English

Mae'r broses gymeradwyo yn ei chyfnod peilot a gall newid yn y dyfodol.

Nod ein dull o sicrhau ansawdd dysgu proffesiynol yw gofalu bod yr un ddarpariaeth o ansawdd uchel ar gael i bob ymarferydd addysg i gefnogi eu datblygiad parhaus.

Sicrhau ansawdd

Mae ein dull o sicrhau ansawdd yn cyd-fynd â'r Hawl Genedlaethol i Ddysgu Proffesiynol a'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.

Mae yna 3 lefel o sicrwydd ansawdd:

  • Achredu: mae'r ddarpariaeth yn arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a / neu'n rhyngwladol. Mae'r broses achredu yn cael ei dilyn gan y darparwr unigol.

  • Cymeradwyo: mae'r ddarpariaeth yn cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol. Ar gyfer darpariaeth i arweinwyr, caiff ei llywio gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Ar gyfer darpariaeth genedlaethol arall, caiff ei llywio gan Lywodraeth Cymru.

  • Cydnabod: mae ansawdd darpariaeth ar raddfa lai/leol yn cael ei sicrhau drwy broses adolygu gan gymheiriaid, yn seiliedig ar y meini prawf cymeradwyo cenedlaethol.

Cymeradwyo

Mae ein proses gymeradwyo drylwyr a chadarn yn rhoi sicrwydd bod darpariaeth dysgu proffesiynol wedi bodloni'r safonau ansawdd gofynnol.

Caiff y broses ei llywio gan y Panel Cymeradwyo Cenedlaethol, sy'n cynnwys gweithwyr addysg proffesiynol, uwch arweinwyr ac ymarferwyr, dan gadeiryddiaeth yr Athro Ken Jones.

Gall darparwyr sy'n cynnig rhaglenni/gweithgareddau dysgu proffesiynol i ymarferwyr addysg gyflwyno cais am gymeradwyaeth, yn seiliedig ar alwadau wedi'u targedu

Er mwyn ennill statws cymeradwy, bydd angen i ddarparwyr lenwi ffurflen gais. Os yw'n llwyddiannus, bydd hyn yn arwain at wahoddiad i gyfweliad, er mwyn iddynt ddangos sut mae'r ddarpariaeth yn bodloni'r meini prawf cymeradwyo. 

Dyfernir y gymeradwyaeth am 5 mlynedd, gyda threfniadau monitro dros dro. Rydym yn cadw'r hawl i atal cymeradwyaeth dros dro neu i'w diddymu. I'r ddarpariaeth y bydd y statws cymeradwy yn berthnasol, nid i'r darparwr.

Bydd cymeradwyo yn sicrhau bod darpariaeth sy’n bodloni’r meini prawf, pan gaiff ei chyflwyno yn y cyd-destun priodol, yn ei gwneud yn bosibl cynnig dysgu proffesiynol lefel uchel.

Mae cymeradwyo darpariaeth datblygu arweinwyr yn rhan o broses wahanol, a gaiff ei llywio gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Manteision

Bydd dyfarnu 'statws cymeradwy' yn dangos bod y ddarpariaeth wedi bodloni'r meini prawf cymeradwyo cenedlaethol yn llwyddiannus.

Y brif fantais i ddarparwyr yw cael cydnabyddiaeth bod eu darpariaeth wedi bodloni'r safonau ansawdd cenedlaethol gofynnol.  Ymhlith y manteision i ymarferwyr mae hyder yn ansawdd y ddarpariaeth y maent yn ei defnyddio, a sicrhawyd ar lefel genedlaethol, a mynediad teg at gyfleoedd dysgu proffesiynol o safon ym mhob cam o'u llwybr gyrfa.

Bydd darpariaeth a gymeradwywyd yn cael ei hyrwyddo drwy'r ardal dysgu proffesiynol ar Hwb, sef y pwynt mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel i weithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru.