English

Mae’r fideos, a gafodd eu ffilmio yn sesiynau hyfforddi’r Rhaglen Gymorth Genedlaethol i arweinwyr ysgolion, a gynhaliwyd yn y gwanwyn 2014, yn ymdrin â phrif negeseuon Datblygu Ymresymu Rhifyddol.

Maent yn adnodd defnyddiol y gellir eu defnyddio mewn sesiynau hyfforddi ysgolion, ac maent yn ategu prif negeseuon  y Canllaw Arweinyddiaeth.

O dan y Rhaglen Gymorth Genedlaethol, cynhaliwyd sesiynau hyfforddi yng ngwanwyn 2014 i helpu arweinwyr ysgolion i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r elfen Datblygu Ymresymu Rhifyddol yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Rhoddwyd y Canllawiau Arweinyddiaeth, sy’n cynnwys cyngor manwl ac adnoddau, i’r rhai a oedd yn bresennol.

Mae’r pedwar clip fideo (Saesneg yn unig) hyn yn dangos rhai o brif negeseuon yr hyfforddiant. Byddent yn ddefnyddiol i atgoffa’r rhai a gymerodd ran am y negeseuon hynny neu fel man cychwyn i arweinwyr ysgolion, nad oeddent yn gallu dod i’r hyfforddiant, wrth iddynt fynd ati i weithio gyda’r Canllawiau Arweinyddiaeth. Ond efallai eu rôl fwyaf defnyddiol yw fel adnodd ar gyfer sesiynau hyfforddi yn yr ysgol; mae pob clip yn gorffen drwy gynnig nifer o bwyntiau trafod.