English

Mae e-sgol yn fenter dysgu cyfunol i gynnig cyfleoedd dysgu ac addysgu ar-lein yn defnyddio dulliau dysgu uniongyrchol a rhyngweithiol mewn amser real. Gan ddefnyddio’r adnoddau a’r gwasanaethau amrywiol sydd ar gael drwy Hwb, mae e-sgol yn darparu cymorth i ysgolion gyda’r setiau sgiliau a’r dulliau addysgegol sydd eu hangen i sicrhau’r profiadau gorau posibl i’r dysgwr.

Ar hyn o bryd, mae E-sgol yn darparu cymorth ar gyfer dysgu ôl-14 i ddysgwyr, ond gellir defnyddio’r un egwyddorion a dulliau ar gyfer cynulleidfa ehangach. Mae’r dull yn cydnabod bod y ffordd y mae pobl ifanc yn dysgu yn esblygu ac yn newid ar raddfa beb ei thebyg.

Yn y lle cyntaf, canolbwyntiodd y fenter ar alluogi ysgolion gwledig i gynnal yr opsiynau o bynciau lle’r oedd nifer anghynaliadwy o ddysgwyr mewn dysgu ôl-14 ac ôl-16. Yn gyffredinol, mae ysgolion yn gweithio ar draws clwstwr o tua chwe ysgol, sydd o fewn pellter teithio i’w gilydd. Darperir y wers drwy ddull dysgu cyfunol, tra anogir dysgwyr i deithio i ysgol yr athro bob hanner tymor o leiaf. Fel arall, mae’r gwersi’n defnyddio Microsoft Teams, drwy Hwb, i sicrhau nad oes unrhyw gostau diangen i ysgol(ion).

Amcanion

Amcan 1

Cynyddu nifer y pynciau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion ledled Cymru ar lefel ôl-14.

Amcan 2

Cynyddu nifer y dysgwyr sy’n astudio pynciau nad oes llawer yn eu hastudio mewn Ysgolion ledled Cymru ar lefel ôl-14.

Amcan 3

Cynyddu nifer y dysgwyr sy’n astudio pynciau lefel uchel mewn ysgolion ledled Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg.

Amcan 4

Darparu ecwiti ar gyfer dysgwyr ôl-14 ledled Cymru lle bynnag eu lleoliad neu beth bynnag fo eu dewis iaith.

Mewn amgylchedd addysgol, yn enwedig yn sgil Covid-19, mae’r ffordd y mae dysgwyr yn derbyn eu gwersi yn newid drwy’r amser. Mae e-sgol wrth wraidd y newid hwn yng Nghymru. Mae manteision y prosiect fel a ganlyn:

  • Caniatau i ysgolion allu cynnig opsiynau Cymraeg, yn hytrach na dwyieithog, ar gyfer ôl-14
  • Galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i gadw dysgwyr ar lefel ôl-16, drwy eu cefnogi i astudio’r pwnc o’u dewis yng Nghyfnod Allweddol 5.
  • Galluogi staff i barhau i addysgu Cyfnod Allweddol 5, drwy rannu ymarferwyr o fewn clystyrau penodol ac ymhellach.
  • Datblygu sgiliau dysgu annibynnol y dysgwyr.
  • Cefnogi nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, trwy alluogi dysgwyr i barhau gyda’u dysgu yn yr iaith o’u dewis.
  • Sicrhau bod dysgwyr, lle bynnag eu lleoliad, yn derbyn yr un profiad pan fo’r athro yn darparu’r wers o ystafell addysgu bwrpasol.
  • Defnyddio’r rhaglen Hwb i ddarparu model(au) cyson a safonol ar gyfer dysgu cyfunol ledled Cymru.
  • Uwchsgilio sgiliau TG addysgol y dysgwyr/staff a helpu i ymwreiddio’r fframwaith cymhwysedd digidol.
  • Lleihau’r costau a’r allyriadau carbon sy’n cael eu creu drwy deithio diangen rhwng ysgolion ar gyfer dysgu ôl-14.
  • Cynyddu’r cydweithio rhwng ysgolion ar lefel ôl-14.

Mae’r prosiect e-sgol wedi datblygu fframwaith i gefnogi cynnig/profiad addysg amrywiol, yn Gymraeg a Saesneg, ar gyfer dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 4 a 5. I gefnogi darpar ranbarthau, awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgol, mae’r tîm e-sgol yn cynnig yr elfennau canlynol i sicrhau gweithredu llwyddiannus gyda’r prosiect.

  • Gweithio gyda chonsortia addysg rhanbarthol, awdurdod lleol (ALl) neu arweinwyr ysgolion i ddarparu model sy’n addas ar gyfer y clwstwr, yr awdurdod lleol neu’r rhanbarth hwnnw.
  • Rhoi arweiniad ar y dewis mwyaf addas o glwstwr/clystyrau ar gyfer yr ysgol/awdurdod lleol/consortia i sicrhau bod disgyblion yn teithio cyn lleied â phosibl, ond yn sicrhau bod cymaint o bynciau â phosibl ar gael i ddysgwyr.
  • Rhoi arweiniad ar y dewis gorau o bynciau i’w cynnig drwy e-sgol ar gyfer yr ysgol neu’r clwstwr penodol hwnnw.
  • Cynnig hyfforddiant ac arweiniad i uwch dimau rheoli i sicrhau gweithrediad mwyaf effeithiol y prosiect e-sgol yn yr awdurdod lleol neu’r ysgol.
  • Mewn cydweithrediad â gwasanaethau TGCh yr ALl, darparu hyfforddiant a chymorth i dechnegwyr TGCh i sicrhau bod y cyfarpar gofynnol ar gael ac yn cael ei ddefnyddio yn y ffyrdd mwyaf effeithiol i ddarparu profiad dysgu cadarnhaol i ddysgwyr a staff.
  • Gydol y flwyddyn academaidd, bydd y tîm e-sgol, mewn cydweithrediad â Gwasanaethau TGCh yr ALl a/neu Dechnegwyr TG yn darparu cymorth i nodi a datrys problemau cyn gynted â phosibl. Bydd y tîm e-sgol yn cydweithredu â Gwasanaethau TGCh yr ALl er mwyn sicrhau bod y dechnoleg yn aros ar flaen y gad o ran yr hyn sydd ar gael i addysg yng Nghymru.
  • Darparu hyfforddiant addysgegol a thechnegol parhaus i staff er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus ac yn gallu darparu profiad dysgu positif wrth ddarparu eu cwrs/cyrsiau drwy e-sgol.
  • Bydd e-sgol yn cydgysylltu pynciau ledled pob ysgol er mwyn ysgafnhau’r baich ar staff yn yr ysgolion a/neu’r ALl.

Bydd cydlynwyr e-sgol yn darparu hyfforddiant a chymorth i ddysgwyr er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y profiad gorau. Er mwyn sicrhau bod y dysgwr yn cael y profiad gorau bosibl, bydd y tîm e-sgol yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth i rieni er mwyn sicrhau eu bod yn deall dull e-sgol.

Mae e-sgol yn esblygu’n barhaus, ac mae’r tîm eisoes wedi dechrau cefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i chwilio am gyfleoedd newydd, tra’n sicrhau llwyddiant yr egwyddorion craidd uchod. Mae’r tîm e-sgol wedi dechrau/wrthi’n cefnogi’r cyfleoedd canlynol:

  • Mae e-sgol wedi cefnogi darpariaeth gwersi cerddoriaeth cylchynol i dros 800 o ddysgwyr o Gyfnod Allweddol 1 i 5, ledled ysgolion Ceredigion. Mae chwech ALl wedi derbyn hyfforddiant hefyd, gyda gwersi i ddechrau ar unwaith. Yn ogystal, mae prosiectau penodol yn cael eu treialu yng Nghyfnod Allweddol 2.
  • Gan weithio gyda’r Coleg Cymraeg, mae e-sgol yn darparu Her Mathemateg yn y Gymraeg yng Nghyfnod Allweddol 5 ledled Cymru a Sesiynau Gradd Meistr gan Brifysgol Caerdydd ar gyfer dysgwyr sy’n astudio Astudiaethau Crefyddol yng Nghyfnod Allweddol 5.

I ddarllen mwy am e-sgol, cysylltwch â: ymholidau@e-sgol.cymru