English

Cynnig adnoddau dysgu ar-lein ar gyfer teuluoedd sy’n addysgu eu plant gartref.

Drwy ddigideiddio rhannau helaeth o'i harchif enfawr o ddeunydd hanesyddol a'i roi ar-lein gyda nodiadau cyfarwyddyd hawdd eu deall, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi creu adnodd dysgu enfawr i rieni/gofalwyr sy'n addysgu eu plant gartref.

Mae'r Llyfrgell yn cynnal gweithdai i hyfforddi rhieni/gofalwyr, sydd yn aml heb unrhyw gefndir ym myd addysg, ar sut i ddefnyddio'r deunydd adnodd yn y ffordd fwyaf effeithiol.