English

Rydyn ni’n datblygu a choladu deunydd i gefnogi staff sydd yn gweithio yn y sector ôl-16 gyda’u datblygiad proffesiynol parhaus.  Yn y cyd-destun o COVID-19 a’n fframwaith strategol Digidol 2030 ar gyfer dysgu digidol, rydyn ni’n canolbwyntio ar gefnogi ymarferwyr i ymgysylltu â dysgu digidol a dysgu cyfunol.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.

Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae’r fframwaith Safonau Digidol ar gyfer Addysg Ôl-16 Cymru wedi’i ddatblygu er mwyn creu safonau clir y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer sgiliau digidol, fel rhan o’n fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol.

Cyflwynno’r fframwaith strategol Digidol 2030 ar gyfer dysgu digidol yn y sector Ôl-16.

Mae’r ganllaw ar-lein i Ddigidol 2030 gan Jisc wedi’i llunio ar gyfer colegau AB, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion.  Mae’r ganllaw yn gynnwys adnoddau ac enghreifftiau ymarferol (sydd yn perthnasol ar gyfer staff mewn rolau wahanol) i’ch helpu ar eich taith ddigidol 2030.

Comisiynwyd yr astudiaeth gwmpasu dysgu proffesiynol ôl-16 gan Lywodraeth Cymru i gael gwell dealltwriaeth o sut gallai dysgu proffesiynol helpu’r gweithlu ôl-16 i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r sector.

Mae’r casgliad o ddeunydd yma, a ddatblygwyd drwy ymgynghori â’n Gweithgor Dysgu Cyfunol, yn gynnwys canllawiau ar ddysgu cyfunol ar gyfer darparwyr dysgu ac ymarferwyr addysgu.

Mae’r pecyn cymorth addysgeg ddigidol wedi’i datblygu gan arbenigwyr Jisc mewn ymarfer digidol gydag adborth wrth y sectorau addysg uwch, addysg bellach a sgiliau ar draws y DU.  Pwrpas y pecyn cymorth yma ydy i hybu syniadau ac ysbrydoliaeth, a dulliau cyfredol mewn theori cynllunio’r cwricwlwm. (Saesneg yn unig)

Mae’r casgliad o ddeunydd yma ynglŷn â Dysgu Cyfunol yn gynnwys cameos.

Mae’r Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at nifer o adnoddau defnyddiol ar gyfer dysgwyr, rhieni a darparwyr dysgu ynglŷn â Dysgu a Sgiliau Ôl-16 ar Hwb, yn gynnwys adnoddau ar-lein am ddim i gefnogi pontio (ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11 a 13), dysgwyr Academi Seren, sgiliau digidol sylfaenol, dysgu trwy’r cyfrwng y Gymraeg, a dysgu Cymraeg.

Mae’r Parth Cadw’n Ddiogel Ar-lein gan Hwb yn cynnig cymorth i blant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr, ymarferwyr a llywodraethwyr gyda diogelwch ar-lein a Seiberddiogelwch.

Mae nifer o adnoddau dysgu digidol ar gael yn cyhoeddus tu fewn yr ardal Adnoddau Galwedigaethol ac Ôl-16 ar Hwb.  Mae’r ardal yma yn gynnwys adnoddau cwricwlwm, a deunydd sydd yn perthnasol ar gyfer pwnciau eraill tu allan i’r cwricwlwm (e.e. anghenion dysgu ychwanegol, diogelu, iechyd meddwl a lles).

Mae Hwb hefyd yn gynnwys adnoddai i helpu paratoi ar gyfer arholiadau TGAU yng Nghymraeg, Mathemateg a Saesneg.

Mae Learn My Way yn darparu cyrsiau rhad ac am ddim i helpu unigolion i wella eu sgiliau digidol sylfaenol a mynd ar-lein.

Mewn partneriaeth gyda cholegau yng Nghymru, mae’r Brifysgol Agored wedi datblygu cyrsiau ar-lein yn rhad am ddim i unrhyw un sy’n awyddus i wella ac adnewyddu eu sgiliau Mathemateg a Saesneg bob dydd.

Mae Jisc wedi cyhoeddi rhestr o adnoddau digidol i’w cefnogi pynciau galwedigaethol yng Nghymru.  Mae’r rhestr wedi’i ddarparu yn Saesneg yn unig, ond yn gynnwys adnoddau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.

Open University (cyrsiau ar gael yn Saesneg yn unig):

Future Learn (cyrsiau ar gael yn Saesneg yn unig):

Microsoft Educator Centre (cyrsiau ar gael yn Saesneg yn unig)