CANLLAWIAU Astudiaeth achos arferion gorau: Integreiddio TGCh (Uwchradd)
Mae'r astudiaeth achos hon yn cyflwyno enghraifft o'r defnydd o apps ar-lein ar draws y cwricwlwm cyfan ac ym mhob agwedd ar waith yr ysgol.
Dogfennau
- Astudiaeth achos arferion gorau - Integreiddio TGCh (Uwchradd) pdf 210 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Manylion
Yn Ysgol Uwchradd Olchfa yn Abertawe, mae'r dysgwyr ar ymarferwyr yn gallu defnyddio apps Google i gael mynediad at safleoedd a rennir, a hynny o unrhyw leoliad ar unrhyw adeg. Mae'r dysgwyr yn cyflwyno gwaith ac yn cadw golwg ar eu cynnydd a'u presenoldeb, gan ddatblygu eu gallu i fod yn gyfrifol ac yn annibynnol. Mae'r athrawon yn darparu gweithgareddau hwylus, yn rhoi adborth ac yn monitro datblygiad y dysgwyr yn fwy effeithiol, ac mae'r system yn sicrhau bod gwaith cwrs yn cael ei gyflwyno'n ddiogel. Mae defnyddio rhwydiadur yn ffordd hyblyg o weithio.
Mae'n fodd i ryngweithio ar unwaith gyda’r dosbarth a’r athro er mwyn newid ffocws y wers drwy holi cwestiynau mwy manwl, a cheir trafodaeth fwy effeithiol o ganlyniad. Mae'r astudiaeth yn disgrifio enghreifftiau gwahanol o'r defnydd a wneir o apps mewn meysydd penodol o'r cwricwlwm a chyfleoedd pellach ar gyfer cydweithio.
- Rhan o:
- Cyhoeddwyd gyntaf:
- Diweddarwyd ddiwethaf: