Canllawiau Fideo addysgiadol ryngweithiol ar gyfer y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol
Sut i ddefnyddio'r fframwaith.
Manylion
Mae'r fframwaith rhyngweithiol yn caniatáu i chi archwilio'r datganiadau disgwyliadau sy’n amlinellu’r sgiliau y disgwyliwn i ddysgwyr eu datblygu yn yr ysgol o 5 i 14 oed.
- Dewiswch eich Cydran, e.e. Llythrennedd, ac wedyn dewiswch y Llinyn a'r Elfen yr hoffech eu harchwilio
- Caiff yr agweddau perthnasol eu dangos yn y grid isod.
- Gallwch lywio i'r chwith ac i'r dde drwy bob colofn blwyddyn drwy ddefnyddio'r saethau < >.
- Dylech gyfeirio at y colofnau blwyddyn sy’n dod cyn ac ar ôl eich blwyddyn/blynyddoedd addysgu, e.e. dylai athro/athrawes Blwyddyn 2 gyfeirio hefyd at Flwyddyn 1 a Blwyddyn 3.
Deunyddiau enghreifftiol
Mae'r deunyddiau hyn yn darparu darnau gwaith go iawn. Dylech nodi bod y deunyddiau hyn naill ai’n Gymraeg neu'n Saesneg.
Defnyddio'r deunyddiau enghreifftiol
Cliciwch ar yr eicon 'a' ger y datganiad(au) yr hoffech eu harchwilio. Bydd blwch yn agor sy'n dangos y deunyddiau sydd ar gael ar gyfer y datganiad hwnnw.
Dewiswch yr enghraifft o'r rhestr i weld y deunydd(iau).
Caiff y sylwadau a'r deunyddiau cysylltiedig eu hagor ar dudalen newydd.
Terminoleg
Cyd-destun – disgrifiad o sut gwnaeth y dasg gyd-fynd â thema neu brosiect.
Enghraifft o’r gwaith – tystiolaeth ar gyfer y dasg ar ffurf dogfen, delwedd, fideo neu ffeil sain (cafodd y fideo a'r ffeiliau sain eu recordio mewn sefyllfaoedd dosbarth byw lle'n bosibl).
Sylwebaeth – disgrifiad o'r gwaith a wnaed gan y dysgwr a sut mae'n cysylltu â'r fframwaith.
Camau nesaf – y camau nesaf y mae angen i'r dysgwr eu cymryd i ddatblygu ei sgiliau gan gynnwys tasgau neu heriau.
Mae'r cyfeiriadau at yr athro/athrawes/ymarferydd yn gyfnewidiadwy.
Lawrlwytho'r deunyddiau
I weld neu argraffu dogfen neu ddelwedd, cliciwch ar y cryno-lun. Wedyn gellir gweld y ddogfen neu'r ddelwedd yn llawn neu ei hargraffu drwy glicio ar yr eicon 'argraffu'.
Dylech nodi mai at ddibenion cyfeirio yn unig y mae'r sylwadau. Nid oes yn rhaid i athrawon nac ysgolion gadw cymaint â hyn o enghreifftiau asesu ar gyfer eu dysgwyr.
Tasgau dosbarth
Mae'r deunyddiau dwyieithog hyn yn darparu ymarferion go iawn ar gyfer y dosbarth.
Defnyddio'r tasgau dosbarth
Cliciwch ar yr eicon 'c' o dan yr adran o ddatganiadau yr hoffech eu harchwilio. Bydd blwch yn agor sy'n dangos rhestr o'r tasgau sydd ar gael.
Dewiswch y dasg o'r rhestr i weld y deunydd(iau).
Bydd y sylwadau a'r gweithgareddau cysylltiedig yn cael eu hagor ar dudalen newydd.
Lawrlwytho'r tasgau
I weld neu argraffu'r tasgau, cliciwch ar y ffeil zip ar waelod y dudalen. Dewiswch 'agor' os hoffech weld y rhestr lawn o ffeiliau a dewiswch dasgau penodol i'w hargraffu neu eu harbed. Dewiswch 'arbed' os hoffech arbed y ffolder gyfan.
Gwybodaeth ychwanegol
Pan fydd dysgwyr yn cael tasgau, byddant yn cyflawni ystod eang o'r datganiadau disgwyliadau. Gall y datganiadau hyn fod ar draws cydrannau a grwpiau blwyddyn y FfLlRh.
Wrth asesu dysgwyr yn erbyn y FfLlRh, mae'n rhaid iddynt ddangos tystiolaeth bod eu gallu'n gyson.
Nid yw dangos gallu mewn un darn o waith yn golygu y bydd y dysgwr yn dangos yr un gallu eto mewn tasg debyg. Nid oes 'nifer' penodol yn gysylltiedig â hyn. Rhaid i'r athro/athrawes fesur perfformiad y dysgwr dros amser ac mewn amrywiaeth o ddarnau waith.
Bydd rhai deunyddiau ond yn enghreifftio rhan o ddatganiad disgwyliadau. Daw'r deunyddiau enghreifftiol o dasgau dosbarth go iawn lle nad oedd yn briodol neu'n bosibl i gwmpasu pob rhan o'r datganiad.
Gwelir camgymeriadau neu gamwybodaeth yn yr enghreifftiau o waith y dysgwyr gan fod y deunyddiau yn deillio o waith dysgwr go iawn ac felly dylid eu hystyried yn y cyd-destun hwnnw.
Ar drywydd dysgu
Ceir gweithgareddau asesu a strategaethau addysgu ar gyfer yr eitemau hyn yn y deunyddiau Ar Drywydd Dysgu (linc i’r FfLlRh).
Ar drywydd llythrennedd – Llafaredd ar draws y cwricwlwm
Mae gan ddysgwyr ar fap llwybrau Ar Drywydd Dysgu ymwybyddiaeth gynyddol o'r ffaith eu bod yn gallu effeithio ar weithrediadau eraill drwy ddefnyddio eu hymddygiadau cyfathrebu eu hunain. Maent yn dangos diddordeb yn yr hyn y mae eraill yn ei wneud ac mewn rhannu gwybodaeth â nhw.
Ar drywydd llythrennedd – Darllen ar draws y cwricwlwm
Mae dysgwyr ar fap llwybrau Ar Drywydd Dysgu yn gallu rhannu arferion syml wedi'u hwyluso gan oedolion. Mae'r rhain yn cyfeirio'n gynyddol at wrthrychau a gweithredoedd. Maent yn ymateb i lais darllenydd cyfarwydd – tôn, patrwm a phwyslais y llais – i rannu agweddau dramatig ar stori neu rigwm.
Ar drywydd llythrennedd – Ysgrifennu ar draws y cwricwlwm
Mae gan ddysgwyr ar fap llwybrau Ar Drywydd Dysgu ddiddordeb mewn gweithgareddau synhwyraidd gan gynnwys y rhai sydd ag elfennau cyffyrddol a gweledol. Gallant fwynhau’r teimlad o wneud marciau ond nid ydynt o reidrwydd yn llywio eu marciau’n weledol nac yn canolbwyntio ar ‘gynnyrch’ eu gweithredoedd.
Ar drywydd rhifedd
Mae dysgwyr ar fap llwybrau Ar Drywydd Dysgu yn archwilio'r amgylchedd drwy ei nodweddion synhwyraidd ac yn gweithredu'n gynyddol fwriadol. Maent yn gallu addasu strategaethau syml er mwyn helpu i ddatrys problemau penodol yn ymwneud â gwrthrychau.