English

Mae Microsoft 365 ar gael i staff ysgolion, defnyddwyr Hwb consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol, llywodraethwyr, athrawon cyflenwi a dysgwyr fel rhan o wasanaethau ychwanegol Hwb.

Gallwch lawrlwytho a gosod yr offer Microsoft diweddaraf ar eich dyfeisiau personol am ddim. 

Mae gan ddefnyddwyr Hwb 2 opsiwn i gael mynediad at Microsoft 365:

Drwy Hwb

  • Mewngofnodwch i Hwb.
  • Cliciwch ar y deilsen Microsoft 365.
  • Dewiswch yr ap Microsoft 365 rydych am ei ddefnyddio.

Drwy Microsoft 365

  • Ewch i wefan Microsoft 365.
  • Rhowch eich enw defnyddiwr Hwb: Cliciwch ar Nesaf.
  • Rhowch eich cyfrinair Hwb: Cliciwch ar Mewngofnodi.
  • Dewiswch yr ap Microsoft 365 rydych am ei ddefnyddio.

Gallwch lawrlwytho a gosod Microsoft 365 gartref am ddim. Mae trwyddedau Hwb 365 yn cynnwys fersiwn bwrdd gwaith llawn Microsoft Office 365 a llu o nodweddion ychwanegol. Maent hefyd yn cynnwys Minecraft Education Edition gyda Code Builder, sy'n darparu ystod o ffyrdd i ddysgwyr archwilio, creu ac arbrofi gyda chodio. 

Gallwch osod y rhain ar hyd at 5 gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, 5 tabled a 5 ffôn clyfar.

Mae hyn ar gael i'r canlynol:

  • dysgwyr
  • staff ysgol 
  • defnyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol

Sut i osod Microsoft 365

Dylech ddileu unrhyw fersiwn arall o Microsoft 365 sydd gennych ar eich dyfais cyn i chi fynd ati i osod. Gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd cyn mewngofnodi.

Byrddau gwaith Windows, Chrome a Mac

Ar eich dyfais gartref:

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Microsoft 365.
  2. Cliciwach ar apiau ar ochr chwith y sgrin a dewis y gwymplenGosod Apiau(yng nghornel dde uchaf y dudalen). 
  3. Cliciwch Apiau Microsoft 365.
  4. O danOffice Apps & Devices, cliciwchInstall Office.
  5. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin (gall gymryd amser i'w osod, yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad â'r rhyngrwyd).
  6. Pan fyddwch wedi'i osod, agorwch ap fel Word a darllenwch a derbyn "Y print mân".
  7. Bydd ffenestr naid yn ymddangos yn gofyn ichi ddewis Default File Type. Dewiswch Office Open XML formats: Cliciwch OK.
  8. Cliciwch Sign in to get the most out of Microsoft 365 (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ar gyfer Hwb. Bydd hyn yn cysylltu'r gwasanaethau ychwanegol â Microsoft 365, megis OneDrive.
  9. Os ydych chi'n defnyddio Windows 10, mae'n rhaid ichi dderbyn y neges sy'n ymddangos. Efallai y byddwch yn dymuno tynnu'r tic ar Allow my organisation to manage my device a dewis This app only.

Tabledi a ffonau clyfar

Mewngofnodwch i apiau symudol gyda'ch enw defnyddiwr Hwb (er enghraifft BloggsJ@Hwbcymru.net) a'ch cyfrinair.