Google Meet ar gyfer gwersi byw yn Hwb
Sut i ddefnyddio Google Meet ar gyfer ffrydio byw neu fideogynadledda.
- Rhan o
Mae Google Meet ar gyfer galwadau fideo a chyfarfodydd ar-lein ac mae'n galluogi ymarferwyr i gyflwyno:
- gwersi byw
- cefnogi cydweithio
- sicrhau parhad dysgu
Gall dysgwyr gysylltu â'u hymarferwyr a'u cyfoedion mewn amser real, boed yn dysgu o bell neu'n dal i fyny ar gynnwys a gollwyd.
Mae gan holl staff ysgol a dysgwyr sydd â chyfrifon Hwb fynediad i Google Meet trwy Google Workspace for Education.
Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu pwyntiau ac ystyriaethau allweddol ar gyfer defnyddio Google Meet i gefnogi gwersi byw. Gall ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion archwilio cyrsiau ac adnoddau Google for Education i gael cymorth cam wrth gam llawn ar sut i’w weithredu’n ymarferol.
Sut i gael mynediad i Google Meet yn Hwb
Mae 2 brif ffordd o gael mynediad i Google Meet o blatfform Hwb:
- mewngofnodwch i Hwb a dewiswch yr ap Google for Education o'r dangosfwrdd. Yna agorwch Meet o'r lansiwr apiau (yr eicon grid yn y gornel dde uchaf).
- fel arall, ewch yn uniongyrchol i meet.google.com a mewngofnodi gan ddefnyddio eich cyfrif Hwb. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi gyda'ch manylion Hwb bob tro, nid cyfrif Google personol.
Gosodiadau iaith
Ar gyfer ymarferwyr a dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, bydd y Gymraeg yn cael ei dewis fel yr iaith ddiofyn. Ar gyfer y rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, bydd y Saesneg yn cael ei dewis yn ddiofyn. Dysgwch sut i newid eich gosodiadau iaith.
Fformatau ar gyfer gwersi byw
Mae Google Meet yn cefnogi fformatau cyflwyno gwersi hyblyg ar gyfer hyd at 100 o gyfranogwyr, gan gynnwys:
- cyfarfodydd ar unwaith ar gyfer sesiynau cyflym, ad-hoc
- cyfarfodydd wedi'u trefnu trwy Google Calendar ar gyfer gwersi strwythuredig gyda dolenni ymuno awtomatig
- cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer dosbarthiadau neu sesiynau grŵp rheolaidd
Gall ymarferwyr sydd â thrwydded Google wedi’i huwchraddio ar gyfer Addysgu a Dysgu hefyd recordio gwersi a'u rhannu â dysgwyr nad oeddent yn gallu ymuno â'r sesiwn fyw. Darganfyddwch fwy am recordio cyfarfod fideo.
Sicrwydd data
- Dylai ysgolion adolygu neu ddiweddaru eu Hasesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) wrth ddefnyddio Google Meet ar gyfer gwersi byw.
- Mae Google Meet trwy Hwb yn cydymffurfio â GDPR y DU a safonau diogelu data.
- Rhaid i ymarferwyr sicrhau nad oes unrhyw wybodaeth bersonol, sensitif neu gyfrinachol yn cael ei rhannu wrth ddefnyddio Google Meet.
- Yn ddiofyn, mae Google Meet yn cadw gweithgarwch y gorffennol ar gyfer defnyddwyr unigol am gyfnod amhenodol. Mae hyn yn cynnwys manylion fel dyddiad, amser, hyd cyfarfodydd, ac enwau'r cyfranogwyr. I ddileu’n atwomatig bob 3, 18, neu 36 mis ewch i meet.google.com, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi gyda'ch manylion Hwb. Yna cliciwch ar yr eicon Settings ac yna Call history.
- Mae'r holl ddata yn Google Meet gan gynnwys data fideo, sain a sgwrsio wedi'i amgryptio wrth iddo deithio dros y rhyngrwyd. Fodd bynnag, os ydych chi'n defnyddio ffôn ar gyfer sain mewn cyfarfod, efallai na fydd eich galwad wedi'i hamgryptio. Mae hyn oherwydd bod eich sain yn mynd dros rwydwaith y cwmni ffôn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Security and privacy for Meet education editions - Google Workspace Admin Help.
- Pan fydd recordio wedi'i alluogi, mae Google Meet yn cadw’r recordiad yn awtomatig yn Google Drive trefnydd y cyfarfod, yn y ffolder 'Meet Recordings'. Gwnewch yn siŵr bod recordiadau'n cael eu storio, eu rhannu a'u dileu'n ddiogel yn Google Drive, yn unol â phrosesau diogelu data a rheolaethau mynediad eich ysgol. Am arweiniad pellach, darllenwch recordio gwersi a sesiynau: ystyriaethau pwysig mewn perthynas â’r Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR).
Ystyriaethau allweddol wrth ddefnyddio Google Meet ar gyfer gwersi byw
- Gwnewch yn siŵr bod yr holl staff yn darllen ac yn cadw at y canllawiau Darparu cyfleoedd dysgu ar-lein: egwyddorion ac arferion diogelu
- Mae Google Meets a gynhyrchir o Google Classroom wedi'u gosod i 'Restricted' ac yn atal dysgwyr rhag ymuno â chyfarfod nes bod ymarferydd yn ymuno. Mae pob cyfarfod newydd arall, a grëir y tu allan i Google Classroom wedi'i osod i 'Trusted' a gall dysgwyr ymuno cyn y sawl sy’n cynnal y cyfarfod (yr ymarferydd) yn ddiofyn. Darllenwch tips to control meeting access i ddysgu am reolaethau i atal ymuno yn gynnar.
- Rhannwch ddolenni cyfarfodydd gyda chyfrifon Hwb awdurdodedig y dysgwr yn unig.
- Defnyddiwch y rheolaethau o ran ystafell aros a chynnal cyfarfod i reoli pwy all ymuno, rhannu eu sgrin neu ddefnyddio’r cyfleuster sgwrsio.
- Anogwch y defnydd o nodweddion fel ymateb, codi llaw a bwrdd gwyn digidol. Dim ond gyda thrwyddedau Google wedi’u huwchraddio ar gyfer Addysgu a Dysgu y mae nodweddion Arolygon Barn a Holi ac Ateb ar gael.
- Mae capsiynau byw ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd er mwyn sicrhau bod y gwersi’n hygyrch i bob dysgwr.
- Nid yw recordio yn Google Meet wedi'i gynnwys gyda thrwydded Google Workspace for Education Fundamentals. Er mwyn galluogi recordio, mae angen trwydded Google wedi’i huwchraddio ar gyfer Addysgu a Dysgu. Dysgu mwy am recordiadau.