Safonau proffesiynol
Gwybodaeth am safonau proffesiynol sy’n berthnasol i ymarferwyr yng Nghymru.
Trosolwg
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am safonau proffesiynol ar gyfer athrawon, arweinwyr, cynorthwywyr addysgu (CA) a chynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU).
Mae safonau proffesiynol yn disgrifio’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiad sy’n nodweddu ymarfer rhagorol ac yn cefnogi twf proffesiynol.
Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i adolygu ac ailosod y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon ac arweinwyr, ac ymarferwyr sy’n cynorthwyo addysgu mewn ysgolion.
Bwriad y safonau proffesiynol yw:
- nodi disgwyliadau clir o ran arferion effeithiol yn ystod gyrfa ymarferydd gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, y cyfnod y bydd yn ymuno â’r proffesiwn
- galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu harferion, yn unigol ac ar y cyd ag eraill, yn erbyn safonau sy’n nodi arferion effeithiol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a chadarnhau a dathlu eu llwyddiannau
- cefnogi ymarferwyr i nodi meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach
- rhoi cefndir i'r broses rheoli perfformiad
Mae’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn adlewyrchu arferion sy’n gyson â’r cwricwlwm newydd.
Pan fydd ymarferwyr unigol yn ymgymryd â dysgu proffesiynol, dylent fod yn glir ynghylch sut y mae’n cefnogi eu gwaith mewn perthynas â’r safonau proffesiynol.
Safonau proffesiynol ar gyfer holl ymarferwyr ysgol
Cyhoeddwyd y Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth ym mis Medi 2017 ac mae’n ofynnol i athrawon newydd gymhwyso sy’n dechrau ar gyfnod sefydlu ar ôl y dyddiad hwnnw weithio i’r safonau. Bydd athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn y dyddiad hwn yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o dan yr un safonau a oedd yn weithredol pan ddechreuodd eu cyfnod sefydlu. Mae pob athro ac arweinydd arall wedi symud i’r safonau ers Medi 2018.
Cyhoeddwyd y Safonau ar gyfer cynorthwyo addysgu ar 1 Medi 2019 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mawrth 2019. Anogir ysgolion i ddefnyddio’r safonau gyda’u staff cymorth (cynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr addysgu lefel uwch) i adlewyrchu ar eu harfer a nodi dysgu proffesiynol. Nid yw’r safonau yn statudol i staff cymorth ar hyn o bryd ond bydd hyn yn destun ystyriaeth bellach.
Gallwch archwilio’r safonau proffesiynol isod. Gallwch hefyd fynd atynt drwy eich Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg (dolen allanol).
Gwerthusiad o'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu
Mae adroddiad terfynol y gwerthusiad annibynnol o’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu bellach wedi’i gyhoeddi.
Defnyddir canlyniadau'r astudiaeth i wneud argymhellion ar gyfer polisi ac arfer yn y dyfodol ar draws y system gyfan i gefnogi gweithrediad ac effeithiolrwydd y safonau yn y dyfodol.
- Gwerthusiad o’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arwain a chynorthwyo gwaith addysgu: adroddiad terfynol HTML Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Dogfennau
- Cyflwyniad i’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth (taflen) pdf 145 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Safonau proffesiynol ar gyfer ymarferwyr ysgolion yng Nghymru (poster) pdf 97 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Sut orau i ddefnyddio’r poster Safonau Addysgu Proffesiynol pdf 136 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Athrawon ac arweinwyr
- Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth: PDF rhyngweithiol ar gyfer cyfrifiaduron personol pdf 2.72 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth: PDF rhyngweithiol ar gyfer dyfeisiau Apple (i'w agor trwy ibooks) zip 4.28 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Staff cymorth ysgol
- Safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu: PDF rhyngweithiol ar gyfer cyfrifiaduron personol pdf 1003 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu: PDF rhyngweithiol ar gyfer dyfeisiau Apple (i'w agor trwy ibooks) zip 1.90 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Crynodeb o newidiadau yn sgil ymgynghori pdf 125 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod ymsefydlu cyn 2017
- Safonau proffesiynol ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru pdf 514 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Holl ymarferwyr ysgol
- Cwestiynau cyffredin pdf 157 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Cyflwyniad Mai 2018 – safonau ar gyfer holl ymarferwyr ysgol pptx 4.90 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Sut bydd y safonau’n cael eu defnyddio?
Mae’r safonau proffesiynol hyn yn rhan bwysig o gefnogi pob ymarferwr i ymroi i ddysgu proffesiynol, gyda’r nod o ddatblygu arbenigedd unigol ac ar y cyd er mwyn dylanwadu ar bob dysgwr mewn ffordd gydweithredol, gydlynol, arloesol, gynaliadwy, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Byddem yn annog cyflogwyr i ystyried sut y gallant ddefnyddio’r safonau proffesiynol hyn i gefnogi dysgu proffesiynol a’u gwneud yn rhan annatod o’u systemau a’u gweithdrefnau presennol.
Mae ymarferwyr yn rhannu eu profiadau o ddefnyddio’r safonau proffesiynol i ddatblygu eu harferion.