English

Mae’r Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol, a oedd yn gweithredu rhwng mis Medi 2012 a mis Chwefror 2021, wedi dod i ben yn ffurfiol bellach.

Penderfynwyd fod cylch gwaith y Cyngor, sef darparu cyngor arbenigol, allanol i Lywodraeth Cymru a hefyd hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o adnoddau digidol a thechnolegau gan ddysgwyr ac athrawon, yn gorgyffwrdd ac yn dyblygu ymdrechion nifer o grwpiau arbenigol eraill sydd wedi eu sefydlu ers creu’r Cyngor. Yn unol â hynny, mae wedi bod yn her i’r aelodau ymgysylltu’n llawn â’r Ffrydiau Gwaith priodol, sydd wedi cyfyngu ar allu’r Cyngor i gyflawni ei gylch gwaith.

Mae trefniadau llywodraethu ar gyfer rhaglen Hwb wedi esblygu. Bydd yr Awdurdod Cyflawni Technoleg Addysg a’r Grwp Safoni Technegol yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros lywodraethu rhaglen Hwb wrth symud ymlaen, a bydd y gwaith o wireddu Cwricwlwm i Gymru 2022 yn cael ei gefnogi gan Fframwaith Cenedlaethol.

Bydd y Rhwydwaith yn dwyn ynghyd gweithwyr addysg proffesiynol, arbenigwyr, rhanddeiliaid, llunwyr polisi a phartneriaid galluogi er mwyn nodi a mynd i’r afael â rhwystrau a chyfleoedd i roi’r cwricwlwm ar waith. Bydd y rhwydwaith yn casglu a rhannu dealltwriaeth, llunio dulliau ar y cyd, cysylltu pobl a sicrhau newid. Bydd egwyddorion cynllunio ar gyfer y cwricwlwm ynghyd â strwythur a chynnwys cwricwlwm manwl, a fydd yn cynnwys dysgu digidol, yn ffurfio rhan o’r materion a’r themâu a ystyrir gan y rhwydwaith.

Mae’r papurau o gyfarfodydd blaenorol y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol dros ei bedwar tymor ar gael drwy ddefnyddio’r dolenni isod.