English

6. Rolau a chyfrifoldebau

Rhaid i awduron neu gyflenwyr adnoddau:

  • ddatblygu adnoddau addysgol dwyieithog, cywir a pherthnasol sydd o safon uchel
  • sicrhau bod y cynnwys yn gydnaws â’r Cwricwlwm i Gymru a safonau addysgol perthnasol eraill
  • creu adnoddau hygyrch sy’n cydymffurfio â meini prawf Hwb
  • dilyn canllawiau a gweithdrefnau penodol ar gyfer cyflwyno adnoddau i Hwb
  • sicrhau nad oes gwallau yn yr adnodd a’i fod yn bodloni safonau ansawdd Hwb
  • sicrhau deialog gynnar gyda Llywodraeth Cymru i greu gwell adnodd yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd
  • darparu'r holl wybodaeth a’r dogfennau sydd eu hangen ar gyfer cyflwyno’r adnodd, gan gynnwys metadata, disgrifiadau ac unrhyw ddeunyddiau ategol
  • cymryd rhan yn y broses sicrhau ansawdd, a allai gynnwys adolygu a diweddaru ar sail adborth gan adolygwyr
  • bod yn barod i adolygu a diweddaru'r adnodd o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau ei fod yn gyfoes ac yn berthnasol
  • ymateb i adborth a gwneud y diwygiadau angenrheidiol i wella’r adnodd
  • cadw at yr amserlenni dangosol ar gyfer cyflwyno, adolygu a chyhoeddi fel y cytunwyd wrth dderbyn y cais

Yn y cyd-destun hwn, mae 'Hwb' yn cyfeirio at adrannau mewnol Llywodraeth Cymru a chyrff a sefydliadau allanol dynodedig sy'n gyfrifol am adolygu adnoddau.

Rhaid i Hwb:

  • rannu canllawiau a meini prawf clir ar gyfer cyflwyno adnoddau, gan gynnwys safonau'r Gymraeg a gofynion hygyrchedd
  • sicrhau bod adnoddau yn bodloni'r safonau addysgol gofynnol a meini prawf cyhoeddi Hwb
  • cynnal gwiriadau hygyrchedd a dychwelyd unrhyw ddogfennau anhygyrch i’r awdur neu’r cyflenwr i’w diwygio lle bo angen
  • gwirio nad oes gwallau yn yr adnoddau a’u bod yn hawdd eu defnyddio
  • rhoi adborth i awduron er mwyn iddyn nhw wneud y diwygiadau a’r gwelliannau angenrheidiol
  • adolygu adnoddau a gyhoeddwyd yn rheolaidd a’u diweddaru er mwyn sicrhau eu bod yn gyfoes ac yn berthnasol
  • rhoi gwybod i’r awdur a oes angen diweddaru’r adnodd
  • casglu adborth gan ddefnyddwyr i wella ansawdd y gwasanaeth yn barhaus
  • defnyddio adborth i lywio canllawiau ar ddatblygu a chyflwyno adnoddau yn y dyfodol

Adnoddau a grëwyd gan sefydliadau allanol

Bydd angen i chi gael prosesau sicrhau ansawdd ar waith cyn anfon y deunyddiau at Hwb.

Mae’n bosib y bydd aelod o Dîm Cynnwys Hwb yn gofyn y cwestiynau canlynol i chi pan ddaw hi’n amser adolygu'r dogfennau.

  • Pwy ysgrifennodd y cynnwys? Ydyn nhw'n arbenigo yn y pwnc?
  • Oes mwy nag un person wedi gwirio ffeithiau’r cynnwys?
  • Oes rhywun heblaw’r awdur wedi golygu’r cynnwys?
  • Sut cafodd y fersiwn Gymraeg ei chreu? A ddefnyddiwyd cyfieithydd proffesiynol?
  • Pryd cafodd yr adnodd ei ysgrifennu a'i greu?
  • Ydych chi wedi defnyddio'r arddull tŷ cywir wrth ysgrifennu'r deunyddiau? (Yn achos deunyddiau sy'n cael eu cynhyrchu ar gyfer Llywodraeth Cymru, gweler Canllaw arddull LLYW.CYMRU.)
  • Ydy lluniau, fideos, cerddoriaeth ac unrhyw ddeunyddiau eraill â hawlfraint wedi cael eu clirio i’w cynnwys? Yn achos adnoddau sydd wedi'u creu ar gyfer Llywodraeth Cymru neu gan Lywodraeth Cymru, ydych chi wedi llenwi'r ffurflen ryddhau i gael caniatâd?
  • Ydy’r deunyddiau’n ystyried materion cynrychiolaeth (fel enghreifftiau Cymraeg a Saesneg o waith dysgwyr, cymysgedd rhywedd, lleiafrifoedd ethnig) ac unrhyw ystyriaethau hygyrchedd?

Adnoddau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru drwy drydydd parti

Os yw'r adnoddau wedi’u comisiynu, bydd Tîm Cynnwys Hwb yn rhan o'r broses ddatblygu ar ôl dyfarnu’r contract. Bydd y tîm yn rhoi cyngor ar:

  • sut i wella'r fformat, y strwythur, y dyluniad a’r iaith er mwyn gwneud pethau mor rhwydd â phosibl i ddefnyddwyr
  • yr arddull tŷ cywir i’w defnyddio wrth ysgrifennu’r deunyddiau
  • cyfieithwyr cymeradwy y gellir eu comisiynu i ddarparu fersiynau Cymraeg
  • deunyddiau a gomisiynwyd ar gyfer eu cynnwys yn yr adnoddau, fel lluniau, fideos neu gerddoriaeth, a’r caniatâd cywir ar gyfer eu defnyddio sy’n rhaid ei gael gan unrhyw gyfranogwyr (gan ddefnyddio ffurflen ryddhau Llywodraeth Cymru)
  • defnyddio deunyddiau hawlfraint byw yn yr adnoddau, a'r caniatâd priodol sy’n rhaid ei gael gan ddeiliaid yr hawlfraint ar gyfer eu cynnwys
  • materion cynrychiolaeth (fel enghreifftiau Cymraeg a Saesneg o waith dysgwyr) ac unrhyw ystyriaethau hygyrchedd

Hyrwyddo a gwerthuso eich adnoddau

Dylech hyrwyddo eich adnodd a rhoi gwybod i ymarferwyr sut i ddod o hyd iddo.

Dylech hefyd werthuso ac adolygu eich adnodd dros amser (awgrymir o leiaf unwaith y flwyddyn) er mwyn sicrhau ei fod yn dal yn addas i’r diben.

  • Blaenorol

    Meini prawf cyhoeddi a gofynion technegol Hwb

  • Nesaf

    Gofynion hygyrchedd