English

2. Sgyrsiau cyfredol

Dyma'r adran lle gallwch gofrestru i gymryd rhan yn y Rhwydwaith. Mae 2 brif ffordd o gymryd rhan:

  • trwy gefnogi cynllunio a hwyluso'r sgyrsiau’r Rhwydwaith
  • neu drwy gofrestru i gymryd rhan mewn sgwrs

Mae Sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn gyfle i bob ymarferydd yng Nghymru i gymryd rhan mewn cyd-ddatblygu cenedlaethol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sydd yn ein hwynebu.

 


 

Symposiwm Cenedlaethol

  • Dydd Mawrth 1 Ebrill 2025
  • Caerdydd: lleoliad i'w gadarnhau

Bydd y symposiwm cenedlaethol hwn yn arddangos gwaith arloesol ysgolion ledled Cymru wrth wireddu’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Ymunwch â ni i archwilio sut   mae ymarfer yn newid mewn ysgolion sydd yn edrych at wireddu'r cwricwlwm,  trwy brosiect ymchwil Camau i'r Dyfodol.

Sut fydd y rhai sy'n mynychu yn elwa o'r symposiwm?

  • Darganfyddwch enghreifftiau ymarferol a straeon gan ysgolion sy'n symud dyluniad y cwricwlwm tuag at ddull proses wrth wireddu’r Cwricwlwm i Gymru.
  • Dysgwch am dri "symudiad" y dull proses: deall y "gwerth chweil", datblygu addysgeg ddiddorol, a rhoi asesiad ystyrlon ar waith.
  • Trafodwch brofiadau byd go iawn a heriau a rennir gyda chydweithwyr o bob rhan o Gymru.
  • Cewch fewnwelediadau gwerthfawr gan dîm ymchwil Camau i'r Dyfodol, gan gynnwys canfyddiadau allweddol ac adnoddau ymarferol.
  • Rhwydweithiwch â chyd-athrawon, ymchwilwyr, a llunwyr polisi i adeiladu cysylltiadau a meithrin cydweithrediad.

Pa ran bynnag o’r system yr ydych yn ymwneud â hi, bydd y myfyrdodau a’r hyn a rennir gan yr ysgolion hyn yn rhoi cyfle i chi rannu arfer a bod yn rhan o’r drafodaeth ehangach, trwy weithdai a chyflwyniadau sy’n adlewyrchu’r 3 maes y mae Camau i’r Dyfodol wedi bod yn cefnogi ysgolion gyda nhw:

  • sut i ganolbwyntio eich cynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu o amgylch y syniad o’r 'gwerth chweil'
  • addysgeg, gweithgareddau a phrofiadau
  • asesu a chynnydd dysgwr

Bydd y digwyddiadau hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan dîm prosiect CAMAU i ddarparu cyd-destun, canfyddiadau ymchwil a gwybodaeth bellach.

I gofrestru i fynychu, plîs cwblhewch y ffurflen cofrestru

 


 

Llythrennedd a Rhifedd

7th Mai 2025 (Dydd Mercher)

13th Mai 2025 (Dydd Mawrth)

Trosolwg

Cyfle i ymarferwyr, lleoliadau ac arweinwyr ddod at ei gilydd i drafod ac archwilio dulliau o ddysgu, addysgu a chynllunio cwricwlwm Llythrennedd a Rhifedd.

Gan dynnu ar y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyhoeddi ar gyfer y blaenoriaethau allweddol hyn, bydd y sgwrs hon yn gyfle i fynd ati ar y cyd ag ymarferwyr eraill ac uwch arweinwyr i ystyried yr heriau a'r rhwystrau wrth gefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr, tynnu sylw at arferion effeithiol ar gyfer goresgyn y rhain, a helpu i lunio'r cymorth a gynigir i ysgolion.

Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i Sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol y flwyddyn academaidd hon.

 


 

Gwiriwch yn ôl am wybodaeth am ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer 2025.