English

Mae’r ddogfen hon yn cynnig arweiniad ymarferol ar gyfer defnyddio strategaethau ‘datblygu meddwl’ ac ‘asesu ar gyfer dysgu’ i gynorthwyo dysgu yn y dosbarth.

Dogfennau

Manylion

Mae’n tynnu amrywiaeth eang o strategaethau ac offerynnau at ei gilydd i’w defnyddio’n ymarferol yn y dosbarth. Fe’i lluniwyd i gynorthwyo rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno ac ymwreiddio datblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu yn ymarfer yr ystafell ddosbarth ar draws Cymru. Mae’n amlinellu sut i ddefnyddio gwaith grwp yn llwyddiannus ac yn canolbwyntio ar ymholi fel y prif yrrwr asesu ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’n ystyried ‘meddwl am feddwl’ (meta-wybyddiaeth) a sut mae dysgwyr yn rheoli eu dysgu eu hunain gan edrych ar y rhesymwaith a’r egwyddorion y tu ôl i ddatblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu. Mae’n cysylltu’r rhain ag amrywiaeth o offerynnau a awgrymir i gynorthwyo ag ymarfer dosbarth a dysgu a cheir enghreifftiau trawsgwricwlaidd defnyddiol.

  • Rhan o
  • Cyhoeddwyd gyntaf:
  • Diweddarwyd ddiwethaf: