English

Chromebooks yn hybu amgylchedd dysgu heb bapur.

Gan gydnabod cyfyngiadau cyfrifiaduron personol sefydlog, mae tiwtoriaid yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy wedi croesawu'r defnydd o Google Chrome Books fel y llwybr i ddiwylliant digidol a di-bapur ymhlith ei holl fyfyrwyr. Yn gyflym i'w troi ymlaen, yn hawdd eu cysylltu â Google Apps ac yn gost-effeithiol i'w prynu, mae gan y coleg 350 o'r dyfeisiau hyn ar hyn o bryd.

Mae hyn wedi trawsnewid y ffordd mae'r myfyrwyr yn dysgu ac yn rhyngweithio â'u tiwtoriaid.