English

Cyngor ar sut y gall ysgolion ac athrawon helpu dysgwyr i ddatblygu ymresymu rhifyddol yn y dosbarth, sef elfen allweddol o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.

Dogfennau

  • Canllaw arweinyddiaeth pdf 2.42 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Manylion

Mae’r Canllaw yn ymdrin â materion craidd a godwyd gan ysgolion yn ystod  sesiynau hyfforddi  Y Rhaglen Gymorth Genedlaethol ar ddatblygu ymresymu. Mae’n disgrifio’r camau y dylai ysgolion eu cymryd i gyflwyno, datblygu ac ymgorffori dulliau effeithiol o ddysgu ac addysgu  ymresymu rhifyddol yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3.

Mae ymresymu rhifyddol yn elfen  allweddol y dylai athrawon ganolbwyntio arni, nid yn unig wrth addysgu mathemateg ond wrth addysgu pynciau ar draws y cwricwlwm cyfan. Byddai hynny’n caniatáu i ddysgwyr feddwl mewn modd mathemategol a fyddai’n meithrin dealltwriaeth newydd a dwysach o fathemateg a phob pwnc arall.

Mae’r Canllaw Arweinyddiaeth yn rhoi cyngor i arweinwyr ysgolion ar:

  • bwysigrwydd datblygu sgiliau ymresymu rhifyddol y dysgwr
  • sut mae mathemateg, rhifedd , ac ymresymu rhifyddol yn gysylltiedig â’i gilydd
  • dulliau o helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau ymresymu rhifyddol
  • yr heriau sy’n rhan annatod o addysgu a dysgu ymresymu rhifyddol a sicrhau gwelliannau.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi pedwar fideo byr sy’n ymdrin â rhai o brif negeseuon y digwyddiadau hyfforddi a gynhaliwyd i arweinwyr ysgolion yn y gwanwyn 2014. Mae’r fideos hyn yn ategu’r negeseuon yn y Canllaw Arweinyddiaeth.

Adnoddau ychwanegol

Rhesymu rhifyddol deunyddiau cynorthwyol ar gyfer athrawon