Britannica ImageQuest
Sut i gael mynediad at ddelweddau a fideos am ddim at ddefnydd addysgol.
Trosolwg
Mae Britannica ImageQuest yn darparu delweddau a fideos addysgol sy'n cydymffurfio â chyfreithiau hawlfraint. Maent wedi eu cyrchu gan bartneriaid cyfryngau uchel eu parch i'w defnyddio mewn ysgolion. Gall dysgwyr ac ymarferwyr ddefnyddio'r rhain yn rhad ac am ddim ac mewn amgylchedd diogel.
Drwy Hwb, mae gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru fynediad at Britannica ImageQuest.
Gall ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion archwilio adnoddau Britannica School i gael cymorth cam wrth gam a gwybodaeth ar sut i’w ddefnyddio’n ymarferol.
Sut i gael mynediad at Britannica ImageQuest yn Hwb
Mae 2 ffordd i gael mynediad at Britannica ImageQuest:
- Mewngofnodi i wefan Hwb a chlicio ar ap Britannica Education ar ddangosfwrdd Hwb. Mae'r dudalen hon yn rhoi mynediad i ddysgwyr ac ymarferwyr at Britannica ImageQuest.
- Chwilio'n uniongyrchol am gynnwys o Britannica School a Britannica ImageQuest yn yr ardal Adnoddauu ar Hwb.
Sut y gall Britannica ImageQuest gefnogi ysgolion
- Hybu ymchwil ddiogel a chyfrifol trwy amgylchedd heb hysbysebion.
- Darparu llyfrgell o ddelweddau proffesiynol di-hawlfraint i'w defnyddio mewn gwersi, cyflwyniadau, aseiniadau a phrosesau cyfathrebu’r ysgol.
- Galluogi dysgwyr i ymarfer defnyddio cyfryngau mewn ffordd foesegol a gwybodus trwy ddefnyddio dyfyniadau a gwybodaeth lawn am bob delwedd.
Ystyriaethau allweddol
- Sicrhau bod y defnydd o Britannica ImageQuest yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis diogelu, llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol a diogelu data.
Gosodiadau iaith
Mae Britannica ImageQuest yn caniatáu chwilio yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Sicrwydd data
Dylai ysgolion ystyried:
- a oes angen Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) newydd
- neu a ddylid diweddaru eu DPIA presennol
Nid yw Britannica Education yn defnyddio nac yn storio gwybodaeth bersonol na data dysgwr. Mae rhyngweithiad pob defnyddiwr â Britannica yn annibynnol ac yn breifat. Am fwy o wybodaeth am gydymffurfiaeth Britannica â deddfau a rheoliadau preifatrwydd data, cyfeiriwch at Britannica Education Privacy Policy Notice.
Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â data dysgwyr. Nid yw Britannica Education yn defnyddio data dysgwyr ar gyfer hysbysebu neu farchnata wedi'i dargedu, nac yn gwerthu data i drydydd partïon.
Gellir cyfuno Britannica Education gydag offer fel Microsoft Teams a Google Classroom. Dylai ysgolion sicrhau eu bod yn deall sut mae data dysgwyr yn cael ei drin wrth gyfuno rhaglenni fel hyn.
Mae'r holl ddelweddau yn ImageQuest wedi'u trwyddedu at ddefnydd addysgol, anfasnachol.
Gosodiadau iaith
Gellir cyfieithu hafan Britannica ImageQuest i'r Gymraeg gan ddefnyddio'r botwm cyfieithu (glôb) yn y gornel dde uchaf.
Prosesu data
Natur y prosesu
Dim ond yr wybodaeth bersonol a'r data dysgwyr sy’n angenrheidiol i ddarparu mynediad i Britannica School ac ImageQuest trwy gyfrwng Hwb a gesglir gan Britannica Education.
- Mae’r ymarferwyr a’r dysgwyr yn rheoli pa ddata a gofnodir.
- Dim ond gyda gwerthwyr trydydd parti sy'n cefnogi gweithrediad Britannica School ac ImageQuest y mae Britannica Education yn rhannu data.
- Ni ddefnyddir data i farchnata cynhyrchion neu wasanaethau i ddysgwyr.
- Nid yw’r gwasanaethau’n cynnwys unrhyw hysbysebion trydydd parti neu hysbysebion a dargedir.
Nid yw Britannica Education yn mynd ati’n ymwybodol i gasglu na cheisio gwybodaeth bersonol gan blant dan 16 oed neu ynglŷn â phlant dan 16 oed, oni bai y caniateir hynny gan y gyfraith neu gan gontract. Os gwelir bod gwybodaeth bersonol wedi'i chasglu gan blentyn dan 16 oed yn groes i'r polisi hwn, bydd yn cael ei dileu ar unwaith.
Cwmpas y prosesu
Mae Britannica Education yn prosesu data ymarferwyr a data dysgwyr er mwyn darparu mynediad i Britannica School ac ImageQuest trwy gyfrwng Hwb.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd darparwyr gwasanaethau trydydd parti yn:
- cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau
- cael mynediad at wybodaeth bersonol
Cyfyngir y mynediad hwn i'r hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau ar ran Britannica School.
Gall Britannica Education a darparwyr gwasanaethau trydydd parti awdurdodedig ddefnyddio:
- cwcis
- tywysyddion (beacons)
- technolegau tebyg
Defnyddir y rhain:
- i alluogi ymarferwyr a dysgwyr i lywio Britannica School ac ImageQuest trwy Hwb
- at ddibenion ystadegol
- i ddadansoddi a gwella'r modd y defnyddir eu gwasanaethau
- i baratoi adroddiadau defnydd anadnabyddadwy
Rhannu data
Dim ond i’r canlynol y bydd data dysgwyr yn cael ei ddatgelu:
- gweithwyr awdurdodedig Llywodraeth Cymru
- uwch gynrychiolwyr ysgol
Ni fydd Britannica Education yn datgelu data dysgwyr yn fwriadol i unrhyw drydydd person heb gael caniatâd ysgrifenedig penodol.
Y modd y caiff eich gwybodaeth ei storio a'i chadw'n ddiogel
Caiff gwybodaeth bersonol a gesglir trwy gyfrwng Britannica Education ei storio ar weinyddion mynediad cyfyngedig.
Mae Britannica Education yn cynnal rhaglen diogelwch gwybodaeth. Maent yn defnyddio mesurau diogelu sefydliadol, ffisegol, technegol a gweinyddol rhesymol i ddiogelu eu gweinyddwyr a'r data sydd arnynt rhag mynediad, defnydd, datgeliad, colled neu newidiadau anawdurdodedig.
Mae’r mesurau diogelwch yn cynnwys, ymhlith eraill:
- amgryptio data
- mesurau diogelwch sy'n amddiffyn rhag mynediad anawdurdodedig ac ymosodiad allanol
- polisïau mewnol a hyfforddiant i staff yn ymwneud â diogelu data
- polisi hysbysu ynghylch tor diogelwch data.
Caiff mesurau diogelwch eu hadolygu, eu profi a'u diweddaru'n rheolaidd.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Britannica Education Privacy Policy.