E-sgol
-
- Rhan o:
- Dysgu cyfunol
e-sgol
Mae e-sgol yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynorthwyo ysgolion i anelu at ecwiti o ran y ddarpariaeth a’r profiadau a gynigir i’w dysgwyr. Gwneir hyn gan:
- ffurfio partneriaethau cydweithredol rhwng ysgolion uwchradd er mwyn ehangu darpariaeth ôl-14 ac ôl-16
- gynnig datblygiad proffesiynol i staff ysgolion uwchradd wrth iddynt gyflwyno eu cyrsiau ar-lein
- gynorthwyo ysgolion cynradd i gynnig cyfleoedd a phrofiadau amrywiol i’w dysgwyr
- gefnogi addysg Gymraeg yn genedlaethol
Gweledigaeth
Prif amcan e-sgol yw darparu Ecwiti mewn Addysg trwy dechnoleg, trwy:
- uwchsgilio athrawon a dysgwyr
- hyrwyddo cydweithio rhwng ysgolion
- cefnogi ysgolion i wella eu dewis i ddysgwyr
Arwain y ffordd
Nod e-sgol yw arwain y ffordd o ran addysg ddigidol yng Nghymru gan sicrhau darpariaeth o safon uchel sy’n manteisio ar y datblygiadau technolegol ac addysgol diweddaraf.
Gan ddefnyddio’r adnoddau a’r gwasanaethau amrywiol sydd ar gael drwy Hwb, mae e-sgol yn darparu cymorth i ysgolion gyda’r setiau sgiliau a’r dulliau addysgegol sydd eu hangen i sicrhau’r profiadau gorau posibl i’r dysgwr.
Cynradd
Sefydlwyd sector Cynradd e-sgol ddiwedd 2023. Mae amrywiaeth o wahanol brosiectau a darpariaeth wedi datblygu ers hynny, gan gynnwys Cewri Cymru, e-steddfod, E-hangu Gorwelion a Ieithoedd Rhyngwladol. Mae llawer o ysgolion yn gwneud y mwyaf o ddarpariaeth y sector Cynradd mewn amrywiol ffyrdd.
Uwchradd
Trwy gydweithio, mae e-sgol yn cefnogi ysgolion uwchradd ledled Cymru i:
- ehangu eu cynnig cwricwlwm ôl-16
- sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle i astudio pynciau na fyddent ar gael iddynt yn eu hysgol eu hunain fel arall
- hwyluso cydweithio rhwng ysgolion
- lleihau costau ac ôl-troed carbon ysgolion
Yn gyffredinol, mae ysgolion uwchradd yn cydweithio ar draws clwstwr o ysgolion o fewn pellter teithio i'w gilydd. Mae cyrsiau cydweithredol e-sgol yn dilyn model dysgu hybrid, gyda dysgwyr yn cael mynediad at gyfleoedd dysgu cydamserol o bell ac anghydamserol o bell a ategir gan sesiynau wyneb yn wyneb.
Mae ysgolion uwchradd mewn ardaloedd gwledig a threfol ledled Cymru wedi mabwysiadu ethos e-sgol o gydweithio er budd eu dysgwyr.
Carlam Cymru
Casgliad o fideos sy’n cefnogi myfyrwyr gyda’u hadolygu yw Carlam Cymru. Ceir fideos ar dair lefel, TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch, mewn amrywiaeth eang o bynciau, yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r adnoddau yn ategu gwaith gwych athrawon ledled Cymru trwy gynnig cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr sy’n astudio ar gyfer arholiadau. Gall myfyrwyr ddefnyddio’r adnoddau i astudio ac adolygu’n annibynnol.
Ceir hefyd cyfres o fideos ar Sgiliau Adolygu ac ar y thema Lles. Mae’r fideos lles yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gofalu am iechyd meddwl yn ystod cyfnod yr arholiadau.
Ewch i wefan carlam.cymru.