Adobe Express
Sut i gael mynediad at Adobe Express a'i ddefnyddio ar gyfer cynnwys creadigol fel graffigau, lluniau a fideos.
Trosolwg
Mae Adobe Express for Education ar gael i bob dysgwr ac ymarferydd mewn ysgolion a gynhelir. Mae'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau cymhwysedd digidol creadigol ar draws Cwricwlwm i Gymru. Gyda'i offer greddfol, gall dysgwyr ac ymarferwyr greu:
- graffeg o ansawdd uchel
- cyflwyniadau
- tudalennau gwe
- fideos
- podlediadau
Gall y rhain helpu i ddod â dysgu’n fyw ar draws y cwricwlwm.
Ewch ar daith o amgylch Adobe Express for Education.
Sut i gael mynediad at Adobe Express yn Hwb
Mae yna 3 ffordd o gael Adobe Express:
- Mewngofnodwch i wefan Hwb a chliciwch ar yr ap Adobe Express ar ddangosfwrdd Hwb.
- Mynd i express.adobe.com a mewngofnodi gyda'ch cyfrif Hwb.
- Defnyddio’r ap Adobe Express, os ydych chi'n defnyddio iPad.
Sut y gall Adobe Express gefnogi ysgolion
Gall dysgwyr:
- gyflwyno’u syniadau’n greadigol mewn posteri, cyflwyniadau a ffeithluniau
- creu portffolios digidol i arddangos gwaith
- animeiddio cymeriadau gyda sain
- cyfuno clipiau fideo, lluniau a cherddoriaeth i mewn i brosiectau fideo
- creu podlediadau
- archwilio gweithgareddau dan arweiniad gyda chyfarwyddiadau cam wrth gam i roi cymorth ychwanegol
Gall ymarferwyr:
- gael templedi ac adnoddau parod i gefnogi dysgu ac addysgu
- dylunio adnoddau ar gyfer arddangosfeydd ystafell ddosbarth, posteri, cyflwyniadau neu drosolwg gweledol
- creu cylchlythyrau rhieni neu staff fel tudalennau gwe neu ddogfennau PDF
- creu tystysgrifau i ddathlu cyflawniadau
- recordio clipiau llais dros ddelweddau a fideos i greu fideos esboniadol
- defnyddio offer golygu i gael gwared ar gefndiroedd o ddelweddau a fideos, trosi ffeiliau i PDF ac o PDF a newid maint delweddau
Gall ymarferwyr a dysgwyr ddatblygu eu sgiliau digidol drwy gymryd rhan yn:
Mae cymorth pellach ar gael i ymarferwyr drwy:
- gymuned Adobe Creative Educator
- gweminarau ar-alw Hwb ac Adobe
- 45 Adobe Express lessons for the Welsh classroom eBook. Mae rhain yn cynnwys syniadau ar gyfer gweithgareddau, tiwtorialau fideo a thaflenni i ddysgwyr sy'n cyd-fynd â Cwricwlwm i Gymru.
AI Cynhyrchiol yn Adobe Express
Mae Adobe Express yn Hwb yn cynnwys nodweddion AI cynhyrchiol Adobe Firefly. Mae'r rhain wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer defnydd yn yr ystafell ddosbarth. Gall ymarferwyr gael cymorth ac awgrymiadau o ganllaw Adobe ar gyfer troi testun yn ddelwedd.
Mae nodweddion yn cynnwys:
- testun i ddelwedd: cynhyrchu delweddau unigryw o ddisgrifiad testun
- effeithiau testun: cymhwyso gweadau ac arddulliau creadigol i destun
- llenwi cynhyrchiol: mewnosod, tynnu neu ddisodli gwrthrychau mewn delwedd gan ddefnyddio awgrymiadau testun syml
Ystyriaethau allweddol
Dylid defnyddio Adobe Express yn unol â pholisïau ehangach yr ysgol, megis:
- llythrennedd digidol
- diogelwch ar-lein
- defnydd derbyniol
- diogelwch
- diogelu data
Mae Adobe Express yn cynnwys:
- hidlo chwiliad diogel ar gyfer delweddau a fideos
- rheiliau gwarchod ar gyfer awgrymiadau ac allbynnau AI cynhyrchiol i helpu sicrhau bod cynnwys yn parhau i fod yn briodol i ddysgwyr
Fodd bynnag, gall AI cynhyrchiol gynhyrchu canlyniadau anghywir, anaddas neu ragfarnllyd. Dylid rhoi gwybod am unrhyw gynnwys amhriodol i Adobe gan ddefnyddio'r botwm bawd i lawr gyda manylion.
Mae delweddau a cherddoriaeth Adobe Stock yn rhad ac am ddim at ddefnydd addysgol.
Gellir rhannu gwaith drwy:
- ddolen
- Microsoft Teams
- Google Classroom
Dylai ymarferwyr sicrhau bod dysgwyr yn deall gyda phwy maen nhw'n rhannu eu gwaith (er enghraifft, 'Unrhyw un sydd â'r ddolen' neu bobl benodol).
Sicrwydd data
Dylai ysgolion ystyried a:
- oes angen Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) newydd
- dylid diweddaru eu DPIA cyfredol
Gellir cyfuno Adobe Express gydag offer fel Microsoft Teams a Google Classroom. Dylai ysgolion sicrhau eu bod yn deall sut mae data dysgwyr yn cael ei drin wrth gyfuno rhaglenni fel hyn.
Nid yw Adobe yn defnyddio data dysgwyr ar gyfer hysbysebu neu farchnata wedi'i dargedu. Nid yw data’n cael ei werthu i drydydd partïon.
Mae Cytundeb Prosesu Data Adobe yn cydymffurfio â gofynion GDPR ar gyfer preifatrwydd a diogelwch.
Mae gwybodaeth am bolisïau preifatrwydd data Adobe ar gyfer dysgwyr iau ac ysgolion ar gael yng nghanolfan preifatrwydd Adobe.
Terfynau defnydd
Nid oes unrhyw gyfyngiadau defnydd ar Adobe Express. Efallai y byddwch yn sylwi bod y credydau AI Cynhyrchiol yn gostwng, ond mae hwn yn derfyn meddal yn y fersiwn addysg.