English

Mae Britannica School yn rhoi mynediad i ysgolion at adnoddau o ansawdd uchel:

  • erthyglau digidol dibynadwy
  • bywgraffiadau
  • delweddau
  • fideos
  • cynnwys rhyngweithiol

Drwy Hwb, mae gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru fynediad at Britannica School.

Gall ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion archwilio adnoddau Britannica School a recordiadau Gŵyl Digi Hwb i gael cymorth cam wrth gam a gwybodaeth ar sut i’w ddefnyddio’n ymarferol.

Mae Britannica School yn darparu cynnwys ar wahanol lefelau darllen:

  • Sylfaen: argymhellir ar gyfer 8 i 11 oed 
  • Canolradd: argymhellir ar gyfer 11 i 14 oed 
  • Uwch: argymhellir ar gyfer 14 i 18 oed a hŷn

Mae 2 ffordd i gael mynediad at Britannica Education:

  • Mewngofnodi i wefan Hwb a chlicio ar ap Britannica Education ar ddangosfwrdd Hwb. Mae'r dudalen hon yn rhoi mynediad i ddysgwyr ac ymarferwyr at Britannica School a Britannica ImageQuest.
  • Chwilio'n uniongyrchol am gynnwys o Britannica School a Britannica ImageQuest yn yr ardal Adnoddau ar Hwb.

Ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y mae tudalennau hafan Britannica School ar gael. Wrth edrych ar erthygl, gallwch ar y botwm cyfieithu a dewis eich iaith. 

  • Darparu cynnwys digidol o ansawdd uchel am ystod eang o themâu a phynciau cyffredin i wella addysgu a dysgu ar draws y Cwricwlwm i Gymru.
  • Datblygu sgiliau ymchwil, gwirio ffeithiau a meddwl beirniadol dysgwyr.
  • Darparu mynediad at ffynonellau ychwanegol o gynnwys dibynadwy fel cyfnodolion, e-lyfrau, newyddion a ffynonellau cynradd eraill.
  • Darparu amgylchedd diogel, wedi'i hidlo ar gyfer ymchwil ar-lein.
  • Gwella hygyrchedd trwy nodweddion fel Darllen yn Uchel, lefelau darllen y gellir eu haddasu a chefnogaeth weledol.
  • Helpu i ddatblygu llythrennedd digidol trwy offer dyfynnu parod a ffynonellau gwybodaeth strwythuredig.
  • Yn cynnwys offer ar gyfer gosod tasgau ymchwil ac aseiniadau i Google Classroom neu Microsoft Teams yn uniongyrchol o fewn y platfform.
  • Sicrhau bod y defnydd o Britannica School yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis diogelu, llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol a diogelu data.
  • Wrth ddefnyddio Britannica School, dim ond yn yr iaith Saesneg y gellir cynnal chwiliadau ar hyn o bryd.
  • Mae Britannica School yn cynnwys nodweddion hygyrchedd i gefnogi pob dysgwr. Mae'r rhain yn cynnwys offeryn "Darllen yn Uchel" (“Read Aloud”) sy'n adrodd erthyglau ac opsiwn ffont 'OpenDyslexic' wedi'i gynllunio i wella darllenadwyedd i ddysgwyr â dyslecsia. Fodd bynnag, nid yw'r nodwedd Darllen yn Uchel yn ddibynadwy ar hyn o bryd ar gyfer cynnwys Cymraeg. 
  • Wrth edrych ar erthygl, delwedd, fideo, cyfnodolyn ac ati mae dewis yr opsiwn "Cadw" yn annog y defnyddiwr i greu cyfrif personol. Gall ymarferwyr ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost Hwb i greu cyfrif. Gall dysgwyr greu cyfrif heb roi cyfeiriad e-bost.
  • Os yw dysgwr yn anghofio ei fanylion mewngofnodi, rhaid i ymarferydd gysylltu â Britannica am gais i ailosod cyfrinair.

Dylai ysgolion ystyried:

  • a oes angen Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) newydd
  • neu a ddylid diweddaru eu DPIA presennol

Nid yw Britannica Education yn defnyddio nac yn storio gwybodaeth bersonol na data dysgwr.

Mae rhyngweithiad pob defnyddiwr â Britannica yn annibynnol ac yn breifat. Am fwy o wybodaeth am gydymffurfiaeth Britannica â deddfau a rheoliadau preifatrwydd data, cyfeiriwch at Britannica Education Privacy Policy Notice. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â data dysgwyr.

Nid yw Britannica Education yn defnyddio data dysgwyr ar gyfer hysbysebu neu farchnata wedi'i dargedu, nac yn gwerthu data i drydydd partïon.

Gellir cyfuno Britannica Education gydag offer fel Microsoft Teams a Google Classroom. Dylai ysgolion sicrhau eu bod yn deall sut mae data dysgwyr yn cael ei drin wrth gyfuno rhaglenni fel hyn.

Natur y prosesu

Dim ond yr wybodaeth bersonol a'r data dysgwyr sy’n angenrheidiol i ddarparu mynediad i Britannica School ac ImageQuest trwy gyfrwng Hwb a gesglir gan Britannica Education. 

  • Mae’r ymarferwyr a’r dysgwyr yn rheoli pa ddata a gofnodir. 
  • Dim ond gyda gwerthwyr trydydd parti sy'n cefnogi gweithrediad Britannica School ac ImageQuest y mae Britannica Education yn rhannu data. 
  • Ni ddefnyddir data i farchnata cynhyrchion neu wasanaethau i ddysgwyr.
  • Nid yw’r gwasanaethau’n cynnwys unrhyw hysbysebion trydydd parti neu hysbysebion a dargedir.

Nid yw Britannica Education yn mynd ati’n ymwybodol i gasglu na cheisio gwybodaeth bersonol gan blant dan 16 oed neu ynglŷn â phlant dan 16 oed, oni bai y caniateir hynny gan y gyfraith neu gan gontract. Os gwelir bod gwybodaeth bersonol wedi'i chasglu gan blentyn dan 16 oed yn groes i'r polisi hwn, bydd yn cael ei dileu ar unwaith.

Cwmpas y prosesu 

Mae Britannica Education yn prosesu data ymarferwyr a data dysgwyr er mwyn darparu mynediad i Britannica School ac ImageQuest trwy gyfrwng Hwb. 

Mewn rhai achosion, efallai y bydd darparwyr gwasanaethau trydydd parti yn:

  • cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau
  • cael mynediad at wybodaeth bersonol

Cyfyngir y mynediad hwn i'r hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau ar ran Britannica School.

Gall Britannica Education a darparwyr gwasanaethau trydydd parti awdurdodedig ddefnyddio:

  • cwcis
  • tywysyddion (beacons)
  • technolegau tebyg 

Defnyddir y rhain:

  • i alluogi ymarferwyr a dysgwyr i lywio Britannica School ac ImageQuest trwy Hwb
  • at ddibenion ystadegol
  • i ddadansoddi a gwella'r modd y defnyddir eu gwasanaethau
  • i baratoi adroddiadau defnydd anadnabyddadwy

Rhannu data

Dim ond i’r canlynol y bydd data dysgwyr yn cael ei ddatgelu:

  • gweithwyr awdurdodedig Llywodraeth Cymru
  • uwch gynrychiolwyr ysgol

Ni fydd Britannica Education yn datgelu data dysgwyr yn fwriadol i unrhyw drydydd person heb gael caniatâd ysgrifenedig penodol. 

Y modd y caiff eich gwybodaeth ei storio a'i chadw'n ddiogel

Caiff gwybodaeth bersonol a gesglir trwy gyfrwng Britannica Education ei storio ar weinyddion mynediad cyfyngedig. 

Mae Britannica Education yn cynnal rhaglen diogelwch gwybodaeth. Maent yn defnyddio mesurau diogelu sefydliadol, ffisegol, technegol a gweinyddol rhesymol i ddiogelu eu gweinyddwyr a'r data sydd arnynt rhag mynediad, defnydd, datgeliad, colled neu newidiadau anawdurdodedig.

Mae’r mesurau diogelwch yn cynnwys, ymhlith eraill:

  • amgryptio data
  • mesurau diogelwch sy'n amddiffyn rhag mynediad anawdurdodedig ac ymosodiad allanol 
  • polisïau mewnol a hyfforddiant i staff yn ymwneud â diogelu data 
  • polisi hysbysu ynghylch tor diogelwch data.

Caiff mesurau diogelwch eu hadolygu, eu profi a'u diweddaru'n rheolaidd.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Britannica Education Privacy Policy.