Deunyddiau ategol ar gyfer y cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr
Mae'r deunyddiau ategol hyn wedi'u cynhyrchu i gefnogi'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau. Maent yn adeiladu ar ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru a’r canllawiau gwella ysgolion newydd, ac yn nodi cymorth ymarferol ar gyfer cynllunio cwricwlwm, sicrhau ansawdd, a hunanwerthuso.
4. Astudiaethau achos
Mae'r adran hon yn dwyn ynghyd nifer o astudiaethau achos cyhoeddedig ac enghreifftiau o sut mae ysgolion a lleoliadau wedi mynd ati i gynllunio cwricwlwm.
Asesu a chynnydd (YouTube)
Tuag at Cwricwlwm i Gymru Medi 2022: beth sydd angen gwybod a gwneud
Ystod o fideos yn tynnu sylw at ddulliau gwahanol ysgolion ar gyfer cynllunio cwricwlwm, cynnydd ac asesu.
Cynnydd yn Ysgol y Strade
Astudiaeth achos yn cynnwys Ysgol y Strade, yn edrych ar gynnydd, yn ogystal ag elfennau cwricwlwm newydd gan gynnwys disgrifiad o gyflwyniad yr ysgol o sgiliau dysgu gydol oes.
Mae Ysgol Gynradd Bontnewydd yn disgrifio eu dull newydd o asesu a chynnydd
Mae Pennaeth a Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Bontnewydd yn disgrifio dulliau asesu a chynnydd disgyblion y maen nhw wedi'u cyflwyno i weithio ochr yn ochr â’r Cwricwlwm i Gymru.
Datblygu asesiad a chynnydd yn Ysgol a Strade
Mae staff yn disgrifio sut maen nhw'n datblygu arferion asesu a chynnydd yn Ysgol y Strade i gyd-fynd â dyheadau Cwricwlwm i Gymru.
Datblygu prosesau sicrhau ansawdd yn Ysgol a Strade
Mae staff yn disgrifio sut maent yn datblygu prosesau sicrhau ansawdd o fewn Ysgol y Strade i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru.
Gwaith clwstwr a phontio
Sut mae pontio yn cefnogi cynnydd: Ysgol Uwchradd Fitzalan a’i hysgolion clwstwr (Saesneg yn unig)
Deunyddiau ategol ar gyfer pontio. Mae’r deunydd ategol hwn yn dangos sut y gall ystod o “bontydd” pontio gefnogi trefniadau pontio ar draws y continwwm 3 i 16.
Ysgol y Wern yn disgrifio ei dull o bontio
Staff yn Ysgol y Wern yn disgrifio sut maen nhw’n paratoi dysgwyr ar gyfer yr Ysgol Uwchradd gyda'u partneriaid clwstwr.
Datblygu cwricwlwm yn Ysgol Llanhari: y dull arweinyddiaeth
Datblygu cwricwlwm yn Ysgol Llanhari: y dull tîm
Mae Ysgol Llanhari yn rhannu eu profiadau o ddylunio'r cwricwlwm 3 i 16 oed. Mae'r ysgol yn rhannu eu safbwyntiau o arweinyddiaeth uwch a chanolig ar yr hyn sydd wedi helpu i lywio eu ffordd o feddwl, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid i yrru eu gweledigaeth ar gyfer Cwricwlwm i Gymru.
Gweithio fel clwstwr: Ysgol Bro Edern
Mae'r astudiaeth achos yma yn dangos sut mae clwstwr Ysgol Bro Edern yn gweithio gyda'i gilydd ar drefnu a chynllunio’r cwricwlwm a deall cynnydd er mwyn sicrhau proses pontio llwyddiannus ac esmwyth o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
Rhannu gwybodaeth gyda rhieni a gofalwyr
Ysgol Merllyn astudiaeth achos (Saesneg yn unig)
Astudiaeth achos ar sut mae Ysgol Merllyn, sef ysgol gynradd ym Magillt, Sir y Fflint yn rhannu gwybodaeth ar gynnydd y dysgwr gyda rhieni a gofalwyr.
Ail ymweliad i Ysgol Merllyn: Ymagwedd at gynnydd dysgwyr a sut maen nhw'n rhannu'r wybodaeth hon (Saesneg yn unig)
Astudiaeth achos ar yr ail ymweliad ag Ysgol Merllyn i ddysgu mwy am sut maent wedi datblygu eu dull o gefnogi cynnydd dysgwyr ymhellach a rhannu hyn gyda rhieni a gofalwyr.
Ysgol Calon Cymru (uwchradd): Astudiaeth achos ar rannu gwybodaeth gyda rhieni a gofalwyr ar gynnydd dysgwyr drwy gydol y flwyddyn ysgol (Saesneg yn unig)
Astudiaeth achos ar sut mae Ysgol Calon Cymru, sy’n ysgol uwchradd ddwyieithog gyda safleoedd yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod, Powys, yn mynd ati i rannu gwybodaeth am gynnydd dysgwyr gyda rhieni a gofalwyr.
Ysgol Calon Cymru: symud y diwylliant ar werthuso a gwella trwy werthuso ysgolion cyfan (Saesneg yn unig)
Mae'r astudiaeth achos fideo hon yn dangos y dull y mae Ysgol Calon Cymru wedi'i fabwysiadu o ran rhannu gwybodaeth gyda rhieni a gofalwyr ar gynnydd dysgwyr. Maen rhan o gyfres o fideos y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi.
Ysgol Min y Ddôl: astudiaeth achos ar rannu gwybodaeth gyda rhieni a gofalwyr ar gynnydd y dysgwr
Astudiaeth achos ar sut mae Ysgol Min y Ddôl yng Nghefn Mawr, Wrecsam yn rhannu gwybodaeth ar gynnydd y dysgwr gyda rhieni a gofalwyr.
Astudiaethau achos ysgrifenedig
Cefnogi cynnydd dysgwyr
Ystod o fyfyrdodau ysgrifenedig oddi wrth ysgolion ar eu dulliau ar gyfer diweddaru rhieni a gofalwyr ynghylch cynnydd dysgwyr.
Taith dysgu proffesiynol mewn perthynas ag asesu
Ysgol Gynradd Gilwern: Datblygu asesu pwrpasol yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru
Drwy'r rhestr chwarae hon, yn unol â ’cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu’, mae Gilwern yn dangos sut yr oeddent yn anelu at sicrhau bod asesu yn broses barhaus a oedd wedi'i gwreiddio yn eu harferion bob dydd.
Glan Usk
Bydd y rhestr chwarae hon yn eich tywys drwy'r gweithgareddau pwrpasol a ddefnyddiwyd gan Glan Usk gyda staff a rhanddeiliaid eraill er mwyn mireinio eu dull o asesu a sicrhau cynnydd.
Yr Esgob Hedley
Defnyddiodd yr Esgob Hedley dair elfen allweddol i ysgogi gwelliant yn eu hysgol.
Roedd hyn yn cynnwys:
- y cwricwlwm (beth sy'n cael ei addysgu a pham)
- asesu (llwyddiant dysgu a’r cynnydd tuag at hyn) (sleid 8)
- addysgeg (technegau a ddefnyddir i gyflwyno'r cwricwlwm)
Prosiect ymholi proffesiynol cenedlaethol
Prosiect ymholi proffesiynol cenedlaethol: asesu a chynnydd
Mae hyn yn cynnwys ystod o ysgolion yn rhannu eu profiadau wrth gymryd rhan yn y prosiect ymholi proffesiynol cenedlaethol.
Gallai'r profiadau hyn fod yn fan cyfeirio defnyddiol i chi mewn perthynas â:
- sut y gallech ddatblygu arfer ffurfiannol
- cyfathrebu/ymgysylltu, gyda dysgwr/rhiant a rhwng dysgwyr
- cydweithredu ag ysgolion eraill a throsglwyddo a deall
- chynllunio ar gyfer cynnydd (o fewn eich ysgol ac ar draws clystyrau)