Peer Support
Trosolwg
Mae yna gymuned wych o ddefnyddwyr Hwb ledled Cymru sy’n gwneud gweithgareddau gwych gyda’u dysgwyr drwy’r adnodd Hwb. Rydyn ni’n gweld llawer o gymorth a chyngor yn cael ei gynnig drwy’r amser ar y cyfryngau cymdeithasol ond roeddem am ddarparu siop un stop i’n cymuned ar gyfer y wybodaeth hon. Felly, rydyn ni wedi creu’r ardal Cymorth gan Gymheiriaid hon, man canolog ar Hwb y gall pawb ei weld ac sy’n sicrhau y gall pawb gael cyfle i rannu eu gwybodaeth a’u profiad. Rhowch nod tudalen i’r dudalen hon a fydd yn cael ei diweddaru’n gyson gyda chymorth, syniadau a chynigion gan ein cymuned.
Map
Defnyddiwch y map hwn i ganfod cymorth gan gymheiriaid yn eich ardal leol. Cliciwch ar y sgwâr i ehangu'r map ac ychwanegu / tynnu haenau.
Peer support
-
Cefnogaeth cymheiriaid Adobe Spark
-
Cefnogaeth cymheiriaid Google for Education
Cefnogaeth cymheiriaid G Suite for Education
-
Ymarfer diddorol sy'n dod i'r amlwg
Ymarfer diddorol sy'n dod i'r amlwg
-
Cefnogaeth cymheiriaid Microsoft 365
Offer Microsoft gan gynnwys Flipgrid a Minecraft
-
Cefnogaeth cymheiriaid Just2easy
Cefnogaeth cymheiriaid Just2easy
Dalier sylw: Mae cydweithwyr sydd wedi dewis rhannu eu manylion cyswllt a’u profiad ar y dudalen hon yn wirfoddolwyr a dydyn nhw ddim dan unrhyw rwymedigaeth i gynnig cymorth. Mae llawer yn ymarferwyr llawn amser a dim ond yn cynnig rhannu eu profiadau eu hunain y maen nhw fel gweithred o ewyllys da!
Byddwch yn garedig!
Ffurflen gofrestru
A fyddech cystal â llenwi’r ffurflen gofrestru os hoffech chi gael eich cynrychioli:
Cymorth pellach
Efallai yr hoffech hefyd weld cipolwg Estyn ar sut mae ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn cefnogi eu disgyblion a'u cymuned mewn ymateb i'r amgylchiadau anodd oherwydd COVID-19.
(Mae pob dolen yn arwain at dudalen Saesneg yn unig)