Datblygu adnoddau ar gyfer Hwb
Canllawiau ar ddatblygu a chyflwyno adnoddau i'w cyhoeddi ar Hwb.
- Rhan o
3. Adnoddau ar bynciau eraill
Er bod adnodd efallai’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, efallai na fydd wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio'n uniongyrchol gyda dysgwyr a gallai fod yn fwy addas ar gyfer meysydd pwnc eraill Hwb.
Rhaid i gorff neu dîm polisi perthnasol Llywodraeth Cymru adolygu a sicrhau ansawdd adnoddau sy'n ymwneud â'r meysydd pwnc canlynol cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi ar Hwb. I ddechrau'r broses hon, defnyddiwch y canllawiau hyn i sicrhau bod eich adnodd yn bodloni meini prawf cyhoeddi ar Hwb. Os ydyw, dylech ei gyflwyno drwy ffurflen gais cyhoeddi Hwb.
Dysgu proffesiynol
Mae dysgu proffesiynol yn cefnogi:
- cyflawni safonau a dyheadau uchel i bob dysgwr
- sut mae ysgolion yn datblygu fel sefydliadau dysgu
- yr hawl i ymarferwyr gael mynediad at ddysgu proffesiynol o safon
Mae adnoddau dysgu proffesiynol yn cynnwys astudiaethau achos a dysgu hunangyfeiriedig i gefnogi'r categorïau canlynol:
- cwricwlwm, addysgeg ac asesu
- datblygu fel gweithiwr proffesiynol
- arweinyddiaeth a llywodraethiant
- lles, tegwch a chynhwysiant
Anghenion dysgu ychwanegol
Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn sicrhau bod dysgwyr yn cael cymorth wedi'i deilwra i gael mynediad at addysg ystyrlon a chynhwysol. Mae'n hyrwyddo dulliau sy'n canolbwyntio ar unigolion, gan alluogi pob dysgwr i symud ymlaen ar ei gyflymder ei hun a chyrraedd ei botensial.
Er mwyn cefnogi dysgwyr ag ADY a chryfhau darpariaeth ADY ar draws ysgolion a lleoliadau mae amrywiaeth o adnoddau ar gael. Yn eu plith mae offer ymarferol, astudiaethau achos, a deunyddiau dysgu proffesiynol.
Galwedigaethol ac ôl-16
Gall darparwyr dysgu, ymarferwyr addysgu a gweithwyr addysg proffesiynol ddod o hyd i wybodaeth am ystod o bynciau 'y tu allan i’r cwricwlwm', megis:
- dysgu digidol (Digidol 2030)
- cydraddoldeb (gan gynnwys gwrth-hiliaeth)
- llais y dysgwr ac ymgysylltu â'r dysgwr
- iechyd meddwl a lles meddyliol
- mesurau perfformiad ôl-16
- partneriaeth gymdeithasol
Gall y deunydd hwn gynnwys allbynnau o weithgareddau a phrosiectau sydd wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru neu gan Medr: y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (a ddaeth yn weithredol ar 1 Awst 2024).
Cadw'n ddiogel ar-lein
Mae Cadw'n ddiogel ar-lein yn cynnig cyfres gynhwysfawr o adnoddau, hyfforddiant a chanllawiau i gefnogi dysgwyr, ymarferwyr a theuluoedd i lywio'r byd digidol yn ddiogel ac yn hyderus.
Mae adnoddau Cadw’n ddiogel ar-lein yn cefnogi ymddygiadau ar-lein diogel, cyfrifol a gwybodus, gan ymdrin â phynciau fel:
- cadernid digidol
- diogelu a diogelwch ar-lein
- hylendid seiber
- camwybodaeth
- deallusrwydd artiffisial (AI)