English

Os ydych ym mlwyddyn 11, rydych yn debygol o fod yn meddwl beth i'w wneud ym mis Medi. Rydym yn gweithio gyda’r consortia rhanbarthol, ysgolion, colegau, Gyrfa Cymru i ddarparu adnoddau dysgu ar-lein fel y gallwch barhau â'ch dysgu a pharatoi i drosglwyddo i’r cam nesaf yn eich addysg.

Rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r holl opsiynau sydd ar gael i chi yn 16 oed a darparu adnoddau a chyngor i chi a fydd yn eich galluogi i wneud y dewis gorau i chi barhau â'ch dysgu naill ai yn yr ysgol, yn y coleg neu ar brentisiaeth.

Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy am eich opsiynau i barhau'r daith ddysgu sy'n iawn i chi.

Bydd y dolenni yn mynd â chi i'r adnoddau i chi eu defnyddio. Beth am ddechrau gyda'r pynciau rydych chi'n mwynhau ac ystyred y rhain yn gyntaf wrth i chi gynllunio eich dewisiadau ar gyfer mis Medi. Gallech hefyd ddefnyddio'r amser hwn i ddysgu am bynciau newydd sydd o ddiddordeb i chi. Chi sy'n penderfynu.

Mae'n gallu bod yn frawychus os nad ydych chi'n siŵr beth rydych chi eisiau ei wneud pan fyddwch chi'n agos at orffen yr ysgol uwchradd. Mae ein partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau eich bod yn cael y cyngor a'r arweiniad cywir, mynediad at ddewisiadau, a chefnogaeth i wneud eich dewis yn realiti.

Yma rydym yn darparu rhai offer i'ch helpu i benderfynu! Gallwch lywio eich hun, edrych ar gyrsiau a rhoi cynnig ar rai rhagflas. Mae rhai cyrsiau hefyd y gallwch gael tystysgrifau ar eu cyfer a byddant yn cyfrif tuag at eich dysgu yn y dyfodol.

Gyrfa Cymru

Mae'r adnoddau canlynol, a ddatblygwyd gan y Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol, yn rhoi cyfle i ddysgwyr ystyried eu dewisiadau wrth iddynt drosglwyddo i'w cam nesaf o addysg neu hyfforddiant.

Tiwtorial 1: Paratoi ar gyfer Blwyddyn 12/chweched dosbarth

Tiwtorial 2: Myfyrio ar sgiliau a’u datblygu

Tiwtorial 3: Archwilio opsiynau prifysgol

Tiwtorial 4: Archwilio opsiynau gwaith

Tiwtorial 5: Gofalu am eich lles

Tiwtorial 6: Archwilio eich pynciau

Tiwtorial 7: Gweithgareddau uwch-gwricwlaidd

Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol

Cynhyrchwyd y llyfrynnau pwnc benodol hyn i gefnogi'r dysgwyr i bontio'r bwlch rhwng TGAU a Safon Uwch. Gall symud o TGAU i Safon Uwch fod yn hynod anodd, a bydd yn fwy anodd byth yn y sefyllfa bresennol gyda bwlch mor hir rhwng 'nawr a dechrau'r cwrs Safon Uwch.

Mae’r llyfrynnau hyn yn cyflwyno’r sgiliau fydd angen ar ddysgwyr i fod yn annibynnol wrth astudio, ac yn eu galluogi i baratoi ar gyfer y cyfnod pontio i astudio Safon Uwch. Trwy gyfrwng deunyddiau pontio, deunydd darllen ychwanegol, ac ymchwil annibynnol gall dysgwyr baratoi ar gyfer y lefel newydd hon o annibyniaeth a her. Mae deunyddiau pontio yn rhoi gwybodaeth i'r dysgwyr er mwyn iddynt wybod beth i'w ddisgwyl, a gallai hynny leihau ansicrwydd a straen.

Mae’r tasgau yn gyfle i ddatblygu rhagor ar eu hannibyniaeth, eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y pwnc hwnnw, ac i'w paratoi ar gyfer yr heriau sydd i ddod. Ni fwriedir iddynt fod yn gyfleoedd asesu nac i gynyddu llwyth gwaith athrawon. Efallai y bydd yr athrawon yn dymuno defnyddio'r llyfrynnau fel y maent wedi'u dylunio, neu efallai y byddant yn dewis eu haddasu ar gyfer y dysgwyr yn eu hysgol eu hunain. Gall yr ysgolion a'r athrawon unigol ddewis a fyddant yn defnyddio'r deunyddiau a ddarperir, yn ogystal â sut y byddant yn eu defnyddio.

Mae'r llyfrynnau pwnc benodol yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i gynnwys:

  • Awgrymiadau ar gyfer darllen
  • Rhestr o ffilmiau posibl y gellid eu gwylio, sydd â chysylltiad â'r pwnc (er bod y cysylltiad yn un tenau weithiau!)
  • Tasgau ymchwil annibynnol a TED Talks sy'n meithrin diddordeb y tu hwnt i'r cwricwlwm
  • Tasgau sy'n adeiladu ar yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n gysylltiedig â'r maes llafur uwch gyfrannol
  • Paratoadau ar gyfer y cwrs uwch gyfrannol

Tystysgrif Her Sgiliau Uwch

Addysg gorfforol

Almaeneg

Astudiaethau busnes

Astudiaethau crefyddol

Astudiaethau ffilm (Coleg Dewi Sant)

Bioleg

Celf a dylunio

Cemeg: canllaw 1

Cemeg:  canllaw 2

Cemeg (Coleg Dewi Sant)

Cerddoriaeth

Cymdeithaseg

Cymraeg

Cymraeg ail iaith

Dylunio a thechnoleg

Dylunio a thechnoleg (fersiwn PowerPoint)

Ffiseg

Ffrangeg

Hanes: canllaw 1

Hanes: canllaw 2

Mathemateg

Mathemateg: llyfryn pontio

Mathemateg (Coleg Dewi Sant)

Saesneg (iaith)

Saesneg (llenyddiaeth)

Saesneg (iaith a llenyddiaeth)

Sbaeneg

Seicoleg

Troseddeg (Coleg Dewi Sant)

Y Gyfraith (Coleg Dewi Sant)

Cynigir cyrsiau galwedigaethol o lefel 1-3. Fel arfer mae'r lefel rydych chi'n ei hastudio yn seiliedig ar y graddau rydych chi'n eu cael mewn TGAU.

Ar gyfer rhai cyrsiau ymarferol iawn sy'n canolbwyntio ar yrfa, fel pobi, trin gwallt neu blymio, mae pob dysgwr yn dechrau ar lefel 1 i ddatblygu'r sgiliau newydd sydd eu hangen. Mae gennych y gallu i gael eich cyflogi yn y gweithleoedd hyn ar ôl i chi ennill y drwydded lefel 2 i ymarfer y cymhwyster.

Eich dewis wedyn yw naill ai cael swydd, symud ymlaen i brentisiaeth neu ddilyn cwrs galwedigaethol lefel 3.

Mae cyflogwyr yn ystyried bod cyrsiau galwedigaethol yn gymwysterau gwerthfawr; Fe'u cynlluniwyd i ddiwallu anghenion penodol cyflogwyr er mwyn i chi allu datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Maent yn cynnig hyfforddiant penodol sy'n gysylltiedig â swydd a gallant fod yn ddewis atyniadol i'ch helpu i baratoi ar gyfer byd gwaith.

Dyma rai clipiau o brofiadau dysgwyr o ddetholiad o'n cyrsiau llawn amser.  Os ydych chi'n dod o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i chi, cysylltwch â'ch coleg neu'ch ysgol leol.

Peidiwch ag anghofio gofyn am ofynion mynediad!

Rheoli Cefn Gwlad – Coleg Meirion-Dwyfor

Busnes – Coleg Menai

Coleg Llandrillo Art Exhibition 2015

Celfyddydau Perfformio – Bangor

Plismona – Coleg Llandrillo

Gwyddor Chwaraeon ac Ymafer Corff – Coleg Menai

Gwallt a Harddwch – Coleg Meirion-Dwyfor

Peirianneg – Coleg Meirion-Dwyfor

Efallai y byddai'n well gennych ddysgu wrth ennill prentisiaeth.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed yng Nghymru, gan roi cyfle i ennill cyflog a dysgu ar yr un pryd. Bydd prentisiaid yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y gweithle, ac yn astudio gyda choleg, darparwr hyfforddiant neu brifysgol: byddwch yn gweithio wrth ochr staff profiadol i ennill sgiliau penodol i’r swydd a chymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol.

Mae amrywiaeth eang o Sectorau Prentisiaeth, o Ddiwylliant, Dylunio a’r Cyfryngau i Beirianneg, ac maent wedi’u gosod ar bedair lefel: Prentisiaeth Sylfaen; Prentisiaeth; Prentisiaeth Uwch a Phrentisiaeth Radd. Mae’r prentisiaethau wedi’u llunio i gefnogi anghenion yr holl ddysgwyr, gan eu galluogi i roi hwb gychwynnol i’w gyrfa.

Fel y gallwch ddychmygu mae'n amser anodd i lawer o gyflogwyr, felly rydym eisiau gwneud yn siŵr bod cyfleoedd cyflogaeth i chi ddechrau ar raglen brentisiaeth. Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i gyfleoedd pan ddaw'r sefyllfa'n gliriach.

Os oes gennych ddiddordeb mewn prentisiaeth siaradwch â Gyrfa Cymru – Cymru’n Gweithio a fydd yn eich gosod ar y trywydd cywir.

Gweler hefyd:

Mae hyfforddeiaethau yn rhaglenni dysgu ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed sy'n rhoi blas o waith i chi ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau i gael swydd neu symud ymlaen i'r coleg neu brentisiaeth.

Edrychwch ar y fideos i gael rhai enghreifftiau o sut beth yw bod yn hyfforddai:

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gyrfa Cymru – Cymru'n Gweithio

Yma fe welwch adnoddau i gefnogi datblygiad eich sgiliau ar gyfer gwaith ac astudio.

Prosiect pontio blwyddyn 11 (Coleg Cambria)

Saesneg sgiliau hanfodol: lefel 1

Saesneg sgiliau hanfodol: lefel 2

Mathemateg sgiliau hanfodol

Mathemateg sgiliau hanfodol: lefel 1

Mathemateg sgiliau hanfodol: lefel 2

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gwrs yr ydych yn bwriadu ei ddechrau ym mis Medi, cysylltwch â'ch coleg lleol.

Mae’r wefan ddwyieithog Braenaru ADY yn darparu gwybodaeth i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr, a darparwyr.