Canllawiau Llythrennedd a rhifedd: atebion i’ch cwestiynau
Mae’r ddogfen wybodaeth hon yn cynnig cymorth i ysgolion a lleoliadau drwy roi atebion i gwestiynau allweddol ynglŷn â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) a’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol.
Dogfennau
- Llythrennedd a rhifedd – Atebion i’ch cwestiynau pdf 246 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Manylion
Wrth i ni symud ymlaen tuag at gwricwlwm newydd bydd cymhwysedd dysgwyr mewn llythrennedd a rhifedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, fel cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd ar gyfer pob athro.
Bydd hefyd bwyslais ar y ffordd mae asesu ar gyfer dysgu mewn llythrennedd a rhifedd yn ganolog i gefnogi ein dysgwyr i gymhwyso eu sgiliau darllen a rhifedd yn annibynnol mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Mae sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cymorth penodol sydd ei angen arno i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ardderchog wedi bod yn ganolog i'n ffordd o fynd ati a bydd y ddogfen hon yn ddefnyddiol os ydych yn:
- athro/athrawes neu’n athro cymorth/athrawes gymorth sy’n gweithio gyda dysgwyr ar sail dosbarth cyfan, grŵp bach neu unigol
- arweinydd ysgol, yn aelod o dîm arwain neu'n athro/athrawes â chyfrifoldeb cwricwlaidd neu am gyfnod
- llywodraethwr.