English

Gall holl ddysgwyr, staff ysgol, llywodraethwyr, athrawon cyflenwi mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru lawrlwytho a gosod yr offer diweddaraf gan Microsoft yn rhad ac am ddim ar hyd at 15 o ddyfeisiau personol drwy Hwb. Mae hyn yn cynnwys Word, Excel a PowerPoint, yn ogystal â Minecraft Education. Mae hyn hefyd ar gael i ddefnyddwyr Hwb o bartneriaid gwella ysgolion ac awdurdodau lleol.

Gallwch osod y rhaglenni Microsoft 365 hyn am ddim ar eich dyfeisiau personol (ar hyd at 5 gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, 5 llechen a 5 ffôn clyfar).

Cyfrifiaduron bwrdd gwaith Windows, Chrome a Mac

Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Teams, Outlook, Minecraft Education a llawer mwy.

Llechi a ffonau clyfar

Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Teams, Outlook, Minecraft Education a llawer o apiau eraill gan gynnwys Planner, Sway a To-Do.

Gallwch ddefnyddio’r offer cwmwl Microsoft hyn ar unrhyw ddyfais sydd wedi'i galluogi ar gyfer porwr.

Gwybodaeth

Dylech ddadosod unrhyw fersiwn arall o Microsoft Office sydd ar eich cyfrif cyn cychwyn y broses o osod Microsoft Office. Sicrhewch bod gennych ganiatâd cyn cychwyn.

Cyfrifiaduron bwrdd gwaith Windows, Chrome a Mac

  1. Mewngofnodwch i Hwb ar eich dyfais bersonol.
  2. Lansiwch Microsoft 365.
  3. Gosod Microsoft.

Llechi a ffonau clyfar

Mewngofnodwch i apiau ar eich ffôn symudol/llechen gyda'ch enw defnyddiwr (e.e. BloggsJ@Hwbcymru.net) a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.

Gwybodaeth

Mae’n rhaid i staff gael trwydded wedi ei dyroddi iddynt.

Gellir ysgolion cael arweiniad pellach yn y Ganolfan Gymorth ar Hwb.

Gyfrifiaduron personol a Mac

  1. Ewch i education.minecraft.net
  2. Dewiswch y tab Support
  3. Lawrlwythwch a mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr (e.e. BloggsJ@Hwbcymru.net) a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.

Llechi a ffonau clyfar

Lawrlwythwch yr app o'r storfa app store, a mewngofnodwch gyda’ch cyfrif Hwbcymru.net

Gellir cael gwybodaeth pellach o Minecraft.