Just2easy
Sut i ddefnyddio platfform, offer creadigrwydd a gemau Just2Easy ar gyfer profiadau dysgu personol.
Trosolwg
Cyfres o offer a gemau addysgol creadigol yw Just2easy. Gall pob dysgwr ac ymarferydd yng Nghymru gael mynediad at Just2easy drwy Hwb. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o offer a gemau ar wefan Just2easy.
Os oes angen cymorth arnoch gydag offer penodol, ewch i ‘tool specific help’ ar wefan Just2easy.
Sut i gael mynediad at Just2easy yn Hwb
Mae yna 3 ffordd i gael mynediad at Just2easy:
- Mewngofnodwch i wefan Hwb a chliciwch ar yr ap Just2easy ar ddangosfwrdd Hwb.
- Ewch i wefan Just2easy, cliciwch, ar y botwm Hwb a mewngofnodi gyda'ch manylion Hwb.
- Os ydych chi'n defnyddio iPad, defnyddiwch yr ap Just2easy.
Gosodiadau iaith
Gallwch ddefnyddio Just2easy yn Gymraeg. I newid iaith:
- cliciwch ar eich enw ar frig dde y sgrin
- cliciwch Fy Ngosodiadau / My Settings
Ewch i Just2easy am ragor o wybodaeth.
Sut y gall Just2easy gefnogi ysgolion
Sut y gall Just2easy gefnogi dysgwyr
Gall dysgwyr ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol trwy ddefnyddio JIT, pecyn cymorth Just2easy ar gyfer plant bach. Mae'r rhain yn cynnwys:
- prosesu geiriau
- arlunio digidol
- cyflwyniadau
- animeiddiadau
- siartiau
- codio
- cronfeydd data
Gall dysgwyr ddatblygu eu sgiliau gan ddefnyddio offer fel j2office, j2code a j2data i greu:
- amrywiaeth eang o gynnwys digidol
- cydweithio ar brosiectau
- chreu portffolios digidol o waith
Sut y gall Just2easy gefnogi ymarferwyr
Gall ymarferwyr:
- greu a rheoli dosbarthiadau
- gweld gwaith y dysgwr yn hawdd mewn un lle
- rhannu gwaith gyda rhieni a gofalwyr drwy j2journal
Ystyriaethau allweddol
- Sicrhewch fod y defnydd o Just2easy yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis diogelu, llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol a diogelu data.
- Mae Just2easy yn gweithredu'n gyfan gwbl trwy borwr gwe ac mae'n cydweddu â'r rhan fwyaf o ddyfeisiau.
- Mae dosbarthiadau cofrestru yn cael eu trefnu trwy System Gwybodaeth Rheoli (MIS) yr ysgol. Ni ellir eu newid yn Just2easy. Fodd bynnag, gall ymarferwyr ddefnyddio j2dashboard i greu grwpiau addysgu llai â ffocws.
- Mae nodweddion hygyrchedd yn Just2easy yn cynnwys ffontiau ar gyfer dyslecsia, swyddogaethau siarad wrth deipio a theipio wrth siar-ad. Dysgwch fwy am nodweddion hygyrchedd.
Porth rhieni: ystyriaethau allweddol
- Gall ysgolion ganiatáu i rieni a gofalwyr gael mynediad i'r porth rhieni i weld gwaith eu plentyn yn j2journal.
- Rhaid gwahodd rhieni a gofalwyr trwy e-bost. Nid yw'r negeseuon e-bost hyn yn cael eu hanfon yn awtomatig - ysgolion sy'n gyfrifol am gasglu cyfeiriadau e-bost rhieni neu ofalwyr a dosbarthu'r gwahoddiadau. Am resymau diogelu, mae'r opsiwn gwahodd drwy god QR wedi'i analluogi ar gyfer pob ysgol.
- Bydd rhieni a gofalwyr sydd â mwy nag un plentyn yn derbyn e-bost ar wahân ar gyfer pob plentyn. Gellir cael mynediad at bob proffil trwy'r un cyfrif rhiant, a gallwch newid rhyngddynt gan ddefnyddio'r botwm 'Newid'
- Dim ond gwaith y mae eu plentyn wedi'i dagio'n benodol ynddo sydd gan rieni a gofalwyr fynediad iddo. Er mwyn diogelu, byddwch yn ymwybodol y bydd tagio 'pob dysgwr' yn gwneud y gwaith, y ddelwedd neu'r fideo hwnnw'n weladwy i bob rhiant a gofalwr.
- Mae angen i ymarferwyr gymedroli pob sylw cyn iddo fynd yn fyw. Er mai dim ond ar waith eu plentyn eu hunain y gall rhieni a gofalwyr wneud sylwadau, mae sylwadau cymeradwy yn weladwy i bob dysgwr a rhieni neu ofalwr sydd wedi'u tagio yn y gwaith hwnnw.
- Gall ysgolion analluogi sylwadau ar gyfer pob dosbarth neu ar gyfer dosbarthiadau penodol. Gall ymarferwyr reoli mynediad rhieni trwy j2dashboard. Am gymorth pellach, ewch i dudalen gymorth Porth Rhieni Just 2easy.
Sicrwydd data
Dylai ysgolion ystyried a ddylid diweddaru eu DPIA presennol neu a oes angen Asesiad Effaith Diogelu Data (DPIA) newydd.
Nid yw Just2easy yn defnyddio data dysgwyr ar gyfer hysbysebu neu farch-nata wedi'i dargedu. Ni werthir data i drydydd partïon, ac mae'r cytundeb prosesu data yn cydymffurfio â gofynion GDPR ar gyfer preifatrwydd a diog-elwch. Darllenwch hysbysiad preifatrwydd Just2easy am ragor o wybodaeth.
Prosesu data
Natur y prosesu
Mae'r gyfres offer digidol Just2easy yn casglu data personol cyfyngedig gan ymarferwyr, dysgwyr ac ysgolion fel y rheolwyr data. Mae'r prosesu wedi'i ddosbarthu fel risg uchel oherwydd ei fod yn darparu gwasanaethau ar-lein i blant.
- Nid yw Just2easy yn rhannu data personol gyda thrydydd partïon, ac eithrio gydag ysgolion fel rheolwyr data.
- Mae ysgolion yn rheoli'r data personol maen nhw'n ei llwytho neu'n ei rannu gyda'r gyfres Just2easy.
- Mae'r data personol sy'n cael ei storio o fewn cyfres Just2easy yn cynnwys data personol plant.
- Nid yw'r gyfres Just2easy yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) na thechnolegau newydd eraill.
- Mae'r holl brosesu wedi'i gynllunio i gydymffurfio â Chod Plant Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Cwmpas y prosesu
Mae Just2easy yn casglu'r data personol canlynol:
- enw cyntaf
- cyfenw
- cyfeiriad e-bost
- rôl (ymarferydd neu ddysgwr)
- dosbarth
- enw defnyddiwr neu rif unigryw
- data’r ap J2e (er enghraifft, sêr a ddyfarnwyd neu adborth gan ymarferwyr)
- cysylltiad rhiant a phlentyn (Dim ond os yw'r ysgol yn defnyddio'r porth rhieni sy'n gwahodd rhieni iddo y mae hyn yn berthnasol)
Nid yw'n casglu data categori arbennig na data sensitif arall fel data troseddol.
- Gall ysgolion, fel rheolwyr data, ofyn am ddileu data personol. Mae data’n cael ei dynnu o'r golwg ar unwaith ac yn cael ei ddileu'n barhaol o fewn 12 mis.
- Mae J2e yn storio'r holl ddata mewn gweinyddion yn y DU a'r UE.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ym mholisi preifatrwydd Just2easy.
Cymorth pellach
Mae Just2easy yn cynnig gwersi byw i ddysgwyr, yn ogystal â hyfforddiant ar-lein i ymarferwyr. Ewch i'r dudalen digwyddiadau ar wefan Just2easy i ddysgu mwy a chofrestru. I gael rhagor o arweiniad ar ddefnyddio Just2easy yn yr ystafell ddosbarth, archwiliwch yr adnoddau sydd ar gael ar Hwb a sianel YouTube Just2easy.