English

Canllawiau ynghylch sut dylai ysgolion ddatblygu eu polisi addysg rhyw.

Dogfennau

  • Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion pdf 1.16 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Ffynonellau gwybodaeth a chymorth ar gyfer ARhPh pdf 39 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Templed enghreifftiol ar gyfer Polisi Ysgol ar Addysg Rhyw pdf 72 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Rhestr gyfeirio: Adnoddau addysg rhyw a pherthnasoedd pdf 60 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Rhestr gyfeirio: Monitro addysg rhyw a pherthnasoedd pdf 23 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Rhestr gyfeirio: Rheoli addysg rhyw a pherthnasoedd pdf 59 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Manylion

Polisïau addysg rhyw

Mae’n ofynnol i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir wneud datganiad ysgrifenedig ar wahân o’u polisi ynghylch darparu addysg rhyw, a’i gadw’n gyfoes.

Mae hefyd yn ofynnol i ysgolion drefnu bod copïau o’r datganiad ar gael i’w harchwilio gan rieni’r disgyblion sydd wedi’u cofrestru yn yr ysgol. Mae’n rhaid hefyd iddyn nhw roi copi o’r datganiad yn rhad ac am ddim i unrhyw riant a fydd yn gofyn amdano. Rhaid i’r polisi gynnwys datganiad ynghylch hawl y rhieni i dynnu eu plentyn yn ôl o addysg rhyw.

Darparu addysg rhyw

Dydy hi ddim yn ofynnol i ysgolion cynradd ddarparu addysg rhyw fel rhan o’r cwricwlwm sylfaenol. Mae ysgolion cynradd yn cael darparu addysg rhyw ond mater ar gyfer disgresiwn yr ysgol yw penderfynu a ddylen nhw wneud hynny neu beidio.

Mae’n ofynnol i bob ysgol uwchradd a gynhelir gynnwys addysg rhyw i’w holl ddisgyblion cofrestredig fel rhan o gwricwlwm sylfaenol yr ysgol.

Mae ysgolion arbennig a gynhelir ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn cael darparu addysg rhyw ar gyfer dysgwyr o oedran cynradd. Mae’n rhaid iddyn nhw ddarparu addysg rhyw ar gyfer dysgwyr o oedran uwchradd sydd wedi’u cofrestru yn yr ysgol.

Canllawiau ar addysg rhyw a pherthnasoedd

Mae canllawiau diwygiedig i’w defnyddio mewn ysgolion yng Nghymru nawr ar gael fel dogfen ar y we. O fis Medi 2010, mae Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion, Cylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru: 019/2010 yn disodli’r cylchlythyr blaenorol, Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhif 11/02.

Mae’r cylchlythyr canllawiau yn cynnig gwybodaeth i ysgolion ynghylch:

  • cynllunio’n strategol ar gyfer addysg rhyw a pherthnasoedd
  • datblygu addysg rhyw a pherthnasoedd effeithiol
  • gweithio mewn partneriaeth â rhieni/gofalwyr a’r gymuned ehangach.

Mae’r canllaw yn cael ei gefnogi gan ddeunyddiau atodol i helpu ysgolion wrth gyflwyno’u rhaglenni addysg rhyw a pherthnasoedd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am addysg rhyw mewn ysgolion yng Nghymru, anfonwch e-bost i: personalandsocialeducationenquiries@wales.gsi.gov.uk