English

Hwb

Cynigion asesu fel sail i ddatblygu canllawiau statudol

Mae’r canllawiau drafft i gefnogi Cwricwlwm i Gymru 2022 newydd wedi’u cynllunio ar sail pedwar diben y cwricwlwm. Ein cynnig yw y bydd y cwricwlwm hwn yn darparu profiadau dysgu dilys a pherthnasol ar gyfer ein dysgwyr, ac yn datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau priodol i’w galluogi i ymateb i heriau’r dyfodol fel dysgwyr gydol oes. Bydd yn gwricwlwm diddorol ac uchelgeisiol a fydd yn darparu cymorth a her i bob dysgwr unigol wneud cynnydd ar hyd ei daith dysgu ei hun.

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r cynigion a fydd yn sail i’r asesu yng Nghwricwlwm i Gymru 2022. Fe’i lluniwyd er mwyn sicrhau bod cynnydd dysgwyr a’u taith tuag at gyflawni pedwar diben y cwricwlwm wrth wraidd y trefniadau newydd. Rydym wedi cyflwyno egwyddorion lefel uchel er mwyn darparu cyfeiriad eang ar lefel genedlaethol, gan sicrhau hyblygrwydd a fydd yn galluogi lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion i gynllunio trefniadau asesu priodol i gefnogi eu cwricwla ar lefel leol.

Yn ddiweddar cyflwynwyd y cynigion deddfwriaethol i gefnogi’r cwricwlwm newydd a’r trefniadau asesu yn ymgynghoriad Papur Gwyn Cenhadaeth Ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol. Mae manylion y cynigion deddfwriaethol sy’n ymwneud ag asesu wedi’u hatodi i’r ddogfen hon.

Dyma’r cynigion craidd.

  • Bydd dyletswydd ar benaethiaid i bennu deilliannau cyflawniad ar gyfer pob cam cynnydd, a rhaid rhoi ystyriaeth i ganllawiau Gweinidogion Cymru wrth wneud hynny. Mae’r canllawiau drafft perthnasol wedi’u nodi yn y canllawiau ar y chwe maes dysgu a phrofiad a gyhoeddwyd ar yr un pryd â’r ddogfen hon.
  • Caiff y trefniadau asesu eu hamlinellu mewn is-ddeddfwriaeth, ac mae’r swyddogaethau arfaethedig sydd i’w rhoi i leoliadau a ariennir nas cynhelir, ysgolion ac awdurdodau lleol wedi’u nodi yn yr atodiad. Rhaid rhoi ystyriaeth i ganllawiau Gweinidogion Cymru wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny. Dylid dilyn y canllawiau oni bai bod rhesymau da dros beidio â gwneud.

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r math o bethau y credwn ddylai gael eu cynnwys yn y canllawiau asesu. Mae’n amlinellu cynigion i gynorthwyo lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion i ddatblygu a darparu asesiad o dan y trefniadau newydd. Bydd y cynigion a amlinellir yma, ynghyd â’ch adborth, yn ffurfio’r sail ar gyfer canllawiau statudol y bydd yn rhaid i leoliadau ac ysgolion eu hystyried wrth gynllunio ac ymgymryd ag asesiadau yng Nghwricwlwm i Gymru 2022. Caiff y canllawiau hyn eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2020.

Mae asesu yn allweddol i gynnydd er mwyn canfod cryfderau a chyflawniadau dysgwyr a’r meysydd lle mae angen iddynt wella, yn ogystal â chanfod y camau nesaf ar eu cyfer. Mae asesu yn rhan annatod o ddysgu ac addysgu, ac ni ddylid drysu rhwng hynny â’r gweithgareddau hynny sy’n cyfrannu at atebolrwydd allanol a monitro cenedlaethol. Yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru 2022, bydd y canlynol yn berthnasol.

  • Cynigir y bydd y Bil Cwricwlwm ac Asesu yn cynnwys darpariaethau a fydd yn ei gwneud yn bosibl asesu’n ffurfiannol. Bydd canllawiau statudol yn esbonio lle asesu ffurfiannol. Byddant yn argymell i leoliadau ac ysgolion y dylid rhoi blaenoriaeth i asesu at ddibenion ffurfiannol dros asesu crynodol o dan y trefniadau newydd. Dylid canolbwyntio wrth asesu, felly, ar geisio dirnad cynnydd dysgwr, a llywio’r camau nesaf yn ei ddysgu a’i addysgu.
  • Byddwn yn symud i ffwrdd oddi wrth gyfnodau a chamau tuag at gontinwwm dysgu i blant o 3 i 16 oed. Bydd ymarferwyr yn asesu cynnydd dysgwyr ar hyd yr un continwwm, a thrwy hynny’n lleihau effaith y broses bontio rhwng lleoliadau ac ysgolion, yn ogystal ag oddi mewn iddynt.
  • Caiff cynnydd ei ddangos drwy gamau cynnydd sy’n gweithredu fel pwyntiau cyfeirio ar hyd y continwwm, gan gyfateb yn fras i’r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed. Caiff y camau cynnydd hyn eu diffinio drwy gyfres o ddeilliannau cyflawniad, sy’n pennu disgwyliadau eang ar gyfer y dysgu dros gyfnod o dair blynedd. Felly, byddwn yn symud i ffwrdd oddi wrth ein system gyfredol, lle y caiff dyfarniadau eu gwneud ynghylch cyrhaeddiad cyffredinol dysgwr mewn pwnc ar adeg benodol drwy ddyrannu’r lefel fwyaf priodol. Ni ddylid defnyddio deilliannau cyflawniad mewn model tebyg o lunio barn sy’n cyd-fynd orau ar gyfer oedran penodol neu adeg benodol er mwyn llunio asesiad crynodol o ddysgwr. Yn lle hynny, dylid eu defnyddio fel sail i greu darlun cywir o gynnydd dysgwr ar hyd y continwwm, a hynny yng nghyd‑destun pedwar diben y cwricwlwm.
  • Yn y ddogfen hon, rydym yn cynnig cyflwyno dull ehangach o gymedroli. Bydd hyn yn helpu’r ddeialog broffesiynol o ran natur cynnydd, dewis gweithgareddau dysgu ac asesu priodol, yn ogystal â sicrhau cyd-ddealltwriaeth ynghylch yr hyn y mae cyflawni yn ei olygu yng nghyd‑destun y deilliannau cyflawniad.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd camau i wahanu dibenion asesu ar gyfer dysgu oddi wrth atebolrwydd, a hynny ar lefel genedlaethol. Ni fydd data asesu athrawon na data Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar lefel ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn cael eu cyhoeddi mwyach. Mae hyn yn berthnasol i’r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd a gynhelir. Wrth i ni symud tuag at Gwricwlwm i Gymru 2022, bydd y newidiadau hyn yn ein helpu i ganolbwyntio unwaith eto ar ddefnyddio asesiadau athrawon fel sail i ddysgu ac addysgu gwell.

Sylwch nad yw’r ddogfen hon yn cwmpasu’r trefniadau asesu ar gyfer cymwysterau allanol a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr 14 i 16 oed. Fodd bynnag, rydym yn gweithio’n agos gyda Chymwysterau Cymru, sef y rheoleiddiwr annibynnol yng Nghymru, i sicrhau cysondeb rhwng Cwricwlwm i Gymru 2022 a chymwysterau yn y dyfodol. Yn dilyn cyhoeddi canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2022 drafft, bydd Cymwysterau Cymru yn cynnal rhaglen dreigl o weithgareddau a digwyddiadau a fydd yn cynnig cyfleoedd i ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill fod yn rhan o’r broses o ddatblygu’r cynnig o ran cymwysterau.

Yng Nghymru, disgrifir ein gweledigaeth ar gyfer dinasyddion hyddysg drwy bedwar diben y cwricwlwm, sef helpu pob plentyn a pherson ifanc i ddatblygu yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae chwe maes dysgu a phrofiad i Gwricwlwm i Gymru 2022.

Mae canllawiau statudol ar gyfer pob un o’r chwe maes dysgu a phrofiad wedi’u llunio i gefnogi a galluogi dysgwyr i gyflawni pedwar diben y cwricwlwm. Mae’r cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd o lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wedi’u hymgorffori ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad.

Bydd pob dysgwr yn datblygu ar hyd yr un continwwm dysgu ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad, a hynny o 3 i 16 oed; fodd bynnag, bydd pa mor gyflym y bydd dysgwyr yn gwneud cynnydd yn amrywio. Rydym yn cydnabod y dylid ystyried dysgu fel taith – bydd y dysgwr yn stopio weithiau, bydd ei lwybr yn gwyro neu bydd yn cyflymu.

O fewn canllawiau pob maes dysgu a phrofiad, trefnir y dysgu ar sail datganiadau o’r hyn sy’n bwysig – mae’r rhain yn egluro’r agweddau sylfaenol ar y dysgu sydd, gyda’i gilydd, yn cyfleu’r hyn sy’n bwysig yn y maes dysgu a phrofiad.

Caiff cynnydd ei ddangos drwy gamau cynnydd sy’n gweithredu fel pum pwynt cyfeirio ar hyd y continwwm. Caiff camau cynnydd fel cyfeirbwyntiau eu diffinio drwy gyfres o ddeilliannau cyflawniad ar gyfer pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig. Disgrifir y deilliannau cyflawniad o safbwynt dysgwr, gan ddefnyddio termau fel ‘Gallaf ... ’ ac ‘Rwyf wedi ... ’. Yn fras, maent yn amlinellu disgwyliadau ar gyfer 5, 8, 11, 14 ac 16 oed. Bydd dysgwyr yn dilyn y continwwm dysgu yn ôl y cyflymdra sy’n briodol iddynt ac yn cyflawni deilliannau cyflawniad y pum cam cynnydd pan fyddant yn dangos dysgu cadarn mewn perthynas â’r deilliannau hynny.

Dylid defnyddio’r deilliannau cyflawniad a nodir ar gyfer pob cam cynnydd yn rheolaidd er mwyn helpu ymarferwyr i wybod a yw dysgwr ‘ar y trywydd iawn’, o ran ei gynnydd dysgu. Bydd hyn yn eu helpu i gynllunio’n briodol, cytuno ar y camau nesaf ar gyfer pob dysgwr unigol, gofyn am gymorth ychwanegol os oes angen, ac adrodd yn ôl i’r rhieni/gofalwyr. Beth bynnag yw oedran y dysgwr, bydd y ffocws ar sicrhau ei fod yn llwyddo yn ei ddeilliannau cyflawniad mewn cam cynnydd cyn mynd ati i weithio tuag at y nesaf. Efallai y bydd dysgwr, er enghraifft, yn gweithio tuag at ddeilliannau cyflawniad sy’n ymwneud ag agweddau penodol ar ddysgu mewn un cam cynnydd, ond yn gweithio tuag at ddeilliannau cyflawniad sy’n ymwneud ag agweddau eraill ar ddysgu mewn cam cynnydd gwahanol.

Y nod yw darparu darlun clir o’r hyn y mae’r dysgwr yn ei gyflawni a fydd yn helpu i benderfynu ar y camau nesaf – a pheidio â dod i farn sy’n cyd-fynd orau ar sail y deilliannau cyflawniad ar gyfer pob cam cynnydd.

Diben asesu yw cefnogi cynnydd pob dysgwr ar hyd y continwwm dysgu a thuag at gyflawni pedwar diben y cwricwlwm.

Rydym yn defnyddio dulliau asesu i nodi a chefnogi cynnydd mewn dysgu ar gyfer pob un o’n dysgwyr, i weld pa mor dda y maent yn dysgu, yr hyn y maent yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud, unrhyw gamdybiaethau, a datblygu dealltwriaeth o’u hanghenion unigol er mwyn nodi’r camau nesaf mwyaf priodol i symud eu dysgu yn ei flaen. Mae asesu’r hyn sy’n bwysig er mwyn cefnogi cynnydd dysgwr, a’r deilliannau dysgu a fwriedir a’r broses addysgu, yn allweddol i hyn.

Rhaid i’r cwricwlwm, yr addysgeg a’r asesu gefnogi ei gilydd er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael cyfle i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer pedwar diben y cwricwlwm.

Ystyriaethau allweddol

  • Mae asesu’n rhan annatod o ddysgu ac addysgu a dylai gael ei ddefnyddio gan ac ar gyfer pob dysgwr rhwng 3 a 16 oed.
  • Dylid nodi, cynllunio a defnyddio dulliau addysgeg priodol er mwyn galluogi dysgwyr i ddangos eu dysgu a’u datblygiad yn llawn.
  • Dylai asesu ddarparu gwybodaeth berthnasol a chymesur am gynnydd a llwyddiant mewn perthynas â’r dysgu a fwriedir. Dylai fod yn gymesur â’i fanteision.

Dylid rhoi blaenoriaeth i ddulliau asesu ffurfiannol er mwyn cefnogi’r dysgu a’r addysgu.

Gellir defnyddio’r wybodaeth a geir o weithgarwch dysgu at ddibenion ffurfiannol a chrynodol, gan anelu at y nod cyffredinol o gefnogi cynnydd pob dysgwr.

Caiff asesu ffurfiannol ei gynnal, yn bennaf, yn ystod y broses ddysgu, drwy fynd ati gyda’r dysgwyr i wirio eu cynnydd a nodi’r hyn a gyflawnwyd ganddynt, yn ogystal â nodi’r meysydd lle y gallent ddatblygu eu dysgu ymhellach. Yna, caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio gan ddysgwyr ac ymarferwyr er mwyn pennu’r camau nesaf y mae angen i’r dysgwyr eu cymryd i wella eu dysgu ymhellach a llywio gwaith cynllunio’r ymarferydd.

O bryd i’w gilydd, efallai y bydd ymarferwyr hefyd yn dymuno crynhoi cyflawniadau’r dysgwyr, gan roi gwybodaeth iddynt am yr hyn y maent wedi ei ddysgu, gan ganolbwyntio ar natur gronnus eu cynnydd ar ddiwedd cyfnod o gyfarwyddiadau, archwilio neu brosiect. Er bod diben gweithgareddau asesu o’r fath yn grynodol yn bennaf, dylai fod iddynt ddiben ffurfiannol hefyd. Bydd hyn yn galluogi ymarferwyr i ddarparu adborth ar y meysydd lle mae’r dysgwyr wedi gwneud cynnydd ar hyd y continwwm, ynghyd â’r camau nesaf posibl ar eu taith dysgu.

Ystyriaethau allweddol

  • Dylai’r asesu roi darlun holistiadd o ddatblygiad a chynnydd dysgwr.
  • Gall, a dylai, ymarferwyr ddefnyddio gwybodaeth asesu i ystyried cynnydd unigolion a grwpiau penodol, er mwyn ymateb yn briodol i ganfyddiadau, e.e. drwy ddarparu strategaethau ymyrryd priodol. Mae gwybodaeth am y dystiolaeth sy’n ofynnol wrth benderfynu a oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i’w gweld yn y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft. Daeth yr ymgynghoriad ynghylch y Cod i ben ar 22 Mawrth 2019.
  • Gall, a dylai, ymarferwyr ddefnyddio gwybodaeth asesu i fyfyrio a gwerthuso, er mwyn addasu eu harferion i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion dysgwyr yn effeithiol, gan gadw’r hyn sy’n gweithio’n dda, a gwella neu newid cyfeiriad yr hyn nad yw’n gweithio cystal.

Dylid defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau asesu er mwyn rhoi darlun o gynnydd ac anghenion dysgwyr ar draws y cwricwlwm.

Dylai’r technegau asesu fod yn seiliedig ar y bwriadau a nodir yn y deilliannau cyflawniad ar bob cam cynnydd ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad. Dylid defnyddio camau cynnydd fel pwyntiau cyfeirio i gynllunio’r dysgu a’r addysgu, a dylai’r cynllunio gydnabod bod nifer o lwybrau gwahanol ar gyfer teithiau dysgwyr, gyda’r camau cynnydd yn darparu map llwybr cyffredin.

Fel yr amlinellir yn adran ‘Cyd-destun: Cynnydd a Chwricwlwm i Gymru 2022’, ni ddylai’r deilliannau cyflawniad a ddiffinnir ar bob cam cynnydd gael eu defnyddio i ddod i farn sy’n cyd-fynd orau ar gyfer oedran penodol neu adeg benodol er mwyn llunio asesiad crynodol ffurfiol o ddysgwr. Yn lle hynny, dylent gael eu defnyddio fel sail i asesiad parhaus – er mwyn creu darlun cywir o gynnydd dysgwr mewn perthynas â’r amrywiol wybodaeth, sgiliau a chymwyseddau ar draws y cwricwlwm. Bydd hyn yn rhoi cyfeiriad i ymarferwyr a dysgwyr o ran y meysydd lle maent yn gwneud cynnydd, y meysydd lle mae angen cymorth arnynt i wneud cynnydd pellach, a’r camau nesaf. Dylid bob amser ganolbwyntio ar symud y dysgu yn ei flaen a sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi a’i herio’n briodol, yn unol â’i anghenion unigol.

Dylid defnyddio asesu i nodi’r dysgwyr hynny a allai symud ymlaen i weithgareddau mwy ymestynnol, ynghyd â’r dysgwyr hynny y mae angen rhagor o gymorth arnynt i gyflawni’r deilliannau cyflawniad perthnasol. Amlygir dysgu dwfn pan fo disgrifiadau’r dysgu yn y deilliannau cyflawniad wedi cael eu cyflawni’n gadarn. Mae’r dysgu dwfn, neu gadarn, hwn yn cyfuno amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau y gall dysgwyr eu defnyddio mewn cyd-destunau newydd a heriol. Mae asesiadau athrawon yn allweddol i ategu hyn gan eu bod yn gallu cwmpasu’r holl ddysgu. O ran addysg y blynyddoedd cynnar, fel rhan o’r gweithgareddau bob dydd, bydd ymarferwyr yn chwilio am dystiolaeth o ddysgu sydd wedi’i wreiddio. Nod hyn yw asesu’r hyn y gall dysgwr ei wneud yn gyson ac yn annibynnol, mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd pob-dydd.

Wrth asesu cynnydd dysgwr, dylid defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, y gall rhai ohonynt fod yn benodol i feysydd dysgu a phrofiad unigol a rhai eraill i gefnogi cynnydd dysgwr ar draws mwy nag un maes dysgu a phrofiad.

Asesiad sylfaenol

Er mwyn cefnogi a galluogi ymarferwyr i gynllunio’n briodol i ddiwallu anghenion pob unigolyn, cynigir cynnal asesiad sylfaenol o bob dysgwr yn ystod ei chwe wythnos gyntaf yn y dosbarth Derbyn. 

Ar hyn o bryd, caiff asesiadau sylfaenol eu cwblhau gan ddefnyddio Proffil y Cyfnod Sylfaen. Er na fydd y cysyniad o ‘gamau’ a ‘chyfnodau’ yn berthnasol mwyach yng Nghwricwlwm i Gymru 2022, bydd angen cynnal asesiad ar fynediad o hyd, er mwyn galluogi ymarferwyr i ddarparu cwricwlwm sy’n briodol o ran datblygiad, sy’n diwallu anghenion y dysgwyr ac y gall pob un ohonynt gael budd ohono. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn ystod 2019 i adolygu Proffil cyfredol y Cyfnod Sylfaen ac ystyried sut y gallwn adeiladu ar yr adnodd er mwyn cysoni’n ddidrafferth y trefniadau asesu yn y blynyddoedd cynnar â Chwricwlwm i Gymru 2022.

Asesiadau personol ar-lein

Un dull asesu yw defnyddio asesiadau personol ar-lein ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 er mwyn galluogi ymarferwyr i ddeall cynnydd dysgwr o ran ei sgiliau darllen a rhifedd. Mae’n ofynnol i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 sy’n astudio mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru gwblhau’r asesiadau personol ar-lein ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol a Rhesymu) a Darllen (Cymraeg a Saesneg) unwaith y flwyddyn. Datblygwyd yr asesiadau hyn gyda Chwricwlwm i Gymru 2022 mewn golwg. Mae’r asesiadau hyn yn gyfan gwbl ffurfiannol ac nid ydynt wedi’u cynllunio i’w defnyddio fel mesurau atebolrwydd. Mae deilliannau pob asesiad yn darparu amrywiaeth o wybodaeth am sgiliau y gellir ei defnyddio i lywio’r dysgu a’r addysgu er mwyn helpu dysgwyr i wneud cynnydd. Mae cyfres o adnoddau ar gael i gefnogi ymarferwyr a gellir ei weld ar-lein yn hwb.gov.wales/cwricwlwm-drafft-i-gymru-2022/asesiadau-darllen-a-rhifedd.

Ar Drywydd Dysgu

Gall ymarferwyr ddefnyddio Ar Drywydd Dysgu i asesu dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl). Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn canolbwyntio ar sgiliau cyfathrebu a gwybyddol cynnar.

Ystyriaethau allweddol

  • Dylai technegau asesu, a ddewisir yn ôl eu haddasrwydd at y diben, asesu’r hyn sy’n bwysig, gan nodi’n glir yr hyn a asesir, ac at ba ddiben.
  • Wrth gynllunio’r asesu, dylid sicrhau cydbwysedd rhwng y mathau mwy parhaus, dyddiol o asesu a gweithgareddau asesu crynodol rheolaidd.
  • Dylai asesu gan ymarferwyr barhau’n brif gyfrwng asesu cyn cymwysterau, gan y gallant gwmpasu holl rychwant y dysgu a fwriedir a chael eu cynnal yn rheolaidd neu’n barhaus.
  • Yn gynnar yn y continwwm, dylai asesu fod yn seiliedig ar wybodaeth yr ymarferydd am y dysgwr, yn bennaf drwy arsylwi a rhyngweithio mewn amrywiaeth o weithgareddau, sgyrsiau, cyfleoedd dysgu, rhyngweithio drwy chwarae a digwyddiadau dyddiol.
  • Gall mewnbwn gan rieni/gofalwyr ac oedolion perthnasol eraill, yn ogystal â’r dysgwr, fod yn ddefnyddiol wrth gynllunio ar gyfer asesu.
  • Dylai lleoliadau ac ysgolion arfer eu crebwyll i benderfynu pa agweddau ar y dysgu y dylid eu hasesu, faint o wybodaeth asesu sy’n ddigonol i fesur cynnydd wrth ddysgu, yr hyn sydd angen ei gofnodi, a pha mor fanwl y dylai fod.
  • Dylai’r meini prawf llwyddiant a ddefnyddir wrth asesu fod wedi’u diffinio’n glir, yn briodol ar gyfer y dasg ac yn gyraeddadwy, ond yn heriol, i bob dysgwr sy’n rhan o’r gweithgaredd. Caiff meini prawf llwyddiant eu pennu mewn perthynas â gweithgaredd dysgu penodol fel bod dysgwyr yn glir ynghylch yr hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt a’r hyn a olygir wrth ‘lwyddiant’. Dylai pob dysgwr ddeall y meini prawf hyn er mwyn iddo ddeall yr hyn y mae’n gallu ei wneud, yr hyn y mae angen iddo ei wneud er mwyn datblygu ymhellach, a’r modd y gall gyflawni hyn.
  • Dros amser, dylai dysgwyr gael eu cefnogi i ddatblygu eu meini prawf llwyddiant eu hunain, lle y bo’n briodol, a gall hyn ennyn eu diddordeb yn y dasg ymhellach a helpu i sicrhau deilliannau gwell.
  • Dylid cynnal cwricwlwm eang a chytbwys drwy’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys yr asesiadau personol ar-lein ar adegau sy’n gweddu’n naturiol i rythm y dysgu a’r addysgu.
  • Dylai lleoliadau ac ysgolion lunio polisïau a gweithdrefnau clir ynghylch asesu effeithiol, gan gefnogi cynnydd pob dysgwr.

Dylai ymarferwyr gydweithio er mwyn meithrin dealltwriaeth wybodus, ddibynadwy, gywir a chyson o gynnydd dysgwyr i fod yn sail i ddysgu ac addysgu.

Cymedroli yw’r broses a ddefnyddir gan ymarferwyr o fewn ac ar draws lleoliadau ac ysgolion i rannu, i drafod ac i fyfyrio ar eu harferion a’u dealltwriaeth mewn perthynas ag asesu. Bydd hyn yn cynnwys bwriadau dysgu, datblygu meini prawf llwyddiant ac enghreifftiau o waith a gwybodaeth asesu dysgwyr.

Dylai’r broses alluogi ymarferwyr i ystyried eu dealltwriaeth o ystyr a natur cynnydd, y gweithgareddau dysgu ac addysgu y mae lleoliad neu ysgol yn eu cynnal, ac a yw’r trefniadau dysgu ac asesu yn cyflawni’r deilliannau disgwyliedig. Mae cymedroli’n aml yn digwydd yn anffurfiol, ond bydd ymarferwyr hefyd yn parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymedroli ffurfiol, wedi’u cynllunio.

Mae cymedroli’n cynnig cyfleoedd i ymarferwyr gael trafodaethau proffesiynol i sicrhau dealltwriaeth o gynnydd, ac i sicrhau bod y dulliau priodol, o blith amrywiaeth o dechnegau, yn cael eu dewis er mwyn asesu’r hyn y bwriedir ei ddysgu. Felly, yn ogystal â bod yn bwysig o fewn lleoliad neu ysgol ac o fewn grwpiau blwyddyn unigol, mae’r broses gymedroli hefyd yn bwysig ar draws lleoliadau ac ysgolion gwahanol. Mae hyn yn arbennig o allweddol mewn perthynas â’r broses bontio o fewn lleoliadau ac ysgolion, a rhyngddynt.

Mae datblygu disgwyliadau eang, cyffredin mewn perthynas â’r deilliannau cyflawniad a ddiffinnir ar gyfer y camau cynnydd ar y continwwm dysgu yn rhan allweddol o’r broses. Bydd cydweithio er mwyn cytuno ar y safonau, a’u henghreifftio, ac yna i gymedroli asesiadau yn unol â’r disgwyliadau hynny, yn helpu ymarferwyr i sicrhau bod yr asesu’n gyson, ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth gytûn o gynnydd dysgwyr. Bydd ffocws ar yr hyn y mae cyflawniad yn ei olygu, drwy ddefnyddio tystiolaeth o waith dysgu, trafodaethau gyda dysgwyr, a gwaith a gwblhawyd, yn cefnogi’r broses o gytuno ar y ffyrdd gwahanol o ddangos sut mae cyrraedd y deilliannau cyflawniad.

Ystyriaethau allweddol

  • Dylai’r broses gymedroli gynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth asesu (sy’n cynnwys y gweithgareddau dysgu ac asesu a gwblhawyd), e.e. gwaith ysgrifenedig, gwaith ymarferol, fideos ac arsylwadau ymarferwyr. Ni ddylai’r wybodaeth hon gael ei chynhyrchu’n benodol at ddibenion cymedroli, ond dylai gael ei chasglu dros amser.
  • Dylid ymgymryd â phrosesau cymedroli o fewn lleoliadau ac ysgolion, a rhyngddynt.
  • Dylai lleoliadau ac ysgolion ddatblygu polisïau a gweithdrefnau i gefnogi prosesau cymedroli effeithiol.

Dylai dysgwyr chwarae rhan weithredol yn y broses ddysgu ac asesu, gan gymryd perchenogaeth dros eu dysgu eu hunain.

Gellir annog dysgwyr i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain drwy asesiadau gan gyfoedion, hunanasesiadau a defnyddio e-Bortffolios.

Galluogi dysgwyr actif drwy asesiadau gan gyfoedion a hunanasesiadau

Drwy ddefnyddio gwybodaeth asesu gall dysgwyr ddeall eu cryfderau, y meysydd lle mae angen iddynt ddatblygu, a chynllunio’r camau nesaf o ran eu dysgu. O’u defnyddio mewn ffordd feirniadol, mae asesiadau gan gyfoedion a hunanasesiadau yn cynnig cyfle i ddysgwyr chwarae rhan weithredol yn y broses asesu, gan ategu adborth ymarferwyr, yn ogystal â darparu gwybodaeth werthfawr iddynt o ran sut y gallant addasu eu haddysgu.

Mae asesiadau gan gyfoedion yn ymwneud â sefydlu deialog rhwng dysgwyr ynglŷn â’r broses o werthuso cynnydd. Pan fo hyn yn seiliedig ar ddealltwriaeth dda o’r meini prawf llwyddiant a chynnydd, gall gyflwyno amrywiaeth ehangach o syniadau iddynt, a’u helpu i ystyried ffyrdd newydd o feddwl am eu gwaith eu hunain. Mae’n hyrwyddo dysgu annibynnol, gan annog dysgwyr i amlygu cryfderau a meysydd i’w datblygu, nodi’r camau nesaf, a’u hegluro i’w cyfoedion drwy adborth cadarnhaol. Gall hefyd helpu i feithrin agwedd gadarnhaol a myfyriol tuag at roi a derbyn adborth ar gyfer dysgu. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n bwysig bod lleoliadau ac ysgolion yn sefydlu diwylliant dysgu cryf, ynghyd ag amgylchedd o ymddiriedaeth a pharch. O oedran cynnar, dylid annog dysgwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i asesu eu cyfoedion yn effeithiol.

Mae hunanasesu yn ymwneud â gallu dysgwyr i werthuso eu cynnydd eu hunain ar sail meini prawf llwyddiant a ddeellir yn glir, ac i gymryd rhan mewn deialog am eu cynnydd, a’r camau nesaf y mae angen eu cymryd. Mae’n hyrwyddo dysgu a meddwl annibynnol, gan helpu dysgwyr i feithrin annibyniaeth gynyddol wrth nodi eu camau nesaf eu hunain, ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu cynnydd eu hunain. Drwy annog hunanasesu, bydd dysgwyr yn meithrin y gallu i feddwl yn feirniadol am eu dysgu eu hunain.

Ystyriaethau allweddol

  • Dylai lleoliadau ac ysgolion sefydlu diwylliant lle y gall dysgwyr:
    • werthuso eu cynnydd eu hunain a chynnydd eraill
    • defnyddio meini prawf llwyddiant clir a phenodol i fyfyrio ar adborth
    • cymryd rhan mewn trafodaethau â chyfoedion ac ymarferwyr ynghylch cyflawniadau a chamau nesaf.
  • Dylai ymarferwyr gefnogi dysgwyr i asesu eu gwaith eu hunain a gwaith gan eraill, a dylent fodelu sut i roi adborth adeiladol clir a phenodol sy’n gysylltiedig â’r meini prawf llwyddiant.
  • Er mwyn galluogi dysgwyr i gyfrannu at drafodaethau am eu cynnydd eu hunain, dylent ddeall sut mae cyfleoedd asesu penodol yn berthnasol i’w taith ar hyd y continwwm dysgu, a hynny mewn perthynas â phob maes dysgu a phrofiad.
  • Dros amser, dylai dysgwyr feithrin y gallu i:
    • fyfyrio’n wrthrychol ar eu gwaith eu hunain a gwaith gan eraill a’i werthuso
    • nodi bylchau yn eu dealltwriaeth a’u galluoedd
    • deall sut i wella eu perfformiad, gan herio eu hunain i gyrraedd eu camau nesaf
    • datblygu eu meini prawf llwyddiant eu hunain
    • dysgu’n annibynnol a meddwl yn feirniadol.

Galluogi dysgwyr actif drwy e-Bortffolios

Mae’r gallu i nodi’r hyn sy’n bwysig ar hyd eu taith dysgu a chael cyfleoedd i amlygu’r hyn sy’n bwysig o ran eu cynnydd eu hunain yn helpu i feithrin dysgwyr annibynnol a gydol oes. Drwy berchenogi eu dysgu eu hunain gall dysgwyr werthfawrogi’r hyn sy’n bwysig iddynt, a hynny yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt iddi.

Cofnod digidol yw e-Bortffolio y mae ei gynnwys yn adlewyrchu profiadau, cyflawniadau a thaith dysgu dysgwr unigol. Mae’n cefnogi dysgwyr wrth iddynt gasglu a chofnodi enghreifftiau o’u cynnydd a’u cyflawniadau mwyaf nodedig, a hynny yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt, gan fyfyrio ar yr hyn sy’n bwysig iddynt mewn perthynas â phedwar diben y cwricwlwm.

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu system e-Bortffolio, a fydd ar gael i bob ysgol yng Nghymru ei defnyddio. Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu eglurder ynghylch sut y caiff e-Bortffolios eu gweithredu, gan gynnwys rôl dysgwyr ac ymarferwyr yn y dosbarth, a phwy fydd yn cael mynediad i e-Bortffolio dysgwr unigol. Darperir rhagor o fanylion yn ystod 2019. Dylai pob dysgwr gael mynediad at system e-Bortffolio addas, a hynny o’r dosbarth Derbyn ymlaen.

Ystyriaethau allweddol

  • Dylai dysgwyr ddechrau creu e-Bortffolio o’r adeg pan fydd hynny’n cefnogi eu dysgu a’u cynnydd.
  • Dylid annog dysgwyr i gofnodi eu prif gyflawniadau a phrofiadau yn eu e-Bortffolio, gan gynnwys y rhai hynny sy’n mynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Dylid rhannu gwybodaeth am gynnydd a chyflawniad dysgwr yn effeithiol, er mwyn ennyn diddordeb y dysgwr, ei rieni/gofalwyr ac ymarferwyr eraill wrth nodi a chefnogi ei gamau nesaf.

Rhannu gwybodaeth am y dysgu â rhieni/gofalwyr

Mae’r broses o rannu gwybodaeth, neu adrodd, yn rhoi gwybod i rieni/gofalwyr, yn ogystal â dysgwyr, am gynnydd a datblygiad holistaidd y dysgwr. Gall hyn gynnwys adroddiadau ffurfiol, a lunnir yn unol ag amserlen a gynlluniwyd, trafodaethau yn ystod nosweithiau rhieni/gofalwyr, gohebiaeth â’r cartref a gwahoddiadau i drafodaethau ychwanegol. Bydd y gofyniad i benaethiaid ddarparu adroddiad ffurfiol i rieni/gofalwyr o leiaf unwaith y flwyddyn yn parhau. Dylai’r defnydd o amrywiaeth o ddulliau sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu â rhieni/gofalwyr ar adegau o’r fath, a hynny mewn ffordd sy’n sicrhau bod unrhyw ymyrraeth yn effeithiol.

Mae dulliau adrodd da yn rhoi sicrwydd, ac yn ysgogi deialog pwrpasol ac ystyrlon am ffyrdd o gefnogi dysgu pellach. Gall hyn helpu i gynnwys rhieni/gofalwyr, gan feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol lle y gall rhieni/gofalwyr gefnogi’r dysgu y tu hwnt i’r lleoliad neu ysgol. Dylai’r broses adrodd hefyd ddarparu gwybodaeth am unrhyw anghenion ychwanegol y mae angen eu diwallu, ac unrhyw gymorth ac ymyriadau sy’n ofynnol er mwyn helpu’r dysgwr i ddatblygu.

Yn ddelfrydol, dylai dysgwyr gyfrannu at y broses adrodd drwy gasglu a dethol tystiolaeth, nodi eu cynnydd a’u cyflawniadau eu hunain, egluro eu dyheadau a’u barn am y camau nesaf yn eu dysgu, a chyfrannu at ddeialog rhwng yr ymarferydd a’r rhiant/gofalwr. Gall yr wybodaeth sy’n rhan o e-Bortffolio dysgwr ac allbynnau gweithgareddau hunanasesu hefyd ddarparu ffynonellau gwybodaeth ddefnyddiol.

Dylid cynnig cyfle i rieni/gofalwyr gyfrannu at y broses adrodd er mwyn helpu i gael darlun cyflawn o gyflawniadau dysgwr, o fewn a thu allan i’r lleoliad neu ysgol.

O ran y dysgwyr hynny sydd â chynlluniau datblygu unigol, mae’r dogfennau hyn yn elfen hanfodol o’r broses adrodd.

Ystyriaethau allweddol

  • Dylai pob proses adrodd ganolbwyntio ar gynnydd a chynnwys gwybodaeth am gamau nesaf y dysgwr.
  • Dylai’r broses adrodd fod yn amserol, yn agored, yn onest ac yn deg, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ‘syndod’ i’r rheini/gofalwyr na’r dysgwyr eu hunain mewn perthynas â’u cyflawniad.
  • Dylai wneud defnydd o’r wybodaeth asesu a’r wybodaeth a gasglwyd am ddysgwr dros gyfnod o amser. Dylai hyn gynnwys profiadau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth er mwyn darparu asesiad mwy cronnus a manwl am gynnydd dysgwr.
  • Ni ddylid defnyddio’r camau cynnydd fel ffordd rifol o fesur cynnydd. Yn hytrach, dylai’r broses adrodd fod yn seiliedig ar naratif sy’n rhoi cyfrif cyflawn am y dysgwr, gan ddefnyddio iaith y deilliannau cyflawniad, lle y bo’n briodol.
  • Dylai’r broses adrodd fod yn un barhaus, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu. Bydd adroddiad ffurfiol yn cael ei gyflwyno i rieni/gofalwyr pob dysgwr mewn ysgol a gynhelir o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd.
  • Lle y bo’n bosibl, dylai dysgwyr a rheini/gofalwyr gyfrannu at y broses adrodd.
  • Dylai lleoliadau ac ysgolion ddatblygu a chyhoeddi polisïau clir ynghylch adrodd i rieni/gofalwyr, a dylent nodi natur ac amlder y broses adrodd.

Rhannu gwybodaeth am y dysgu er mwyn cefnogi’r broses bontio

Mae proses bontio effeithiol yn ymwneud â hyrwyddo llwybr llyfn wrth i ddysgwyr symud ar hyd y continwwm dysgu, o ddosbarth i ddosbarth ac o flwyddyn i flwyddyn, yn ogystal â chamau pontio eraill, megis o’r ysgol feithrin i’r ysgol gynradd ac o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae hyn yn helpu i gefnogi parhad a chynnydd o ran y dysgu, gan hwyluso lles dysgwyr ar yr un pryd.

Mae’r defnydd o wybodaeth asesu yn elfen bwysig o’r broses bontio. Dylid rhannu amrywiaeth eang o wybodaeth asesu am y dysgwr fel rhan o’r broses bontio. Mae defnyddio gwybodaeth asesu fel sail i gyfathrebu effeithiol am gynnydd y dysgwr rhwng ymarferwyr, rhieni/gofalwyr a’r dysgwr ei hun, yn allweddol i sicrhau proses bontio lwyddiannus.

Gall adolygiadau gan ddysgwyr sy’n adlewyrchu llwyddiannau a heriau’r dysgwyr, yn ogystal â mewnbwn gan rieni/gofalwyr, hefyd gefnogi’r broses bontio.

Ystyriaethau allweddol

  • Dylai’r dysgwr fod wrth wraidd y broses bontio, gan ddefnyddio a throsglwyddo gwybodaeth asesu gyflawn yn effeithiol, er mwyn adeiladu ar gryfderau a nodi meysydd i’w datblygu. Dylai’r broses ddangos cynnydd dysgwr unigol ar draws y cwricwlwm, gan gyfeirio at bob un o’r chwe maes dysgu a phrofiad.
  • Dylai’r wybodaeth a rennir ar gyfer y broses bontio gwmpasu lles y dysgwr, ei iechyd a’i lesiant, ei ymddygiad, a’i hanes cymorth.
  • Dylai lleoliadau ac ysgolion ddatblygu polisïau a gweithdrefnau i gefnogi proses bontio effeithiol ar draws y continwwm dysgu.
  • Bydd ysgolion uwchradd a’u hysgolion cynradd/iau partner yn llunio cynlluniau pontio ar y cyd er mwyn cefnogi pob dysgwr sy’n symud o’r ysgol gynradd/iau i’r ysgol uwchradd.
  • Dylai’r cynlluniau pontio nodi’r modd y bydd yr ysgolion yn cydweithio i gefnogi cynnydd y dysgwr, gan ganolbwyntio ar gyfathrebu effeithiol rhwng ymarferwyr, yn cynnwys rhyngweithio wyneb yn wyneb. Mae’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn darparu gwybodaeth am gynlluniau pontio. Mae’r cynlluniau datblygu unigol hefyd yn cynnwys adran ar y broses bontio sy’n benodol i ddysgwyr ag ADY.
  • Dylai cynlluniau pontio gynnwys y dysgwyr hynny sy’n symud rhwng lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion cynradd ac ysgolion babanod ac iau, lle bo’r rhain yn ysgolion ar wahân. Dylid ystyried cynlluniau ar gyfer dysgwyr sy’n symud o leoliadau nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion a cholegau addysg bellach.

Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynigion deddfwriaethol i gefnogi’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd yn ymgynghoriad Papur Gwyn Cenhadaeth Ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol. Daeth yr ymgynghoriad ar y ddogfen hon i ben ar 25 Mawrth 2019, ac rydym wrthi’n ystyried yr ymatebion.

Mae’r atodiad hwn yn amlinellu’r cynigion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r trefniadau asesu newydd. Pan gânt eu cyhoeddi, bydd y canllawiau asesu yn adlewyrchu nid dim ond yr adborth a ddaeth i law ar y cynigion a amlinellir yn y ddogfen hon, ond hefyd y sefyllfa ddiweddaraf o ran y cynigion deddfwriaethol a amlinellir isod. Os caiff y ddeddfwriaeth ei phasio, caiff y gofynion perthnasol eu hamlinellu yn y canllawiau asesu.

Cynigir y canlynol.

  • Cynnwys pŵer yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu i nodi mewn is-ddeddfwriaeth y trefniadau asesu ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022. Bydd canllawiau statudol yn ategu’r ddeddfwriaeth honno, a bydd yn rhaid i leoliadau a ariennir nas cynhelir, ysgolion ac awdurdodau lleol roi ystyriaeth i’r canllawiau wrth gynllunio trefniadau asesu a’u gweithredu. Caiff y canllawiau asesu eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2020.
  • Rydym yn rhagweld y bydd yr is-ddeddfwriaeth yn amlinellu’r canlynol.
    • Bod gofyn i ysgolion gymryd rhan mewn gwaith cymedroli grwpiau yn unol â’r is‑ddeddfwriaeth. Rhagwelir y bydd y ddarpariaeth yn debyg i’r hyn sydd eisoes yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015 (2015/1309 (Cy.113))
    • Cynigir bod yn rhaid i benaethiaid roi adroddiad ffurfiol i rieni/gofalwyr o leiaf unwaith y flwyddyn. Rydym felly yn bwriadu cadw’r ddarpariaeth o dan adran 408 o Ddeddf Addysg 1996 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i lunio Rheoliadau ar roi adroddiad i rieni/gofalwyr. Mae’r manylion wedi’u nodi yn Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (2011/1943 (Cy.210)), ond rhagwelir y byddai angen i’r manylion newid yn sylweddol i adlewyrchu’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd.
    • Bod ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo yn cydlunio cynlluniau i hwyluso’r broses bontio rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd i ddysgwyr yn yr ysgolion cynradd hynny sy’n cael eu derbyn i’r ysgol uwchradd. Felly, bydd adran 198 o Ddeddf Addysg 2002, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru lunio Rheoliadau yn nodi sut y bydd manylion hynny yn gweithio, yn cael ei chadw. Rhagwelir y bydd y ddarpariaeth yn debyg i’r hyn sydd eisoes yn Rheoliadau Trosglwyddo o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006 (OS 2006/520 (Cy.64)).
    • Bod gofyn i ysgolion gynnal asesiad sylfaenol er mwyn deall lle mae dysgwyr arni wrth ddechrau ar eu haddysg statudol yn unol â’r is-ddeddfwriaeth. Mae’r manylion wedi’u nodi yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015 (2015/1596 (Cy.195)), ond rhagwelir y byddai angen i’r manylion newid yn sylweddol i adlewyrchu’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd.
    • Bod gofyn i ysgolion weinyddu profion cenedlaethol yn unol â’r is-ddeddfwriaeth. Rhagwelir y bydd y ddarpariaeth yn debyg i’r hyn sydd eisoes yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013 (2013/433 (Cy.51)).
    • Ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gynnal asesiadau ffurfiannol a chrynodol, a gwneud y trefniadau perthnasol yn unol â’r is-ddeddfwriaeth.
    • Bod y pum cam cynnydd a’r oedrannau cysylltiedig yn cael eu hamlinellu mewn deddfwriaeth. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y pennaeth fydd pennu deilliannau cyflawniad camau cynnydd ei ysgol, a rhaid iddo roi ystyriaeth i’r deilliannau cyflawniad hynny a nodir yng nghanllawiau statudol pob un o’r chwe maes dysgu a phrofiad. Dylid dilyn canllawiau statudol y maes dysgu a phrofiad oni bai bod rheswm da iawn dros beidio â gwneud hynny.