English

Gall athrawon a dysgwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru lawrlwytho a gosod yr offer diweddaraf gan Microsoft Office, gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint yn ogystal â Minecraft: Education Edition yn rhad ac am ddim ar hyd at 15 o ddyfeisiadau – drwy Hwb. 

  • Gallwch osod y rhaglenni Microsoft Office hyn am ddim ar eich dyfeisiau personol (ar hyd at 5 gliniadur, cyfrifiadur bwrdd gwaith, dyfais tabled neu ffôn clyfar).

    Office ar gyfer Windows:

    Word, Excel, PowerPoint, Publisher, Access, OneNote, Outlook a Skype for Business

    Office ar gyfer Mac:

    Word, Excel, PowerPoint, OneNote ac Outlook

    Apiau Office ar gyfer iPhone, iPad, dyfeisiadau Android neu Windows Phone 10:

    Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Outlook, Planner, Sway, Teams, To-do a llawer mwy.

     

    • Mae Word yn eich helpu i fynegi’n fedrus - ar unrhyw adeg, yn unrhyw le a chydag unrhyw un. Dyma fersiwn newydd, modern o’r rhaglen enwog sydd wedi ei llunio ar gyfer creu dogfennau â sglein arnynt.

      word

    • Excel ar gyfer taenlenni treiddgar – ar unrhyw adeg, yn unrhyw le a chydag unrhyw un. Gwedd fodern ar Excel sydd ag offer newydd i’ch helpu i ddefnyddio’r data i’r eithaf.

      Excel

    • PowerPoint ar gyfer adrodd straeon yn well – ar unrhyw adeg, yn unrhyw le a chydag unrhyw un. Gwedd newydd, fodern ar gymhwysiad Powerpoint, sy’n gyfarwydd i bawb, ac yn ddefnyddiol i greu a rhannu cyflwyniadau sy’n siwr o greu effaith.

      PowerPoint

    • Llyfr nodiadau i athrawon a dysgwyr, sydd wedi’i drefnu yn adrannau ac yn dudalennau. Mae OneNote yn cadw’ch holl nodiadau ar  draws pob dyfais, ac yn gadael i chi fewnosod testun, ysgrifen, clipiau sain, lluniau a dolenni.

      OneNote

    • Fersiwn ar-lein o’ch e-bost a’ch calendr, sydd ar gael ar unrhyw ddyfais.  Does dim rhaid poeni am ddiffyg lle yn eich mewnflwch mwyach gyda’r blwch e-byst 50Gb.

      System reoli diogelwch well wedi ei hymgorffori i ddiogelu’ch data sensitif.

      Outlook

    • Yn Publisher, mae offer syml yn ei gwneud yn hawdd i greu argraff weledol drawiadol. Defnyddiwch destun, ffotograffau a dolenni i wneud cyhoeddiadau proffesiynol yn rhai personol. Cyhoeddwch mewn ffordd sy’n gweddu orau i’ch cynulleidfa – e-bost, PDF, XPS neu brintiadau o ansawdd uchel.

      Publisher
    • Mae Access yn eich helpu i greu, addasu a rhannu apiau cronfeydd data, sydd wedi’u haddasu i’ch anghenion chi.

      Access

    • Mae Minecraft: Education Edition yn gêm mewn byd rhithiol, sy’n hybu creadigrwydd, cydweithio a datrys problemau mewn amgylchedd y gallwch ymgolli ynddi a’ch dychymyg yw’r unig ffin.

      Minecraft: EE

  • Gallwch ddefnyddio'r offer cwmwl Microsoft hwn ar unrhyw ddyfais sydd wedi'i galluogi ar gyfer porwr.

    Mae Office 365 ar gael i holl staff ysgol, defnyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol, llywodraethwyr, athrawon cyflenwi a dysgwyr fel rhan o Wasanaethau Ychwanegol Hwb.

     

    • Eich ffeil bersonol sy’n rhoi storfa ar-lein yn rhad ac am ddim i chi. Gallwch gael mynediad ati o unrhyw le. Storiwch, rhannwch a chysonwch ffeiliau’n ddidrafferth rhwng yr ysgol a’r cartref. Mae’n cadw’ch gwaith yn ddiogel ac yn creu fersiwn wrth gefn yn awtomatig.

      OneDriveOneDrive

    • Canolfan ddigidol ddiogel ar gyfer cydweithio, dosbarthiadau a chyfarfodydd. Crëwch sianeli a ffurfiwch dimau i rannu ffeiliau a chydweithio ar unrhyw ddyfais. Mae modd i staff siarad ar-lein mewn grwpiau neu un i un.

      Teams

    • Cymhwysiad i ddweud stori ddigidol, sy’n cyflwyno syniadau ar y sgrin mewn ffordd ryngweithiol a sythweledol Mae’n hawdd ymgorffori testun a fideo i gyflwyniad ar-lein. Pecyn syml i ddysgwyr ac athrawon allu creu eu cynnwys eu hunain.

      SwaySwaysway

    • Pecyn syml ysgafn sy’n gadael i chi greu ffurflenni, cwis neu arolygon ar-lein yn gyflym. Casglwch ymatebion ar y pryd ac edrychwch ar siartiau awtomatig er mwyn delweddu’ch data.

      Dim mwy o ffurflenni papur!

      FormsFormsForms

    • Rhestr o bethau i’w gwneud wedi’i rhannu ar-lein y gellir ei rannu, sy’n caniatáu i chi wneud cynlluniau, trefnu a neilltuo tasgau. Ap rheoli prosiect syml sy’n cyd–fynd ag Office 365.

      Planner


Rhybudd

Dylech ddadosod unrhyw fersiwn arall o Microsoft Office sydd ar eich cyfrif cyn cychwyn y broses o osod Microsoft Office. Sicrhewch bod gennych ganiatâd cyn cychwyn.

Ar Gyfrifiaduron Personol a Mac

  1. Mewngofnodwch i Hwb ar eich dyfais bersonol.
  2. Lansiwch Office 365.
  3. Gosod Office.

Ar lechi neu ffonau

Mewngofnodwch i apiau ar eich ffôn symudol/llechen gyda'ch enw defnyddiwr (e.e. BloggsJ@Hwbcymru.net) a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.

Gwybodaeth

Gellir ysgolion cael arweiniad pellach yn y Ganolfan Gymorth ar Hwb.


Ar Gyfrifiaduron Personol a Mac

  1. Ewch i education.minecraft.net
  2. Dewiswch y tab Support
  3. Lawrlwythwch a mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr (e.e. BloggsJ@Hwbcymru.net) a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.

Gellir cael arweiniad pellach yn y Ganolfan Gymorth ar Hwb

 

Ar iPad

Lawrlwythwch yr App o'r storfa App Store, a mewngofnodwch gyda’ch cyfrif Hwbcymru.net

Gellir cael gwybodaeth pellach o Minecraft.