Gall gwersi byw helpu i gynnal dysgu yn ystod cyfnodau o aflonyddwch neu absenoldeb. Maent yn cynnig ffordd hyblyg a rhyngweithiol o gadw diddordeb dysgwyr, p'un ai eu bod yn dysgu o bell neu'n dal i fyny ar gynnwys a gollwyd.
Trwy ryngweithiad amser real ag ymarferwyr a chyfoedion, gall gwersi byw gefnogi:
- cydweithio
- atgyfnerthu cysyniadau allweddol
- sicrhau bod dysgu’n parhau
Sut y gall gwersi byw gefnogi parhad dysgu
- Gall dysgu wedi'i gynllunio barhau i ddysgwyr sy'n absennol neu'n dysgu gartref oherwydd amgylchiadau amrywiol.
- Gellir recordio a rhannu gwersi ar gyfer adolygu neu ar gyfer dysgwyr na allent fod yn y wers fyw.
- Mae’n helpu i gynnal perthnasoedd ac ymdeimlad o gymuned ystafell ddosbarth, hyd yn oed wrth ddysgu o bell.
- Mae’n caniatáu cyfarwyddyd wedi'i deilwra a gweithgareddau ystafell grŵp er mwyn cwrdd ag anghenion dysgu amrywiol.
- Mae’n galluogi adborth, eglurhad a thrafodaeth ar unwaith rhwng ymarferwyr a dysgwyr.
- Gall offer rhyngweithiol a chyflwyno byw gynyddu ymgysylltiad a chyfranogiad.
Ystyriaethau allweddol
Defnyddiwch y canllawiau darparu cyfleoedd dysgu ar-lein: egwyddorion ac arferion diogelu wrth ystyried cyflwyno gwersi byw.
Sicrhewch bod defnyddio Microsoft Teams neu Google Meet ar gyfer gwersi byw yn cyd-fynd ag anghenion y dysgwyr a pholisïau ehangach yr ysgol megis:
- diogelu
- llythrennedd digidol
- diogelwch ar-lein
- defnydd derbyniol
- diogelu data
Dylid ystyried yn ofalus yr holl wybodaeth a rennir gyda Microsoft Teams a Google Meet ar gyfer gwersi byw er mwyn sicrhau preifatrwydd a diogelwch. Mae ymarferwyr yn gyfrifol am sicrhau nad oes unrhyw wybodaeth bersonol, sensitif neu gyfrinachol yn cael ei rhannu.
Adolygwch y caniatadau ar gyfer Microsoft Teams a Google Meet yn rheolaidd er mwyn sicrhau lefelau mynediad priodol i staff a dysgwyr gan gynnwys:
- sianeli
- cyfarfodydd
- ffeiliau a rennir