Deunyddiau ategol ar gyfer y cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr
Mae'r deunyddiau ategol hyn wedi'u cynhyrchu i gefnogi'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau. Maent yn adeiladu ar ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru a’r canllawiau gwella ysgolion newydd, ac yn nodi cymorth ymarferol ar gyfer cynllunio cwricwlwm, sicrhau ansawdd, a hunanwerthuso.
3. Gweithdai a gweithgareddau
Gellir defnyddio'r deunyddiau gweithdy hyn i gael sgyrsiau yn eich ysgol neu leoliad i ddatblygu eich dealltwriaeth o gynllunio’r cwricwlwm, cynnydd ac asesu.
Pecyn Sgwrs y Rhwydwaith Cenedlaethol: Cynnydd ac asesu
Pecyn sleidiau i hwyluso sgwrs ar eich dealltwriaeth o gynnydd ac asesu yn eich ysgol a sut ydych chi’n gwneud yn y meysydd hyn, gan ddefnyddio egwyddorion cynnydd a dibenion asesu, ac yn cynnwys dolenni at adnoddau pellach.
CAMAU Asesu ar gyfer y Dyfodol
Mae CAMAU Asesu ar gyfer y Dyfodol yn becyn sy'n cynnwys llawlyfr, sy'n darparu gwybodaeth hanfodol am sut i defnyddio’r adnodd, a chwe sesiwn gweithdy i chi eu cynnal. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn i'w ddefnyddio gan ymarferwyr, ysgolion a lleoliadau i ddatblygu eich gallu a'ch sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesu wrth i chi ymgysylltu â 'chanllawiau Cwricwlwm i Gymru'.
Mae dolen i'r llawlyfr yng nghyflwyniad pob gweithdy. Dylech gyfeirio at y llawlyfr cyn ystyried disgrifiadau’r gweithdai yn fanwl gan ei fod yn darparu gwybodaeth hanfodol am sut i ddefnyddio'r adnodd. Bydd yn eich helpu i ddeall y broses ddatblygu ac yn eich galluogi i ganfod eich ffordd drwy’r adnodd.
- Gweithdai 1 a 2: cynnydd ac asesu
- Gweithdai 3 a 4: y dysgwr wrth galon yr asesiad
- Gweithdai 5 a 6: integreiddio’r cwricwlwm, asesu ac addysgeg
Asesu o fewn Cwricwlwm i Gymru
Mae'r rhestrau chwarae hyn yn gyfres o fodiwlau dysgu proffesiynol, wedi'u grwpio yn ôl themâu, gyda'r nod o gynorthwyo ymarferwyr, ysgolion a lleoliadau i ddatblygu arferion asesu ystafell ddosbarth sy’n cyd-fynd â dyheadau Cwricwlwm i Gymru. Gellir defnyddio pob modiwl yn y gyfres i gefnogi deialog proffesiynol gyda chydweithwyr yn eich ysgol neu’ch lleoliad. Fel arall, gellid eu defnyddio yn anghydamserol yn rhan o ddysgu proffesiynol hunangyfeiriedig.