iaith staff (adnodd Saesneg yn unig)
- Cynllunio Datblygiad Iaith Gymraeg i Ymarferwyr (Consortiwm Canolbarth y De: gwasanaeth addysg ar y cyd)
Dysgu ac addysgu: pa mor effeithiol yw'r dysgu a'r addysgu?
Cydran AC:GG: addysgeg
Cwestiwn trafod: I ba raddau y mae'r addysgu'n datblygu'r dysgwyr drwy amrywiaeth o brosesau addas i wireddu pedwar diben y cwricwlwm?
Cwricwlwm: pa mor effeithiol yw cwricwlwm yr ysgol?
Cydran AC:GG: pennu gweledigaeth (arweinyddiaeth ym maes dysgu a rheoli newid)
Cwestiwn trafod: i ba raddau y mae arweinwyr, staff, dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol yn deall disgwyliadau, dibenion ac egwyddorion y cwricwlwm newydd i Gymru?
- I ba raddau y mae dysgwyr yn deall a defnyddio'r Gymraeg?
- I ba raddau mae’r holl staff a dysgwyr yn hyrwyddo iaith a diwylliannau Cymru yn unol â disgwyliad y pedwar diben?
- Pa mor effeithiol mae cynllunio ar gyfer datblygiad y Gymraeg ar draws y cwricwlwm?
- Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn datblygu Cymraeg fel pwnc?
- Pa mor effeithiol mae’r ysgol wedi cynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg?
- Pa mor effeithiol a bwriadus mae’r ysgol yn cynllunio ei haddysgeg i gefnogi datblygu’r Gymraeg?
- Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn cynllunio ar gyfer defnydd anffurfiol y Gymraeg?
- I ba raddau mae’r awdurdod lleol wedi cynnwys datblygiadau ar gyfer defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn eu CSCA? I ba raddau mae gweithlu'r ysgol yn ymgysylltu â'r targed hwn?
- Sut ydych chi'n ymgysylltu â fframweithiau, adnoddau a chefnogaeth bresennol sydd ar gael, megis y Siarter Iaith, i ddatblygu'r Gymraeg yn eich ysgol chi?
- Sut ydych chi wedi ymgysylltu â llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach a phartneriaid allanol ar y Siarter Iaith?
- Sut ydych chi wedi integreiddio'r Siarter Iaith i roi gwerth ychwanegol i gwricwlwm Cymru? Sut ydych chi'n defnyddio profiadau Cymraeg ar draws y cwricwlwm?
- Pa mor effeithiol mae’r ysgol wrth annog dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth?
Dolenni defnyddiol:
- Fframwaith Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg
- Adnoddau i gefnogi'r fframwaith Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg
- Datblygu gweledigaeth ar gyfer cynllunio cwricwlwm yng Nghymru i Gymru
- Siarter Iaith
- Dulliau dysgu (Saesneg yn unig, academia.edu)
- Trawsieithu
- Ein llais ni (einllaisni.cymru)
- Sianel trafod addysgeg: y Gymraeg ac addysgeg (angen mynediad i sianel Teams)
- Ymagweddau a dulliau addysgu ail iaith
Lles, tegwch a chynhwysiant: pa mor effeithiol yw darpariaeth yr ysgol ar gyfer cefnogi lles, tegwch a chynhwysiant?
Cydran AC:GG: agweddau a chydberthnasau
Cwestiwn trafod: i ba raddau y mae'r ysgol yn meithrin agweddau ac ymddygiadau iach?
- I ba raddau ydy’r ysgol yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag defnyddio’r Gymraeg?
- Pa mor effeithiol mae’r ysgol wrth annog dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg y tu fewn a thu allan i’r dosbarth?
- Pa mor effeithiol ydy ethos Gymraeg yr ysgol yn effeithio ar agweddau dysgwyr tuag at y Gymraeg?
Cydran AC:GG: tegwch
Cwestiwn trafod: i ba raddau y mae dull gweithredu’r ysgol yn sicrhau tegwch i’r dysgwyr?
- I ba raddau ydy’r ysgol yn sicrhau mynediad i’r dysgwyr i addysg a phrofiadau yn y Gymraeg ac ystyried safbwyntiau'r dysgwyr mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt?
Dolenni defnyddiol: