English

Mae’r ddogfen yn cynnwys y rhaglenni astudio ar gyfer pob cyfnod allweddol, ynghyd â thargedau cyrhaeddiad a disgrifiadau lefel.

Dogfennau

Manylion

Dysgu ar draws y cwricwlwm

Mae gan y cwricwlwm diwygiedig ffocws clir ar anghenion dysgwyr a’r broses addysgu. Hefyd mae’n rhoi mwy o sylw i ddatblygu a chymhwyso sgiliau. I helpu ysgolion wrth iddyn nhw weithredu’r cwricwlwm diwygiedig, mae ‘Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru’ anstatudol wedi cael ei ddatblygu. Mae’r fframwaith hwn yn diffinio’r amrywiaeth o sgiliau y dylai dysgwyr 3 i 19 oed eu datblygu, ac yn cynnig canllawiau ynghylch parhad a dilyniant yn y broses o ddatblygu meddwl, cyfathrebu, a rhif technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).

Cynhyrchwyd dogfennau sy’n olrhain y sgiliau hyn ar draws pob pwnc i gynorthwyo athrawon wrth iddyn nhw gynllunio’r cwricwlwm.

Canllawiau pwnc

Mae’r ddogfen yn darparu negeseuon allweddol ynglyn â gwaith dysgu, addysgu a dilyniant mewn technoleg a gwybodaeth a chyfathrebu. Mae’r deunyddiau yn cynnwys proffiliau o waith dysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3, sy’n enghreifftio’r safonau a amlinellir yn y disgrifiadau lefel ac yn dangos sut i ddefnyddio disgrifiadau lefel wrth lunio barn sy’n cyd-fynd orau â pherfformiad ar ddiwedd y cyfnod allweddol.