Gemini Notebook
Gwybodaeth am Gemini Notebook trwy Hwb, gan gynnwys ystyriaethau a sicrwydd data.
Gelwir NotebookLM bellach yn Gemini Notebook. Mae'r nodweddion a'r cynnwys yr un peth. Mae Gemini Notebook yn gweithredu fel cynorthwyydd ymchwil ar alw ac mae'n cael ei bweru gan fodelau Gemini AI Google. Er mwyn cadw at bolisïau diogelu data a chydymffurfio, dim ond drwy eu cyfrif Hwb y mae Google Gemini Notebook ar gael i ymarferwyr.
Sut i gael mynediad i Gemini Notebook yn Hwb
I gael mynediad i Gemini Notebook o wefan Hwb, mewngofnodwch a chliciwch ar yr ap Google ar ddangosfwrdd Hwb. Agorwch y waffl Google (y grid o sgwariau yn y gornel dde uchaf), sgroliwch i lawr a dewiswch Gemini Notebook.
I gael mynediad i Gemini Notebook y tu allan i wefan Hwb, agorwch notebooklm.google.com a mewngofnodwch gan ddefnyddio cyfrif Hwb. Edrychwch yng nghornel dde uchaf y sgrin i sicrhau bod Gemini Notebook wedi'i fewngofnodi i gyfrif Hwb ac nid cyfrif Google personol.
Sut y gall Gemini Notebook gefnogi ysgolion
- Crynhoi erthyglau ymchwil a deunyddiau dysgu proffesiynol.
- Trawsnewid dogfennau sydd wedi'u huwchlwytho yn drosolygon sain.
- Creu trosolwg fideo i ddeall syniadau craidd.
- Gofyn cwestiynau am ddogfennau ysgol, er enghraifft adroddiadau Estyn, cynlluniau gwella’r ysgol ayyb.
- Trefnu nodiadau a syniadau ar gyfer datblygu'r cwricwlwm neu gynllunio strategol ar gyfer yr ysgol gyfan.
- Cysylltu syniadau trwy greu mapiau meddwl.
- Creu cardiau fflach ar gyfer adolygu.
Rhannu ac aseinio ffeiliau Gemini Notebook yn Google Classroom
Gellir rhannu llyfrau nodiadau rhwng ymarferwyr i gynorthwyo cydweithio, gyda phob defnyddiwr yn y gyfran honno yn gallu ychwanegu hyd at 50 o ffynonellau. Pan fyddwch mewn llyfr nodiadau unigol, cliciwch y botwm rhannu yn y gornel dde uchaf i reoli pwy sydd â mynediad i'r llyfr nodiadau a gosod caniatâd rhannu.
Gellir neilltuo a rhannu llyfrau nodiadau trwy Google Classroom; fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw dysgwyr yn gallu cael mynediad i Gemini Notebook gan ddefnyddio eu cyfrifon Hwb. Er bod yr eicon i atodi ffeil Gemini Notebook yn weladwy i ymarferwyr wrth greu aseiniadau, ni fydd dysgwyr yn gallu agor na gweld ffeiliau Gemini Notebook.
Darganfyddwch fwy am rannu llyfrau nodiadau.
Ystyriaethau allweddol
- Dylai defnyddio Gemini Notebook gyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol, diogelu a gwarchod data. Dylai ei ddefnydd hefyd adlewyrchu unrhyw strategaethau AI presennol a osodwyd gan yr awdurdod lleol.
- Mae Gemini Notebook wedi'i gynllunio i gefnogi nid disodli barn broffesiynol. Gall gynhyrchu ymatebion anghywir neu ragfarnllyd ac mae'n agored i achosion o dorri hawlfraint. Weithiau gall ymddangos ei fod yn mynegi barn neu emosiynau personol, nad ydynt yn rhai go iawn. Yn ogystal, gall gamfarnu awgrymiadau, methu ag ymateb yn briodol neu gynnig atebion anaddas.
- Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i ffynonellau sydd wedi'u llwytho i Gemini Notebook, gan y gall ddylanwadu ar natur yr allbwn. Os ystyrir bod cynnwys a gynhyrchir gan Gemini Notebook yn amhriodol, rhaid ei adrodd i dîm TG yr ysgol, partner cymorth technoleg addysg neu awdurdod lleol.
- Am adnoddau ychwanegol am AI cynhyrchiol, gan gynnwys canllawiau, hyfforddiant a gweithgareddau dysgu, ewch i dudalen AI cynhyrchiol Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb.
Terfynau defnydd
Mae Google Gemini Notebook yn Hwb yn gweithredu gyda dau fath o derfyn:
1. Terfynau creu
Mae gan Google Gemini Notebook derfynau creu parhaus. Mae'r terfynau hyn yn adlewyrchu'r uchafswm cynnwys y gall ymarferydd ei adeiladu dros amser:
- hyd at 100 o lyfrau nodiadau fesul ymarferydd
- hyd at 50 o ffynonellau wedi'u huwchlwytho i bob llyfr nodiadau
- gall pob ffynhonnell gynnwys hyd at 500,000 o eiriau neu 200MB (ar gyfer uwchlwythiadau lleol)
- mae llyfrau nodiadau a rennir yn cadw terfynau ffynonellau unigol, gall pob ymarferydd uwchlwytho hyd at 50 o ffynonellau, ond mae cyfanswm nifer y llyfrau nodiadau yn gysylltiedig â'u cyfrif eu hunain
Nid yw'r terfynau hyn yn ailosod ac maent yn cynrychioli capasiti hirdymor gweithle Gemini Notebook ymarferydd.
2. Terfynau defnydd dyddiol
Mae'r rhain yn ailosod bob 24 awr ac yn berthnasol i faint y gall ymarferydd ryngweithio â Gemini Notebook:
- 50 o ymholiadau sgwrsio
- 3 cynhyrchiad sain
- 3 cynhyrchiad fideo
- 10 adroddiad
- 10 cwis
- 10 cerdyn fflach
Cadw data
| Math o ddata | Cadw data | Cyfnod cadw |
|---|---|---|
| Ymholiadau sgwrsio | Heb ei gadw | Ceir ei wared ar ôl y sesiwn |
| Deunyddiau wedi'u huwchlwytho | Wedi’i gadw | Nes i'r defnyddiwr ddileu |
| Nodiadau wedi'u cadw | Wedi’i gadw | Nes i'r defnyddiwr ddileu |
| Trosolwg sain | Wedi’i gadw | Nes i'r defnyddiwr ddileu |
| Awgrymiadau/ymatebion (WS) | Heb ei gadw yn y Gweithle | Wedi’i glirio ar ôl pob sesiwn |
| Llyfr nodiadau | Wedi’i gadw | Nes i'r defnyddiwr ddileu |
Sicrwydd data
- Dylai ysgolion ystyried a oes angen Asesiad newydd o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA), neu a ddylid diweddaru eu DPIA cyfredol. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at Supporting Your Data Protection Impact Assessment (DPIA) for Google Workspace with Gemini.
- Mae ymarferwyr sy'n defnyddio Gemini Notebook yn Hwb yn elwa o amddiffyniadau a rheolaethau gwell o'r enw Enterprise Data Protection. Gwnewch yn siŵr bod cyfrif Hwb yn cael ei ddefnyddio bob amser, nid cyfrif Google personol, gwiriwch yr eicon yn y gornel dde uchaf.
- Mae data yn Gemini Notebook yn cael ei storio o fewn y parth Hwb. Mae'n breifat ac ni all unrhyw un y tu allan i Hwb gael mynediad iddo - oni bai bod ymarferydd yn dewis ei rannu.
- Ni fydd awgrymiadau ac ymatebion yn cael eu hadolygu gan adolygwyr dynol ac ni chânt eu defnyddio i hyfforddi'r modelau iaith mawr sylfaenol (LLMs). Dim ond mynediad i ffeiliau y mae'r ymarferydd yn caniatáu mynediad iddynt sydd gan Google Gemini Notebook. Fodd bynnag, mae ysgolion yn parhau i fod yn rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth a fewnbynnir ac maent yn gyfrifol am sut y defnyddir yr allbwn data. Pan fydd ysgol yn ystyried defnyddio offer AI mewn ffordd a allai gynnwys data personol neu gategori arbennig, dylai:
- gynnal Asesiad Effaith Diogelu Data lleol
- gofyn am gyngor gan swyddog diogelu data'r ysgol
Mae hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw risgiau yn cael eu deall a'u rheoli'n briodol yn y cyd-destun lleol. Mae enghreifftiau o ddata categori personol a sensitif yn cynnwys:
- data personol fel enwau, cyfeiriadau e-bost, dynodwyr dysgwyr, dyddiadau geni neu unrhyw wybodaeth a allai adnabod unigolyn
- data categori arbennig fel gwybodaeth iechyd, manylion diogelu, anghenion dysgu ychwanegol neu ddata cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Mae Gemini Notebook yn parchu'r caniatâd a'r rheolaethau mynediad a osodwyd o fewn Google Workspace Hwb.
- Mae Gemini Notebook yn cadw at ymrwymiadau preifatrwydd a diogelwch, gan gynnwys GDPR y DU. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Generative AI in Google Workspace Privacy Hub.
Prosesu data
Natur y prosesu
Mae Gemini yn casglu data yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr drwy:
- bromptiau
- ymholiadau
- cynnwys a ffeiliau a lanlwythir
- metadata sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau.
Mae’r mewnbynnau hyn yn cael eu prosesu i gefnogi tasgau proffesiynol ac addysgol.
Mae’r holl brosesu yn digwydd o fewn ffin ymddiriedaeth ddiogel Hwb ar Google Workspace. Mae Google yn gweithredu o dan reolaethau diogelu data sy’n addas ar gyfer sefydliadau mawr a lywodraethir gan y Google Workspace for Education Terms of Service a’r Cloud Data Processing Addendum (CDPA). Mae pob rhyngweithiad yn cael ei gofnodi gan y system ar gyfer cydymffurfio â GDPR y DU.
Nid yw promptiau, lanlwythiadau ac ymatebion byth yn cael eu defnyddio i hyfforddi neu wella modelau AI Google. Nid ydynt byth yn cael eu hadolygu gan bobl ac nid ydynt byth yn cael eu gwerthu i drydydd partïon.
Mae nodweddion Google AI yn parchu’r holl ffiniau a chaniatadau presennol o ran mynediad i barthau. Os nad oes gan ddefnyddiwr ganiatâd penodol i gael mynediad at ffeil neu ffolder benodol, ni all y gwasanaeth AI adfer na rhyngweithio â’r data hwnnw.
Nid yw Gemini a Gemini Notebook yn sefydlu cysylltiad uniongyrchol rhwng rhwydwaith lleol y defnyddiwr a’r rhyngrwyd gyhoeddus. Yn hytrach, mae prosesau adalw gwybodaeth fyw yn dibynnu ar fecanwaith mewnol sylfaenu chwiliadau (search grounding) yn erbyn mynegai gwe Google; mae’r gwasanaeth yn gwneud ymholiadau allanol i fynegai Chwilio Google, gan ddod â chynnwys gwe allanol yn ôl i’r sesiwn ddiogel.
Cwmpas y prosesu
Gall y data a brosesir gynnwys:
- promptiau testun a fewnbynnwyd gan ddefnyddwyr
- ffeiliau a lanlwythwyd gan ddefnyddwyr
- allbynnau AI fel testun, cynlluniau gwersi, cwestiynau cwis a chrynodebau a gynhyrchwyd
- cofnodion y system, gan gynnwys data mewngofnodi sylfaenol, stampiau amser, a llwybrau archwilio
Mae ysgolion, fel rheolydd data, yn penderfynu a yw data categori arbennig neu ddata troseddol yn cael eu prosesu wrth ddefnyddio Gemini. Pan fydd ysgol yn dewis gwneud hynny, rhaid nodi hyn yn ei Hasesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data lleol. Dylai ysgolion nodi mesurau diogelu priodol, gan gynnwys:
- leihau data
- cyfyngu ar y dibenion
- canllawiau i staff ar ddefnydd priodol.
Mae faint o ddata a brosesir, a pha mor aml, yn dibynnu ar ddefnydd staff a’r dull gweithredu lleol. Mae hanes sgyrsiau ar gael i ddefnyddwyr am hyd at 3 mis, os na chaiff ei dileu gan y defnyddiwr neu oherwydd polisi cadw’r sefydliad.
Mae nifer yr unigolion yr effeithir arnynt wedi’i gyfyngu i staff awdurdodedig sy’n defnyddio Gemini yn yr ysgol. Mae Gemini wedi’i ddiffodd i ddysgwyr.
Prosesir y data yn ddiogel o fewn seilwaith AI cwmwl Google. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddata yn cael eu cadw na’u defnyddio ar gyfer hyfforddi’r model yn y canolfannau prosesu hyn. Mae data llonydd (data at rest) (hanes sgyrsiau a chofnodion) yn cael eu storio’n ddiogel o fewn ffin tenant rhanbarthol a reolir Hwb ar Google Workspace for Education.
Trosglwyddir data i brif ddarparwyr gwasanaeth Google yn yr Undeb Ewropeaidd (Iwerddon).
Gwahaniaethau rhwng cyfrif Google yn Hwb a chyfrif Google personol
| Nodweddion | Defnyddio Gemini pan nad ydych wedi mewngofnodi gyda chyfrif Hwb (mynediad heb ei ddilysu) | Defnyddio Gemini pan nad ydych wedi mewngofnodi gyda chyfrif Hwb (mynediad heb ei ddilysu) |
|---|---|---|
| Nid yw cyfarwyddiadau ac ymatebion yn cael eu defnyddio i hyfforddi'r modelau sylfaen | Na | Ydy |
| Amgryptio data wrth orffwys ac wrth drosglwyddo. Nid oes gan Google fynediad ‘eye-on’ iddo gyda rheolaethau diogelwch ffisegol llym, ac ynysir data rhwng tenantiaid | Ydy | Ydy |
| Mae cyfarwyddiadau ac ymatebion yn cael eu storio ar gyfer senarios cydymffurfio | Na | Ydy |
| Mae cyfarwyddiadau ac ymatebion yn aros o fewn ffin gwasanaeth Google Education | Na | Ydy |
| Gwasanaeth prosesydd. Mae Telerau Diogelu Data a Chynhyrchion yn berthnasol | Na | Ydy |
| Cefnogaeth ar gyfer GDPR, ac ISO/IEC 27018 | Ydy | Ydy |
| Mae cyfarwyddiadau ac ymatebion wedi'u cofnodi ac ar gael i'w harchwilio | Na | Ydy |
| Mae cyfarwyddiadau ac ymatebion ar gael ar gyfer eDiscovery | Na | Ydy |
| Yn cael ei drosglwyddo i wasanaeth chwilio Google, er mwyn cael gwybodaeth o'r we | Ydy | Ydy |
| Wedi'i wahanu/ei wneud yn anhysbys oddi wrth ddata sylfaenol a data am ymholiadau’r defnyddiwr | Ydy | Ydy |
| Gwasanaeth rheolydd. Mae'r defnydd o Google Search, gan gynnwys fel rhan o nodwedd sylfaenu Gemini, yn cael ei lywodraethu gan Delerau Gwasanaeth Google a Pholisi Preifatrwydd Google. Lle bo hynny’n berthnasol, mae prosesu data yn ddarostyngedig i Delerau Diogelu Data Rheolydd-Rheolydd Google. | Ydy | Ydy |
| Mae hysbysebion yn cael eu dangos | Ydy | Na |
Mae mwy o wybodaeth am Gemini Notebook ar gael yn Frequently asked questions, Gemini Notebook Help.